Oes.  Dydyn ni ddim yn disgwyl i chi gysylltu am ganiatâd i gadw pysgodyn aur mewn un powlen neu un aderyn mewn cawell, ond mae angen gofyn caniatâd i gadw anifeiliaid anwes eraill megis cathod, cŵn, ac anifeiliaid mewn cawell megis bochdew, llygoden, moch cwta a chwningod.

Rydych hefyd angen caniatâd i gadw adar (tu mewn ac allan), ymlusgiaid, pryfaid ac acwariwm.

Am fwy o fanylion am sut i wneud cais neu am gyngor, cysylltwch â ni

Cyswllt Cynefin

Os ydych chi yn rhentu eich tŷ, nid yw Grŵp Cynefin yn yswirio am gynnwys eich cartref

Does dim gwahaniaeth pa mor ofalus ydych chi, mae ‘na bob amser risg y gallai pethau ydych chi wedi eu prynu gael eu torri, eu difrodi, neu eu dwyn, felly gall yswiriant cynnwys cartref helpu i roi tawelwch meddwl i chi.

My Home Content Insurance

Gall y cynllun ‘The My Home Contents Insurance’ gynnig yswiriant am gynnwys eich cartref, gan gynnwys sicrwydd am eitemau megis dodrefn, carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydanol, gemwaith, lluniau ac addurniadau.

Sut allai i gael mwy o wybodaeth?

  • Gofynnwch i’ch swyddog tai am becyn gwybodaeth.
  • Ffoniwch Thistle Tenant Risks ar 0345 450 7288

Neu gallwch ymweld â gwefan www.thistlemyhome-cymru.co.uk am fwy o wybodaeth, neu i wneud cais am iddynt eich ffonio chi yn ôl.

 

Mae Grŵp Cynefin wedi cyd-weithio â Thistle Tenant Risks, ac Allianz Insurance plc, sy’n darparu’r cynllun yswiriant ‘My Home Contents Insurance’, polisi yswiriant cynnwys cartref arbenigol i denantiaid.

Mae’r National Housing Federation a Community Housing Cymru yn Gynrychiolwyr Apwyntiedig i Thistle Insurance Services Ltd. Mae Thistle Insurance Services Limited wedi ei awdurdodi, a chaiff ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FRN 310419. Lloyd’s Broker. Wedi ei gofrestru yn Lloegr dan rif: 00338645. Swyddfa Gofrestredig: Rossington’s Business Park, West Carr Road, Retford, Nottinghamshire, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o’r Grŵp PIB.

Beth yw tamprwydd ac anwedd?

Mae tamprwydd yn cael ei achosi pan fydd aer cynnes, llaith yn oeri, neu yn taro arwyneb oer ac wedyn mae diferion o ddŵr yn ymddangos.

Yn aml mae hyn yn digwydd mewn ystafelloedd ymolchi pan fydd eich drych a’ch ffenestri yn stemio. Os na fyddwch yn delio efo hyn, gall dyfu yn fowld du ar eich waliau a’ch to.

Beth sy’n achosi hyn?

Rydych chi, eich teulu a’ch anifeiliaid anwes i gyd yn cynhyrchu lleithder wrth anadlu a chwysu yn eich cartrefi. Mae lleithder hefyd yn cael ei achosi:

  • drwy gael bath neu gawod
  • sychu ein dillad tu mewn, yn enwedig ar reiddiaduron
  • coginio neu olchi llestri

Mae’n bwysig sychu unrhyw anwedd oddi ar ffenestri a waliau cyn gynted ag y mae’n ymddangos drwy ddefnyddio cadach tamp.

Awgrymiadau i osgoi mowld a tamprwydd

Dyma ddwy ffordd syml i leihau tamprwydd yn eich cartref:

  • sicrhau bod tymheredd cyson yn eich cartref a digon o awyru trwy adael y tyllau awyru (vents) yn eich ffenestri ar agor
  • rhoi ffan ymlaen os oes un wedi’i gosod ar ôl cael cawod / bath neu wrth goginio

Os nad ydy’r camau yma yn gwella’r sefyllfa, mae croeso i chi gysylltu â ni

Cyswllt Cynefin

Rydym yn galw oedolyn sy’n byw yn eich cartref ac sydd ddim yn denant neu’n lletywr, heblaw am eich partner, yn berson annibynnol.

Mi all cael person annibynnol (ella ffrind, rhiant, plentyn neu berthynas arall) effeithio ar faint o fudd-dal ydych chi’n ei gael, hyd yn oed os nad ydyn nhw yn cyfrannu at gostau llety.

Mi all hefyd effeithio ar y budd-dal tai ydych chi’n ei gael os mai chi ydy’r person annibynnol.

Gall Tîm Lles Grŵp Cynefin neu Cyngor ar Bopeth roi cyngor pellach i chi ar y mater yma.

Mae mwy o fanylion am eich swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, ar wefan Cyngor ar Bopeth

Cyngor ar Bopeth

Beth bynnag ydy’r rheswm eich bod eisiau symud – tŷ rhy fawr neu fach, rhesymau meddygol, eisiau symud ardal neu briodas neu berthynas yn chwalu – mi allwn ni helpu. Dyma rai opsiynau:

Cyfnewid efo tenant arall

Mi allwch gyfnewid eich tŷ gyda thenant arall Grŵp Cynefin, cymdeithas dai arall neu Gyngor lleol cyn belled a bod y tŷ yn addas ar eich cyfer.

Mae Grŵp Cynefin yn aelod o Homeswapper a gallwch gofrestru drwy ymweld a’r wefan

Homeswapper

Cofiwch fod rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig y Grŵp cyn cyfnewid gydag unrhyw denant arall, ac mae gennym ni hawl i beidio caniatáu cyfnewid os ydych chi wedi torri unrhyw delerau (e.e ôl-ddyledion rhent, achosi difrod i eiddo ac ati) neu os ydym yn meddwl nad ydy’r tŷ ydych chi eisiau symud iddo yn addas i chi.

Symud i dŷ arall

Os ydych eisiau symud i dŷ arall gan Grŵp Cynefin, mi allwch chi ofyn i gael mynd ar y rhestr trosglwyddo. Mae yna rai eithriadau, ond mi wnawn ni drafod rheiny gyda chi.

Mae tâl gwasanaeth yn dâl am wasanaethau cymunedol o gwmpas eich cartref mae pawb yn elwa ohonynt – e.e cadw gardd gymunedol yn daclus, glanhau grisiau neu liffd, dodrefn cymunedol, larwm lladron, teledu cylch cyfun ac ati.

Mae swm o £0.00 ar eich datganiad yn nodi naill ai nad yw gwasanaeth penodol yn cael ei ddarparu ar gyfer eich eiddo, neu nad oes unrhyw gostau’n gysylltiedig.

Sut mae’r tâl gwasanaeth yn cael ei gyfrifo?

Rydym yn edrych ar gyfartaledd costau y tair blynedd diwethaf ac yn defnyddio rhain wedyn i weithio allan faint sydd angen ei godi o dâl gwasanaeth.

Dyma syniad i chi o beth sy’n cael ei gynnwys yn y tâl gwasanaeth. Os ydych chi angen mwy o wybodaeth am beth sy’n cael ei gynnwys yn y tâl gwasanaeth, cysylltwch â ni

Cyswllt Cynefin

Cogio neu cuckooing yn Saesneg ydy pan fydd deliwr cyffuriau yn gwneud ffrindiau gyda pherson bregus, ac yn cymryd drosodd eu tŷ er mwyn delio cyffuriau.

Gall y dioddefwyr fod yn unrhyw un yn ein cymuned – gallent fod mor ifanc â 10 neu mor hen â 90 – mae gangiau troseddwyr yn gallu manteisio ar wendid ym mhob ffurf.

Gall oedolion sydd ag anableddau corfforol neu feddyliol, neu oedolion sy’n gaeth i rywbeth hefyd ddioddef o drosedd ‘cogio’ lle mae gang yn meddiannu eu cartref.

Beth ddylwn i wneud?

Os ydych chi’n amau fod trosedd fel hyn yn digwydd yng nghartref rywun rydych yn eu hadnabod dylech:

  • godi’r ffôn a galw Heddlu Gogledd Cymru ar 101,
  • os oes trosedd wrthi’n digwydd, ffoniwch 999 yn syth
  • neu gallwch ffonio’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Ceir mwy o wybodaeth am ymgyrch Llinellau Cyffuriau Crimestoppers ar eu gwefan

Llinell Gyffuriau Crimestoppers

Rhes o ferched yn sefyll yn erbyn wal gyda sgidiau yr un peth

Angen cysylltu?

Heb ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Cysylltwch â’n Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid

 

 

Cookie Settings