Annibyniaeth – Cefnogaeth – Cymuned

Maes y Mor

Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am ychydig o gymorth i barhau i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hŷn, efallai mai Maes y Môr yn Nhremadog, Gwynedd yw’r lle i chi.

Wedi ei leoli mewn llecyn tawel gyda gardd eang, mae Maes y Môr yn gynllun tai cysgodol i bobl dros 55 mlwydd oed, gyda rheolwr ar y safle yn ystod yr wythnos i’ch cefnogi gyda materion sy’n ymwneud â’ch cartref.

Byddwch yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 38 o fflatiau hunangynhaliol sydd ar y safle, ond gyda’r sicrwydd bod cefnogaeth ar gael yn ystod y dydd yn yr wythnos, a mynediad 24 awr at wasanaeth brys, os oes angen.

Gyda’ch drws ffrynt eich hun, eich fflat yw eich cartref lle gallwch barhau i goginio, derbyn ymwelwyr a mwynhau byw’n annibynnol. O fewn pob fflat mae cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely. Bydd gennych system fynediad diogel ac mae lifft pwrpasol hefyd ar gael yn yr adeilad.

Wrth rentu fflat ym Maes y Môr, cewch hefyd fynediad i lolfa gymunedol lle mae cyfle i gymdeithasu â thrigolion eraill a mwynhau gweithgareddau fel celf a chrefft, boreau coffi a gweithgareddau garddio.

Os yw’n well gennych ychydig o amser eich hun, mae ystafell dawel hefyd ar gael i chi ymlacio. Ac allan yn yr ardd, cewch gyfle i eistedd ar y meinciau gan ymlacio, cymdeithasu a mwynhau gwylio byd natur ar ei orau.

Adnodd arall defnyddiol yw’r ystafell olchi dillad sydd ar gael ar y safle.

Bydd – mi all ffrindiau a theulu alw unrhyw bryd. Mae modd hefyd i deulu neu ffrindiau aros dros nos mewn ystafell bwrpasol i ddau westai.

Mae Maes y Môr yn cynnig tawelwch meddwl i chi, eich teulu a’ch ffrindiau tra ar yr un pryd yn rhoi’r annibyniaeth a’r rhyddid i chi fynd a dod fel y mynnwch.

Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth am rentu fflat ym Maes y Môr, yna cysylltwch â ni.

Cyswllt Cynefin

 

Cookie Settings