Beth sydd ymlaen?
Cystadleuaeth Garddio
Beth am gystadlu yn ein Cystadleuaeth Garddio eleni? Byddwn yn beirniadu’ch creadigaethau gwych trwy luniau. Dim bwys os ydych chi yn hen law arni neu’n newydd sbon i arddio. Dim bwys pa mor fawr neu fach yw eich gardd, mae categori sy’n addas i chi. Dyddiad cau: dydd Iau 31 Awst 2023.
Pob lwc!!
Mwy o wybodaeth a syniadau
ECymru - sesiynau ar-lein
ECymru
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn gweithio â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill a thenantiaid ledled Cymru i greu eCymru, porth tai sy’n cysylltu cymunedau Cymru. Mae eCymru yn cynnig mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig a fedr helpu tenantiaid i fyw bywydau hapusach ac iachach.
Gwnaeth pandemig COVID-19 ysgogi cydweithredu ar draws Cymru i gynnig profiad digidol newydd i denantiaid. Crewyd eCymru gan wybodaeth, sgiliau a phrofiadau unigolion o bob rhan o Gymru, i sicrhau bod y porth yn ateb anghenion amrywiol y cymunedau mae’n eu gwasanaethu ac i’w wneud yn hawdd i ddysgwyr ei ddefnyddio.
Profwyd a datblygwyd y porth trwy gynnal digwyddiadau treialu fel gweminarau llwyddiannus gan Gymunedau Digidol Cymru, ar bynciau yn amrywio o siopa’n ddiogel ac arbed arian i iechyd a llesiant digidol, a chafwyd perfformiad byw gan Gôr Meibion y Barri.
Mae eCymru wedi llunio partneriaeth â’r Brifysgol Agored i gynnig ystod o gyrsiau ar-lein am ddim ym meysydd celf a chrefft, addysg, ffitrwydd ac iechyd.
Mae eCymru yn weithredol nawr, gan roi’r cyfle i chi fod yn rhan o ddigwyddiadau, manteisio ar gyfleoedd dysgu electronig a rhagor. Os hoffech chi weld beth sydd gan eCymru i’w gynnig, ewch i’r wefan: www.ecymru.co.uk
Cyfarfodydd Tenantiaid Rhithiol
Cyfarfodydd Tenantiaid Rhithiol
Bob dydd Iau cynhelir cyfarfodydd ar-lein gyda grwpiau tenantiaid – ffordd wych o gadw mewn cysylltiad a derbyn barn tenantiaid ar ein gwasanaethau! Ydych chi’n denant i Grŵp Cynefin a diddordeb cymryd rhan? Cysylltwch â’r Tîm Mentrau Cymunedol am fwy o wybodaeth. 0300 111 2122 / mentraucymunedol@grwpcynefin.org.
Tenant Archwilwyr
Tenant Archwilwyr