Tai â chefnogaeth
Mae ein tai â chefnogaeth ar gael i bobl o bob oed sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol i fyw’n annibynnol.
Prif nod Tai â Chefnogaeth yw helpu pobl i fyw’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau.
Mae gennym dîm o swyddogion tai sy’n gweithio’n agos gydag amryw o asiantau a sefydliadau gofal a chefnogaeth. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n darparu cartrefi i bobl sydd ag ystod eang o anghenion cefnogaeth neu gofal yng Ngwynedd, Ynys Môn, Conwy, Dinbych, Wrecsam a Fflint.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a’r Tim Tai a Chefnogaeth ar 0300 111 21 22.
Dyma rai o’r sefydliadau ydym ni yn gweithio gyda hwy.
- Cyngor Gwynedd
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Sir Bwrdeistref Wrecsam
- Cyngor Conwy
- Cyngor Sir y Fflint
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Adferiad
- Alabare
- Anheddau
- Care Quality Services
- Cartrefi Cymru
- DASU
- Digartref
- Gisda
- Nacro
- Seren
- Stori
- Tyddyn Môn
- Y Wallich