Mae’r datblygiad yn Llain Delyn, Gwalchmai, bellach yn gartref i ddeg teulu lleol.

Roedd y datblygiad £1.85 miliwn yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ynys Môn a’r prosiect yn cael ei ariannu’n rhannol trwy grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r holl gartrefi yn cynnwys elfennau amgylcheddol cyfeillgar. Un o’r rhain yw’r sustem wresogi a chynhesu dŵr sy’n amsugno gwres o’r aer tu allan i gynhyrchu’r ynni ar gyfer y cartref, sustem pwmp gwres ffynhonnell aer.

Gyda chymysgedd o 2 fyngalo un ystafell wely, 2 fyngalo dwy ystafell wely, 4 tŷ dwy ystafell wely a 2 dŷ tair ystafell wely, roedd cyfle i amrywiaeth o bobl ymgeisio am gartref ar y stad.

“Mae’r byngalo yn gynnes ac yn gysurus iawn”

Yn ôl Terence Thomas, 65, sydd wedi dioddef strôc rhai blynyddoedd yn ôl, roedd cael y newyddion bod byngalo ar gael iddo fo a’i wraig Vanessa, yn gysur meddwl mawr iddyn nhw:

“Rydyn ni wedi setlo ac mae’r byngalo yn gynnes ac yn gysurus iawn. Rydyn ni wedi gosod mainc y tu allan i mi gael eistedd arni a chael sgwrs â chymdogion wrth iddynt basio heibio ac rydyn ni’n teimlo’n ffodus bod y datblygiad wedi digwydd ar yr amser iawn i ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at flwyddyn llawer gwell yn ein cartref newydd.”

“Effaith gadarnhaol ar fywydau pobl leol.”

Yn ôl Cyfarwyddwr Arloesedd a Thwf Grŵp Cynefin, Mel Evans: “Un o’n prif flaenoriaethau yw darparu tai fforddiadwy o safon, ac rydyn ni  wrth ein boddau bod Llain Delyn yn gartref i bobl leol.

Fel landlord cymdeithasol sy’n rheoli ac yn berchen ar dros 4,800 eiddo yn yr ardaloedd yma, rydyn ni’n falch ein bod yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.”

“Cyfle i fyw mewn cartrefi fforddiadwy”

Yn ôl y Deilydd Portffolio Tai Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Alun Mummery, “Mae’r datblygiad yn Llain Delyn, Gwalchmai, yn enghraifft arall o’n gwaith â phartneriaid allweddol, yn cynnwys Grŵp Cynefin. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n  gwneud yn siŵr bod gan bobl mewn cymunedau lleol gyfle i fyw mewn cartrefi fforddiadwy o safon a hynny ar draws amrywiaeth o ddaliadaethau er mwyn iddyn nhw allu bodloni eu hanghenion.

 

Cookie Settings