Cylchlythyr Calon
Gair o groeso gan y Prif Weithredwr, Shan Lloyd Williams, ar gyfer rhifyn y gwanwyn o Calon.
Calon
Croeso i rifyn mis Ebrill o Calon. Mae’n braf gweld y gwanwyn o’r diwedd a’r diwrnodau hirach yn codi calon wedi nosweithiau hir y gaeaf.
Ond mae cymylau duon costau byw sy’n cynyddu bob dydd yn taro cysgod ar fywydau llawer. Mae’n sefyllfa o argyfwng gyda bwyd, rhedeg car, gwresogi’r tŷ a biliau trydan i gyd yn codi ar raddfa ddychrynllyd. Rydyn ni yn Grŵp Cynefin yn falch o’n perthynas dda gyda’n tenantiaid a’n cwsmeriaid, a bydd hyn yn parhau. Mi fyddwn yn darparu pob cefnogaeth allwn ni i ddod o hyd i fudd-daliadau ac yn darparu cyngor a gwybodaeth am sut y gallwch wneud arbedion ynni ac arian. Mae ein wardeiniaid ynni yn arbenigwyr yn eu maes ac ar gael i gynghori.
Mae’n amserol felly ein bod ar fin rhoi ein Strategaeth Cynaladwyedd ar waith. Rydyn ni yn anelu at
- leihau ein hallyriadau carbon o 24% erbyn 2025
- adeiladu cartrefi sydd angen llai o ynni
- leihau tlodi tanwydd i’n tenantiaid
- gwarchod ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory
Gallwn wneud hyn gyda’n gilydd – yn denantiaid a chwsmeriaid, staff a phartneriaid.
Shan Lloyd Williams Prif Weithredwr Grŵp Cynefin