Mae’n bwysig i ni fod ein tenantiaid yn byw mewn cartrefi fforddiadwy, o safon uchel, sy’n addas i’w hanghenion.

 

 

Rydym yn gweithio mewn partneriaethau gyda’r gwahanol siroedd i osod ein heiddo rhent a darganfod tenantiaid newydd.

Mae gan bob sir ei drefniant a’i gofrestr ei hun ar gyfer eiddo landlordiaid cymunedol y sir.

Mae’r gofrestr yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr mewn trefn amser, felly gorau po gyntaf i chi gofrestru.

Pan fydd un o’n cartrefi ar gael, byddwn yn holi am fanylion y tenant sydd ar ben y gofrestr gan y sir.

Os mai chi sydd ar ben y rhestr, mi fydd Swyddog Tai o Grŵp Cynefin yn cysylltu â chi i drafod eich cais a rhannu manylion y cartref sydd ar gael.

Mae’n hawdd gwneud cais  – y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydy cysylltu gyda’r adran berthnasol o fewn y cyngor

Datrysiadau Tai Sir y Fflint

01352 703777 / www.taifflint.co.uk

Datrysiadau Tai Sir y Fflint

Cysylltwch â Datrysiadau Tai Sir y Fflint i wneud cais ar

01352 703777

 

Cookie Settings