Mae Canolfan Lleu yn gynllun newydd iechyd a lles gwerth £38 miliwn.

Grŵp Cynefin sy’n arwain ar y prosiect uchelgeisiol, a enwyd yn ‘Canolfan Lleu’ am y tro, gyda’i bartneriaid Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Theatr Bara Caws yn chwarae rhan ganolog yn y cynlluniau.

Y weledigaeth yw i greu canolfan gymunedol arloesol yng nghanol Penygroes, i wasanaethu’r pentref, holl gymunedau Dyffryn Nantlle a thu hwnt.

Nod Canolfan Lleu yw cryfhau cymunedau ar draws y dyffryn, gan gefnogi iechyd a llesiant pobl drwy amrywiaeth o wasanaethau traddodiadol ac ataliol.

Bydd yn cynnig lle i gymdeithasu a chysylltu pobl, un lleoliad i gael mynediad i wasanaethau iechyd, tai, gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau’r cyngor, gan gryfhau’r economi leol.

Mae copi o weledigaeth llawn Canolfan Lleu ar gael trwy gysylltu â ni.

Cookie Settings