Rydym eisiau bod yn agored am sut ydym ni yn gweithio ac yn awyddus i rannu rhestr o’n polisïau â chi.

 

Rydym wedi mabwysiadu’r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

 

Rydym yn ymrwymedig i roi ein cwsmer yn gyntaf, gan wella ansawdd ein gwasanaethau a phrofiadau ein cwsmeriaid.

Rydym yn croesawu derbyn barn ein cwsmeriaid. Mae cwynion yn bwysig i ni er mwyn amlygu’r hyn rydym yn ei wneud yn dda a lle rydym angen canolbwyntio ar wneud gwelliannau i wasanaethau’r dyfodol.

 

Er mwyn i ni wneud ein gwaith fel cymdeithas dai rydyn ni’n casglu ac yn storio gwybodaeth bersonol am ein tenantiaid, pobl eraill sy’n byw yn ein tai ac ymgeiswyr am dai. Mae’r wybodaeth hon (o’r ffurflenni tenantiaeth, cyfweliadau â swyddogion ac ati) yn cael ei alw’n ‘ddata personol’.

Mae’r gyfraith yn rhoi’r hawl i chi wybod pa wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi, ac mae’n ofynnol i ni ei defnyddio yn deg a phriodol mewn ffyrdd rydych chi’n eu deall. Hefyd cewch ofyn i ni gywiro’r wybodaeth os yw’n anghywir.

 

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth i bawb sy’n cael eu cyflogi a’r holl wasanaethau ar draws y Grŵp yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Byddwn yn ceisio sicrhau na fydd pobl yn destun i wahaniaethu neu aflonyddwch ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaethau sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw, ethnigrwydd a chenedligrwydd), crefydd a chredo, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol yn ei darpariaeth cyflogaeth a gwasanaethau.

 

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn ddogfen gyhoeddus sydd ar gael i unrhyw un ac mae’n berthnasol i gwsmeriaid Grŵp Cynefin i esbonio sut mae’r sefydliad yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnal gweithgareddau busnes arferol fel cymdeithas dai elusennol yn y Deyrnas Unedig.

Rydym ni’n Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a reoleiddir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Hysbysiad hefyd ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen.

Hysbysiad Preifatrwydd

 

 

Mae Grŵp Cynefin wedi ymrwymo i’r safonau uchaf o weithredu yn agored, yn gywir, a chyda atebolrwydd, ac rydym yn disgwyl i’r holl staff i gynnal safonau uchel. Fodd bynnag, mae pob sefydliad yn wynebu’r risg o bethau yn mynd o’i le o dro i dro, neu o fod yn gweithredu ymddygiad anghyfreithiol neu anfoesegol.

Gan mai gweithwyr yn aml yw’r cyntaf i sylweddoli y gallai fod rhywbeth difrifol o’i le, mae Grŵp Cynefin yn disgwyl i’r rhai sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd ar ein gwaith, ddod ymlaen a siarad heb ofni dial.

Rydym felly yn cydnabod ei bod yn agwedd bwysig o atebolrwydd a thryloywder i fod yn darparu mecanwaith i sicrhau nad oes unrhyw gyflogai, na gweithiwr i Grŵp Cynefin, yn teimlo unrhyw anfantais wrth godi pryderon dilys a dyna pam fod gennym Bolisi Datgelu Pryder.

Eisiau copi?

Os hoffech gopi o unrhyw un o’r polisiau yma, mae croeso i chi gysylltu â Cyswllt Cynefin.

Cookie Settings