Hen Felin, Dolgellau
Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned
Hen Felin
Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am ychydig o gymorth i barhau i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hŷn, efallai mai Hen Felin, Dolgellau, Gwynedd yw’r lle i chi.
Wedi ei leoli mewn llecyn tawel gyda gerddi, mae Hen Felin yn gynllun tai cysgodol i bobl dros 55 mlwydd oed, gyda rheolwr ar y safle yn ystod yr wythnos i’ch cefnogi gyda materion sy’n ymwneud â’ch cartref.
Byddwch yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 25 fflatiau hunangynhaliol sydd ar y safle, ond gyda’r sicrwydd bod cefnogaeth ar gael yn ystod y dydd yn yr wythnos, a mynediad 24 awr at wasanaeth brys, os oes angen.

Pa mor annibynnol fydda i?
Gyda’ch drws ffrynt eich hun, eich fflat yw eich cartref lle gallwch barhau i goginio, derbyn ymwelwyr a mwynhau byw’n annibynnol. O fewn pob fflat mae cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely.
Fydd na gyfle i gymdeithasu?
Wrth rentu fflat yn yr Hen Felin, cewch hefyd fynediad i lolfa gymunedol lle mae cyfle i gymdeithasu â thrigolion eraill a mwynhau gweithgareddau fel celf a chrefft, boreau coffi a gweithgareddau garddio.
Beth arall sydd ar y safle?
Mae gerddi eang yn yr Hen Felin a cewch gyflei i ymlacio a chael sgwrs gyda thrigolon eraill.
Adnodd arall defnyddiol yw’r ystafell olchi dillad sydd ar gael ar y safle.
Fydd teulu a ffrindiau yn cael galw?
Bydd – mi all ffrindiau a theulu alw unrhyw bryd.
Mae’r Hen Felin yn cynnig tawelwch meddwl i chi, eich teulu a’ch ffrindiau tra ar yr un pryd yn rhoi’r annibyniaeth a’r rhyddid i chi fynd a dod fel y mynnwch.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth am rentu fflat yn yr Hen Felin yna cysylltwch â ni.