Cynllun tai gofal ychwanegol yw Llys Awelon a sefydlwyd yn 2011 gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych. Mae’r cynllun yn darparu cartref, cefnogaeth a gwasanaethau gofal i bobl dros 60 oed.

Mae’r cynllun gwreiddiol o 21 o fflatiau yn cael ei ddiweddaru ac ymestyn gyda 35 uned ychwanegol. Mae’r prosiect yn golygu ailddatblygu’r Llys Awelon presennol yn llwyr i greu cynllun modern, carbon isel, pwrpasol i gwrdd ag anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych.

Prif gontractwr y prosiect yw Read Construction a disgwylir i’r datblygiad fod yn barod ganol 2024.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru a chaiff ei gefnogi gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mwy am Llys Awelon yma

 

Cookie Settings