41 Cartref
Cwblhau: Gaeaf 2025 

Bydd y datblygiad £10 miliwn hwn yn darparu 41 o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni ym Mhenrhyndeudraeth.  Adeiladir y cartrefi yma gan Williams Homes (Bala) ar ran ClwydAlyn a Grŵp Cynefin ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.

Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely, byngalos 1 ystafell wely, a fflatiau 1 ystafell wely. Adeiladir yr holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy. Byddant yn cael eu dyrannu trwy’r Gofrestr Tai a Tai Teg.

Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.

Wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:

  • Pympiau gwres ffynhonnell aer
  • Paneli trydan solar
  • Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
  • Cyfleusterau gwefru ceir trydan
  • ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
  • Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.

Mwy yn y stori newyddion yma 

Newyddion diweddaraf: Gosod sylfeini ar gyfer cartrefi lleol yng Ngwynedd

Mae’r gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad gwerth £10 miliwn a fydd yn darparu 41 o gartrefi teuluol ynni effeithlon a fforddiadwy i bobl leol ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd.

Mae 41 o gartrefi ar y safle:

  • 8 x Fflat 1 Ystafell Wely

  • 1 x Byngalo 2 Ystafell Wely

  • 20 x Cartref 2 Ystafell Wely

  • 9 x Cartref 3 Ystafell Wely

  • 1 x Cartref 4 Ystafell Wely

  • 1 x Cartref 6 Ystafell Wely

  • 1 x byngalo byw â chymorth

Eisiau byw yma?

Er mwyn ymgeisio i fyw yma, bydd angen i chi ymgeisio trwy Gyngor Gwynedd.
Dilynwch y ddolen isod i ddechrau’r broses.

Cookie Settings