Y diweddaraf

Shan Lloyd Williams yn sefyll i lawr fel Prif Weithredwr Grŵp Cynefin

16 Mai 2023

Ar ôl pum mlynedd yng ngofal y gymdeithas dai yng ngogledd Cymru, mae Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, Shan Lloyd Williams, yn rhoi’r gorau i’w rôl  er mwyn canolbwyntio ar brosiectau a diddordebau personol. Hoffai Grŵp Cynefin ddiolch i Shan am ei chyfraniad i’r gymdeithas dros y cyfnod hwnnw a dymuno pob llwyddiant iddi i’r dyfodol. […]

Newid i’n Dyfarniad Rheoleiddio

27 Maw 2023

Yn ddiweddar, cynhaliodd  Grŵp Cynefin adolygiad mewnol o rai rhannau o’r  busnes – gan gynnwys rheoli asedau a sut rydym yn cadw cofnodion.  Yn dilyn yr adolygiad hwn, gwnaethom y penderfyniad i gyfeirio ein hunain at y Rheoleiddiwr yn Llywodraeth Cymru gan ei fod yn glir nad oedd gennym y cofnodion a’r broses gywir i […]

Cyllideb Llywodraeth Cymru yn bygwth gwasanaethau i’r digartref

30 Ion 2023

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried y penderfyniad i rewi cyllid ar gyfer gwasanaethau digartrefedd yng nghyllideb ddrafft 2023/24. Ymuna Grŵp Cynefin â Chymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru yn ymgyrch #MaterionTaiCymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r Grant Cymorth Tai yn eu Cyllideb Derfynol ar gyfer 2023/24. […]

Cytundeb i ddarparu rhaglen ôl-osod ar draws gogledd Cymru ar agor i gontractwyr

20 Ion 2023

Mae Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru yn gobeithio penodi prif gontractwr i ddarparu rhaglen ôl-osod (retrofit) gwerth £8.5m o waith ar gyfer tai cymdeithasol ar draws gogledd Cymru. Hyd y contract cychwynnol yw 12 mis gydag opsiwn i ymestyn i  24 mis arall. Bydd y contractwr llwyddiannus yn cyflawni gwaith ôl-osod ledled y rhanbarth, gan […]

Beth arall sy'n newydd?

Ffrwd Facebook

Dod o hyd i ni ar Facebook

Tai Gofal Ychwanegol

Cookie Settings