Nod cynlluniau Tai â Chefnogaeth yw cefnogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a’u galluogi i wireddu eu dyheadau a ffynnu yn eu cymunedau.

Mae gennym dîm ymroddedig o swyddogion tai sy’n gweithio gydag amrywiol sefydliadau cymorth a gofal i ddarparu eiddo byw â chymorth a llety gyda chymorth cysylltiedig â thai i bobl ag anghenion cymorth ychwanegol amrywiol.

Mae hyn yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu, unigolion o bob oed sy’n ddigartref, pobl sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a phobl ag anghenion iechyd meddwl.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 0300 111 21 22.

 

Dyma rai o’r sefydliadau ydym ni yn gweithio gyda hwy.

Cookie Settings