Datblygiad gwerth £2.5m ym Methesda.

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi bod yn cydweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru i ddatblygu 17 o gartrefi newydd yn y dref. Enw’r stad newydd yw Llety’r Adar.

 

Mae’r datblygiad tai cymdeithasol, sy’n agos at gludiant cyhoeddus cyfleus, caeau hamdden a llwybr beicio Lôn Las Ogwen, yn cynnwys 8 cartref dwy ystafell wely, 5 byngalo dwy ystafell wely, 3 chartref tair ystafell wely ac 1 cartref pedair ystafell wely.

Mae’r cartrefi yn cael eu gosod fel tai cymdeithasol, ac mae’r datblygiad sy’n bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd, wedi ei ariannu’n rhannol drwy grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

“Gwir angen am dai”

Yn ôl Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin, sy’n berchen ac yn rheoli 4,800 eiddo ar draws chwe sir gogledd Cymru yn ogystal â gogledd Powys, Mel Evans:

“Mae gwir angen tai i deuluoedd a chyplau yng nghymuned Dyffryn Ogwen, felly rydym yn falch o allu cynorthwyo’r rhai sy’n gobeithio parhau i fyw yn yr ardal ond sydd wedi cael trafferth i ddod o hyd i dai addas a fforddiadwy yn y gorffennol.”

“Diddordeb yn lleol yn y cartrefi newydd yma”

Yn ôl y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:

“Bydd y cynllun yn cynnig 17 o gartrefi newydd yn Nyffryn Ogwen – gan gynnig amrywiaeth maint y tai fydd yn addas i aelwydydd gwahanol.  Mae yna ddiddordeb yn lleol yn y cartrefi newydd yma a dwi’n edrych ymlaen at weld trigolion lleol yn symud i mewn.”

Ar un adeg roedd yr hen orsaf yn lleoliad cyfarfod o bwys yn y dref ac mae Grŵp Cynefin yn awyddus i anrhydeddu cymaint o dreftadaeth y safle â phosibl. Caewyd hen orsaf reilffordd Bethesda ym 1963, ac mae cyn adeiladau Clwb Pêl Droed Bethesda Athletic FC a Chlwb Rygbi Bethesda oedd ar y safle bellach wedi eu symud i leoliadau eraill gydag ail-fuddsoddiad.

“Help pobl i barhau i fyw a ffynnu yn yr ardal.”

Dywedodd Cynghorwyr Gwynedd, Rheinallt Puw a Paul Rowlinson sy’n cynrychioli trigolion lleol ardal Bethesda: “Mae gwir angen cartrefi fel hyn yn Nyffryn Ogwen, a bydd yn helpu pobl i barhau i fyw a ffynnu yn yr ardal.

“Mae’n lleoliad delfrydol, yn agos at y cyfleusterau ar y stryd fawr, y feddygfa, y llwybr bws a Lôn Las Ogwen.”

Cookie Settings