Ymunwch â’r Bwrdd Rheoli
Mae Grŵp Cynefin yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig ar eu Bwrdd Rheoli.
A oes genych chi y gallu i herio’n adeiladol a meddwl a chraffu yn strategol?
Mae gwaith Grŵp Cynefin yn cael ei lywio gan Fwrdd Rheoli cryf a Thîm Arweinyddiaeth brwdfrydig. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ddarpar aelodau Bwrdd sydd â sgiliau mewn unrhyw un o’r meysydd canlynol:
• Ariannol / Trysorlys
• Gwasanaethau tenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth / gofal cwsmer
• Adfywio Cymunedol / Economaidd
• Datblygu
• Datgarboneiddio / Cynaladwyedd
Cewch fwy o fanylion yn y Pecyn Gwybodaeth a’r dogfennau defnyddiol