Asiantaethau Tai yn cyd-weithio i gefnogi Bargen Twf Gogledd Cymru Mawrth 4 Rhagfyr 2018

Mae grŵp o chwe asiantaeth tai lleol wedi dod at ei gilydd mewn menter ar y cyd cyffrous i gyflymu datblygiad tai fforddiadwy newydd i gefnogi dosbarthiad Bargen Twf Gogledd Cymru.


Lansio gardd gymunedol newydd i helpu lles pobl hŷn Mawrth 27 Tachwedd 2018

Mae pobl hŷn Ynys Môn yn codi rhawiau a ffyrch i ymladd unigrwydd mewn gardd gymunedol sydd newydd ei hagor.


Mae cynllun cynilo newydd sy’n rhoi bonws o hyd at £1,200 i bobl ar incwm isel wedi’i lansio Mercher 7 Tachwedd 2018

Mae menter Cymorth i Gynilo’r Llywodraeth, sydd ar gael i bobl sy’n hawlio credydau treth a chredyd cynhwysol, yn gwobrwyo pobl sy’n cynilo gyda 50c ychwanegol am bob £1 sy’n cael ei gynilo.


Cartrefi i’w gweld yn nyluniad gemydd ar gyfer Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 Mawrth 6 Tachwedd 2018

Mae gemydd cyfoes o ogledd Cymru wedi derbyn cymeradwyaeth gan Fwrdd Gorsedd y Beirdd am ddyluniad Coron 2019 ar gyfer yr ŵyl yn Sir Conwy’r flwyddyn nesaf.


Adnodd Cymharu Perfformiad Cymdeithasau Tai Iau 1 Tachwedd 2018

Mae Grŵp Cynefin yn landlord cymdeithasol cofrestredig a gofrestrwyd yng Nghymru, neu fel y gelwir yn aml, yn ‘Gymdeithas Dai’. Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r trefniadau rheoleiddio yn ddiweddar, ac wedi creu adnodd i alluogi tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth, rhanddeiliaid a phartneriaid gael mynediad at ddata perfformiad.


Strategaeth dwf uchelgeisiol Grŵp Cynefin i greu 400 o gartrefi newydd Mercher 31 Hydref 2018

Mae Grŵp Cynefin, yr unig gymdeithas dai sy’n gweithredu ym mhob rhan o Ogledd Cymru wedi cyhoeddi strategaeth dwf newydd uchelgeisiol a fydd yn creu 400 o gartrefi newydd erbyn 2021.


Dyfarniad Rheoleiddio 2018 Mercher 31 Hydref 2018

Mae Grŵp Cynefin yn Landlord Cymdeithasol Cofresterdig, a mae hyn yn golygu ein bod yn cael ein Rheoleiddio gan Tîm Rheoleiddio Tai, Llywodraethu Cymru.


Galw ar bobl i fod yn dditectifs gan helpu i daflu goleuni ar hanes pentref Gwener 26 Hydref 2018

Mae hen adeilad rheilffordd ar y rhodfa yng Ngallt Melyd, Prestatyn, wrthi’n cael ei ail-wampio ar gost o £1.2 miliwn, lle bydd yr adeilad gwag yn cael ei drosglwyddo’n hwb yn cynnwys siop, caffi, arddangosfa treftadaeth, cyfleuster llogi beiciau, ac unedau busnes.


Byngalo newydd sbon arbenigol yn gwneud bywyd yn fwy cyfforddus i denant anabl Iau 18 Hydref 2018

Bydd byngalo newydd sbon a adeiladwyd yn Sir y Fflint yn gwneud bywyd yn llawer mwy cyfforddus i denant anabl a'i gofalwyr, diolch i Grŵp Cynefin.


Gwaith pontio’r cenedlaethau ar restr fer gwobr genedlaethol Llun 8 Hydref 2018

Mae gwaith Grŵp Cynefin sy'n dod â phobl ifanc a hŷn at ei gilydd drwy'r celfyddydau wedi cyrraedd rhestr fer gwobr bwysig o fewn y diwydiant.


Grŵp Cynefin yn penodi arweinwyr strategol profiadol fel cyfarwyddwyr anweithredol Llun 1 Hydref 2018

Mae Grŵp Cynefin, cymdeithas tai blaenllaw yng nogledd a chanolbarth Cymru, sy'n rheoli oddeutu 4,800 o gartrefi, wedi penodi dau gyfarwyddwr anweithredol i gefnogi twf a datblygiad y gymdeithas wrth ddarparu tai cymdeithasol a chynlluniau cymunedol.


Ceffylau yn helpu cefnogi pobl yng ngogledd Cymru i wella a goroesi wedi cam-driniaeth ddomestig Mawrth 11 Medi 2018

Mae dioddefwyr cam-drin domestig yn Ynys Môn a Gwynedd yn adennill eu hyder a chael cefnogaeth i wella, diolch i gynllun arloesol sy'n defnyddio ceffylau.


Datblygiad Grŵp Cynefin yn rhoi cymaint nôl i gymuned y Rhyl Iau 9 Awst 2018

Mae datblygiad tai yn y Rhyl wedi helpu dwy elusen yn y dref yn ogystal â darparu cyfleoedd hyfforddi ychwanegol ar gyfer prentisiaid yn dilyn lansio menter newydd.


Gemydd cyfoes yn cael ei dewis i ddylunio Coron Eisteddfod 2019 Iau 2 Awst 2018

Mae gemydd o ogledd Cymru wedi cael ei dewis fel y dylunydd a fydd yn creu’r Goron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst y flwyddyn nesaf.


Mae busnesau bychan a’r rhai sy’n dechrau yn cael cyfle i fod ar y trywydd cywir, diolch i fenter gymunedol newydd Iau 19 Gorffennaf 2018

Mae hen adeilad rheilffordd ar y rhodfa yng Ngallt Melyd, Prestatyn, wrthi’n cael ei ail-wampio ar gost o £1.2m, lle bydd yr adeilad gwag yn cael ei drosglwyddo’n hwb yn cynnwys siop, caffi, arddangosfa treftadaeth, cyfleuster llogi beiciau, ac unedau busnes.


Grŵp Cynefin yn ennill gwobr wrth fynd i'r afael ag unigrwydd mewn pobl hŷn Mawrth 10 Gorffennaf 2018

Mae Grŵp Cynefin wedi ennill gwobr, mewn cystadleuaeth oedd ar agor i gymdeithasau tai ledled Cymru, am ei waith arloesol yn mynd i'r afael ag unigrwydd mewn pobl hŷn.


Datblygwyr chwilfrydig yn troi at waith ditectif ar ôl darganfod darn o hanes Fictoraidd mewn hen sied rheilffordd Mercher 4 Gorffennaf 2018

Cafodd adeiladwyr a oedd yn gweithio ar hen sied nwyddau rheilffordd Gallt Melyd ar rodfa Prestatyn i Ddyserth dipyn o syndod pan ddechreuon nhw godi’r hen lawr. Yn cuddio o dan y llawr roedd hen boteli gwydr yfed mewn cyflwr perffaith.


Canolfan fenter Grŵp Cynefin yn Llŷn yn mynd o nerth i nerth Mawrth 3 Gorffennaf 2018

Bydd dau gwmni newydd yn sefydlu eu hunain yng nghanolfan fenter lwyddiannus Grŵp Cynefin, sef Congl Meinciau, ym Mhen Llŷn dros yr wythnosau nesaf.


Cymdeithas tai ar restr fer gwobrau tai cymdeithasol cenedlaethol Llun 25 Mehefin 2018

Mae cymdeithas dai gogledd Cymru yn dathlu’r nifer mwyaf erioed o enwebiadau mewn gwobrau tai cydnabyddedig cenedlaethol.


Grŵp Cynefin yn dangos arweiniad yn y sector dai yng Nghymru trwy ddefnyddio coed o Gymru Iau 21 Mehefin 2018

Mae Grŵp Cynefin yn dangos arweiniad yn y sector dai yng Nghymru wrth ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy sicrhau’r defnydd o bren o Gymru ar gyfer datblygiad tai newydd.


Rhaglen arloesol Tadau Gofalgar sy'n atal plant rhag mynd i ofal yn cael ei lansio yn siroedd Conwy a Dinbych Mercher 13 Mehefin 2018

Mae cynllun gwirfoddol arloesol sy'n helpu tadau i ail-adeiladu perthynas gadarnhaol â'u plant sydd wedi eu heffeithio gan gam-driniaeth yn y cartref, yn ehangu i siroedd Conwy a Dinbych.


Cynllun newydd yn cymryd agwedd holistig tuag at helpu pobl ag anghenion cefnogaeth lluosog a chymhleth Mawrth 12 Mehefin 2018

Gall pobl sydd ag anghenion cefnogaeth lluosog oherwydd problemau megis celcu, camddefnyddio sylweddau, cefndir o droseddu, anabledd dysgu lefel isel neu ag anghenion iechyd meddwl, bellach elwa ar wasanaeth cymorth arloesol ‘symudol' sy'n gysylltiedig â thai.


Chwilio am wneuthurydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 Mercher 30 Mai 2018

Mae Grŵp Cynefin, cymdeithas dai sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys, yn chwilio am wneuthurydd i greu coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.


Cartrefi Caergybi bron yn barod ar gyfer y teuluoedd lleol Mercher 23 Mai 2018

Mae prif weithredwr newydd Grŵp Cynefin wedi dychwelyd i ddatblygiad tai y bu hi’n allweddol yn eu comisiynu yn ei swydd flaenorol fel pennaeth tai yng Nghyngor Ynys Môn.


Cofrestr Tai Fforddiadwy newydd i helpu pobl i ddod o hyd i gartref delfrydol Gwener 18 Mai 2018

Mae darpar brynwyr a thenantiaid gogledd Cymru a Phowys yn cael eu hannog i ymuno â chofrestr tai fforddiadwy ar-lein newydd er mwyn gwella eu siawns o sicrhau eu cartref delfrydol.


Criw hen ac ifanc yn cyd-fwynhau digwyddiad a drefnwyd gan Grŵp Cynefin Iau 3 Mai 2018

Mae cynllun arloesol gan un o gymdeithas tai Gogledd Cymru yn cyfoethogi bywyd pobl hŷn.


Dechrau ar y gwaith o adeiladu Pentre Canol, cynllun tai gofal ychwanegol i bobl hŷn yn Ninbych Iau 26 Ebrill 2018

Mae’r gwaith adeiladu ar safle tai gofal ychwanegol newydd sbon i bobl hŷn yn sir Ddinbych, wedi dechrau'r wythnos hon (23 Ebrill) yng nghanol tref Dinbych.


Masnachwyr adeiladu lleol yn darparu nwyddau a llafur i adnewyddu gardd Mawrth 24 Ebrill 2018

Daeth tri o fusnesau Ynys Môn, Jewsons, Mona Precast a Grays Waste, i’r adwy pan ofynnwyd iddynt ddarparu nwyddau a llafur i helpu i adnewyddu gardd defnyddiwr gwasanaeth sydd ag afiechyd terfynol, gyda J. Williams Contractors, North Wales Plant Hire a Jewson, Tool Hire Llangefni yn cyflenwi’r offer.


‘Youth Shedz’ Llun 16 Ebrill 2018

Bydd menter newydd a elwir yn ‘Youth Shedz’ yn agor yn Ninbych y mis hwn. Nod y fenter yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu a datblygu sgiliau newydd mewn lleoliad diogel.


Annog unigolion sy’n newydd i’r rôl cyfarwyddwr anweithredol i ymgeisio am le ar Fwrdd Grŵp Cynefin. Llun 9 Ebrill 2018

Mae galwad ar unigolion sydd â diddordeb yn y sector tai, sydd hefyd â phrofiad busnes, i ymgeisio am swydd wag ar Fwrdd Rheoli Grŵp Cynefin.


Buddsoddiad sylweddol am dai lleol ym mhentref Cemaes Mercher 21 Mawrth 2018

Dros yr wythnosau diwethaf, mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu cartrefi newydd mewn un gymuned yn Ynys Môn.


CIH Cymru a Grŵp Cynefin yn croesawu Gweinidog i’r cyfarfod cyntaf mewn cyfres o drafodaethau o amgylch y bwrdd i’r aelodau Llun 19 Mawrth 2018

Bydd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans AC, yn mynychu trafodaeth o amgylch y bwrdd yn un o gynlluniau Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yng Nghaergybi ar 15 Mawrth.


Diddymu’r Hawl i Brynu yng Nghymru Gwener 16 Mawrth 2018

Ni fydd gan denantiaid cymdeithasau tai yr hawl i brynu neu gaffael eu cartref o 26 Ionawr 2019 ymlaen.


Uchafbwyntiau Walis George cyn ymddeol fel Prif Weithredwr Grŵp Cynefin Llun 12 Mawrth 2018

Ymysg uchafbwyntiau ei yrfa, mae’n rhestru ffurfio cymdeithas dai Grŵp Cynefin nôl yn 2014; datblygu Canolfan Fenter Congl Meinciau ym Mhen Llŷn a sefydlu’r gwasanaeth Hwylusydd Tai Gwledig cyntaf yn y gogledd.


Gwaith tlodi tanwydd cymdeithas dai yn ennill cydnabyddiaeth mewn tair gwobr Iau 15 Chwefror 2018

Mae gwaith gan wardeiniaid ynni sy’n cynorthwyo yn erbyn tlodi tanwydd yng ngogledd Cymru wedi derbyn tair gwobr o ganmoliaeth.


Grŵp Cynefin yn enwi prif weithredwr newydd Mawrth 30 Ionawr 2018

Cyn-glerc banc a ddatblygodd ei gyrfa wedi iddi newid llwybr oherwydd ei bod am weithio gyda phobl a helpu i wella bywydau unigolion yw prif weithredwr nesaf Grŵp Cynefin.


Cyfarwyddwr newydd yn awyddus i gynorthwyo cymunedau gogledd Cymru Llun 22 Ionawr 2018

Mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio newydd Grŵp Cynefin, Dylan Roberts yn edrych ymlaen at gynorthwyo pobl leol a chymunedau fel rhan o’i rôl newydd gyda’r gymdeithas dai.


Marc yn gweithio gyda’r sêr ar set ffilm yn Eryri Iau 4 Ionawr 2018

Yn ddiweddar, treuliodd un o denantiaid Grŵp Cynefin wythnos yn Eryri efo rhai o actorion gorau Cymru wrth ffilmio cyfres ddrama deledu genedlaethol newydd.


Cartrefi newydd Sir Ddinbych yn cyrraedd galw lleol am dai o safon Llun 18 Rhagfyr 2017

Mae teuluoedd yn Sir Ddinbych yn dathlu wrth i 12 o gartrefi newydd gael eu dyrannu i bobl leol yn Llangollen, diolch i bolisi gosod tai lleol.


Swyddfa ardal newydd yn cynyddu buddsoddiad tref Dinbych i £15.2m Mawrth 14 Tachwedd 2017

Daeth staff, aelodau'r Bwrdd a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd i ddathlu'r buddsoddiad diweddaraf gan Grŵp Cynefin yng nghanol tref Dinbych.


Cyfle i bobl ddi-waith ddysgu sgiliau ar set ffilm, gyda chymorth Grŵp Cynefin Llun 23 Hydref 2017

Bydd cynllun o’r enw Troed yn y Drws, sy’n cael ei drefnu gan Ffilm Cymru Wales, yn cynnig cyfle i bobl ddi-waith o bob oed yng Ngogledd Cymru ddysgu sgiliau gwerthfawr ar set cyfres deledu newydd gyffrous a gaiff ei ffilmio cyn bo hir yn Eryri.


Merch a oroesodd drais yn y cartref yn diolch i Gorwel am eu cymorth ‘anhygoel’ Mercher 11 Hydref 2017

Mae merch a lwyddodd i oresgyn trais yn y cartref wedi diolch o waelod calon i wasanaeth lloches i ferched yng Ngogledd Cymru am eu gwaith “anhygoel” yn ei helpu i roi ei bywyd yn ôl mewn trefn.


Caniatâd i ddymchwel hen adeiladau ysgol yn Lon Ganol, Dinbych Mercher 13 Medi 2017

Mae Grŵp Cynefin yn croesawu’n fawr y penderfyniad gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych heddiw i ganiatáu dymchwel adeiladau presennol ar safle’r hen ysgol yn Lon Ganol. Mae hyn yn garreg filltir sylweddol i’r prosiect i ddarparu tai gofal ychwanegol sydd wir eu hangen ar gyfer pobl hŷn Dinbych.


Gwobr genedlaethol i ferch ifanc o Sir Ddinbych a fu’n ddigartref Llun 11 Medi 2017

Mae merch ifanc o Sir Ddinbych, sydd wedi trawsnewid ei bywyd gyda chymorth gan Gorwel, yn dathlu ennill gwobr genedlaethol mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd.


Cynllun arloesol i helpu pobl hŷn barhau i fyw yn eu cartrefi eisoes yn dwyn ffrwyth Llun 24 Gorffennaf 2017

Mae helpu i adennill cysylltiad â theulu wedi ymddieithrio, a chymorth i gael trefn ar faterion ariannol yn dilyn tair trawiad ar y galon, ill dau wedi eu galw'n llwyddiannau cynnar o wasanaeth pobl hŷn arloesol ar gyfer trigolion Ynys Môn, mewn lansiad swyddogol diweddar.


Cefnogaeth Gymunedol i ardal Porthmadog Mawrth 18 Gorffennaf 2017

Mae nifer o fudiadau a grwpiau cymunedol ardal Gwynedd yn dathlu o dderbyn hwb ariannol gan Grŵp Cynefin, gwerth £20,000 fel rhan o’i gytundeb cymunedol i gynorthwyo trigolion lleol wrth ddatblygu tai gofal ychwanegol newydd yn y dref, Hafod y Gest ym Mhorthmadog.


Canmol staff gweithgar Grŵp Cynefin am eu hymroddiad Mercher 17 Mai 2017

Mae staff cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi derbyn canmoliaeth am safon uchel eu gwaith a’u hymrwymiad i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’w cwsmeriaid.


Gorwel a Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd yn uno heddiw Gwener 31 Mawrth 2017

Heddiw, y 31 o Fawrth 2017, mae Gorwel a Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd yn uno o dan adain Grŵp Cynefin.


Robart, 21 a Gwen, 20, yn prynu cartref cyntaf, diolch i bartneriaeth newydd sy’n rhoi hwb i dai gwledig Iau 23 Mawrth 2017

Mae partneriaeth tai arloesol yn helpu cwpl ifanc i brynu eu cartref cyntaf gyda'i gilydd.


Rhoi Caniatâd i Gynllun Gofal Ychwanegol ar y Lôn Ganol Gwener 17 Mawrth 2017

Mae Aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo cynllun i godi 70 o unedau gofal ychwanegol ar safle'r Lôn Ganol yn Ninbych.


Prosiect cerddoriaeth yn pontio'r cenedlaethau wrth i blant bach a phobl hŷn uno i berfformio Llun 6 Mawrth 2017

Mae prosiect cerddoriaeth arloesol yn y gogledd ddaeth â phlant ifanc i fwynhau sesiynau cerddoriaeth gyda phobl hŷn yn eu 70au, 80au a'r 90au mewn cynllun gofal ychwanegol wedi bod yn llwyddiant ysgubol.


Gorwel - diogelu gwasanaethau trais, digartrefedd a phobl hŷn gogledd Cymru Iau 2 Chwefror 2017

O’r cyntaf o Ebrill, bydd dau wasanaeth pwysig yn uno dan adain Grŵp Cynefin er mwyn gwarchod gwasanaethau rheng flaen yn nghefn gwlad Cymru.


#gwledig17: Sylw i dai gwledig Llun 23 Ionawr 2017

Mae Cynhadledd Tai Gwledig Cartrefi Cymunedol Cymru yn cael ei gynnal 26 Ionawr, ac mae’n gyfle i ni ddangos beth rydym yn ei wneud fel darparwyr tai yng Nghymru.


Cwmni bwyd yn canmol canolfan fenter wledig am gadw swyddi'n lleol Llun 23 Ionawr 2017

Mae sylfaenydd busnes iogwrt a phwdinau sy’n gwerthu cynnyrch yn Tesco ac ASDA wedi canmol canolfan fenter wledig am alluogi i’r busnes dyfu.


Grŵp Cynefin yn dathlu buddsoddiad o dros £10m mewn cartrefi gwledig fforddiadwy mewn tair blynedd Llun 23 Ionawr 2017

Mae prif ddarparwr tai fforddiadwy mewn cymunedau gwledig yng ngogledd Cymru yn dathlu buddsoddi dros £10 miliwn mewn cartrefi gwledig newydd ers mis Ebrill 2014.


Comisiynydd yr Heddlu, Arfon Jones, yn ymweld â chynllun arloesol i gefnogi pobl ifanc yn Ninbych Mawrth 20 Rhagfyr 2016

Bu i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ymweld â HWB Dinbych yn ddiweddar, cynllun £2.2m a reolir gan Grŵp Cynefin.


Cyhoeddi enw swyddfa newydd Dinbych, Tŷ John Glyn - tysteb i un o hoelion wyth y sector dai yng Nghymru Iau 24 Tachwedd 2016

Mae Grŵp Cynefin yn falch o gyhoeddi mai ‘Tŷ John Glyn’ fydd enw ei swyddfa ardal newydd yn Ninbych, yn dysteb i un o hoelion wyth y sector dai yng Nghymru.


Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau a phlant yn canmol Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych Llun 14 Tachwedd 2016

Yn ystod ymweliad arbennig a thîm Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn ddiweddar, agorodd Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant swyddfa newydd yr elusen ar Barc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych.


Sied nwyddau i’w throi’n ganolfan fenter ymwelwyr yn dathlu ennill £1.1m o arian loteri Mawrth 25 Hydref 2016

Mae grant loteri £1.1m wedi ei ddyfarnu i gynllun sy'n anelu at droi hen sied nwyddau yn ganolfan fenter a threftadaeth.


Rheolydd tai fforddiadwy newydd yn gwahodd pobl i gofrestru diddordeb mewn cynlluniau tai fforddiadwy ledled gogledd Cymru Iau 6 Hydref 2016

Mae cyn swyddog strategaeth tai Cyngor Gwynedd, Catrin Roberts wedi ymuno â Grŵp Cynefin fel rheolwr tai fforddiadwy newydd.


Teuluoedd Penrhyndeudraeth yn agor eu drysau i wleidyddion weld eu cartrefi amgylcheddol newydd Iau 15 Medi 2016

Mae dau wleidydd wedi ei theimlo hi’n fraint cael eu gwahodd i mewn i weld cartrefi newydd sydd â buddiannau amgylcheddol iddynt ac sy’n fforddiadwy ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd.


Enwi Warden Arbed Ynni, Sandra, yn Arwres Ynni’r Deyrnas Gyfunol Mawrth 6 Medi 2016

Mae degau o filoedd o bunnoedd sydd wedi eu harbed i denantaid tai ar eu biliau ynni diolch i Warden ynni cymunedol o Gaernarfon, wedi sicrhau ei bod yn cael ymweld â’r Tŷ Cyffredin.


Ystlumod yn dod adref nôl i glwydo ar safle tai fforddiadwy newydd yn Sir Ddinbych Llun 25 Gorffennaf 2016

Mae ysgol gynradd yn Sir Ddinbych wedi ymweld â datblygiad tai fforddiadwy i weld sut mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn gweithio o amgylch ystlumod ar safle adeiladu tai newydd.


Lansio rhaglen camdrin domestig yng Ngwynedd sy'n helpu tadau ail adeiladu perthynas gyda’i plant Mercher 20 Gorffennaf 2016

Mae cynllun gwirfoddol ar Ynys Môn sy'n helpu tadau ail-adeiladu perthynas gadarnhaol â'u plant sydd wedi eu heffeithio gan gamdrin domestig, yn cael ei gyflwyno yng Ngwynedd.


Gwleidyddion yn canmol y gwaith ar gynllun tai gofal ychwanegol ym Mhorthmadog Mercher 8 Mehefin 2016

MAE Aelod Seneddol a chynghorydd sir wedi canmol y gwaith ar gynllun tai gofal ychwanegol newydd ym Mhorthmadog – cynllun gwerth £8.5m.


Asesiad Rheoleiddiol Gwener 27 Mai 2016

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i reoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymdeithasau Tai) yng Nghymru mewn perthynas â’u darpariaeth tai, ac mewn perthynas â materion yn ymwneud â llywodraethu a rheolaeth ariannol.


Teuluoedd yn canmol cynllun sy’n dod â thai fforddiadwy newydd i galon eu cymuned Llun 23 Mai 2016

Mae menter wedi ei lansio gan bartneriaeth o gymdeithasau tai, cynghorau lleol ac awdurdod parc cenedlaethol yn cynorthwyo i ddarparu tai fforddiadwy gan fynd i’r afael â thlodi mewn ardaloedd gwledig.


Cystadleuaeth Garddio Mercher 18 Mai 2016

Gyda’r haf ar y gorwel mae’n amser unwaith eto i fynd allan a gwneud ychydig o waith garddio. Beth am gael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled yma drwy gystadlu yn ein cystadleuaeth garddio?


Partneriaeth tai gofal ychwanegol newydd i Ddinbych Llun 9 Mai 2016

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i bartneriaeth gyffrous gyda Grŵp Cynefin i ddatblygu tai gofal ychwanegol ar safle Ysgol Lon Ganol yn Ninbych.


Buddsoddiad o £25,000 yn hwb i wireddu cynllun trydan dŵr arloesol Mawrth 26 Ebrill 2016

MAE trigolion Dyffryn Ogwen gam yn nes at gynhyrchu trydan ar garreg eu drws diolch i fuddsoddiad sylweddol gan Grŵp Cynefin.


Wardeiniaid Ynni yn ennill Gwobrau Teimlo’r Gwres 2016 Llun 14 Mawrth 2016

Mae ein prosiect arloesol sydd yn helpu trigolion yng Ngogledd Cymru i arbed arian ar eu biliau ynni yn ogystal â darparu hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i bobl leol wedi ennill y brif wobr yng Ngwobrau Teimlo’r Gwres 2016.


Tai â chefnogaeth arloesol Harlech yn gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion Llun 22 Chwefror 2016

Mae cynllun tai â chefnogaeth newydd yn Harlech yn gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion ag anableddau dysgu sy'n darganfod eu hannibyniaeth am y tro cyntaf erioed.


Gweinidog yn ymweld â chyfleuster cymunedol sy'n newid bywydau yn Sir Ddinbych Iau 18 Chwefror 2016

Ymwelodd Gweinidog Llywodraeth Cymru, Ken Skates â phrosiect sy'n newid bywydau ac sy'n perfformio'n well na’r targed o gael pobl Sir Ddinbych yn ôl i fyd gwaith, diolch i gyllid gan y Gronfa Loteri Fawr.


Grŵp Cynefin y gymdeithas tai gyntaf yng Ngogledd Cymru i ennill gwobr sy’n cefnogi’r rhai sy’n colli eu golwg Llun 16 Tachwedd 2015

Grŵp Cynefin yw'r gymdeithas tai gyntaf yng Ngogledd Cymru i dderbyn gwobr fawreddog gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB).


Gweinidog yn lansio Asiantaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych Mawrth 13 Hydref 2015

Mae Lesley Griffiths Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi wedi lansio’n swyddogol asiantaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.


Tenant newydd Caffi Congl yw’r diweddaraf i ymuno â chanolfan fenter lwyddiannus Iau 24 Medi 2015

Mae canolfan fenter lwyddiannus yng Ngwynedd wedi croesawu ei denant diweddaraf, gan ddod â'r nifer o swyddi lleol sy’n gysylltiedig â’r fenter dros y pedair blynedd ddiwethaf i 70 o bobl.


Rhaglen cefnogi arloesol Tadau Gofalgar yn dychwelyd i Ynys Môn Mawrth 4 Awst 2015

Mae rhaglen wirfoddol arloesol sy'n helpu tadau ar Ynys Môn i ail-adeiladu perthynas gadarnhaol gyda'u plant wedi dychwelyd.


Y gwaith o adeiladu swyddfa newydd sbon Grŵp Cynefin yn Ninbych wedi cychwyn Gwener 17 Gorffennaf 2015

Mae'r gwaith o adeiladu swyddfa ardal newydd sbon i Grŵp Cynefin wedi cychwyn, gan gadarnhau ymrwymiad y gymdeithas dai i fuddsoddi a chefnogi ardaloedd fel Dyffryn Clwyd.


Un rhif cyswllt wrth uno asiantaethau Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych Mercher 1 Gorffennaf 2015

O’r 1af o Orffennaf 2015, mae asiantaethau Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn uno. Mae'r asiantaeth newydd, sef gwasanaeth ymweld â'r cartref rhad ac am ddim sy'n galluogi pobl hŷn i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi, yn is gwmni i gymdeithas dai, Grŵp Cynefin.


Prif swyddog cyllid newydd yn cefnogi tenantiaid trwy’r newidiadau i’r Credyd Cynhwysol Mercher 24 Mehefin 2015

Bydd y pennaeth cyllid sydd newydd ei phenodi i weithio i Grŵp Cynefin yn cydweithio â thîm tai a chymunedau’r cwmni i reoli effaith y Credyd Cynhwysol sydd ar fin cael ei gyflwyno.


Byw yn Annibynnol - gêm fwrdd newydd yn adlewyrchu materion bywyd go iawn sy'n wynebu pobl ifanc Mawrth 23 Mehefin 2015

Mae gêm fwrdd newydd sbon wedi cael ei lansio sy'n amlygu realiti byw'n annibynnol i bobl ifanc yng ngogledd Cymru. Mae'r gêm wedi ei datblygu gan bobl ifanc sydd wedi cael profiad go iawn o'r anawsterau sy’n ymwneud â byw'n annibynnol a digartrefedd.


Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn canmol prosiect sy’n helpu ieuenctid mewn perygl o ddigartrefedd Iau 28 Mai 2015

Canmolwyd prosiect sy’n helpu ieuenctid sydd mewn perygl o fod yn ddigartref gan Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Winston Roddick.


Diwrnod agored tai fforddiadwy Mercher 27 Mai 2015

Cynhelir diwrnod agored mewn datblygiad tai newydd ar gyrion Bangor ac mae croeso cynnes i bobl sydd â diddordeb mewn prynu tŷ fforddiadwy yno.


Cofrestrau Tai Unigol yng Nghonwy a Sir y Fflint Mawrth 26 Mai 2015

Mae'r ffordd y byddwch yn gwneud cais am dai cymdeithasol a sut mae cartrefi yn cael eu dyrannu yng Nghonwy a Sir y Fflint wedi newid.


Teyrnged i John Glyn Jones Mercher 13 Mai 2015

Rydym wedi derbyn newyddion trist iawn am farwolaeth sydyn John Glyn Jones.


Canolfan HWB Dinbych, Grŵp Cynefin yn ennill un o brif wobrau UK Housing 2015 Llun 27 Ebrill 2015

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi cipio gwobr bwysig Brydeinig am ei gwaith cymunedol arloesol gyda HWB Dinbych.


Asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn gweithio gyda'i gilydd Mercher 1 Ebrill 2015

O Ebrill 1, bydd yr asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghonwy yn dod yn is-gwmni o Grŵp Cynefin.


Dathlu ein Pen-blwydd Cyntaf Mercher 1 Ebrill 2015

Ar 1 Ebrill 2014, bu i ddwy o gymdeithasau tai mwyaf blaenllaw gogledd Cymru uno i ffurfio Grwp Cynefin. 12 mis yn ddiweddarach, ymunwch â ni wrth i ni ddathlu ein pen blwydd cyntaf.


Grŵp Cynefin yn buddsoddi £4.5m mewn cartrefi newydd i bedair cymuned yn Ynys Môn Iau 26 Mawrth 2015

Mae Grŵp Cynefin yn buddsoddi £4.5miliwn mewn 40 o gartrefi newydd i ddiwallu anghenion tai pedair cymuned yn Ynys Môn.


Cynllun HWB Grŵp Cynefin ar y rhestr fer i dderbyn gwobr bwysig Brydeinig Mawrth 17 Mawrth 2015

Mae cynllun arloesol HWB Dinbych ar y rhestr fer i dderbyn gwobr bwysig Brydeinig yn yr UK Housing Awards 2015.


Trigolion Dinbych yn croesawu Gweinidog Cymunedau Llywodraeth Cymru i’r HWB Gwener 13 Chwefror 2015

Mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gymunedau a Threchu Tlodi wedi cyfarfod â thrigolion Dinbych sydd wedi elwa o ofod cymunedol newydd arloesol yng nghanol y dref.


Prosiect tai gwerth £1.6m yn trawsnewid bywydau teuluol ym Meirionnydd Llun 2 Chwefror 2015

Mae tenantiaid mewn datblygiad stad o dai gwerth £1.6m newydd a adeiladwyd gan Grŵp Cynefin yn dweud bod eu bywydau wedi eu trawsnewid gan y tai newydd.


Dod a phobl Dinbych ynghyd i agoriad swyddogol HWB Dinbych Llun 17 Tachwedd 2014

Mae aelodau o'r gymuned yn Ninbych wedi dod at ei gilydd i agor, adeilad newydd HWB Dinbych yn swyddogol ar Ffordd Smithfield yn y dref.


Datblygiad HWB Dinbych yn cystadlu am wobr tai arbennig Mawrth 4 Tachwedd 2014

Mae datblygiad newydd arloesol sy'n darparu cyfleoedd addysgol a chyflogaeth ar gyfer y gymuned yn Ninbych, yn cystadlu am wobr tai cenedlaethol.


Penodi aelodau newydd i fwrdd Grŵp Cynefin Iau 30 Hydref 2014

Mae Grŵp Cynefin wedi penodi tri aelod newydd i'r Bwrdd Rheoli.


Cyflwyno cynlluniau ar gyfer tai gofal ychwanegol newydd ym Mhorthmadog Llun 6 Hydref 2014

Mae Grŵp Cynefin wedi cyflwyno cynlluniau i Gyngor Gwynedd ar gyfer datblygu tai gofal ychwanegol gwerth £ 8.5m newydd ym Mhorthmadog.


Rhaglen cam-drin domestig Ynys Môn yn ceisio cynorthwyo tadau i ail adeiladu perthynas â phlant Llun 15 Medi 2014

Mae cynllun gwirfoddol arloesol ar Ynys Môn yn helpu tadau ail-adeiladu perthynas gadarnhaol gyda'u plant sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.


Gwaith yn dechrau ar ddatblygiad cyntaf Grŵp Cynefin Iau 4 Medi 2014

Mae’r gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad eiddo cyntaf Grŵp Cynefin, cymdeithas dai newydd a ffurfiwyd yn ddiweddar.


Y Gweinidog Tai yn mwynhau’r ardd, gyda menter gymdeithasol sy’n cefnogi pobl hŷn ledled Sir Ddinbych Mercher 30 Gorffennaf 2014

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio yn Llywodraeth Cymru wedi ymweld ag un o drigolion Sir Ddinbych a gafodd help gan gynllun garddio menter gymdeithasol "Gerddi Gwyrdd".


Canolfan newydd i bobl ifanc Dinbych bron yn barod Mercher 30 Gorffennaf 2014

Mae canolfan a fydd yn cynnig cyfleoedd addysg a gwaith i bobl ifanc ar fin agor ei drysau yn Ninbych.


Asiantaethau Tai yn cyd-weithio i gefnogi Bargen Twf Gogledd Cymru

Y Fargen Twf yw ymrwymiad rhanbarth Gogledd Cymru i gydweithio er mwyn hwyluso a chyflymu twf economaidd. Roedd £120 miliwn o gyllid wedi cael ei rhoi i’r Fargen yng Nghyllideb 2018 a gafodd ei chyhoeddi mis Hydref. Mae’r Fargen yn anelu defnyddio cyllid gan y llywodraeth i sianelu bron i £700m o arian cyhoeddus a phreifat i gyfres o brosiectau sydd wedi eu hanelu at hybu economi’r Gogledd a chreu miloedd o swyddi.

Mae Prif Weithredwyr o’r 6 Asiantaeth Tai sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys Grŵp Cynefin Pennaf, Cartrefi Conwy, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Tai Wales & West a Tai Gogledd Cymru yn cydweithio ar sail wirfoddol gyda chydweithwyr o’r chwe Awdurdod Lleol. Mae’r grŵp yn ystyried sut y gallant weithio gyda’i gilydd yn rhagweithiol i ddatblygu mwy o dai gan ddatgloi safleoedd strategol lle mae datblygiad wedi arafu neu stopio ar draws gogledd Cymru, sydd wedi cael eu dyrannu mewn Cynllun Datblygu neu lle mae hawl cynllunio wedi cael ei roi. Bydd datblygiadau fel y rhain yn adlewyrchu’r farn leol ac yn ymateb i ddymuniadau cymunedol i weld mwy o dai fforddiadwy fel bod pobl ifanc a theuluoedd yn medru byw yn yr ardal.

Eglurodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru: “Nid yw’r lefel yma o gydweithio arloesol rhwng y cymdeithasau rhanbarthol wedi cael ei ddatblygu na’i chyflawni yng Nghymru cyn hyn.

Mae’n gyfle cyffrous i’r grŵp o chwech asiantaeth leol wneud cyfraniad strategol i’r economi drwy’r cynlluniau i gyflymu twf tai a chyflawni ystod o anghenion tai ar draws y rhanbarth.

Trwy gydweithio, bydd yr asiantaethau yn cefnogi’r Fargen Twf i gyflymu twf tai a chreu mwy o dai fforddiadwy ar draws gogledd Cymru. Trwy gydweithio, gellir defnyddio capasiti ein sefydliadau ar y cyd i dorri rhwystrau lawr ac i ddosbarthu tai ar leoliadau heriol.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Dros Tai ac Adfywiad: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i greu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru. Trwy gydweithio, mae’r potensial gan y fenter hon i fod yn llawer mwy na’r hyn y gallai’r asiantaethau tai ei gyflawni ar eu pennau eu hunain, ac rydym yn edrych ymlaen at gynorthwyo ei datblygiad.”

Mae cynlluniau’r grŵp ar gyfer y dyfodol yn cael eu datblygu i gyd-fynd gyda blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol.

Lansio gardd gymunedol newydd i helpu lles pobl hŷn

Mae Gorwel, gwasanaeth cefnogi sy’n helpu pobl fregus fyw’n annibynnol, wedi lansio gardd gymunedol yn Llangefni, gan roi’r cyfle i drigolion droi eu llaw at arddio a chymdeithasu mwy yn eu cymuned.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg gan Gorwel mewn partneriaeth â Thîm Cefnogi Pobl Cyngor Sir Ynys Môn, yn rhan o ymdrech i leihau unigrwydd ac iselder ysbryd mewn pobl hŷn, pobl sy’n profi ychydig iawn o ryngweithio y tu allan i’w cartrefi.

Mae’r ardd wedi agor wedi misoedd o baratoi gan wirfoddolwyr, gan gynnwys trigolion Llangefni a gododd £360 am offer garddio mewn archfarchnad ASDA leol.

Mae disgyblion o ysgol anghenion addysgol arbennig, Canolfan Addysg y Bont, wedi cynorthwyo’r prosiect hefyd, gan helpu yn rhandir yr ardd fel rhan o’i lleoliad profiad gwaith.

Mae siop deunydd adeiladu Jewson yn Llangefni yn garedig iawn wedi rhoi sied yn rhodd i’r ardd er mwyn storio eu hoffer.

Mae’r ardd yn cynnwys planhigion wedi eu codi a hynny gan raglenni gwasanaeth lleol, gyda thrigolion hefyd yn cymryd rhan trwy greu mosaig awyr agored.

Yn ôl Osian Ellis, rheolwr cynorthwyol Gorwel: “Daeth y syniad o greu gardd gymunedol wedi i ni siarad â‘n cyfranogwyr rheolaidd, a awgrymodd y syniad o gael rhywle lle gallant fod yn weithgar.

“Gan nad yw pobl hŷn bob amser yn cael y cyfle nag â‘r gallu i fwynhau gardd gartref, mae’r lleoliad yn ddelfrydol iddynt fod allan yn yr awyr agored mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.

“Does dim pwysau i bobl arddio – mae’n lleoliad hefyd sy’n ganolfan gymdeithasol i bobl fwynhau a theimlo’n rhan ohoni.

“Rydym hefyd am i’r ardd weithredu fel mesur ataliol yn erbyn materion iechyd meddwl fel iselder ysbryd, cyflwr y gall y genhedlaeth hŷn ddioddef ohoni oherwydd nad oes cyfleoedd rheolaidd i bobl fynd allan a chymdeithasu.”

Yn ôl Arwel Jones, prif swyddog datblygu gwasanaethau tai yng Nghyngor Sir Ynys Môn: “Mae Gwasanaeth Tai’r Cyngor yn croesawu unrhyw brosiectau newydd ac arloesol sy’n rhoi cyfleoedd i bobl fregus gymryd rhan, cymdeithasu a hyrwyddo’r ymdeimlad o berthyn cymdeithasol.

“Fel comisiynwyr gwasanaeth, sy’n cynnig cefnogaeth ym maes tai, trwy’r Grant Rhaglen Cefnogi Pobl, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Gorwel, am eu hagwedd ragweithiol wrth ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid ehangach allweddol er mwyn gwella lles y gymuned hŷn a mynd i’r afael â mater unigedd.

“Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar am y cyfraniadau ariannol a’r rhoddion a dderbyniwyd gan y sefydliadau lleol a chenedlaethol. Ni fyddai’r gwaith o sefydlu’r fenter hon wedi bod yn bosib hebddynt.

“Rydym yn edrych ymlaen at glywed mwy am ddatblygiadau pellach a chanlyniadau cadarnhaol i rai o drigolion hŷn Ynys Môn o ganlyniad i’r prosiect newydd hwn.”

Yn ôl Rhun Ap Iorweth, AC Ynys Môn: “Mae hon yn fenter wych ac yn enghraifft arall o’r gwaith hanfodol bwysig mae Gorwel yn ei wneud i helpu rhai o’r rhai mwyaf bregus yn ein cymuned.

“Mae’n gyfle gwych i drigolion fod yn fwy egnïol, i gymdeithasu, ac efallai gwneud ychydig o arddio yn ogystal, ac mae Gorwel yn haeddu pob clod am greu ychwanegiad pwysig a phositif i’r gwaith a wnânt ar gyfer eu trigolion.

“Mae bod yn weithgar yn llesol ar gyfer iechyd a lles corfforol, ond mae hefyd yn bwysig iawn i iechyd meddwl, ac yn ogystal â rhoi cyfle i drigolion ddarganfod eu sgiliau garddio gyda mân waith, bydd yr ardd gymunedol hon yn rhoi cyfle i bawb gymdeithasu’n amlach. Llongyfarchiadau i Gorwel a’r Cyngor Sir am eu gwaith caled ar y prosiect hwn - rwy’n siŵr y bydd yn llwyddiant mawr.”

Mae Gorwel, uned o fewn Grŵp Cynefin, ar gael i denantiaid cymdeithasol a phreifat, yn ogystal â pherchnogion tai.

Prif ffocws y sefydliad yw darparu gwasanaethau cymorth ym maes trais yn y cartref ac atal digartrefedd. Mae ei brosiectau yn cynnwys llochesau, cynlluniau tai â chymorth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth cynghori trais yn y cartref annibynnol.

Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai i helpu pobl fregus fyw mor annibynnol â phosib. Mae’n cefnogi mwy na 57,000 o bobl y flwyddyn, gyda 37,000 o’r bobl hynny yn bobl hŷn.

Mae cynllun cynilo newydd sy’n rhoi bonws o hyd at £1,200 i bobl ar incwm isel wedi’i lansio

Mae’n fath newydd o gyfrif cynilo sydd wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer gweithwyr sydd ar incwm isel. Gallwch gynilo rhwng £1 a £50 bob mis, ac ar ddiwedd yr ail a’r bedwaredd flwyddyn, byddwch yn derbyn bonws o 50%, hyd at uchafswm o £1,200.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cartrefi i’w gweld yn nyluniad gemydd ar gyfer Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019

Fel noddwr mae Grŵp Cynefin wrth ei bodd bod cartrefi i’w gweld am y tro cyntaf ar ddyluniad y Goron.

“Fel sefydliad, rydym yn ymfalchïo ein bod yn cael chwarae rhan yn y brîff ar gyfer y dylunydd, Angela Evans o Gaernarfon wrth iddi gyflwyno ei chysyniad ar gyfer Coron 2019 yr Eisteddfod Genedlaethol,” esboniodd Shân Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin.

Bydd tair elfen allweddol yn rhan o gynllun y Goron, gyda’r tair thema yn gysylltiedig ag egwyddorion cymdeithas dai Grŵp Cynefin, fel comisiynwyr Coron y flwyddyn nesaf.

“Ein prif egwyddor fel cymdeithas dai yw gallu cynnig cartrefi o safon yng nghymunedau gwledig gogledd Cymru. Ond fel sefydliad mae’n golygu mwy na gosod brics a morter yn unig.

“Gan fod cymaint o’n staff yn deillio o’r cymunedau yma yng ngogledd Cymru, maen nhw’n deall gwneuthuriad yr ardaloedd hyn, y cymunedau clos maen nhw’n eu gwasanaethu a phwysigrwydd diwylliant Cymru, yr iaith a’r hanes o fewn y cymunedau gwledig yma.

“Mae Grŵp Cynefin yn cynnig ‘mwy na thai’ i’n tenantiaid a’n perchnogion tai, ac rydym yn falch o fod yn arddangos elfennau o’r gwaith hynny yn y wobr genedlaethol bwysig hon,” esbonia Shân Lloyd Williams.

“Rydyn ni wrth ein boddau i ddeall y bydd tai yn ymddangos yn nyluniad y Goron, gan gysylltu’r cartrefi a grëwyd gan Grŵp Cynefin gydag un o brif wobrau ein gŵyl genedlaethol.

Bydd cerrig gemwaith hefyd i’w gweld ar y Goron i gyfleu disgleirdeb a ffyniant y cymunedau cynaliadwy y mae Grŵp Cynefin yn gweithio gyda nhw o fewn gogledd a chanolbarth Cymru.

A bydd y cyfan sy’n llewyrchu o fewn Sir Conwy’n cael ei gynrychioli yn y dyluniad gan ddŵr. Y dŵr sy’n rhedeg trwy aber Afon Conwy i’r môr, gyda llif yr afon i lawr y dyffryn, gan fwydo’r tir a’i phobl trwy ei rychwant o ffosydd a nentydd bychain.

Nawr, bod Angela Evans wedi cyflwyno ei chysyniad i Fwrdd yr Orsedd, bydd y dylunydd yn dechrau ar ei thasg, gan gyflawni breuddwyd oes o greu’r wobr hon.

Yn ôl Angela Evans: “Dwi wastad wedi gobeithio dylunio a chreu Coron yr Eisteddfod, felly dwi’n falch iawn o ennill y comisiwn yma.

“Fel gemydd mae fy ngwaith yn gallu bod yn fanwl a chywrain, felly byddaf yn defnyddio rhywfaint o’r elfennau hynny yn nyluniad y Goron.”

Mae’r Goron yn un o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol ac fe’i chyflwynir i enillydd un o’r ddwy brif gystadleuaeth farddoniaeth mewn seremoni arbennig ar lwyfan y pafiliwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Dewiswyd cysyniad Angela gan banel o denantiaid, staff ac aelodau o fwrdd Grŵp Cynefin yn dilyn ymgyrch gomisiynu i chwilio am ddylunydd. Yr wythnos hon, cymeradwyodd Bwrdd Gorsedd y Beirdd y cynllun.

Enillodd Angela radd mewn Dylunio Gemwaith a Gofannu Arian yn Ysgol Gelf a Dylunio, Prifysgol Loughborough yn 2004. Treuliodd 10 mlynedd fel Cadeirydd ‘Cywaith Gemwaith Gogledd Cymru’ ac mae hi’n aelod proffesiynol o’r Gymdeithas Gemyddion Cyfoes.

Lleolir gweithdy Angela yn ‘Siop iard’ Caernarfon, lle mae hi’n ei rhannu gyda dau artist arall. Agorodd y tri ail siop ym Mhwllheli dair blynedd yn ôl lle mae tri artist arall yn gweithio. Yn ogystal, mae Angela yn arwain cyrsiau creu gemwaith trwy gydol y flwyddyn.

Ychwanegodd Shân Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Fel cymdeithas dai yng Nghymru, rydym yn ymfalchïo ein bod yn chwarae rhan yn cyflwyno’r wobr genedlaethol hon i’r Eisteddfod yn Sir Conwy 2019.

“Rydym mewn cyswllt agos gydag Angela Evans, ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld ei chynllun yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Adnodd Cymharu Perfformiad Cymdeithasau Tai

Mae modd gweld beth yw perfformiad Grŵp Cynefin yn erbyn sawl pennawd perfformiad, megis perfformiad ariannol, bodlonrwydd ei thenantiaid a chyflwr eiddo, ac mae modd gweld y data yma am bob cymdeithas dai arall yng Nghymru er mwyn cymharu. Mae’r data
perfformiad hyd at ddiwedd Mawrth 2018.

Caiff yr adnodd hwn ei lansio heddiw, 1af Tachwedd 2018, a gellir clicio ar y linc isod i gael mynediad ato. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau neu gwestiynau boed ar yr adnodd ei hun, neu ar ein data perfformiad, a gallwch wneud hynny trwy gysylltu â Sioned Ames,
Uwch Swyddog Perfformiad, ar 0300 111 2122, neu post@grwpcynefin.org.

Dyma’r linc i’r adnodd: Adnodd Cymharu Cymdeithasau Tai.(Er mwyn gweld y data ar y wefan, cliciwch ar y penawdau perfformiad.)

Strategaeth dwf uchelgeisiol Grŵp Cynefin i greu 400 o gartrefi newydd

Wrth i’r hinsawdd ariannol anodd barhau ar gyfer tai cymdeithasol, arloesi fydd yr allwedd i lwyddiant y strategaeth newydd, medd Grŵp Cynefin.

Fel rhan o Strategaeth Dwf 2018-21, bydd Grŵp Cynefin yn barod i fentro’n ofalus, yn manteisio ar gyfleoedd prosiect Wylfa Newydd ac yn gweithio mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ôl y prif weithredwr Shân Lloyd Williams wrth lansio’r strategaeth newydd, bydd syniadau newydd a ffyrdd gwahanol o weithio yn galluogi Grŵp Cynefin i gwrdd ag anghenion tai poblogaeth sy’n cynyddu a heneiddio yng Ngogledd Cymru.

Meddai: “Rhaid i ni fod yn uchelgeisiol oherwydd mae’r hinsawdd ariannol yn llawer anoddach erbyn hyn. Trwy weithredu’n greadigol, gyda meddwl agored, gallwn wella ein perfformiad a chynnig gwell gwerth am arian i’n tenantiaid a’n cwsmeriaid.

“Rydyn ni’n dechrau mewn lle cryf ac wedi llwyddo i ddenu’r holl gyllid angenrheidiol ar gyfer ein cynlluniau datblygu am y ddwy neu dair blynedd nesaf.

“Yn y dyfodol, byddwn yn gwneud mwy o ddefnydd o ddadansoddiadau marchnad, adborth gan denantiaid a chwsmeriaid, a gwybodaeth a gasglwyd oddi wrth awdurdodau lleol a byrddau iechyd.”

Dros gyfnod tair blynedd y strategaeth newydd bydd Grŵp Cynefin yn datblygu 360 o unedau tai cymdeithasol, ynghyd â 48 eiddo newydd i’w gosod ar rent canolraddol fel aelod o Bartneriaeth Tai Cymru.

Ffurfiwyd Grŵp Cynefin bum mlynedd yn ôl pan unwyd Cymdeithas Tai Clwyd a Chymdeithas Tai Eryri. Bydd y grŵp yn adeiladu ar ei gydweithrediad presennol â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ac yn chwilio am gyfleoedd newydd fel y rhai a nodir yng nghynllun twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

Yn ogystal ag eiddo cymdeithasol ac eiddo rhent canolraddol, dan y strategaeth newydd bydd Grŵp Cynefin yn cynyddu nifer y tai a ddarperir trwy gyd berchnogaeth, y cynllun Cymorth Prynu a gwerthiannau marchnad agored a disgownt.

Bydd hefyd yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu gweledigaethau lleol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a thai gan gyfrannu’n weithredol at ddiwallu anghenion iechyd a lles trigolion yr ardal.

Yn fewnol, bydd Grŵp Cynefin yn buddsoddi mewn datblygu a hyfforddi ei staff, gyda’r nod o gyrraedd lefel bodlonrwydd staff o 95% erbyn Blwyddyn 3.

Ychwanegodd Shân Lloyd Williams: “Rydym eisoes wedi ennill parch awdurdodau lleol oherwydd ein gallu i weithredu mewn ffyrdd hyblyg gan ddatblygu atebion arloesol sydd fwyaf addas i ddatrys problemau a chwrdd ag anghenion sydd heb eu diwallu. Mae’n bwysig gweithredu fel hyn a, thrwy ein strategaeth dwf newydd, byddwn yn parhau i wneud hynny i’r dyfodol gyda’n hamrywiaeth o wasanaethau.”

Dogfennau

Dyfarniad Rheoleiddio 2018

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r amcanion y disgwylir i bob Cymdeithas Dai eu darparu, sy’n ymwneud a gwasanaethau tai, llywodraethu a rheolaeth ariannol.

Yn flynyddol, fel rhan o’r broses Rheoleiddio, bydd Grŵp Cynefin yn cynnal hunan-asesiad o’n gweithgareddau er mwyn dangos sut rydym yn cwrdd a’r canllawiau perthnasol. Bydd yr hunan-asesiad yma wedyn yn cael ei rannu gyda Thîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru, sydd yn herio’r cynnwys ag yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar ein cyflawniadau. Canlyniad hyn yw adroddiad sy’n cael ei chyhoeddi gan Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd adroddiad Dyfarniad Rheoleiddio canlynol ar gyfer Grŵp Cynefin, ar Hydref 31ain, 2018:

Statws Cydreoleiddio – Hydref 2018

Llywodraethu a Gwasanaethau - Safonol

  • Yn nodi ac yn rheoli risgiau newydd a risgiau sy’n datblygu yn briodol.

Hyfywedd Ariannol - Safonol

  • Yn bodloni gofynion o ran hyfywedd ac yn meddu ar yr adnoddau ariannol i ymdrin â senarios yn briodol.

‘Safonol’ yw’r dyfarniad uchaf a roddir gan Llywodraeth Cymru.

I weld copi llawn o’r adroddiad, cliciwch yma

Dogfennau

Galw ar bobl i fod yn dditectifs gan helpu i daflu goleuni ar hanes pentref

Y gobaith yw y bydd yr adeilad rhestredig Gradd II – a adwaenir fel Y Shed – yn cael ei agor flwyddyn nesaf, ac mae arweinwyr y prosiect, cymdeithas dai elusennol Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Preswylwyr Gallt Melyd, yn awyddus i sicrhau fod y prosiect yn adlewyrchu bywyd Gallt Melyd.

Gellir arddangos arteffactau a hen luniau o fewn yr adeilad a gofynnir i bobl helpu i ddadlennu trysorau hanesyddol cudd.

Dywedodd Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Rydym i gyd yn cadw hen luniau o’n teulu a bywyd pentrefol sydd o bosib wedi eu tynnu gennym ni ein hunain neu wedi’u hetifeddu gan ein rhieni neu deidiau a neiniau. Gall lluniau diddorol iawn sy’n adrodd hanes Gallt Melyd dros y blynyddoedd fod yn llechu yng nghefn cypyrddau neu mewn hen albym.

“Ond nid hen luniau yn unig rydym yn chwilio amdanynt. Gall hen ddillad, arteffactau, llyfrau neu wrthrychau sy’n cyfleu hanes y pentref fod wedi’u rhoi o’r neilltu. Buasem wrth ein boddau’n gweld beth sydd gan bobl ac rydym yn gwahodd pobl draw i fore agored ble y gallwn sganio lluniau a thynnu lluniau o eitemau gyda’r bwriad o ddod o hyd i gartref parhaol iddynt yn Y Shed unwaith y bydd wedi agor.”

Gofynnir i bobl ddod ag unrhyw eitem neu luniau gyda nhw i Ganolfan Gymunedol Gallt Melyd ddydd Mawrth, 30 Hydref, rhwng 10am ac 1pm. Gellir sganio a storio lluniau, a byddir yn tynnu lluniau a chatalogio gwrthrychau.

“Mae’n bosib fod gan bobl bethau sy’n berthnasol i hanes Y Shed – roedd yn ran allweddol o’r lein rheilffordd o Ddyserth i Brestatyn am nifer fawr o flynyddoedd – neu efallai fod gan bobl bethau anghyffredin sy’n gysylltiedig â’r mwyngloddiau plwm neu’r chwareli calchfaen. Roedd cannoedd o fwyngloddwyr yn gweithio yn y pentref ers talwm a byddai’n dda o beth petai hyn yn cael ei adlewyrchu yn Y Shed.

“Nid ydym yn gofyn i bobl roi eu lluniau a’u harteffactau i ni ar hyn o bryd ond yn hytrach ein galluogi i gael llun ohonynt a’u cofnodi fel y gallwn weld beth sydd gan bobl ac yna gallwn fynd ar drywydd unrhyw eitem sydd o ddiddordeb arbennig i ni,” ychwanegodd Mair.

Mae adeiladwyr ar y safle eisoes wedi datguddio poteli diod Fictorianaidd a chredir y cawsant eu defnyddio gan weithwyr a theithwyr y rheilffordd. Efallai y bydd rhai o’r poteli’n cael eu harddangos yn Y Shed – yr atyniad treftadaeth rheilffordd cyntaf o’i fath ym Mhrestatyn – pan fydd yn agor.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan gysylltu â Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122.

Byngalo newydd sbon arbenigol yn gwneud bywyd yn fwy cyfforddus i denant anabl

Mae’r byngalo ym Mhenyffordd wedi ei gynllunio’n benodol i gyfarch anghenion y tenant, sydd ag anawsterau dwys a chymhleth ac sy’n derbyn gofal 24 awr gan ei theulu sy’n gofalu amdani.

Gan weithio gyda Datrysiadau Arbenigol Tai Cyngor Sir y Fflint, datblygwyd y byngalo ym Maes y Wennol, Penyffordd, Sir y Fflint gan gwmni o ogledd Cymru, W D Stant. Roedd yn rhan o ddatblygiad tair rhan, y cyntaf oedd Cwrt y Glowyr a orffennwyd yn 2014; yr ail ran oedd y byngalo arbennig yma ac mae trafodaethau’n parhau ynglŷn â’r drydedd rhan.

Yn ôl Shân Lloyd Williams, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “O’r cychwyn, gan weithio gyda’n cydweithwyr yng Nghyngor Sir y Fflint, cafodd achos y teulu yma flaenoriaeth. Gan weithio’n agos gyda’r teulu a’r tîm cymorth iechyd a gofal sy’n cefnogi’r tenant, dyma ddod i adnabod, dylunio, cynllunio ac adeiladu eiddo a oedd yn bodloni eu hanghenion presennol a’u hanghenion i’r dyfodol.

“Yn y prosiect hwn, roedd yn bwysig bod cartref pwrpasol yn cael ei adeiladu er mwyn sichrau bod y teulu cyfan yn cael gwell ansawdd bywyd. Roedd Grŵp Cynefin yn falch o drosglwyddo allweddi’r byngalo i’r teulu, gan ein bod ni’n ymwybodol o’r gwahaniaeth y byddai’r eiddo yn ei wneud i fywydau’r unigolion dan sylw.”

Yn ôl Marion Mullins sydd, gyda’i gŵr, yn gofalu am ei chwaer, Christine: “Mae symud i’r byngalo newydd wedi bod yn chwa o awyr iach i Christine ac i ninnau. Mae gan Christine anableddau meddyliol a chorfforol. Yn ein hen gartref, doedd gennym ni ddim cawod addas i’m chwaer, felly roedd rhaid bodloni ar faddonau gwely. Yr unig gyfle am gawod oedd yn y cartref gofal, yn ystod ei gofal seibiant.”

Yn y byngalo ym Maes y Wennol, mae ystafell wlyb wedi ei chynllunio’n arbennig gyda bath ar droli sy’n cynnig cysur ac urddas wrth sicrhau glendid personol. Yn ychwanegol, dyluniwyd teclyn codi arbenigol ar drac yn ystafell wely’r tenant sy’n rhedeg i’r en-suite, gan wneud symud Christine yn llawer haws ac yn fwy diogel i’r teulu. Mae teclyn codi symudol tebyg hefyd wedi ei osod yn nenfwd lolfa’r byngalo. “Mae Christine wrth ei bodd yn cael ei symud ar y teclyn, ac mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ni. Yn y gorffennol roedd ein mab, wrth ymweld, yn arfer cario Christine ar ei gefn o un ystafell i’r llall. Mae’r offer yma wedi gwneud gofalu dros Christine gymaint yn haws i ni.”

“Mae symud yma wedi newid ansawdd bywyd Christine ac mae’r gofod, yr offer arbenigol a’r dyluniad wedi fy helpu fi a’m gŵr, yn ein gofal o Christine. Dydyn ni ddim yn mynd dim iau, ond tra gallwn ni, rydym am barhau i ofalu am fy chwaer. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ein helpu.”

Crëwyd coridorau llydan yn yr eiddo newydd, gyda lleoliadau troi mawr hirgrwn sy’n cynnig digon o le i gadair olwyn y tenant wrth i’r gofalwyr ei symud. Yn ogystal, mae gan bob mynedfa yn yr eiddo fynediad ar un lefel sydd wedi bod yn hanfodol er mwyn hwyluso mynediad i mewn ac allan o’r byngalo.

Yn ôl y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid cymdeithasau tai i gwrdd ag anghenion tai drwy ein grŵp Datrysiadau Arbenigol Tai. Fel Aelod Cabinet Tai, dwi’n gwybod pa mor bwysig yw cael eich cartref eich hun i sicrhau iechyd a lles dda. Dwi wrth fy modd bod Grŵp Cynefin wedi adeiladu’r eiddo yma’n arbennig ar gyfer anghenion Christine, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio a chefnogi Grŵp Cynefin ar ddatblygiadau eraill i’r dyfodol.”

Gwaith pontio’r cenedlaethau ar restr fer gwobr genedlaethol

Mae Grŵp Cynefin wedi eu henwi yng Ngwobr Pat Chown, gwobr a sefydlwyd gan sefydliad cenedlaethol y diwydiant tai, Cartrefi Cymunedol Cymru, i gydnabod atebion creadigol i faterion o fewn cartrefi cymdeithasol.

Ac mae Grŵp Cynefin wedi ennill ei le ar y rhestr fer o ganlyniad i’r rhaglen cysylltu cenedlaethau, oedd â’r brif nod i leihau unigrwydd ym mywydau pobl hŷn sy’n byw mewn cymunedau gwledig.

Daeth y cynllun â phlant ifanc oed cynradd ar ymweliadau â thrigolion gofal ychwanegol Grŵp Cynefin i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol ar y cyd fel gwaith celf a chrefft, canu a darllen.

Yn Awel y Coleg, y Bala, roedd disgyblion rhwng pedair a saith oed yn ymuno â thenantiaid hŷn yn eu 70au, 80au a 90au i fwynhau canu cerddoriaeth gyda’i gilydd dan arweinyddiaeth cerddorion proffesiynol o Ganolfan Gerdd William Mathias.

Wedi’r sesiynau, dywedodd un o’r tenantiaid o’r Bala sydd yn ei hwythdegau, Helen Margaret Roberts: “Rwyf wedi mwynhau’r sesiynau yn arw, gan ei fod yn uno fy nau ddiléit pennaf - canu a threulio amser gyda phlant. Mae wedi bod yn chwa o awyr iach cael canu gyda’r plant, ac wedi dwyn i gof atgofion melys iawn o’m cyfnod yn addysgu plant cynradd.”

Parhaodd diwrnod pobl hŷn blynyddol Grŵp Cynefin ei hymgyrch i wella lles ac ymwybyddiaeth gymdeithasol ei thenantiaid, wrth i ddisgyblion o Ysgol Dewi Sant, y Rhyl ymweld â’r trigolion hŷn i ddysgu dawns werin Gymreig draddodiadol iddynt.

Cyhoeddir yr enillydd yng Nghynhadledd Tai Fawr Cartrefi Cymunedol Cymru ym mis Hydref, gyda’r sefydliad buddugol yn derbyn rhodd o £1,000 at elusen Gymreig o’i dewis.

Ond mae’r cynllun eisoes wedi cyrraedd yr uchelfannau, yn ôl rheolwr mentrau cymunedol Grŵp Cynefin, Mair Edwards.

Dywedodd: “Roeddem yn ymwybodol o’r dystiolaeth bod gwaith pontio’r cenedlaethau yn gwella lles pobl, ac roeddem yn awyddus i roi hyn ar waith.

“Drwy gyfathrebu â phlant, mae ein tenantiaid hŷn wedi teimlo’n llai ynysig ac wedi llwyddo i wneud pethau na fyddent fel arfer yn eu gwneud.

“Mae ein slogan ‘mwy na thai’ yn cyfleu’r cynlluniau penodol yma - rydym am i’n preswylwyr fwy bywydau bodlon ac mae’r rhaglen hon wedi helpu’r tenantiaid i gyflawni’r nod honno.”

Grŵp Cynefin yn penodi arweinwyr strategol profiadol fel cyfarwyddwyr anweithredol

Mae Clifton Robinson a Sharon Warnes yn ymuno â bwrdd rheoli Grŵp Cynefin, sy’n gyfrifol am gyfeiriad a llywodraethu strategol y sefydliad, ar ôl gyrfaoedd nodedig mewn tai a llywodraeth leol.

Yn gyn-gyfarwyddwr nifer o gymdeithasau tai, mae Clifton yn dod â mwy na 30 mlynedd o brofiad i’r bwrdd rheoli.

Bwrodd ei brentisiaeth ym maes tai mewn cymdeithas dai yn Llundain, cyn symud i ogledd Cymru yn 1988 gan arwain at swyddi cyfarwyddwyr gyda sefydliadau tai yn y rhanbarth.

Mae hefyd wedi cadeirio bwrdd Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru, a bu’n brif weithredwr y Rhwydwaith Amrywiaeth Tai, sefydliad cydraddoldeb a hyfforddiant i gymdeithasau tai yn Lloegr.

Mae Sharon Warnes yn ymuno â‘r bwrdd yn dilyn gyrfa mewn llywodraeth leol, lle bu’n gweithio’n agos gyda chymdeithasau tai yng ngogledd Cymru yn ystod ei chyfnod fel cyfarwyddwraig strategol cynorthwyol i Gyngor Gwynedd.

Wedi ei swydd mewn llywodraeth leol, ymunodd â bwrdd Ymgynghorol Ombwdsman Cyhoeddus, lle bu’n helpu i warchod hawliau defnyddwyr yng Nghymru.

Mae’r pennaeth tai profiadol yn dod â ffocws ar y genhedlaeth nesaf o denantiaid a pherchnogion tai i Grŵp Cynefin.

Yn ôl Sharon Warnes: “Mae enw da Grŵp Cynefin i’w glywed ar goedd, a dwi’n gobeithio y gall fy mhrofiad a’m gwybodaeth, yn enwedig wrth reoli perfformiad a llywodraethu, gefnogi’r gymdeithas gyda’i amcanion strategol.

“Dwi hefyd yn awyddus i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael dweud eu dweud yn y ffordd y mae’r sefydliad yn cael ei redeg, gan mai nhw yw’r dyfodol.

“Mae ymuno â bwrdd rheoli Grŵp Cynefin yn cynnig cyfleoedd gwych i’r gymdeithas fynd y filltir ychwanegol dros ei denantiaid. Dwi’n awyddus i sicrhau pwysigrwydd diwylliant iaith, a gwneuthuriad cymunedol ardaloedd yn ein gwaith fel cymdeithas.”

Yn ôl Clifton Robinson: “Mae gen i edmygedd mawr o’r gymdeithas, a dwi’n falch o fod yn rhan o’r daith wrth iddi barhau i dyfu.

“Mae Grŵp Cynefin yn lysgennad dylanwadol dros y Gymraeg, ac mae’n gweithredu ei arwyddair ‘mwy na thai’ trwy redeg nifer o brosiectau cymunedol sy’n cyfoethogi bywydau’r bobl y mae’n gweithio â nhw.

“Dwi eisoes wedi cyfarfod â thenantiaid a staff mewn digwyddiad cymunedol, a dwi’n edrych ymlaen at eu cefnogi trwy ddefnyddio fy ngwybodaeth am reolaeth ar lefel bwrdd ym maes tai.”

Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Dwi’n falch o groesawu Clifton a Sharon atom oherwydd bydd eu profiad a’u cefndiroedd amrywiol yn ychwanegu at ystod eang o sgiliau a galluoedd ein bwrdd.

“Mae Grŵp Cynefin ar fin lansio ei strategaeth dwf newydd, a dwi’n sicyr y bydd eu cyfoeth o brofiad yn amhrisiadwy wrth i ni symud i’r cam nesaf yn ein gwaith.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Paul Quirk, a ymddiswyddodd o’i rôl yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol, am ei gefnogaeth a’i gyfraniad gweithredol dros y blynyddoedd.”

Mwy o wybodaeth am y Bwrdd Rheoli yma

Ceffylau yn helpu cefnogi pobl yng ngogledd Cymru i wella a  goroesi wedi cam-driniaeth ddomestig

Mae merched ifanc ac oedolion yn cael y dewis i weithio gyda cheffylau gan wasanaeth cefnogi, Gorwel, mewn partneriaeth â Sefydliad Therapi Ceffylau Cymru i’w helpu i wella wedi achosion o gam-drin.

Mae prosiect y Sefydliad, Goresgyn Rhwystrau (Overcoming Obstacles) yn helpu merched ifanc ac oedolion i gymryd rhan mewn ystwythder ceffyl a marchogaeth yn steil gorllewinol i helpu meithrin hyder a sgiliau cyfathrebu.

Ariennir elfen chwaraeon y cynllun gan gronfa ‘Levelling the Field’ Comic Relief, sy’n helpu merched i gymryd rhan mewn chwaraeon na fyddent fel arall yn gallu ei wneud.

Mae Gorwel, a redir gan Grŵp Cynefin, yn darparu cludiant am ddim i safleoedd y Sefydliad yn Ynys Môn a Gwynedd i ddefnyddwyr y rhaglen.

Yn ôl Gwyneth Williams, rheolwraig Gorwel: “Rydym yn falch o allu cynnig elfen gref o therapi i gefnogi plant a merched bregus sydd wedi dioddef o ganlyniad i gam-driniaeth ddomestig.

“Gall y gwaith gyda cheffylau gyfleu problemau mewn ffyrdd arbennig ac maen nhw’n anifeiliaid sy’n cyfathrebu’n dda gyda phobl. Maen nhw felly yn wych am helpu pobl sydd wedi bod trwy gyfnodau heriol yn eu bywydau.

“Mae’r therapi yn effeithiol iawn wrth adfer teuluoedd sydd wedi dioddef. Gall plant dreulio amser gyda cheffylau heb wario arian mawr ar wersi marchogaeth preifat.

“Rydyn ni hyd yn oed wedi cael rhai pobl yn datblygu i fod yn wirfoddolwyr yn y sesiynau Goresgyn Rhwystrau a chystadlu yng nghyngrair dydd Sadwrn ystwythder y ceffyl, Sefydliad Therapi Ceffylau Cymru.”

Mae’r Sefydliad hefyd yn rhedeg nifer o gyrsiau hyfforddi a gweithdai i ddysgu mwy am geffylau ac adeiladu hyder. I ddarganfod mwy, ewch i www.with.wales

Mae Gorwel yn cyflogi pobl sy’n gweithio ar gynlluniau gwahanol i gynorthwyo pobl ddigartref, dioddefwyr cam-drin domestig, a phobl dros 55 oed sydd angen help i barhau i fyw’n annibynnol, ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych.

Daw tua 90 y cant o’i cyllid o raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi cymorth sy’n gysylltiedig â thai i helpu pobl fregus i fyw mor annibynnol â phosib.

Ewch i ‘Eich Cymuned’ i ddarllen mwy am Gorwel.

Datblygiad Grŵp Cynefin yn rhoi cymaint nôl i gymuned y Rhyl

Grŵp Cynefin, a fydd yn rheoli’r wyth fflat newydd ar Ffordd Brighton, yn sefydlu rhaglen budd-daliadau cymunedol gyda’r cwmni adeiladu G M Jones.

Derbyniodd banc bwyd Kings Storehouse gyfraniad o £1,000 gaiff ei ddefnyddio i helpu adeiladu cartref parhaol iddynt yng Nghlwb Rygbi Y Rhyl ar Ffordd y Dyffryn.

Rhoddodd y datblygiad hefyd £1,000 i Strategaeth Dinas y Rhyl, sy’n helpu pobl â chyflyrau iechyd meddwl i ennill swyddi a meithrin sgiliau cymdeithasol. Bydd yr elusen yn adeiladu cegin a chaffi gyda’r arian, gan ddefnyddio’r cyfleuster i helpu unigolion gymdeithasu a chynnal gweithdai bwyd maethlon.

Cafodd y prentisiaid brofiad gwaith ymarferol gyda G M Jones, sydd bellach wedi cyflawni mwy na 170 wythnos o hyfforddiant i brentisiaid hyd yn hyn.

Yn ychwanegol, diogelodd y datblygiad chwe swydd ac am bob £1 gaiff ei wario ar y gwaith, bydd £1.92 yn cael ei fuddsoddi yn economi Cymru. Sicrhaodd Grŵp Cynefin hefyd fod y datblygiad yn cefnogi busnesau yng Nghymru, gyda 88 y cant o wariant ar nwyddau a gwasanaethau yn digwydd yng Nghymru.

Dywedodd Mike Bettany, sy’n rhedeg banc bwyd Kings Storehouse: “Mae £1,000 wedi dod i ni ar yr union amser iawn. Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio mewn cynhwysydd ar faes parcio Clwb Rygbi Y Rhyl, ond pan fydd y clwb yn symud o’r lleoliad, byddwn yn gosod sylfaen barhaol ar gyfer y banc bwyd.

“Bydd y gwaith yn cynnwys teilio, ailwampio’r llawr a phrynu rhewgelloedd – felly dyna lle bydd y rhodd yn cael ei wario.”

Yn ôl Elliott Llewellyn, saer prentis yn G M Jones: “Nid oes llawer o bobl ar fy nghwrs coleg wedi cael swydd amrywiol fel hyn i ennill ystod eang o brofiadau. Er enghraifft, dwi wedi bod yn gweithio ar osod grisiau, agwedd na chaiff ei hystyried i brentisiaeth, fel arfer.

“Dwi wedi gallu cael ystod eang o hyfforddiant ar wahanol agweddau o waith saer, sydd wedi fy helpu i ehangu fy mhortffolio.”

Yn ôl Dewi Llwyd Evans, rheolwr cynaliadwyedd ac adfywio Grŵp Cynefin: “Slogan Grŵp Cynefin yw ‘mwy na thai’ ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft berffaith o’r neges honno.

“Rydym yn falch bod G M Jones wedi rhoi mwy o amser hyfforddiant na’r hyn gytunwyd, a fydd yn cynorthwyo’r prentisiaid i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd.

“Mae Strategaeth Dinas y Rhyl a The Kings Storehouse ar y rheng flaen wrth helpu pobl y Rhyl, felly roeddem yn hyderus y byddai ein cyfraniadau yn mynd yn bell ac yn cael effaith go iawn.

“Mae’r datblygiad yn dangos sut mae modd darparu buddion cymunedol yn effeithiol, a byddwn yn cymhwyso mwy o fentrau fel hyn i’n contractau yn y dyfodol.”

Mae’r datblygiad yn cynnwys wyth fflat, gan gynnwys un sydd wedi’i addasu ar gyfer byw yn anabl.

Mae Grŵp Cynefin yn darparu mwy na 4,800 o gartrefi rhent ac eiddo fforddiadwy i bobl ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys.

Gemydd cyfoes yn cael ei dewis i ddylunio Coron Eisteddfod 2019

Dywedodd Angela Evans ei bod yn awyddus i ddylunio Coron sy’n gyfoes ac unigryw ond sydd hefyd yn parchu gwerthoedd a thraddodiadau’r Eisteddfod.

Bydd dylunio a chreu’r Goron – a noddir gan Grŵp Cynefin yn 2019 - yn gwireddu uchelgais oes i’r cynllunydd gemwaith.

Angela Evans: “Rwyf wedi bod eisiau cael y cyfle i ddylunio a chreu Coron yr Eisteddfod ers tro, felly rwyf yn hynod o gyffrous o fod wedi ennill y comisiwn hwn.

“Rwy’n gobeithio y bydd yn gampwaith unigryw ar gyfer yr Eisteddfod a fydd yn aros yng nghof pobl.

Mae ennill Coron yr Eisteddfod yn anrhydedd mawr ac fe gaiff ei chyflwyno i enillydd un o ddwy brif gystadleuaeth barddoniaeth y brifwyl.

Dewiswyd comisiwn Angela yn hytrach na nifer o ddylunwyr o safon uchel gan banel o denantiaid, aelodau staff ac aelodau o’r Bwrdd yn dilyn ymgyrch gomisiynu dan arweiniad Grŵp Cynefin.

Bydd hi nawr yn penderfynu ar y dyluniad terfynol cyn mynd ati gyda’r gwaith creu ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 yn Llanrwst.

Mae dyluniadau Angela wedi eu hysbrydoli gan fyd natur Eryri, o’r bryniau wedi’u gorchuddio â rhedyn i’r golygfeydd godidog o’r haul yn machlud ar y dŵr.

Enillodd Angela ei gradd mewn Dylunio Gemwaith a Gofannu Arian yn Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Loughborough yn 2004 a chwblhau Tystysgrif Ôl Radd mewn Addysg yn 2012.

Bu Angela Evans yn Gadeirydd y ‘North Wales Jewellers Collective’ am 10 mlynedd ac mae hi’n aelod proffesiynol o’r Gymdeithas Gemyddion Cyfoes.

Lleolir gweithdy Angela yn ‘Siop iard’ yng Nghaernarfon, lle mae hi’n rhannu’r gofod gyda dau artist arall. Aethant ymlaen i agor ail siop ym Mhwllheli yn 2015 dan ofal tri artist arall. Yn ogystal â’r siop ei hun, mae hi’n cynnal cyrsiau creu gemwaith gydol y flwyddyn.

Mae Angela yn gweithio’n rheolaidd ar gomisiynau a phrosiectau ar gyfer cleientiaid preifat a chyhoeddus ac mae hi wedi arddangos ei gwaith ar draws y byd.

Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Fel Cymdeithas Dai Gymreig, rydym yn hynod o falch o allu chwarae rôl flaenllaw trwy noddi’r Goron.

“Mae Angela yn emydd cyfoes talentog tu hwnt sydd am greu Coron drawiadol a fydd yn deilwng o’r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy y flwyddyn nesaf.”

Mae busnesau bychan a’r rhai sy’n dechrau yn cael cyfle i fod ar y trywydd cywir, diolch i fenter gymunedol newydd

Bydd yr adeilad rhestredig Gradd II – a adwaenir fel Y Shed – yn cael ei ymestyn gyda phedwar cynhwysydd morgludo yn cael eu trawsnewid yn unedau busnes fforddiadwy gyda’r gwasanaethau ynddynt.

Arweinir y prosiect gan Grŵp Cynefin a Grŵp Gweithredu Trigolion Gallt Melyd, a gwahoddir tenantiaid nawr i gofrestru eu diddordeb yn y gofod a fydd ar gael i’w llogi pan fydd Y Shed, yr atyniad treftadaeth rheilffordd cyntaf o’i fath ym Mhrestatyn, yn agor.

Dywedodd Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Mae Y Shed mewn lleoliad arbennig gyda golygfeydd bendigedig o Fôr Iwerddon a thir gwledig hyfryd o’i hamgylch.

“Mae ein unedau’n garreg sarn berffaith ar gyfer pobl sydd efallai’n rhedeg busnes o’r cartref ac yn chwilio am le mwy neu sydd eisiau cymryd y cam nesaf a thyfu eu busnes.

“Yn unedau busnes fforddiadwy ac wedi’u gwasanaethu’n llawn, maent yn ddelfrydol ar gyfer busnesau llai. O ystyried y lleoliad, gallant hefyd apelio’n benodol at bobl sy’n gweithio mewn diwydiannau creadigol sydd angen gofod ychwanegol i weithio neu sy’n dymuno gweithio mewn awyrgylch ysbrydoledig.”

Mae hyd at 50,000 o bobl y flwyddyn yn defnyddio hen lein y rheilffordd, a fyddai, meddai Mair, yn galluogi busnesau bach a busnesau newydd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

“Mae pob un o’r bobl hynny sy’n defnyddio’r lein yn gwsmer posibl, nid yn unig ar gyfer Y Shed, ond i’r bobl sy’n llogi’r unedau busnes hefyd. Mae’r datblygiad hwn yn rhoi cyfle i bobl arddangos eu gwaith, eu talent a’u gwasanaethau mewn lleoliad ysbrydoledig ac unigryw,” ychwanegodd Mair.

Mae Y Shed hefyd yn chwilio am arlwywyr neu gwmniau bwyd a diod sefydledig a allai fod â diddordeb mewn rhedeg caffi Y Shed sydd ag 80 o seddi.

“Bydd Y Shed yn canolbwyntio ar fyw’n iach – lle bydd man aros perffaith ar gyfer pobl sy’n cerdded, beicio neu redeg ar lwybr Prestatyn-Dyserth. Rydym yn awyddus i glywed gan bobl neu gwmnïau, yn enwedig y rhai sydd â diddordeb mewn defnyddio cynnyrch lleol a chreu prydau bwyd iachus, a allai fod â diddordeb mewn rhedeg y caffi ar ein rhan,” dywedodd Mair.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn yr unedau busnes neu’r caffi ac sydd angen mwy o wybodaeth gysylltu â Grŵp Cynefin drwy anfon e-bost at yshed@grwpcynefin.org neu drwy ffonio’r Tîm Mentrau Cymunedol ar 0300 111 2122.

Dogfennau

Grŵp Cynefin yn ennill gwobr wrth fynd i'r afael ag unigrwydd mewn pobl hŷn

Hawliodd Grŵp Cynefin y wobr gyntaf yn y categori partneriaeth gymunedol yng ngwobrau Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS) am ei brosiectau rhyng-genedlaethau, sy’n dod â phobl ifanc a phobl hŷn at ei gilydd.

Mae’r gwobrau, a sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl, yn canolbwyntio ar rôl tenantiaid wrth greu cymunedau tai cymdeithasol.

A death gwaith llwyddiannus Grŵp Cynefin i’r brig wrth i denantiaid ddweud eu bod yn hapusach, yn fwy hyderus ac yn llai unig ar ôl cymryd rhan yn y cynllun.

Helpodd prosiect cyntaf Grŵp Cynefin i drigolion o Awel y Coleg a disgyblion Ysgol Bro Tryweryn yn y Bala ddarganfod eu doniau cerddorol gyda sesiynau rhyngweithiol dan arweiniad cerddorion proffesiynol.

Yna, trefnodd Grŵp Cynefin bod disgyblion Ysgol Pen Barras yn Rhuthun yn ymweld â chartrefi lleol i ddarllen llyfrau, dawnsio, a gwneud celf a chrefft ochr yn ochr â‘r tenantiaid oedrannus.

Pontio’r cenedlaethau oedd thema diwrnod tenantiaid hŷn Grŵp Cynefin nôl ym mis Ebrill 2018 hefyd. Mynychodd plant o ysgolion cynradd Dewi Sant, Y Rhyl a Glan Morfa, Abergele y digwyddiad i gymryd rhan mewn gweithgareddau dawnsio gwerin, canu, celf a chrefft.

Cafodd Grŵp Cynefin hefyd lwyddiant yn y categori gweithredu cymunedol, gan fod ei brosiect ‘Youth Shedz’ Dinbych wedi dod yn ail am y gwaith maen nhw’n ei wneud yn cynorthwyo pobl ifanc bregus.

Enwyd Catherine Jones, tenant Grŵp Cynefin ers dros 25 mlynedd, yn ail yng nghategori tenant y flwyddyn, gyda Chloe Villis hefyd yn ennill yr ail wobr am denant ifanc y flwyddyn.

Yn ôl Mair Edwards, rheolwr mentrau cymunedol Grŵp Cynefin: “Mae ennill y wobr partneriaeth gymunedol, a chael cydnabyddiaeth yn y categorïau eraill yn golygu cymaint i bawb sy’n gysylltiedig â ni.

“Mae ein slogan ‘mwy na thai’ yn golygu ei bod hi’n bwysig i ni fod ein tenantiaid yn byw bywydau cymdeithasol cyflawn.

“Mae astudiaethau wedi dangos bod rhyngweithio â phobl ifanc yn gallu lleihau unigrwydd ac iselder yn yr henoed, ac mae ein tenantiaid yn dweud wrthym gymaint maen nhw’n mwynhau’r rhyngweithio a sut mae’n rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd gan y plant.

“Mae athrawon yr ysgol hefyd wedi gweld cyfathrebu’r plant yn gwella wrth eu gweld yn siarad â phobl na fyddant, efallai’n, cael y cyfle i ryngweithio â nhw’n arferol.”

Yn ôl Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth am y gwaith o gefnogi a hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ledled gwaith y gymdeithas. Trwy wneud hyn, mae digonedd o gyfleoedd trwy ystod eang o weithgareddau i denantiaid gynyddu hyder, sgiliau a’u galluogi i gyfrannu at ein gwaith.

“Bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 18 o Orffennaf 2018 yn dangos y math o waith a ddarperir gan ein Tîm Mentrau Cymunedol mewn partneriaeth â Dr Catrin Hedd Jones, Seicolegydd a Darlithydd o Brifysgol Bangor.”

Mae Grŵp Cynefin yn darparu mwy na 4,800 o gartrefi rhent ac eiddo fforddiadwy i bobl ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys.

Datblygwyr chwilfrydig yn troi at waith ditectif ar ôl darganfod darn o hanes Fictoraidd mewn hen sied rheilffordd

Yn awyddus i ddarganfod mwy am y gwydrau, fe benderfynodd Grŵp Cynefin, cymdeithas dai elusennol sy’n gweithio gyda Grŵp Gweithredu Preswylwyr Gallt Melyd ar hyn o bryd i weddnewid yr hen sied, ddangos y poteli i Glwb Hanes y Rhyl.

Datgelwyd bod un o’r poteli yn 123 oed, gyda’r lleill yn dyddio’n ôl 85 o flynyddoedd. Roedd y cyfan yn wreiddiol o’r Rhyl. Credir y gallai’r poteli fod wedi cael eu gadael ar ôl gan weithwyr neu deithwyr yn yr hen sied nwyddau, sydd ar hyn o bryd yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan gymunedol gyda chaffi, twneli hanes ac unedau crefftwyr.

Dywedodd Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Nid oeddem wedi disgwyl dod ar draws y poteli hyn ac maent yn ddarganfyddiadau prin iawn. Mae’r poteli mewn cyflwr da, ac mae gan rai hyd yn oed y caeadau marmor gwreiddiol yn dal yn eu lle.

“Ni allwn ond dychmygu fod y bobl oedd yn gweithio ar y lein, ym mhyllau glo Gallt Melyd, neu yn teithio ar y rheilffordd, yn rhoi’r poteli o’r neilltu, heb fyth ddychmygu y byddem yn dod o hyd iddynt ryw ddydd oddeutu can mlynedd yn ddiweddarach.”

Credir i’r poteli darddu o gwmni gwaith dŵr mwynol, a oedd wedi’i leoli yn Stryd Windsor, Y Rhyl, ac a elwid yn ‘pop works.’ Mae’n debyg fod un, sy’n dwyn yr enw A.B. Jordan, yn dyddio’n ôl i tua 1895.

“Roedden ni’n gwybod bod y poteli yn hen, ond ar y pryd wnaethom ni ddim sylweddoli’r cysylltiad â thref gyfagos y Rhyl. Roedd Clwb Hanes y Rhyl yn gallu darparu llawer o wybodaeth gefndirol, ac ar ôl peth gwaith ymchwil drwy gopiau o bapur lleol y cyfnod, Rhyl Record a’r Advertiser, taflwyd mwy o oleuni ar ein canfyddiad.

“Erbyn hyn, rydym yn gwybod bod y cwmni dŵr mwynol wedi newid dwylo yn 1896 a fyddai’n egluro’r gwahanol steiliau o ran lliw a siap y poteli – mae un wedi’i wneud o wydr brown ac mae’r lleill yn boteli gwydr clir, sy’n awgrymu y cynhyrchwyd y rheini yn ddiweddarach. Er bod y poteli angen eu glanhau’n ofalus, maent mewn cyflwr perffaith ac yn ddarn arbennig o hanes lleol,” ychwanegodd Mair.

Gobeithir y bydd y poteli yn cael eu harddangos pan fydd gwaith trawsnewid yr adeilad – a fydd yn cael ei alw yn Y Shed — wedi ei gwblhau, a’r adeilad yn agored i’r cyhoedd

Canolfan fenter Grŵp Cynefin yn Llŷn yn mynd o nerth i nerth

Mae canolfan fenter Congl Meinciau ym Motwnnog, Pen Llŷn yn ymfalchïo bod dros 80 o bobl wedi hybu’r economi leol, diolch i gyswllt â’r ganolfan dros y saith mlynedd ddiwethaf.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd mwy o bobl eto’n dod i gysylltiad â’r ganolfan wrth i ddau gwmni sef, Dylunio Imbyll, cwmni dylunio creadigol dwyieithog a Charismatic Cat Candles, cwmni canhwyllau soi persawrus a thoddiadau gwêr, symud i’r ganolfan i weithio.

Yn ôl rheolwr Congl Meinciau ym Mhen Llŷn, Darren Morley, mae’r ganolfan wedi llwyddo yn ei bwriad gwreiddiol o sicrhau cyfleoedd a sgiliau cyflogaeth yn yr ardal: “Mae hefyd wedi dod a hwb economaidd i’r ardal wledig yma o Lŷn yn ogystal â sicrhau bod cartrefi wedi eu hadeiladu ar gyfer pobl leol, fel rhan o’r datblygiad gwreiddiol.

“Dwi’n sicr na fu hi’n brosiect hawdd i’r criw sefydlodd y fenter, ond mae twf yma a bwrlwm yn y lleoliad, wrth i fusnesau bychain sefydlu ac wrth i unigolion gymryd y cam cyntaf o fentro gweithio’n hunangyflogedig a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yma.”

Cyn hir bydd unarddeg o gwmnïau’n gweithio o’r safle:

  1. Daffodil Foods, cwmni cynhyrchu iogwrt Cymreig
  2. Cegin Grug, cwmni deli, arlwyo a rhostio cig
  3. Geriach Glesni, cwmni anrhegion unigryw wedi eu personoli
  4. Dunchurch Compliance Solutions Ltd, cwmni atal twyll a throseddu ariannol
  5. Tŷ Newydd, tafarn a bwyty yn Sarn
  6. Amcan, cwmni creu deunydd ffilm, rhedeg prosiectau a digwyddiadau, dylunio, creu gwefannau a marchnata
  7. Cymorth Llaw, cwmni gwasanaeth gofal cartref a gofal iechyd yn y cartref
  8. Partneriaeth Llŷn, prosiect sy’n dod ag amryw o asiantaethau amgylcheddol, statudol, addysgol a chymunedol at ei gilydd i gydweithio gan rannu gwybodaeth am dreftadaeth Llŷn i bobl leol ac ymwelwyr.
  9. North Wales Bowen Therapy, cwmni therapi ymarferol sy’n annog y corff i ddefnyddio’i alluoedd mewnol i wella ei hun
  10. Charasmatic Cat Candles, cwmni canhwyllau soi persawrus a thoddiadau gwêr
  11. Imbyll Design, busnes dylunio creadigol sy’n creu gwefannau, brandio, rhedeg prosiectau gan deilwra ei gwasanaethau i’r cleint.

Dim ond dwy uned fydd ar gael yn y ganolfan bellach - un fechan i fusnes sy’n awyddus i sefydlu ei hun ac un fawr ar gyfer cwmni sy’n tyfu.

Yn ôl Darren Morley, “Mae’r adnoddau sydd yma’n cynnwys dau weithdy, adnoddau ‘taro i mewn’ lle gall unigolion ddefnyddio desg a’r adnoddau di-wifr, ystafelloedd cyfarfod a hyfforddiant. Ac ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, mae’r caffi’n agored ar gyfer taro heibio am baned neu i gael tamaid o ginio gyda chydweithwyr neu ffrindiau.”

Mae staff y ganolfan hefyd yn cydlynu digwyddiadau busnes a hyfforddiant gyda phrosiectau fel Busnes Cymru. Yn eu mysg, mae unigolion yn gallu cael cyngor busnes un i un ar y safle am ddim a chofrestru diddordeb ar gyfer mynychu sesiynau hyfforddiant fel iechyd a diogelwch, GDPR, cymorth cyntaf ac ati.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chongl Meinciau ar 01758 770000. Bydd gwefan newydd sbon ar gael yn fuan.

Cymdeithas tai ar restr fer gwobrau tai cymdeithasol cenedlaethol

Mae Grŵp Cynefin ar y rhestr fer mewn pedwar categori gwahanol yng ngwobrau 2018 Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru.

Mae’r gwobrau, a sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl, yn canolbwyntio ar rôl y tenantiaid wrth greu cymunedau tai cymdeithasol.

Mae gwaith Grŵp Cynefin ar y rhestr fer yn cynnwys cynlluniau sy’n helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau bywyd, pobl hŷn yn rhyngweithio â phlant, a phobl fu’n ddigartref yn adeiladu bywydau a gyrfaoedd newydd iddynt eu hunain.

Dewiswyd gwaith rhyng-genedlaethau’r gymdeithas dai ar gyfer rhestr fer partneriaeth cymunedol y flwyddyn.

Mae Grŵp Cynefin wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau i annog rhyngweithio rhwng grwpiau oedran gwahanol, gan gynnwys diwrnod pobl hŷn ym mis Ebrill. Roedd plant ysgolion cynradd lleol a thenantiaid rhwng 55 a 98 oed yn cymryd rhan mewn digwyddiadau celf a chrefft a dawnsio gwerin gyda’i gilydd.

Mae rhaglen ‘Youth Shedz’ y gymdeithas ar restr fer categori ‘gweithredu cymunedol’ yn dilyn llwyddiant sefydlu’r cynllun i ddarparu lle diogel i bobl ifanc oedd yn agored i niwed, i feithrin hyder.

Mae’r prosiect, a awgrymwyd gan gyn-bobl ifanc ddigartref fu’n derbyn hyfforddiant gan Grŵp Cynefin, yn cefnogi oedolion ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl gyda gweithgareddau fel adnewyddu dodrefn a gwaith coed.

Mae tenant Grŵp Cynefin, Catherine Jones, wedi ei henwebu ar y rhestr fer fel tenant y flwyddyn ar ôl treulio 25 mlynedd yn denant gyda’r gymdeithas dai.

Yn dilyn brwydr saith mlynedd gydag iselder ysbryd, daeth Catherine yn aelod o nifer o grwpiau cymunedol gan ddod yn faer presennol tref Dinbych a’r rhiant sengl cyntaf benywaidd i ddal y rôl.

Ac mae Chloe Thomas hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer fel tenant ifanc y flwyddyn, ar ôl dod yn denant wedi cymryd rhan mewn cynllun tai â chymorth, yn 16 oed.

Wedi derbyn cefnogaeth ac addysg datblygu sgiliau bywyd a ddarperir gan brosiect Gorwel, Grŵp Cynefin, mae Chloe bellach yn wirfoddolwraig yn Hwb Dinbych, canolfan a redir gan Grŵp Cynefin ac mae wedi cwblhau cwrs coleg mewn gofal anifeiliaid.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng Nghaerdydd ar y 5 o Orffennaf.

Yn ôl Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Mae’r ffaith bod gennym gynrychiolaeth mewn pedwar categori yn siarad cyfrolau am y gwaith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni; ein slogan ‘Mwy na thai’.

“Mae’n bwysig bod gan ein tenantiaid bob cyfle i fod yn hapus eu byd, a dyna pam rydyn ni’n rhoi’r pwyslais ar grwpiau cymunedol a phrosiectau fel bod pawb yn gallu cymryd rhan ynddynt.

“Dyw canlyniadau’r noson ddim yn bwysig, gall pawb sydd wedi eu henwebu fod yn falch o’r ffaith eu bod wedi helpu i wella bywydau pobl eraill a’i bywydau eu hunain.”

Mae Grŵp Cynefin yn darparu mwy na 4,800 o gartrefi rhent ac eiddo fforddiadwy i bobl ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys.

Grŵp Cynefin yn dangos arweiniad yn y sector dai yng Nghymru trwy ddefnyddio coed o Gymru

Fel darparwr tai cymdeithasol blaengar mae Grŵp Cynefin wedi comisiynu mai pren Cymreig gaiff ei ddefnyddio mewn cynllun o 24 o fflatiau sydd bellach yn cael eu hadeiladu yng nghanol tref Bwcle.

A bydd trigolion y fflatiau newydd hefyd yn elwa wrth weld gostyngiad sylweddol mewn costau ynni, diolch i gynllunio manwl Grŵp Cynefin trwy wneud y gorau o effeithlonrwydd ynni yn y cartrefi.

Ymwelodd y Gweinidog Amgylchedd, Hannah Blythyn AC â’r safle, sydd wedi ei leoli yn ei hetholaeth.

Wedi eu hadeiladu ar safle hen Ganolfan Feddygol Bwcle, bydd yr adeilad ffrâm bren deulawr gwerth £ 2.2m yn cynnwys 14 o fflatiau dwy loft a deg o fflatiau un llofft. Bydd y datblygiad, mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, yn cynnwys paneli ffoto-foltig (PV) ar ran o’r to, gan helpu i leihau costau ar gyfer yr holl eiddo gaiff ei redeg ar drydan.

Daw’r pren o goed bytholwyrdd Sitka a geir o goedwigoedd o amgylch melin goed yn Pontnewydd ar Wy ger Llandrindod ym Mhowys. Mae’r fframiau’n cael eu cynhyrchu yn y Bala ac fe’u cyflenwir mewn llwythi bychain ar gyfer eu gosod ar y safle.

Gyda stoc gyfredol o 4,800 o eiddo ledled gogledd Cymru a gogledd Powys, mae gan Grŵp Cynefin gyfanswm o £25m o eiddo newydd ar y gweill – y nifer mwyaf erioed yn ei hanes.

Yn ôl Gweinidog Llywodraeth Cymrou dros yr Amgylchedd: “Mae cynnyrch pren yn bwysig i’n heconomi a’n hôl troed carbon, felly rwyf bob amser yn falch o weld coed Cymru yn cael ei defnyddio mewn datblygiadau.

“Cyn hir, byddaf yn lansio ein Strategaeth Coetir newydd, ein gweledigaeth i’r 50 mlynedd nesaf ar gyfer rheolaeth weithredol a chynaliadwy ein coetiroedd yng Nghymru.”

Yn ôl Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin: “Mae gan Gymru erwau ac erwau o goed. Rydym am wneud ein rhan i helpu’r sector coedwigaeth i dyfu, fel y gallai fod yn hyfyw i ffermwyr dyfu mwy o goed - a chreu swyddi gwledig.

“Mae Grŵp Cynefin bob amser wedi bod yn gefnogol i ddefnyddio’r gadwyn gyflenwi leol ble bynnag rydym yn datblygu safle newydd. Enillodd Williams Homes y tendr i fod yn gontractwr, ac rydym yn falch bod Wrecsam Paving ymysg yr is-gontractwyr lleol yn y gwaith.

“Budd arall o adeiladu ffrâm bren gan ddefnyddio modiwlau a gynhyrchir oddi ar y safle yw, yn wahanol i frics a mortar, does dim rhaid i’r gwaith adeiladu stopio pan fydd hi’n rhewi neu’n bwrw glaw neu eira’n drwm. Felly mae hefyd yn lleihau oedi ar ddatblygiadau.”

Dywedodd Rheolwr-Gyfarwyddwr Williams Homes, Owain Williams, fod ei gwmni yn cyflogi ar gyfartaledd, 30 o weithwyr ar y safle ar unrhyw adeg. Ychwanegodd: “Rydym yn gwmni teuluol sy’n angerddol am adeiladu carbon isel. Rydyn ni’n hoffi gweithio gyda Grŵp Cynefin oherwydd ei fod yn landlord cymdeithasol cofrestredig blaengar. “

Mae Grŵp Cynefin yn aelod sylfaen o Woodknowledge Wales, (WKW), sy’n ceisio cynyddu’r galw am bren cynhenid, gan hybu cyflogaeth wledig ac annog ehangu coedwigoedd ar dir amaethyddol ymylol.

Dywedodd Prif Weithredwr WKW, Gary Newman: “Mae 82 y cant o dai newydd yn yr Alban wedi eu seilio ar ffrâm bren. Yng Nghymru, 30 y cant yw’r ffigwr.

“Gallwn gynyddu’r ffigwr adeiladu hwnnw yn sylweddol trwy ddefnyddio coed o Gymru, creu swyddi gwledig a fyddai hefyd yn arwain at gartrefi sydd â pherfformiad ynni uwch, sydd yn ei dro yn cefnogi uchelgais Cymru i ddod yn economi carbon niwtral.

“Rwyf wrth fy modd bod Grŵp Cynefin yn dangos arweiniad trwy bennu pren Cymreig.”

Mae bwriad i’r datblygiad, sydd yn agos at leoliad siopa canol tref Bwcle ac gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2019.

Rhaglen arloesol Tadau Gofalgar sy'n atal plant rhag mynd i ofal yn cael ei lansio yn siroedd Conwy a Dinbych

Mae’r rhaglen Tadau Gofalgar, sydd hyd yn hyn wedi bod ar gael yn Ynys Môn a Gwynedd, eisoes wedi atal dwsinau o blant rhag gorfod cael eu rhoi mewn gofal, gan fod tadau yn ail adeiladu perthynas gadarnhaol â‘u teuluoedd.

Nawr, mae’r cynllun yn ehangu i helpu tadau yn siroedd Conwy a Dinbych i ddatblygu perthnasau tad a phlentyn iach, fel bod y plant yn gallu parhau i fyw’n ddiogel gartref yn y cartref teuluol.

Ac mae’r neges wedi ei lledaenu i ymwelwyr iechyd, bydwragedd, gwasanaethau cymdeithasol, meddygon teulu ac asiantaethau eraill i gyfeirio tadau at y rhaglen arbennig sydd ar gael am ddim. Gall tadau hefyd gyfeirio eu hunain yn uniongyrchol at y rhaglen.

Rheolir Tadau Gofalgar gan y gwasanaeth cefnogi cam-drin domestig Gorwel, sy’n cael ei gyd-gysylltu â Thadau Gofalgar Canada. Rheolir Gorwel gan gymdeithas dai, Grŵp Cynefin.

Bydd rhaglen Conwy yn cael ei lansio ar yr 2 o Orffennaf yng Nghyffordd Llandudno, a bydd rhaglen Sir Ddinbych yn dechrau ar y 24 o Offennaf yn Y Rhyl. Mae pob rhaglen yn cynnwys 17 sesiwn.

Dywedodd arweinydd y rhaglen, gweithiwr cymdeithasol therapiwtig, Paul Jones, fod cyfranogwyr hyd yma, wedi amrywio o dad cyntaf 17 oed, i dad yn ei chwedegau.

“Maent hefyd yn dod o bob rhan o’r sbectrwm cymdeithasol. Mae’r cyfranogwyr wedi cynnwys dyn digartref a thad sydd wedi’i gymhwyso’n broffesiynol, ac wedi graddio o brifysgol. Yn ein criw diweddaraf, cyfeiriwyd 26 o ddynion oedd â’i hymddygiad yn effeithio ar 48 o blant a 22 o ferched,” meddai.

Nod Tadau Gofalgar yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyfranogwyr o agweddau, credoau ac ymddygiadau sy’n ffurfio perthnasau tad-plentyn; cynyddu eu cyfrifoldeb am ymddygiad camdriniol ac esgeuluso a datblygu ymwybyddiaeth o riantu plant sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

Mae ymchwil yn dangos bod ymgysylltiad effeithiol â thadau yn cynyddu’r cyfraniad cadarnhaol sydd ganddynt ar fywydau eu plant. Mae hyn yn ei dro yn arwain at ystod o fanteision emosiynol, corfforol a gwybyddol i’w plant.

Ychwanegodd Paul: “Hyd yn hyn, mae dwsinau o blant wedi eu tynnu o’r Gofrestr Amddiffyn Plant ac nid oedd angen eu rhoi yng ngofal yr awdurdod lleol. Mae teuluoedd wedi aros gyda’i gilydd fel un uned.

“Yn amlwg, diogelwch a lles y plant sy’n hollbwysig, ond ni allwch anwybyddu’r ffaith y gall cadw un plentyn mewn gofal gostio £1,000 yr wythnos, ac ar gyfer plentyn sydd â gofynion arbennig gall fod rhwng £3,000 a 4,000 yr wythnos. Arian trethdalwyr drwy’r awdurdod lleol sy’n talu’r gost.

“Mae rhaglen Tadau Gofalgar yn ennill enw da. Mae’r llysoedd yn ei ganmol ac yn gwneud atgyfeiriadau, ac mae ei ymestyn i siroedd Conwy a Dinbych wedi sicrhau cefnogaeth grant gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

“Rydym yn cael llif cyson o atgyfeiriadau gan asiantaethau yng ngogledd orllewin Cymru, oherwydd bod y rhaglen yn cadw’r teuluoedd maen nhw’n gweithio â nhw gyda’i gilydd. Gallwn nawr ddechrau ei hysbysebu ymhlith asiantaethau yn siroedd Conwy a Dinbych.”

Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae Tadau Gofalgar yn fenter bwysig sy’n gwneud llawer iawn o waith yn helpu tadau i ailgysylltu â‘u plant.

“Mae wedi bod profi’n werth chweil yng Ngwynedd ac Ynys Môn gan ei fod yn cadw llawer o blant o ofal ac yn sicrhau budd iddynt a’u tadau ac rwy’n falch o weld ei fod bellach yn cael ei gyflwyno yn siroedd Conwy a Dinbych.

“Mae’n hollbwysig i blant fod â modelau rôl rhiant cadarnhaol ac mae hefyd yn fuddiol i’r tadau i’w helpu i wynebu eu cyfrifoldebau a rhoi cyfle iddynt chwarae rhan ym mywydau eu plant.”

Asesir pob cyfranogwr er mwyn penderfynu pa mor addas ydynt ar gyfer y rhaglen.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Tadau Gofalgar, gan gynnwys manylion am sut i gymryd rhan yn y rhaglen, cysylltwch â Paul Jones neu Megan Williams ar: 01248 750903; e-bost: gorwel@gorwel.org; neu ewch i wefan y Tadau Gofalgar www.pauljonesisw.co.uk

Cynllun newydd yn cymryd agwedd holistig tuag at helpu pobl ag anghenion cefnogaeth lluosog a chymhleth

Bydd y gwasanaeth newydd, a sefydlir gan Gorwel, uned o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin, ar gael i denantiaid cymdeithasol a phreifat, yn ogystal â pherchnogion tai.

Y fenter yw’r cyntaf o’i fath i ddarparu cefnogaeth ddwys, gyda chylch gorchwyl i helpu’r bobl fwyaf bregus i fyw mor annibynnol â phosib trwy fynd i’r afael â‘u holl broblemau gyda’i gilydd.

Wedi’i ariannu gan Dîm Cefnogi Pobl Cyngor Gwynedd, bydd gweithiwr achos llawn amser Gorwel yn gweithio’n benodol gydag unigolion neu aelwydydd sydd ag anghenion mwyaf cymhleth.

Yn ôl Carina Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Grŵp Cynefin:

“Mae’n llenwi bwlch gan roi cefnogaeth ddwys i’r bobl fwyaf bregus sydd ddim yn derbyn digon o gymorth gan un gwasanaeth yn unig.

“Mae’n feddylfryd holistaidd, ac ar gael i bobl sydd â chyfuniad o broblemau megis cysgu ar y stryd, celcu, camddefnyddio sylweddau, cefndir troseddol, iechyd meddwl neu anabledd dysgu lefel isel.

“Mae hefyd ar gael os oes gennych do uwch eich pen, ond eich bod mewn perygl o golli’r denantiaeth oherwydd eich problemau.

“Mae’n gefnogaeth gyffrous a ffres ac mae’n ffordd wahanol o feddwl. Byddwn yn edrych ar wahanol ffyrdd o ddelio â‘r materion hyn.

“Byddwn yn hyrwyddo gweithio rhyngasiantaethol, gan gael arbenigwyr o wahanol wasanaethau o amgylch yr un bwrdd i roi’r pecyn cymorth gorau at ei gilydd.

“Am y tro cyntaf, byddwn yn gallu helpu pobl sydd angen y cymorth mwyaf, ond sydd wedi, yn y gorffennol, elwa o dderbyn un gwasanaeth, ac wedyn wedi llithro drwy’r rhwyd.

“Bydd y person sy’n derbyn y gwasanaeth yn arwain ar y gwaith. Mae hyn yn golygu y byddant yn cael y pecyn cymorth sy’n diwallu eu hanghenion nhw i’r dim. Byddwn ni’n helpu pobl i wella eu bywydau yn yr hirdymor.”

I ddechrau’r broses, bydd pobl o ardal Arfon a aseswyd eisoes ac sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth, yn cael eu cyfeirio atom.

Ar ôl ei sefydlu bydd hefyd yn bosib i bobl gyfeirio eu hunain at y cynllun, sydd â chyllid am ddwy flynedd gydag estyniad posibl am 12 mis arall.

Yn ôl Arwel Wyn Owen, Uwch Reolwr Tai, Cyngor Gwynedd: “Rydyn ni’n croesawu datblygiad y gwasanaeth arloesol hwn a’i agwedd holistaidd tuag at Gefnogi Pobl ag anghenion cymorth lluosog.”

Mae Gorwel yn cyflogi 50 o bobl sy’n gweithio ar gynlluniau gwahanol i gynorthwyo pobl ddigartref, dioddefwyr cam-drin domestig, a phobl dros 55 oed sydd angen help i barhau i fyw’n annibynnol, ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych. Daw tua 90 y cant o’i gyllid trwy raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi cymorth i helpu pobl fregus i fyw mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi.

Chwilio am wneuthurydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019

Yn ôl Shan Lloyd Williams, prif weithredwraig Grŵp Cynefin: “Mae hi’n fraint fawr i ni fel cymdeithas gael y cyfle i gomisiynu coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

“Fel sefydliad dai Cymreig sydd â’n gwreiddiau’n ddwfn yng ngogledd Cymru, roeddem yn gweld cyfle yma i gydweithio â’n gŵyl genedlaethol i ddathlu ein diwylliant a’n hiaith.

“Fel cyflogwr i dros 200 o bobl a sefydliad sydd â bron i 5,000 o gartrefi, ein cymunedau ni sydd ynghlwm â’r gweithgareddau paratoi i gynnal a hwyluso’r Eisteddfod yn 2019, felly mae’n fraint cael cefnogi’r cymunedau rheiny a chyflwyno’r goron.”

Mae Grŵp Cynefin yn awyddus i wahodd crefftwyr i fynegi diddordeb mewn dylunio a chreu’r Goron. Mae rhwydd hynt i’r gwneuthurydd greu’r goron o unrhyw ddeunydd ar yr amod ei fod yn wydn, ysgafn ac o ddeunydd parhaol.

Y goron yw prif anrhydedd yr Eisteddfod Genedlaethol a chaiff ei chyflwyno mewn seremoni arbennig i enillydd un o’r ddwy brif gystadlaethau barddoniaeth yn yr ŵyl.

Yn ôl Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod: “Diolch i Grŵp Cynefin am noddi Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, a braf yw derbyn cefnogaeth lleol ar gyfer cystadleuaeth mor bwysig. Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio a hwy ac i weld cynllun y Goron yn y man, gan obeithio yn fawr y bydd enillydd teilwng. Bydd y cystadlaethau yn cael eu cyhoeddi ar y 7fed o Orffennaf, adeg y Cyhoeddi yng Nghonwy, lle bydd Rhestr Testunau 2019 yn cael ei gyflwyno gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol i’r Archdderwydd.”

Yn ôl Shan Lloyd Williams: “O ran y briff, rydym yn awyddus i’r goron adlewyrchu egwyddorion Grŵp Cynefin o ddarparu cartrefi o safon, datblygu cymunedau cynaliadwy lle mae pobl yn dymuno byw a darparu gwasanaethau rhagorol. Hoffem i’r goron gyfleu ein gweledigaeth o ddarparu ‘Mwy Na Thai’ i ddangos ein gwaith o gefnogi cymunedau gwledig Cymreig mewn ardaloedd megis Dyffryn Conwy a’r cyffiniau, lle cynhelir yr Eisteddfod yn 2019.”

Caiff y dyluniad terfynol a gyflwynir ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd cyn dechrau ar y gwaith.

Rhaid cyflwyno cysyniad ar gyfer y goron (llai na 500 gair) gyda’r opsiwn o gyflwyno delweddau, os dymunir, ar e-bost cyn 5 o’r gloch, ddydd Llun, 2 Gorffennaf 2018. Cewch fanylion llawn ar gyfer holl elfennau’r broses ymgeisio trwy gysylltu ag Awel Morris ar awel.morris@grwpcynefin.org, galw 0300 111 2122 neu neu lawr lwythwch y briff isod.

Dogfennau

Cartrefi Caergybi bron yn barod ar gyfer y teuluoedd lleol

Ymwelodd Shan Lloyd Williams â‘r datblygiad yng nghanol tref Caergybi, yr Hen Briordy, i glywed y bydd teuluoedd lleol yn paratoi’n fuan i symud i ran gyntaf y datblygiad, sef chwe chartref newydd tair ystafell wely.

Ariannwyd y tai trwy gyfuniad o raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Cyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn fuddsoddiad sylweddol yn nhref Caergybi, a chyllid Grŵp Cynefin. Cyfanswm y buddsoddiad yn rhan gyntaf y datblygiad yw £750,000.

Mae gwaith bellach ar y gweill ar yr ail ran, i adeiladu wyth fflat un ystafell wely, hefyd ar gyfer pobl leol, mewn cul-de-sac yng nghefn y safle.

Mae’r buddsoddiad o £662,000 ar gyfer yr ail gam wedi dod o Gronfa Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Wedi ei gomisiynu’n benodol mewn ymateb i’r angen am dai teuluol a fflatiau un llofft yn ardal Caergybi, mae’r eiddo newydd yn agos at y porthladd ar waelod y tai creigiau, a chofeb drawiadol gofrestredig Skinner y dref. Mae’r safle yn gyn-ganolfan adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol.

Contractwr lleol, Gwasanaethau B C (Ynys Môn) Cyf, Caergeiliog, Caergybi, gyflawnodd y gwaith adeiladu.

Yn ôl Shan Lloyd Williams: “Dyma ein cytundeb adeiladu cyntaf gyda Gwasanaethau B C, ac mae’n wych gweld y cam cyntaf sef chwech o dai tair llofft bron yn barod. Dylai’r cartrefi fod yn barod i bobl symud iddynt erbyn mis Gorffennaf.

“Bu’n brofiad braf ymweld â’r safle i weld ffrwyth fy llafur fel cyn Bennaeth Gwasanaethau Tai i’r Cyngor oedd â chyfrifoldeb ar gyfer tai, a heddiw yn fy swydd newydd fel Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, dwi ar fin gweld y cartrefi yma’n cael eu cyflwyno i deuluoedd lleol.

“Yn ystod fy ymweliad, clywais hefyd fod y contractwr wedi bod yn gweithio gyda Môn CF, i gynnig cyfleoedd prentisiaeth. Roeddwn hefyd yn ymwneud yn agos â datblygu CF Môn wrth weithio i’r Cyngor, felly dwi’n hynod o falch bod pobl ifanc wedi cael cyfle i gael mynediad at gyflogaeth fel rhan o’r datblygiad.”

Y bwriad yw cwblhau’r fflatiau erbyn Mawrth 2019.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein datblygiadau newydd yn Ynys Môn, ffoniwch ni ar 0300 1112122 neu ebostiwch post@grwpcynefin.org.

Cofrestr Tai Fforddiadwy newydd i helpu pobl i ddod o hyd i gartref delfrydol

Lansiwyd cofrestr Tai Teg mewn partneriaeth rhwng cymdeithasau tai’r rhanbarth, yr awdurdodau lleol, ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn symleiddio’r dull y mae pobl yn gwneud cais am gartref fforddiadwy.

Mae nifer o gynlluniau ar gael ar gyfer y rheini sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill rhwng £16,000 a £45,000, gyda rhai opsiynau ar gyfer y rhai sy’n ennill hyd at £60,000.

Grŵp Cynefin sy’n arwain y prosiect. Yn ogystal â Grŵp Cynefin, mae partneriaid eraill gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a saith awdurdod lleol : Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Powys, Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir Ynys Môn.

Y cymdeithasau tai eraill sy’n ymwneud â’r prosiect yw Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Tai Pennaf, Tai Gogledd Cymru, Tai Wales & West, a Cartrefi Conwy. Mae cartref fforddiadwy yn eiddo a ddarperir am bris llai na gwerth y farchnad, naill ai i’w rentu neu brynu. Nid yw Tai Teg yn darparu tai cymdeithasol, a chynghorir pobl i barhau i ddefnyddio’r gofrestr tai cyngor perthnasol yn eu hardal.

Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Bydd Tai Teg yn symleiddio’r broses o gofrestru a sicrhau cartrefi fforddiadwy yng ngogledd Cymru a Phowys.

“Rydym yn annog unigolion sy’n ceisio dod o hyd i gartref fforddiadwy i’w rentu neu brynu i gofrestru. Hyd yn oed os ydych wedi cofrestru yn y gorffennol, mae’n rhaid i chi ail gofrestru ond bydd eich dyddiad cofrestru gwreiddiol yn aros yr un fath.

“Mae nifer o gynlluniau arloesol ar gael i helpu pobl i fynd ar yr ysgol i brynu cartref neu sicrhau cartref ar gyfer ei rentu. Gall pawb sydd â diddordeb ddod o hyd i mwy o wybodaeth am y meini prawf a’r eiddo sydd ar gael ar wefan newydd Tai Teg.

“Hoffem hefyd siarad â datblygwyr ynghylch sut y gall tai fforddiadwy chwarae rhan bwysig iddynt hwy ar eu safleoedd unigol.”

Bydd y gofrestr yn cael ei defnyddio i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio ac i gefnogi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gynllunio ar gyfer datblygiadau tai yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru diddordeb mewn cartref, ewch i’r wefan www.taiteg.org.uk.

Criw hen ac ifanc yn cyd-fwynhau digwyddiad a drefnwyd gan Grŵp Cynefin

Trefnodd Grŵp Cynefin gynhadledd ar gyfer pobl hŷn yng ngwesty’r Kinmel Manor, Abergele – un a gynhelir bob dwy flynedd lle mae plant a phobl hŷn yn gweithio ochr yn ochr.

Daeth bron i 60 o denantiaid y grŵp tai – oedolion rhwng 55 a 98 oed - i’r digwyddiad i fwynhau diwrnod o weithgareddau gyda disgyblion chwech a saith oed Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl.

Buont yn gwneud tasgau celf a chrefft gyda’r disgyblion ac yn ymuno mewn dawnsio gwerin dan arweiniad y plant.

Siaradodd Dr Catrin Hedd Jones, seicolegydd o Brifysgol Bangor, â phreswylwyr Grŵp Cynefin am ei hymchwil i ofal lle mae mwy nag un genhedlaeth wedi dod ynghyd.

Bu plant ifanc â phobl hŷn yn cydgyfarfod mewn nifer o ganolfannau gofal dydd fel rhan o ymchwil Dr Catrin. Gwelwyd fod dod at ei gilydd yn y modd hwn yn cael effaith gadarnhaol ar y ddau grŵp oedran.

Ar ddiwedd y dydd diddanwyd y bobl hŷn gan gôr plant cynradd Ysgol Glan Morfa, Abergele.

Meddai Mair Edwards, rheolydd gweithgareddau cymunedol gyda Grŵp Cynefin, “Prif thema’r digwyddiad oedd iechyd a lles, ac yn arbennig delio â’r unigrwydd y gall pobl hŷn ei wynebu.

“Yn ogystal â mwynhau gweithgareddau’r plant, roedd nifer o’n partneriaid wrth law i rannu gwybodaeth i denantiaid ynghylch sut i fyw’n iach a hapus.

“Fel grŵp rydym yn cynnig llawer mwy na thai. Mae’n bwysig i’n preswylwyr gael bywyd cymdeithasol llawn a phleserus, ac mae digwyddiadau fel hwn o gymorth mawr.”

Am ragor o wybodaeth, am ein Tai Gofal Ychwanegol cliciwch yma.

Dechrau ar y gwaith o adeiladu Pentre Canol, cynllun tai gofal ychwanegol i bobl hŷn yn Ninbych

Ar fuddsoddiad o £12miliwn bydd cynllun Pentre Canol yn Lôn Ganol, Dinbych yn gweld adeiladu cynllun tai gofal ychwanegol i bobl hŷn yr ardal sy’n cynnig 71 fflatiau pwrpasol ar gyfer bobl i symud iddynt a mwynhau’r adnoddau arbennig fydd ar gael yno.

Yn ôl Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin: “Mae’r cynllun yma’n chwa o awyr iach i ganol tref Dinbych, lle bu safle’r hen ysgol ramadeg fu’n dadfeilio ers nifer o flynyddoedd. Rydym yn falch o allu dechrau ar y gwaith a chychwyn ar y daith o ddatblygu’r safle i gynnig tai pwrpasol o safon i bobl hŷn yr ardal.”

Cynllun ar y cyd rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych yw Pentre Canol gyda chefnogaeth ariannol hefyd yn dod gan Llywodraeth Cymru. Bydd y cyfleuster newydd o safon yng nghanol tref Dinbych yn cynnig y cyfle i bobl hŷn yr ardal fyw yn annibynnol mewn fflatiau unigol, gan fanteisio ar gyfleusterau cymunedol ar gyfer bwyta, hamddena a chymdeithasu.

Bydd y datblygiad yn cynnwys 42 o fflatiau dwy ystafell wely a 29 o fflatiau un ystafell wely i bobl sydd am fyw’n annibynnol, ond gyda phecynnau cefnogi ar gael pe byddent eu hangen. Bydd darpariaeth hefyd ar gael i oedolion o unrhyw oed all fod ag anghenion gofal mwy ffurfiol yn cael ei gynllunio’n benodol ar eu cyfer o fewn y cyfleuster.

Wrth ddechrau’r gwaith ar y safle, mae Grŵp Cynefin yn falch o allu cydweithio ar gynllun o’r maint hwn gyda’r contractwr lleol, R L Davies, Bae Colwyn. Mae gan y gymdeithas berthynas waith llewyrchus gydag R L Davies, sydd wedi cydweithio ar nifer o brosiectau datblygu yn y gorffennol. Fel rhan o’r cynllun, bydd y cwmni adeiladu yn sicrhau bod nifer o fuddion economaidd yn aros yn lleol a bod cyfleoedd prentisiaeth neu hyfforddiant i bobl ifanc yn rhan o’r gwaith adeiladu ar y safle.

Yn ôl Delyth Davies, Rheolwr Masnachol R L Davies: “Wedi misoedd o waith trafod, cynllunio a pharatoi, mae hi wastad yn braf cael dechrau ar y gwaith caib a rhaw allan ar y safle. Dros y misoedd nesaf, bydd ein tîm o staff yn gweithio’n ddiwyd ym Mhentre Canol i gyrraedd penllanw’r gwaith o greu cartrefi pwrpasol, o safon i drigolion hŷn yr ardal. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Grŵp Cynefin a’r gymuned leol dros y misoedd nesaf.”

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Cynghorydd Sir Ddinbych Bobby Feeley, aelod arweiniol lles ac annibyniaeth y Cyngor: “Bydd pobl hŷn yn sicr o elwa o’r cynllun safonol hwn, bydd economi gogledd Cymru yn elwa yn ystod y broses ddatblygu, a bydd Sir Ddinbych ac yn bwysicach tref Dinbych yn elwa o’r cyfoeth economaidd ddaw yn sgil gwaith y gymdeithas, y prosiect a’i staff i’r gymuned. Ond yn fwyaf oll byddwn mewn partneriaeth yn gweithio ar ddiwallu anghenion pobl hŷn gyda’r parch a’r urddas sy’n ddyledus iddynt.”

Rhagwelir y bydd y cynllun yn cael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2020.

Masnachwyr adeiladu lleol yn darparu nwyddau a llafur i adnewyddu gardd

Wedi eu cyfeirio at Gorwel, daparwr cefnogaeth o fewn Grŵp Cynefin, sy’n darparu ystod o wasanaethau cefnogi ar gyfer pobl hŷn, a phobl sydd yn cael eu heffeithio gan drais yn y cartref a digartrefedd, dymuniad y defnyddiwr gwasanaeth oedd gwneud yr ardd yn fwy preifat i’w galluogi i fwynhau amser gyda’r teulu yn yr awyr agored.

Dywedodd Osian Elis, Cydlyndd Atal Digartrefedd Gorwel, “Cyfeiriwyd y tenant at Gorwel ym mis Rhagfyr 2016 gyda phroblemau iechyd cymhleth, ac nid oedd prin yn gadael y cartref. Ac yntau yn gyfyngedig i ddwy ystafell yn yr eiddo, gofynnodd Gorwel i’r cwmniau hyn am eu cymorth i wneud ei ardd yn fwy hygyrch.

“Ar ôl cael addewid o ddeunyddiau a llafur, daeth pawb ynghyd i dorchi eu llewys, yn cynnwys aelodau’r teulu, i gwblhau’r prosiect. Erbyn heddiw mae’r ardd yn gwbl hygyrch i’r tenant gyda gwelyau pridd wedi eu codi fel bod y tenant yn gallu plannu blodau yn ogystal â llysiau. Mae tŷ chwarae bychan hefyd wedi ei adeiladu fel bod y tenant yn gallu gwylio ei wyrion a’i wyresau yn chwarae yn yr ardd.

“Ni allwn ddiolch digon i’r busnesau lleol am eu caredigrwydd a’u cefnogaeth. Mae’r ardd wedi ei thrawsnewid yn llwyr, yn le golau a chroesawgar, ac erbyn hyn mae’n amgylchedd perffaith i’r defnyddiwr gwasanaeth.”

Mae mwy o wybodaeth am Gorwel ar gael yma

Before
Cynt
During
Yn Ystod

Garden finished
Wedi ei orffen

Wedi ei orffen






















‘Youth Shedz’

Bydd menter newydd a elwir yn ‘Youth Shedz’ yn agor yn Ninbych y mis hwn. Nod y fenter yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu a datblygu sgiliau newydd mewn lleoliad diogel. Yn seiliedig ar syniad tebyg i Men’s Sheds, bydd ‘Youth Shedz’ yn gweithio’n agos â phrosiectau eraill yn yr ardal leol fel Men’s Sheds, She Sheds a Veterans Sheds.

Comisiynwyd Scott Jenkinson o gwmni 4:28 Training gan Grŵp Cynefin i weithio gyda grŵp o bobl ifanc o lety Yr Hafod, sef prosiect tai â chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-24 oed.

Gan ei fod bob amser yn chwilio am gyfleoedd i hybu dulliau dysgu drwy brofiad a gweithgareddau, fe osododd

Scott her i’r grŵp feddwl am ffordd o ddatrys ymddygiad gwrth-gymdeithasol a diffyg ymgysylltu ymysg pobl ifanc. Y cam cyntaf oedd i’r bobl ifanc edrych ar sefyllfa eu bywydau eu hunain yn nhref Dinbych, gan wneud gwaith ymchwil ar ymddygiad gwrth-gymdeithasol, y costau i’r gymdeithas a’r ffactorau sy’n cyfrannu at y broblem.

O ganlyniad i’r gwaith ymchwil hwn, cafodd y bobl ifanc syniad o greu lleoliad arbennig er mwyn darparu lle i ymgysylltu â rhywbeth cynhyrchiol mewn modd cadarnhaol, lle i siarad a gwrando ar leisiau’r ifanc, a lle i ddysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd llawn ymddygiad cadarnhaol.

Dyma fu’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r fenter, ac o’r hedyn hwn y sefydlwyd ‘Youth Shedz’, y prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru. O’r cychwyn cyntaf, y bobl ifanc sydd wedi bod yn ganolog i’r prosiect, yn sicrhau cyd-gynhyrchu o’r gwraidd gan arwain at brosiect sydd wedi ei lunio, ei ddatblygu, ac yn y pen draw sy’n cael ei reoli gan y bobl ifanc eu hunain.

Gyda’r prosiect ‘Youth Shedz’ cyntaf yn cael ei lansio yn Ninbych, y weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw y bydd gan bob tref yng Nghymru ei phrosiect ei hunain yn y pen draw. Dywedodd Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin, “Mae angen i ni wrando ar y bobl ifanc, eu hannog a hyd yn oed eu herio ar adegau, ac rydym yn gobeithio y bydd y sefydliad ‘Youth Shedz’ yn galluogi’r bobl ifanc i ymgysylltu a gweld bod modd iddynt lunio dyfodol disglair, llewyrchus a chadarnhaol ar eu cyfer eu hunain. Bydd y prosiect hefyd yn helpu’r bobl ifanc i ddatblygu gwydnwch, gwella hyder a hunan-barch, lleihau unigedd cymdeithasol a hybu iechyd meddwl a lles cadarnhaol.”

Gobeithir y bydd y prosiect hwn hefyd yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer y gymuned ehangach sydd allan o waith neu sy’n wynebu rhwystrau cymhleth wrth ddod o hyd i waith. Bydd yr oedolion hyn yn cael cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i wella eu sgiliau, a’r cyfle i fentora’r bobl ifanc sy’n mynychu ‘Youth Shedz’. Wedi iddynt dderbyn cymorth ariannol gan Grŵp Cynefin fel man cychwyn, aeth y bobl ifanc ati i nodi sut fath o le y byddent yn dymuno ei gael, a dechrau ar y gwaith adnewyddu, addurno a gosod gweithfannau a meinciau gwaith yn eu lle. Fe gynlluniodd y bobl ifanc eu logo eu hunain gan weithio gydag artist graffiti lleol i greu arwydd newydd ar gyfer y prosiect.

Bydd y bobl ifanc yn cael y cyfle i ymgymryd â chymwysterau pwrpasol achrededig Agored a luniwyd gan 4:28 Training mewn meysydd fel gwaith tîm, gwirfoddoli, llythrennedd digidol, iechyd a diogelwch ac ati. Ar hyn o bryd, mae Scott mewn trafodaethau gydag Agored Cymru i sefydlu Gwobr, Tystysgrif a Diploma Person Ifanc Youth Shedz a gaiff eu darparu gan Youth Shedz, i sicrhau bod holl gyfranogwyr Youth Shedz yn cael y cyfle i dderbyn achrediad am y gwaith a gyflawnir gan ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Ochr yn ochr â’r cymwysterau a gynigir, bydd lleoliad Youth Shedz hefyd yn hwb ar gyfer cyfleoedd eraill i bobl ymgysylltu’n gadarnhaol, megis gweithgareddau corfforol egnïol drwy gydweithio â mentrau Sport Wales, Hyfforddiant Cymdeithasol a chodi arian ar gyfer elusennau lleol a byd-eang.

Bydd y prosiect Youth Shedz, sydd eisoes wedi derbyn canmoliaeth gan yr Aelod Cynulliad lleol Mark Isherwood, yn agor yn swyddogol ym mis yma, lle bydd y gofod yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ystod o brosiectau ymarferol fel gweithgareddau gwaith coed, adfer dodrefn, gemwaith a thrwsio beiciau.

Annog unigolion sy’n newydd i’r rôl cyfarwyddwr anweithredol i ymgeisio am le ar Fwrdd Grŵp Cynefin.

Mae galwad ar unigolion sydd â diddordeb yn y sector tai, sydd hefyd â phrofiad busnes, i ymgeisio am swydd wag ar Fwrdd Rheoli Grŵp Cynefin.

Os nad ydych wedi bod yn aelod o’r Bwrdd yn y gorffennol, ni ddylai hynny eich rhwystro, meddai Elen Williams, aelod newydd a benodwyd yn ddiweddar.

Mae’r gymdeithas dai, sy’n rheoli 4,600 o eiddo ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys, yn chwilio am gyfarwyddwyr anweithredol i ymuno â’i Bwrdd Rheoli cryf o 10 aelod, sydd yn y pendraw yn gyfrifol am holl weithgareddau’r sefydliad.

Ymunodd Elen Williams â’r Bwrdd ym mis Gorffennaf 2017. Gyda’i chefndir yn y maes marchnata, mae Elen yn Gyfarwyddwr Menter a Busnes, cwmni annibynnol sy’n helpu unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i gyfrannu tuag at ddatblygu’r economi.

Meddai Elen “Penderfynais ymgeisio oherwydd bod gan Grŵp Cynefin enw da iawn o ran y gwasanaethau maent yn eu darparu a’u dulliau arloesol. Roeddwn wedi clywed llawer o bethau da am y sefydliad.

“Mae gwerthoedd Grŵp Cynefin yr un fath â rhai Menter a Busnes, o ran y defnydd o’r Gymraeg, ei datblygiad cymunedol a’i diddordeb mewn annog pobl i ddod yn weithgar yn economaidd.

“Mae’r ymrwymiad amser fel cyfarwyddwr anweithredol yn rhesymol. Gofynnir i chi ymrwymo cyfwerth â 12-15 diwrnod y flwyddyn. Mae’r cyfarfodydd yn tueddu i fod gyda’r nos. Mae peth hyfforddiant

hefyd, ond gall y rhain fod yn hyblyg, a’u cynnal yn ystod y dydd neu fin nos.”

Yn byw ym Mhorthmadog, graddiodd Elen o Brifysgol Caerdydd mewn polisi cymdeithasol cyn dechrau ei gyrfa mewn gofal cwsmer a gwerthiant, yn gweithio i Ifor Williams Trailers, yn Sir Ddinbych, am bedair blynedd.

Yn 2002, ymunodd â Menter a Busnes fel swyddog datblygu yn cefnogi unigolion a oedd yn cychwyn busnesau ym Mhowys. Yn gwmni annibynnol, mae Menter a Busnes yn helpu unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i gyfrannu tuag at ddatblygu’r economi.

Ar yr un pryd, dechreuodd Elen, a’i gŵr, Arwel, fusnes yn darparu llety gwyliau a llety i fyfyrwyr.

Yn meddu ar ddiploma proffesiynol y Sefydliad Siartredig Marchnata, datblygodd Elen ei gyrfa ym Menter a Busnes hyd nes y cafodd ei phenodi’n gyfarwyddwr yn 2009.

Dywedodd: “Yn benodol, gallaf ddod ag arbenigedd cynllunio busnes a marchnata i ròl aelod Bwrdd Grŵp Cynefin.

“O safbwynt fy ngyrfa bersonol, trwy fod yn aelod Bwrdd, rwyf hefyd yn manteisio ar gyfleoedd i rwydweithio, ac i ddysgu am y diwylliant gwahanol mewn sefydliad arall. Mae weithiau hefyd yn gyfle da i fyfyrio ar yr hyn rydym ni’n ei wneud yn ein cwmni ni.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi dechrau ystyried gwneud cais am rôl cyfarwyddwr anweithredol, ac sydd yn awyddus i gyfrannu at sefydliad cymunedol allweddol, i wneud cais.

“Nid oes rhaid i chi fod â chefndir yn y maes tai. Ni ddylech ofni hynny, gan nad yw yn ofyniad. Os oes gennych ddealltwriaeth dda am fusnes neu brofiad mewn disgyblaeth

benodol, ewch amdani.”

Am fwy o wybodaeth, gweler y llythyr a’r pecyn gwybodaeth, neu cysylltwch â Eleri Jones ar 01745 818404 / e-bost: eleri.jones@grwpcynefin.org i drefnu sgwrs anffurfiol gyda Shan Ll. Williams, Prif Weithredwr.

Dyddiad cau Dydd Llun 23 Ebrill 2018.

Buddsoddiad sylweddol am dai lleol ym mhentref Cemaes

Dros yr wythnosau diwethaf, mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu cartrefi newydd mewn un gymuned yn Ynys Môn.

Dros y deuddeg mis nesaf, bydd 14 o dai newydd yn cael eu hadeiladu ym mhentref Cemaes, Ynys Môn fel rhan o waith Grŵp Cynefin i gefnogi cymunedau sy’n chwilio am amrywiaeth o gartrefi gwahanol ar y safle.

Mae’r tai newydd yn Ffordd y Felin, Cemaes yn cael eu datblygu gan gwmni adeiladu lleol o Ynys Môn, D U Construction Ltd, sydd wedi eu lleoli ym Mharc Penrhos,

Caergybi, ac mae Grŵp Cynefin yn ymfalchïo bod y budd economaidd yn aros ar yr Ynys.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn, bydd Grŵp Cynefin yn datblygu:

  • 4 byngalo (dwy ystafell wely)
  • 6 tŷ (dwy ystafell wely)
  • 4 tŷ (tair ystafell wely)

Yn ôl Gwyndaf Williams, Rheolwr Datblygu Grŵp Cynefin: “Mae hwn yn ddatblygiad pwysig i bentref bach fel Cemaes ac rydym yn falch o gael dechrau’r gwaith ar y safle. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol i gydnabod anghenion tai yr ardal, wedi gweithio gyda’r cynllunwyr i ddylunio safle sy’n gweddu i’r ardal a bellach yn datblygu cymysgedd o gartrefi a fydd yn cynorthwyo i bontio’r angen am y galw sydd am gartrefi o safon yn rhai o gymunedau gwledig gogledd Cymru.”

Bydd y cartrefi newydd yn ychwanegu at y 4,550 o dai sydd gan Grŵp Cynefin, y gymdeithas dai yn ei phortffolio eiddo. Gan weithio ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys, mae Grŵp Cynefin yn ymdrechu i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel sy’n cwrdd ag anghenion cymunedau lleol.

Bydd gwybodaeth bellach am y safle yn Ynys Môn yn cael ei rannu, wrth i’r gwaith ddatblygu barhau.

CIH Cymru a Grŵp Cynefin yn croesawu Gweinidog i’r cyfarfod  cyntaf mewn cyfres o drafodaethau  o amgylch y  bwrdd i’r aelodau

Bydd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans AC, yn mynychu trafodaeth o amgylch y bwrdd yn un o gynlluniau Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yng Nghaergybi ar 15 Mawrth.

Dyma’r sesiwn gyntaf mewn cyfres o drafodaethau anffurfiol gydag aelodau CIH Cymru a phartneriaid y mae’r Gweinidog wedi cytuno i gymryd rhan ynddynt ar draws Cymru.

Y nod yw caniatáu gweithwyr proffesiynol tai, ar bob lefel, i drafod y materion allweddol sy’n wynebu’r sector tai, ac mae’r sesiwn benodol hon yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin yng nghynllun Gofal Ychwanegol Penucheldre yng Nghaergybi.

Dywedodd Matt Dicks, Cyfarwyddwr CIH Cymru:“Mae’n wych bod y Gweinidog wedi cytuno i gymryd rhan yn y trafodaethau anffurfiol hyn gydag aelodau CIH Cymru.

“Mae’n dangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch gwrando ar lais y sector a chlywed am y materion y mae aelodau’n eu hwynebu bob dydd.

“Y nhw yw’r rhai sy’n darparu’r gwasanaethau ar lawr gwlad, yn cyflawni strategaeth y llywodraeth i fynd i’r afael â digartrefedd, a’r prinder o ran cyflenwi tai cymdeithasol a fforddiadwy.

“Hoffwn hefyd ddiolch i Grŵp Cynefin am gytuno i gynnal y digwyddiad ym Mhenucheldre”.

Dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans: “Rwy’n awyddus i wrando a dysgu o brofiadau pobl sy’n gweithio yn y sector dai, er mwyn deall ganddynt beth sy’n gweithio a beth sydd angen i ni wneud yn wahanol.

“Trwy weithio gyda’n gilydd, rwy’n credu y gallwn gyflawni llawer iawn i wella bywydau pobl yng Nghymru, a sicrhau bod gan bawb fynediad i lety diogel, o ansawdd uchel a fforddiadwy.”

Dywedodd Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Rydym yn hynod falch o gael cynnal y cyfarfod cyntaf erioed rhwng aelodau CIH Cymru a’r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans AM.

“Yn ystod ein cyfarfod byddwn yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer Grŵp Cynefin, ac yn wir y sector Tai yng Nghymru, gyda’r Gweinidog, sef darparu cartrefi o safon uchel, gwasanaethau rhagorol a datblygu cymunedau cynaliadwy lle mae pobl yn dymuno byw.

“Byddwn hefyd yn manteisio ar y cyfle i godi materion sy’n wynebu pobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig.”

Diddymu’r Hawl i Brynu yng Nghymru

Ni fydd gan denantiaid cymdeithasau tai yr hawl i brynu neu gaffael eu cartref o 26 Ionawr 2019 ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw gwybodaeth i helpu i esbonio beth sydd angen i denantiaid wybod ynglŷn â’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael yn dod i ben, a beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n denant syn meddwl gwneud cais i brynu’ch cartref:

Cliciwch yma i lawr lwytho Gwybodaeth am derfyn yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael yng Nghymru mae fformatau gwahanol o’r ddogfen hefyd ar gael yma.

Ar hyn o bryd mae gan bedwar awdurdod lleol yng Nghymru ataliad Hawl i Brynu ar waith ac felly nid yw’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael yn bodoli ynddynt. Ymhlith y siroedd yr ydym ni’n gweithredu ynddynt, mae hyn yn berthnasol i Sir Ddinbych, Sir y Fflint ac Ynys Môn.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bu i’r ddeddfwriaeth gael ei gymeradwyo ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru cliciwch yma

Ni fydd dileu’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael yn effeithio ar denantiaid Grŵp Cynefin mewn unrhyw ffordd arall.

Os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â ni ar 0300 111 2122 neu anfonwch e-bost at: post@grwpcynefin.org

Dogfennau

Uchafbwyntiau Walis George cyn ymddeol fel Prif Weithredwr  Grŵp Cynefin

Wedi 26 mlynedd yn gweithio ym maes tai’r gogledd, bydd Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin yn ymddeol o’i swydd y mis hwn.

Ymysg uchafbwyntiau ei yrfa, mae’n rhestru ffurfio cymdeithas dai Grŵp Cynefin nôl yn 2014; datblygu Canolfan Fenter Congl Meinciau ym Mhen Llŷn a sefydlu’r gwasanaeth Hwylusydd Tai Gwledig cyntaf yn y gogledd.

“Mae cymaint o bethau y gallwn eu rhestru fel uchafbwyntiau,” meddai Walis George, “ond dwi’n falch iawn iawn o fodolaeth Grŵp Cynefin. Mae’r gwerthoedd creiddiol oedd yn rhan o’r ddwy gymdeithas, Cymdeithas Tai Eryri a Chymdeithas Tai Clwyd a unwyd yn 2014 i greu Grŵp Cynefin yr un mor fyw a pherthnasol heddiw.

Cydweithio â chymunedau gwledig i geisio diwallu anghenion tai yw prif bwrpas y gymdeithas, gan roi cyfle i bobl ifanc a theuluoedd barhau i fyw yn eu cymunedau a chynnig adfywiad i ardaloedd sy’n ei chael hi’n anodd.

“Law yn llaw â hynny, mae cymunedau sy’n ffynnu yn sicrhau bod diwylliant a’r iaith Gymraeg hefyd yn cael cyfle i lewyrchu yn yr ardaloedd gwledig ac mae’r weledigaeth honno yn rhywbeth sydd wastad wedi bod yn bwysig i mi aelodau o’r Bwrdd Rheoli dros y blynyddoedd a’r staff hefyd,” meddai.

Wrth ffarwelio â dros 200 o staff Grŵp Cynefin, mae’r ffaith bod y gymdeithas dai yn darparu gwasanaethau’n gwbl ddwy-ieithog yn glod i Walis George, y tîm arweinyddiaeth a Bwrdd Grŵp Cynefin.

“Mae’n debyg fel corff sy’n gweithio ar draws y gogledd, bod y ffaith bod mwyafrif helaeth o’r staff yn gallu’r Gymraeg yn eithaf unigryw.

“Clod i’r staff oedd llwyddiant sefydlu Grŵp Cynefin ac iddyn nhw mae’r diolch bod dros 4,550 o dai yn ein heiddo heddiw a gwaith y gymdeithas yn parhau i lewyrchu. Dwi’n falch o allu ymddeol gyda’r gymdeithas yn ariannol gadarn, gydag enw da ymhlith ein tenantiaid a rhanddeiliaid ac yn gre i wrthsefyll heriau’r dyfodol.”

Yr awydd i fagu teulu mewn ardal Gymraeg ddenodd Walis George a’i wraig, sydd â’i gwreiddiau yn Sir y Fflint, i’r gogledd. Yn fachgen ifanc yn cael ei fagu yn Llanelli, ef oedd yr unig blentyn o’r stryd i fynychu’r ysgol Gymraeg lleol, Ysgol Gymraeg Dewi Sant.

Wedi cyfnod fel gwas sifil yn Llanelli ac Aberystwyth, treuliodd dair blynedd yn gweithio i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg cyn ennill swydd fel Swyddog Tai i gymdeithas dai Secondary Housing Association for Wales yng nghymoedd y de. Antur Nantlle fu’r gyrchfan gyntaf wedi symud i’r gogledd a blwyddyn yn ddiweddarach dyma gychwyn ar ei yrfa yng Nghymdeithas Tai Eryri.

Mae’n cofio cyfnod anodd yn y blynyddoedd cynnar o ddwyn perswâd ar y llywodraeth, gwleidyddion ac arianwyr bod yr angen ar gyfer adeiladu tai newydd mewn cymunedau penodol.

“Prynu ac adnewyddu tai oedd prif ffynhonnell waith Cymdeithas Tai Eryri yn y blynyddoedd cynnar hynny. Roedd cryn wrthwynebiad i adeiladu tai mewn ardaloedd gwledig, a gwaith difrifol i berswadio’r awdurdodau bod gwerth mewn cynnig tai o safon oedd yn fforddiadwy ideuluoedd a phobl ifanc.”

Un o’r datblygiadau tai sy’n dwyn balchder i Walis George yw datblygiad bychan stad Castell y Gog, 12 tŷ yn Nyffryn Ardudwy, Gwynedd. Nôl yn 2006, roedd hi’n anodd darparu tai mewn ardaloedd gwledig ond daeth tro ar fyd wrth gyflwyno Hwyluswyr Tai Gwledig i’r sector dai.

Gwaith Hwylusydd Tai Gwledig oedd i drafod â’r gymuned a chasglu tystiolaeth o’r angen am dai o fewn y gymuned honno. Gwelwyd cyfle yn Nyffryn Ardudwy i ymateb i’r her bod angen tai fforddiadwy i bobl leol.

“Y cydweithio oedd y trobwynt, gyda Thai Eryri yn cydweithio gyda’r Cyngor Cymuned, Cyngor Gwynedd, y Parc Cenedlaethol a’r Hwylusydd Tai Gwledig, llwyddwyd i ddatblygu’r tai cyntaf o’i bath yng ngogledd Cymru. A chyda pholisi gosod lleol a gytunwyd gyda Chyngor Cymuned Dyffryn Ardudwy a Thalybont yn ei le, sicrhawyd yr ymdeimlad bod y tai a’r stad yn rhan o berchnogaeth y gymuned.”

“Dwi hefyd yn falch iawn o’r ffaith bod Grŵp Cynefin yn cynnig cymaint mwy na thai erbyn hyn hefyd. Gyda gwasanaethau Gorwel yn cefnogi pobl sydd angen cymorth mewn gwahanol feysydd, megis trais yn y cartref, yr Hwb yn Ninbych yn cefnogi pobl ifanc a phobl ddi-waith a chynlluniau tai gofal ychwanegol yn rhoi gwasanaeth arbennig i bobl hŷn, mae gwaith y gymdeithaserbyn hyn yn eang iawn.

“Dwi’n ymfalchïo yn ein gwaith yn cefnogi pobl hŷn yn Awel y Coleg, Y Bala; Llys Awelon, Rhuthun; Penucheldre, Caergybi ac yn fuan bydd Hafod y Gest, Porthmadog yn ychwanegiad i’r maes yma gyda chynlluniau buan i ddarpariaeth debyg eto yn Pentre Canol, Dinbych.

“Roedd yr her o ail-ddatblygu’r hen gynllun tai gwarchod ym Mhenucheldre yn fawr, a’r cynllun 54 uned yn un hollol newydd ym Môn ar y pryd. Roedd yn cynnig her ychwanegol i ni, y tu hwnt i adeiladu oherwydd bod buddiannau a diogelwch y trigolion oedd yn derbyn gwasanaeth a gofal ar yr hen safle angen ei reoli. Fe gollais i gwsg dros y datblygiad, ond bu’r cynllun yn ‘blueprint’ i gynlluniau eraill wedi hynny. Mae gan y ganolfan ragorol hon le agos iawn yn fy nghalon i,” meddai Walis George.

Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin, Dafydd Lewis: “Mae ein diolch i Walis George am ei wasanaeth i’r sector dai, nid yn unig yn y gogledd, ond yn genedlaethol yn enfawr. Mae ei frwdfrydedd a’i agosatrwydd wedi gwneud cydweithio ag ef fel aelodau’r Bwrdd, fel staff, fel tenantiaid ac asiantaethau partner yn waith rhwydd iawn. Bydd colled fawr ar ei ôl yn Grŵp Cynefin a dymunwn y gorau iddo ef a’i deulu ar ei ymddeoliad.

“Ar yr un pryd rhaid croesawu Shan Lloyd Williams atom fel Prif Weithredwr newydd. Dymunwn yn dda iddi hi yn y rôl gan edrych ymlaen at y cydweithio sydd i ddod.”

Wrth ffarwelio, mae gan Walis George nifer o hanesion am droeon trwstan yn ystod ei gyfnod gyda’r gymdeithas, gan gynnwys siarad am hanner awr mewn gweithgor tenantiaid yn fuan wedi sefydlu Grŵp Cynefin a gwreigan yn holi o’r cefn wedi iddo orffen siarad: “Sgiwsiwch fi, pwy yda chi lly?”

Mae’n nodi cyfnod anoddaf ei yrfa fel un oedd yn ymwneud â’i staff. Collwyd dau gydweithiwr mewn un flwyddyn yn 2011, “Roedd colli’r ddau yn sioc a thristwch llethol i’r tîm cyfan a thra’n bod ni’n ceisio cefnogi’n gilydd roedd rhaid parhau i gynnig gwasanaeth i’n tenantiaid a’n partneriaid. Roedden nhw’n ffrindiau yn ogystal â chydweithwyr i ni a byddant yn ein calonnau am byth.”

Wrth ymddeol dywed nad oes dim cynlluniau penodol heblaw gollwng y cyfrifoldeb i eraill. Mae’n dymuno’n dda iawn i Shan Lloyd Williams fel Prif Weithredwr newydd Grŵp Cynefin ac mae’n edrych ymlaen at fod yn daid am y tro cyntaf.

“Rhwng cadw tŷ a’r ardd yn daclus, dwi hefyd yn gobeithio cael mwy o amser i grwydro Eryri ac arfordir Llŷn a Môn pan ddaw’r gwanwyn a’r haf a chefnogi tîm rygbi’r Scarlets yn yr hydref a’r gaeaf,” meddai Walis George.

Bydd Walis George yn gorffen ei swydd ar y 30 o Fawrth 2018.

Gwaith tlodi tanwydd cymdeithas dai yn ennill cydnabyddiaeth mewn tair gwobr

Cydnabuwyd tîm Grŵp Cynefin, sydd wedi arbed degau o filoedd o bunnoedd i filoedd o gartrefi, mewn tri chategori yng ngwobrau blynyddol Effeithlonrwydd Ynni Cymru.

Derbyniwyd y gymeradwyaeth am: gymorth i gwsmeriaid bregus, cymdeithas dai ranbarthol y flwyddyn; tra enwyd Sandra Kargin yng nghategori’r pencampwraig warden ynni.

Dechreuodd cynllun wardeiniaid ynni cymunedol Grŵp Cynefin nôl yn 2011, i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, diffyg gweithgarwch yn yr economi a lleihau carbon. Mae wardeniaid yn gweithio gyda phreswylwyr mewn cymunedau ledled gogledd Cymru i leihau costau ynni ac allyriadau carbon.

Llynedd, cynorthwywyd 187 o gwsmeriaid, gan arwain at ostyngiad o hyd at 9,350kg o co2 ac arbedion o hyd at 50 y cant ar filiau tanwydd.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnig cyfle i bobl ddi-waith i hyfforddi fel yr ymgynghorwyr effeithlonrwydd ynni.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Grŵp Cynefin, Carina Roberts, a fynychodd y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd: “Mae’r wardeiniaid ynni’n gweithio’n galed iawn, ac mae derbyn canmoliaeth mewn tri chategori gwahanol yn gamp a hanner. Rydym yn falch iawn eu bod wedi helpu cynifer o bobl i arbed arian ar eu biliau tanwydd.”

Roedd cynrychiolwyr wardeiniaid ynni Ieuan Davies, Ffion Owen, Jade Beales a Sandra Kargin gyda hi.

Daeth Sandra Kargin yn warden ynni yn 2014, yn dilyn cyfnod di-waith pan oedd hi wedi colli hyder ac yn ei chael hi’n anodd gadael ei chartref yng Nghaernarfon ar adegau.

Nawr mae Sandra, sydd hefyd yn denant Grŵp Cynefin, wedi helpu mwy na 1,800 o drigolion i leihau eu biliau, a mentora tri warden ynni dan hyfforddiant. Mae’n darparu cyngor arbed ynni i denantiaid a thrigolion ledled gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â thimau cyd-warden ynni sydd wedi eu lleoli yng Nghaernarfon.

Mae’r cynllun wardeiniaid ynni yn un o nifer o gynlluniau cymunedol a redir gan Grŵp Cynefin, sy’n darparu mwy na 4,500 o gartrefi i bobl ledled gogledd Cymru a gogledd Powys.

Ariennir y cynllun gan Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd, Tai Gogledd Cymru, Cyngor Ynys Môn a Chartrefi Cymunedol Gwynedd.

Gall trigolion Ynys Môn a Gwynedd gael rhagor o wybodaeth am effeithlonrwydd ynni, neu drefnu cyfarfod gyda warden drwy ebostio: post@grwpcynefin.org neu ffonio 0300 111 2122.

Grŵp Cynefin yn enwi prif weithredwr newydd

Mae cyn bennaeth Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Ynys Môn, Shan Lloyd Williams, yn cymryd yr awenau gyda chymdeithas dai elusennol gogledd Cymru ddiwedd mis Ionawr.

Bydd Shan yn cymryd yr arweinyddiaeth gan Walis George, pennaeth uchel ei barch o fewn y sector dai wrth iddo ymddeol wedi 25 mlynedd yn arwain ym maes tai yn y gogledd.

Mae Shan yn byw ym Mhen Llŷn ac yn dod â mwy na 20 mlynedd o brofiad yn y sector tai i’r brif swydd.

Wedi llwyddiant yn ei arholiadau Safon Uwch, dechreuodd ei gyrfa gyda Banc y Midland ym Mhwllheli a Chaernarfon, cyn dechrau gweithio yn Gofal Golwg Gwynedd fel eu uwch swyddog adsefydlu, gan ddysgu Braille, symudedd a sgiliau byw’n annibynnol eraill gan sefydlu gwasanaeth cwnsela yn Ysbyty Gwynedd i bobl sydd newydd gael diagnosis o golli golwg. Yna arweiniodd ddatblygiad gwasanaeth newydd ar gyfer pobl â nam ar eu golwg ledled Gwynedd a chanolfan adnoddau newydd ym Mangor.

Mae llwybr ei gyrfa hefyd wedi cynnwys sefydlu’r swyddfa gofrestredig gyntaf yng ngogledd Cymru ar gyfer Gofal a Thrwsio Cymru - gan weithio gydag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, bwrdd iechyd a’r trydydd sector i ddatblygu a monitro asiantaethau gwella cartrefi gofal a thrwsio ledled gogledd Cymru - yn adrodd i weision sifil yn Llywodraeth Cymru. Shan fydd bellach yn gyfrifol am y gwasanaeth hwn ym mhedair sir y gogledd gan bod Gofal a Thrwsio yn dod o dan adain Grŵp Cynefin.

Aeth Shan ymlaen i weithio fel rheolwr perfformiad i wasanaethau cymdeithasol a thai Cyngor Sir Ynys Môn, cyn trosglwyddo i swydd gyda Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd fel cydlynydd iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Ymhlith ei blaenoriaethau, cymerodd bob cyfle i godi ymwybyddiaeth am faterion tai gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaeth iechyd.

Yn nes ymlaen fel rheolwr strategaeth dai Cyngor Gwynedd, cafodd Shan gyfle i ddechrau datblygu cyfleusterau gofal ychwanegol newydd, gan gynnwys Hafod y Gest, Porthmadog, ac Awel Y Coleg, y Bala. Bydd hi nawr yn dychwelyd i oruchwylio’r cyfleusterau hyn yn ei swydd newydd.

A chyda cyfrifoldebau pellach yng Nghyngor Gwynedd, gweithiodd Shan fel rheolwr rhaglen ar gyfer seilwaith, yn goruchwylio cyflwyno ffrydiau gwaith i wasanaeth yn ymwneud â lliniaru llifogydd, tai fforddiadwy, yr agenda carbon a thrafnidiaeth.

Yn ystod ei rôl ddiweddaraf, gan arwain gwasanaethau tai yn Ynys Môn, dechreuodd yr awdurdod ddatblygu’r tai cyngor cyntaf ers 40 mlynedd.

Mae Shan bellach ar ei hail dymor fel aelod o fwrdd rheoli y Sefydliad Tai Siartredig yng Nghymru, ac mae hi hefyd yn gyd-sylfaenydd ac yn aelod o fwrdd rheoli gogledd Cymru merched mewn tai cymdeithasol (WISH), sy’n cefnogi merched sy’n ceisio symud i swyddi uwch o fewn y sector.

Enillodd Shan radd Feistr mewn Economeg ym maes rheoli yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Casnewydd ac enillodd ei chymhwyster fel aelod corfforaethol o’r Sefydliad Tai Siartredig trwy Brifysgol De Montford, Caerlŷr. Mae hi hefyd wedi ei chymhwyso fel Rheolwr Prosiect a Rhaglen.

Blaenoriaeth Shan ar ôl ymgymryd â‘r rôl newydd ar y 29 o Ionawr 2018, fydd cynnal y berthynas waith ‘ardderchog’ sydd gan Grŵp Cynefin gydag awdurdodau lleol gogledd Cymru a Phowys, cyflawni amcanion y cynllun corfforaethol a gweithio gyda thenantiaid i archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.

“Dwi hefyd yn awyddus i ymchwilio ymhellach i gyfleoedd a gweithio’n agosach gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu lleddfu rhywfaint o’r pwysau ar ddamweiniau ac achosion brys, helpu pobl i aros yn ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain, a chymryd pob cyfle i wella iechyd a lles ein tenantiaid,” meddai.

Ychwanegodd Shan: “Mae gan Grŵp Cynefin enw da eisoes wrth helpu i roi’r cychwyn gorau i bobl mewn bywyd. Mae HWB Dinbych, ei chanolfan sy’n darparu cyfleoedd addysgol a chyflogaeth i bobl leol, yn gweithio’n dda iawn.

“Mae hefyd yn gwneud gwaith gwych gyda Gorwel, sy’n darparu gwasanaethau cymorth i bobl hŷn, pobl sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a digartrefedd. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddefnyddio fel esiampl o arfer da mewn mannau eraill.

“Mae’r seiliau yma i adeiladu, yn ogystal â chyfleoedd newydd, wrth i’r galw am dai cymdeithasol barhau i dyfu, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.”

Ychwanegodd Shan: “Mae’n anrhydedd i mi gael fy apwyntio’n Brif Weithredwr Grŵp Cynefin a dwi’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â‘r bwrdd a’r tîm arweinyddiaeth i gyflwyno’r cynllun corfforaethol, a gwneud gwir wahaniaeth i fywydau trigolion a chymunedau ar draws gogledd Cymru.”

Un flaenoriaeth sy’n bwysig iddi yw ceisio lleihau digartrefedd ac mae Shan wedi treialu nifer o fentrau gan gynnwys arwain yr awdurdod lleol cyntaf a landlord cymdeithasol yng Nghymru i beilota’r model cymorth Tai Cyntaf yn llwyddiannus.

Mae Shan hefyd wedi bod yn ganolog i ddatblygiad y cynllun lliniaru i leihau effeithiau posibl adeiladu’r pwerdy niwclear newydd, Wylfa Newydd, ar boblogaeth Ynys Môn a’r farchnad dai lleol. Bu’n gweithio gyda chydweithwyr o’r Cyngor, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a Llywodraeth Cymru.

Yn ei hamser hamdden, mae Shan yn mwynhau: “ymlacio trwy gerdded y cŵn a helpu ar fferm y teulu ym Mhenrhyn Llŷn.”

Yn ôl Dafydd Lewis, Cadeirydd Grŵp Cynefin: “Dwi’n falch iawn o groesawu Shan Lloyd Williams fel Prif Weithredwr newydd Grŵp Cynefin. Mae ganddi gefndir llwyddiannus mewn nifer o swyddi uwch reoli a strategaeth tai, a daw â chyfoeth o brofiad, sgiliau ac arweinyddiaeth atom i Grŵp Cynefin. Mae’r Bwrdd yn hyderus y bydd Shan yn ein harwain at lwyddiant pellach yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”

Cyfarwyddwr newydd yn awyddus i gynorthwyo cymunedau gogledd Cymru

“Mae apêl bendant i’r swydd, gan bod datblygu tai, cefnogi cymunedau gwledig Cymreig a cynorthwyo i wella bywydau pobl yn egwyddorion sy’n bwysig i mi. Mae elfennau o’r gwaith yn mynd a fi nôl i wreiddiau fy mhroffesiwn fel pensaer.

“Mae egwyddorion Grŵp Cynefin yn gryf, mae’r gymdeithas yn awyddus i adeiladu tai, ond i wneud llawer mwy na hynny. Fel bachgen a gafodd ei fagu mewn ardal wledig yng ngogledd Powys, mae’r pwysigrwydd o ddatblygu cymunedau gwledig, helpu pobl ar lawr gwlad, gwella ansawdd bywydau pobl, hyrwyddo’r Gymraeg ag ati yn bwysig i mi.

“Dwi’n edrych ymlaen at yr her, dod i adnabod y tîm a dechrau ar y gwaith o arwain criw diwyd o bobl yn y rôl.”

Dyw arwain tîm a chydweithio ddim yn ddieithr i Dylan, gan ei fod wedi treulio deg mlynedd yn gweithio i Brifysgol Bangor. Mae’n gadael ei rôl fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo a Champws y Brifysgol lle bu’n gyfrifol am 130 o gydweithwyr, rheoli datblygiadau newydd yn cynnwys canolfan arloesol Pontio ym Mangor ac am gynnal a chadw ystâd y Brifysgol.

Mae ganddo brofiad eang hefyd o weithio yn y sector gyhoeddus. Bu’n Gyfarwyddwr Ystadau i Wasanaeth Iechyd Siroedd Conwy a Dinbych a chyn hynny bu’n gweithio i lywodraeth leol yng Nghonwy a Gwynedd. Un o brosiectau pwysig y bu’n gweitho arni yn ystod ei gyfnod gyda Chyngor Sir Conwy oedd cydweithio ar brosiect i adeiladu tair ysgol uwchradd newydd yn y sir ar gost o dros £40m.

Bydd yn olynu Rhys Dafis o Lansannan sy’n ymddeol o’i swydd gyda Grŵp Cynefin wedi saith mlynedd yn y rôl.

Yn ôl Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae ein diolch i Rhys Dafis am ei waith a’i ymroddiad dros y blynyddoedd yn fawr. Wrth ffarwelio â Rhys, dyma estyn croeso i Dylan Roberts atom i’r tîm. Edrychwn ymlaen at gydweithio ag ef, gan ddwyn ar ei brofiad helaeth o weithio ym maes addysg bellach ac mewn llywodraeth leol. Mae’r Bwrdd Rheoli a’r Tîm Arweinyddiaeth yn ymfalchïo yn ei apwyntiad ac yn ei groesawu’n gynnes atom.”

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai elusennol sy’n gweithio ar draws chwe sir gogledd Cymru yn ogystal â gogledd Powys, gan ddarparu mwy na 4,500 o gartrefi i deuluoedd ac unigolion ar draws y rhanbarth.

Marc yn gweithio gyda’r sêr ar set ffilm yn Eryri

Cafodd Marc Dairdeas, 52, o Flaenau Ffestiniog, Gwynedd y cyfle i weithio efo Ffilm Cymru fel rhan o’r cynllun Troed yn y Drws er mwyn ennill sgiliau gwerthfawr ar set ddrama newydd sydd wedi ei ffilmio yn Eryri. Caiff y gyfres, Craith ei darlledu ar S4C nos Sul, 7 Ionawr am 9 yr hwyr.

Craith, drama deledu gyffrous newydd, yw’r gyfres deledu Gymraeg a Saesneg ddiweddaraf i’w chreu gan wneuthurwyr y gyfres lwyddiannus Y Gwyll a Hinterland.

Cefnogodd Grŵp Cynefin brosiect Ffilm Cymru trwy roi’r cyfle i wyth o bobl ddi-waith o bob oed sy’n byw yng ngogledd Cymru y cyfle i gymryd rhan yn y fenter hon dros gyfnod o bythefnos, mewn partneriaeth â’r cwmni cynhyrchu o Cymreig, Severn Screen.

“Dwi wedi cael profiad anhygoel, diolch i gefnogaeth Grŵp Cynefin,” eglurodd Marc, a weithiodd fel Grip yn ystod ei brofiad ffilmio.

“Ron i’n ansicr ar y dechrau beth oedd natur y gwaith, ond ar ôl wythnos o hyfforddiant, ces fy rhoi yn rôl y Grip, lle’r oedd gofyn i mi gynnig cefnogaeth camera i’r person camera, gan weithio efo offer fel dolly a chraen. Fe weithiais yn agos â’r Cyfarwyddwr a’r adran drydanol.

“Pan ddaeth yr wythnos hyfforddiant i ben, sylweddolais pa mor bwysig oedd fy rôl wrth ffilmio’r gyfres. Ac roeddwn wrth fy modd ar ddiwedd yr wythnos o ffilmio yn Eryri, wrth i’r Cyfarwyddwr ddod atai i ysgwyd fy llaw a diolch i mi am fy nghymorth a’m gwaith. Mi fwynheais y profiad yn fawr, er bod yr oriau’n hir a’r gwaith yn gofyn am ganolbwyntio manwl.

“Roedd rhaid i ni arwyddo cytundeb cyfrinachedd cyn i’r ffilmio gychwyn felly allai ddim datgelu unrhyw fanylion am y ffilm! Yr unig beth allai ddweud ydi ein bod ni wedi treulio diwrnod cyfan yn ffilmio un olygfa gwffio ganol yr wythnos, ac wedi oriau ac oriau o waith caled, ces wybod y bydd yr olygfa gyfan ddim ond yn glip 40 eiliad yn y gyfres! Mae lefel y gwaith a’r sgil wrth ffilmio cyfres fel Craith yn anhygoel a heb gefnogaeth Grŵp Cynefin, fyddwn i fyth wedi cael y cyfle,” ychwanegodd Marc Dairdeas.

Yn ôl Mair Edwards, Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Roedd hwn yn gyfle gwych i bobl ennill profiad gwerthfawr a tharo golwg ar yrfa bosib o fewn y diwydiannau creadigol. Dwi’n hynod falch bod Marc wedi cael cynnig dwy swydd yn dilyn ei gyfraniad i’r gwaith ffilmio yma. Mae’n profi bod cynnig cyfleoedd, cefnogaeth a chysylltiadau defnyddiol i bobl yn agor drysau.

“Mae Grŵp Cynefin yn falch o’i ymrwymiad i ddatblygu cymunedau cynaliadwy, creu cyfleoedd i bobl a chynnig mwy na thai i drigolion. Rydym yn edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur yr wyth cyfranogwr pan gaiff y gyfres ei darlledu ar ein sgriniau teledu yn fuan iawn.” meddai Mair Edwards.

Cefnogir Troed yn y Drws gan Gronfa Partneriaeth Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig a Chronfa Sgiliau Ffilm Creative Skillset gyda chronfeydd Loteri Genedlaethol Film Forever Sefydliad Ffilm Prydain.

Cartrefi newydd Sir Ddinbych yn cyrraedd galw lleol am dai o safon

Yn ddiweddar, ymwelodd cynrychiolwyr cymdeithas dai Grŵp Cynefin a chynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych â‘r tenantiaid newydd yn eu cartrefi newydd yn Llys Brân a Threm yr Orsaf yn Llangollen, Sir Ddinbych.

Buddsoddwyd £1.2 miliwn yng nghyn safle’r ysbyty yn y dref i greu’r cartrefi newydd.

“Rydym yn awyddus i geisio digoni’r galw sydd yn lleol am dai yn ein datblygiadau newydd,” eglurodd Rhiannon Dafydd o Grŵp Cynefin. “Mae ein polisi gosod lleol yn golygu bod amodau llym ynghylch pwy sy’n gallu gwneud cais am gartrefi newydd, gan roi pobl sydd wedi byw a gweithio yn yr ardal am o leiaf pum mlynedd yn flaenoriaeth gyda’n cartrefi newydd.

“Rydym yn ddiolchgar i’r tenantiaid newydd am ganiatáu i ni ymweld â‘r safle ac am roi’r cyfle i ni weld drosom ein hunain y gwaith caled a’r ymdrech sydd wedi mynd i ddatblygu safle’r hen ysbyty dros nifer o fisoedd. Mae’r chwe chartref newydd a’r chwe fflat o safon i bobl leol yn werth i’w gweld,” esboniodd Y Cynghorydd Tony Thomas, yr aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Dai yn Sir Ddinbych.

Cyn datblygu’r safle, datblygwyd adeilad arbennig ar gyfer ystlumod er mwyn diogelu cytref o ystlumod pipistrelle soprano cyn i’r gwaith fynd rhagddo. Mae’r ystlumod wedi ymgartrefu’n hwylus yn eu cartref newydd, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio fel adeilad storio cymunedol ar gyfer y tenantiaid newydd.

“Datblygu cartrefi o ansawdd sy’n gost-effeithlon ydi’n bwriad fel un o’r prif gymdeithasau tai yng ngogledd Cymru,” meddai Rhiannon Dafydd o Grŵp Cynefin.

“Dwi wrth fy modd bod y tenantiaid newydd yn Llangollen wedi profi hyn - cartrefi cynnes a chyfforddus sy’n sicrhau y gallant barhau i fyw a gweithio yma yn eu hardal leol.”

Swyddfa ardal newydd yn cynyddu buddsoddiad tref Dinbych i £15.2m

Mynychwyd seremoni i nodi agoriad swyddogol swyddfa ardal newydd y gymdeithas dai, Tŷ John Glyn, ar Stryd y Dyffryn, Dinbych.

Mae’r datblygiad yn nodi cwblhau buddsoddiad o £3m a sicrhau 80 o swyddi yng nghanol y dref.

Penderfynodd Grŵp Cynefin fuddsoddi a lleoli ei hun yng nghanol Dinbych, yn hytrach nag mewn lleoliad y tu allan i’r dref, fel y gallai barhau i ddarparu ei wasanaethau yn y dref. Mae’r penderfyniad hefyd yn sicrhau bod ei staff yn parhau i gefnogi siopau a gwasanaethau lleol.

Tŷ John Glyn yw’r trydydd datblygiad mawr yn y dref gan Grŵp Cynefin.

Mae hefyd yn buddsoddi £10m ar 70 o fflatiau gofal ychwanegol ar safle hen Ysgol Lôn Ganol, ac yn ddiweddar adeiladwyd HWB Dinbych, gwerth £2.2m, ar Ffordd Smithfield, i ddarparu cyfleoedd addysg a chyflogaeth i bobl ifanc a gwasanaethau cefnogi i drigolion eraill ardal Dinbych.

Mae’r swyddfa ardal tair llawr wedi’i ddylunio i gyrraedd safon ‘ardderchog’ BREEAM, sy’n asesu defnydd deunyddiau adeiladu a defnydd ynni a dŵr i sicrhau bod yr adeilad yn amgylcheddol gynaliadwy.

Yn ôl Bryn Ellis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes Grŵp Cynefin: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac yn benderfyniad strategol a wnaed i gefnogi canol tref Dinbych. Er y byddai’n haws i ni fod wedi mynd i barc busnes, rydym yn cadw swyddi yng nghanol y dref, ac yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid lle maen nhw eu hangen yn lleol.

“Mae’r staff wedi aros yn amyneddgar i symud i’r adeilad newydd. Mae’n wych gallu cynnig amgylchedd waith cyfoes a chyfforddus i’r staff.

“Mae gan y swyddfa ystafelloedd cyfarfod modern a chyfleus lle gall tenantiaid gyfarfod â staff mewn cyfleusterau preifat ac ystafelloedd ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol. Mae Grŵp Cynefin wedi buddsoddi ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r datblygiad wedi’i enwi ar ôl y diweddar John Glyn Jones, un o bencampwyr blaenllaw y sector dai yng Nghymru.

Yn frodor o Ddinbych, ef oedd gweithiwr cyflogedig cyntaf y gymdeithas cyn datblygu i fod yn brif weithredwr, Cymdeithas Tai Clwyd, a unodd yn ddiweddarach gyda Thai Eryri i greu Grŵp Cynefin.

Pensaerniwyr Creu o Ddinbych ddyluniodd yr adeilad, gyda chwmni R L Davies o Fae Colwyn yng ngofal yr adeiladu.

Roedd staff Grŵp Cynefin wedi eu lleoli mewn dwy swyddfa ar wahân o amgylch Dinbych cyn symud i’r swyddfa newydd. Mae Tŷ John Glyn yn un o bedair swyddfa ardal i Grŵp Cynefin, gyda’r lleill wedi eu lleoli ym Mhenygroes a’r Bala yng Ngwynedd, a Llangefni, Ynys Môn.

Yn ôl Manon Glyn, merch John Glyn Jones, a fynychodd yr agoriad, ar ran y teulu: “Mae hi’n fraint ac yn anrhydedd cael bod yma gyda’r teulu i nodi’r garreg filltir arbennig yma gyda thîm Grŵp Cynefin. Roedd dad yn ymfalchïo yn yr hyn gyflawnodd Tai Clwyd dros y blynyddoedd, a fo fyddai’r cyntaf i bwysleisio maint cyfraniadau pob un o’r gweithwyr a’u cefnogaeth i feithrin Tai Clwyd o’r dyddiau cyntaf mewn stafell fechan ar dop y dref. Byddai hefyd yn hynod o falch fod Grŵp Cynefin wedi llwyddo i gadw’r swyddfa newydd, nid yn unig yn Ninbych, ond yng nghanol y dref, gyda’r bobl a’r busnesau lleol.”

Cyfle i bobl ddi-waith ddysgu sgiliau ar set ffilm, gyda chymorth Grŵp Cynefin

Gall unrhyw un dros 18 oed, nad yw mewn gwaith nac addysg, wneud cais i dreulio pythefnos ar y cynllun rhad ac am ddim. Fe’i trefnir gan Ffilm Cymru Wales mewn partneriaeth â chwmni cynhyrchu Cymreig Severn Screen a chymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Os oes gennych ddiddordeb, rhaid ichi gofrestru ar lein a llenwi a dychwelyd ffurflen gais erbyn 27 Hydref.

Bydd Grŵp Cynefin yn cynnig help i dalu costau teithio, bwyd neu ddillad i’r ymgeiswyr llwyddiannus. Bydd hefyd yn talu costau llogi stafelloedd ar gyfer y gwaith recriwtio a hyfforddi.

Enw’r gyfres thriller yw Craith. Mae’n cael ei pharatoi yn y Gymraeg a’r Saesneg gan y cwmni a oedd yn gyfrifol am Hinterland. Bydd y gwaith ffilmio’n digwydd yng Ngogledd Cymru ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr.

Mae deg lle hyfforddi ar gael ar y cynllun.

Dewiswyd Grŵp Cynefin gan Ffilm Cymru Wales er mwyn iddynt gynnig cyfleoedd i’w tenantiaid a defnyddwyr gwasanaeth yn ogystal â’r gymuned ehangach.

Bydd swyddogion Grŵp Cynefin ar gael i helpu pobl i fynegi diddordeb, a’u cefnogi wrth iddynt baratoi i gymryd rhan yn yr hyfforddiant.

Meddai rheolwr mentrau cymunedol Grŵp Cynefin, Mair Edwards: “Mae hwn yn gyfle rhagorol i ennill profiad a allai arwain at yrfa yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt. Llwyddodd rhai o’r bobl a fu ar y cynllun peilot i gael gwaith yn y diwydiant ffilm a theledu, ac mewn sectorau eraill.

“Rydym yn cefnogi cynllun Troed yn y Drws fel rhan o’n hymrwymiad i ddatblygu cymunedau cynaliadwy a chreu cyfleoedd trwy gynnig llawer mwy na thai.

“Bydd y cyfleoedd yn agored i bobl o bob oed. Y cam cyntaf yw cofrestru eich diddordeb ar wefan Ffilm Cymru Wales.”

Trefnwyd cynllun peilot Troed yn y Drws gan Ffilm Cymru Wales yn Ebrill 2017. Yno bu unigolion o Gasnewydd a Chaerffili yn gweithio ochr yn ochr â’r sêr Hollywood Michael Sheen (The Queen, The Twilight Saga) a Dan Stevens (Beauty and the Beast, Downton Abbey) ar set Apostle, ffilm gyffro nesaf y cyfarwyddwr Gareth Evans a oedd yn gyfrifol am The Raid.

Mae manylion llawn a ffurflenni cais ar lein i’w cael yn

http://www.ffilmcymruwales.com/index.php/cy/dysgu/troed-yn-y-drws

Cefnogir Troed yn y Drws gan Gronfa Bartneriaeth Ymddiriedolaeth Darlledu Cymru, Cronfa Sgiliau Ffilm Creative Skillset a chronfeydd Loteri Genedlaethol Film Forever y BFI.

Merch a oroesodd drais yn y cartref yn diolch i Gorwel am eu cymorth ‘anhygoel’

Y lloches sy’n cael ei rhedeg gan Gorwel oedd yr unig un allan o 323 yn y Deyrnas Unedig oedd yn fodlon ei derbyn.

Yn awr mae’r ddioddefwraig, a helpwyd gan Gorwel trwy gydol ei arhosiad saith mis, ei hun wedi dechrau gweithio i gefnogi eraill a ddioddefodd drais yn y cartref.

Penderfynodd adrodd ei hanes er mwyn diolch i staff Gorwel ac annog dioddefwyr eraill i ofyn am gymorth. Gwnaeth hynny ar yr amod nad oedd ei henw’n cael ei ddatgelu.

Mae Gorwel yn cynnig amrediad o wasanaethau cefnogi i bobl hŷn, dioddefwyr trais yn y cartref a phobl sy’n wynebu digartrefedd.

Wedi ei sefydlu yn 2006 fel uned fusnes o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin, yn ddiweddar unodd Gorwel gyda Gwasanaeth Trais yn y Cartref De Gwynedd.

Mae gwasanaethau Gorwel yn helpu 500 o bobl fregus bob wythnos gyda 54 o staff ymroddedig.

Siaradodd y ferch a lwyddodd i oresgyn trais yn y cartref am ei phrofiad mewn cyfarfod lle cafodd y gwasanaeth ei ail-lansio ar ei newydd wedd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd.

Bu’n byw yn y Deyrnas Unedig am dair blynedd ar ôl dod yma o Rwsia.

Meddai: “Gweithiais i gwmni llongau mordeithiau moethus am saith mlynedd fel crwpier-ariannwr yn y casino, ac fel tywysydd teithiau.

“Roedd yn benderfyniad mawr imi roi heibio swydd gyfforddus, teulu a ffrindiau a symud i fyw i wlad arall i ymuno â’m cariad.

“Roedd fy mhartner yn berson arbennig o hudolus a charismataidd. Fe’m perswadiodd nad oedd raid imi weithio mwyach. Dywedodd y byddai ef yn darparu drosof a gadael imi fyw fel tywysoges. Credais y byddai’n cynnig gofal ond fy rheoli a wnaeth mewn gwirionedd.”

Ychwanegodd:

“Trodd fy mywyd teuluol yn hunllef llawn sarhad, camdriniaeth, cyfyngu a gwahardd. Es yn fwy a mwy dryslyd a digalon.”

Wedi 18 mis, trodd geiriau cas ei phartner yn gamdriniaeth corfforol. Yn y diwedd, rhedodd i ffwrdd, heb ddim ond bag bach ac £8 yn ei phoced.

Meddai: “Treuliais saith mis yn y lloches lle cefais fy amgylchynnu gan dîm o bobl garedig, gofalgar a phroffesiynol. Roedd fy ngweithwyr cefnogi yn anhygoel o dda yn fy helpu’n emosiynol, yn feddyliol ac yn ariannol.

“Gyda’n gilydd, llwyddom i ddatrys llawer o anawsterau wrth ddelio a’m statws mewnfudo, fy sefydlogrwydd ariannol, fy iechyd corfforol ac emosiynol a’m hangen am gartref newydd.

“Cefais gymorth cwnsela ac, yn bwysicach na dim, gwnes ffrindiau newydd.

“Dymunaf ddiolch i bob un ohonoch a’m helpodd i ddechrau bywyd newydd.”

Meddai Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Grŵp Cynefin, Carina Roberts:

“Mae Gorwel wedi hen arfer gweithio gydag asiantaethau partner yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych i gynnig cymorth arbenigol i bobl hŷn, plant a phobl ifanc, ac unigolion sydd eisiau help gyda’u hanghenion tai.

“Buom yn cydweithio’n agos gyda Gwasanaeth Trais yn y Cartref De Gwynedd ers llawer o flynyddoedd. Felly mae iddynt uno gyda Gorwel yn ddatblygiad synhwyrol dros ben.

“Yr hysbyseb orau bosibl i’n gwaith yw derbyn canmoliaeth gan y rhai sy’n derbyn ein gwasanaeth. Gobeithio y bydd stori lwyddiannus hon yn annog pobl eraill a allai gael budd o wasanaethau Gorwel i ddod atom am gymorth.”

Nid oedd gan y person yma’r hawl i aros yn y Deyrnas Unedig. Gorwel oedd yr unig ddarparwr a gytunodd i gynnig lloches a gweithio gyda hi i gael y gwaith papur angenrheidiol iddi fedru aros.

Mae hi bellach yn byw yng ngogledd Cymru ac yn gwirfoddoli mewn siop elusen. Mae’n chwilio am waith cyflogedig ac yn dechrau’r broses o gymhwyso i weithio fel gwirfoddolwr Cymorth i Ferched.

Caniatâd i ddymchwel hen adeiladau ysgol yn Lon Ganol, Dinbych

Meddai Rhys Dafis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin “Cafwyd caniatâd cynllunio llawn i’r cynllun 70 fflat, gwerth dros £10m, yn Chwefror 2017, ac rydym yn falch iawn ein bod nawr yn gallu cychwyn ar y gwaith o ddymchwel a chlirio’r safle’n ofalus, er mwyn paratoi ar gyfer cyfnod nesaf y datblygiad.

“Serch hynny, rydym yn cydnabod arwyddocâd hanesyddol yr ysgol wreiddiol i dreftadaeth Dinbych. Byddwn felly yn gweithio gyda phartneriaid lleol megis Amgueddfa Dinbych i sicrhau fod cerrig coffaol a nodweddion arwyddocaol eraill o’r adeilad yn cael eu cadw’n ddiogel a’u lleoli mewn man cyhoeddus gyda bwrdd gwybodaeth.

Hoffem ddiolch i Cyngor Sir Ddinbych am eu cefnogaeth i sicrhau fod y cynllun tai yma’n mynd yn ei flaen.”

Meddai’r Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Cabinet ar gyfer Lles ac Annibyniaeth: “Mae cynlluniau tai gofal ychwanegol wedi dod yn boblogaidd iawn yn Sir Ddinbych ac ar draws Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn cael eu cynllunio a’u hadeiladu’n ofalus i ddarparu ar gyfer anghenion pobl hŷn a bregus. Mae’r cartrefi hynny’n gyfforddus, croesawgar a diogel er mwyn galluogi pobl i barhau i fyw’n annibynnol, ond gyda’r sicrwydd ychwanegol fod cymorth a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd, pe bae angen.”

“Mae’r cynllun yn Pentre Canol yn anelu i ddarparu gwasanaeth gofal ychwanegol o’r safon uchaf ar gyfer trigolion Dinbych a’r cymunedau cyfagos; bydd y cyfleusterau hynny yn agos i ganol y dref, ac mae cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus rheolaidd i mewn ac allan o’r dref.”

“Mae’r penderfyniad yma’n nodi carreg filltir sylweddol arall yn y datblygiad o gynlluniau gofal ychwanegol yn Sir Ddinbych.”

Gwobr genedlaethol i ferch ifanc o Sir Ddinbych a fu’n ddigartref

Chloe Thomas, 19, o Ddinbych, a enwyd yn Denant Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyfranogiad Tenantiaid Cymru 2017.

Mae’r ferch sy’n ei harddegau wedi gwyrdroi ei sefyllfa bersonol ac wedi setlo i mewn i gartref newydd ar ôl derbyn cefnogaeth i ail-adeiladu ei bywyd gan Gorwel yn Yr Hafod.

Mae’r Hafod yn brosiect tai â chymorth dros dro i bobl ifanc ddigartref yn Ninbych gaiff ei redeg gan ddarparwr cymorth mewnol Grŵp Cynefin, sef Gorwel. Mae wedi ei leoli ger Hwb Dinbych sy’n darparu cyfleoedd addysgol a chyflogaeth i bobl Sir Ddinbych.

Diolch i’r gefnogaeth dderbyniodd Chloe yn Yr Hafod a Hwb Dinbych, dysgodd Chloe sgiliau cyllidebu a choginio ac aeth ymlaen i gymhwyso mewn gofal anifeiliaid yn y coleg.

“Ces sioc fawr o glywed i mi ennill y wobr Tenant Ifanc y Flwyddyn,” meddai Chloe.

“Roedd pethau wedi bod yn anodd gartref, ac roedd llawer o straen teuluol ar yr aelwyd, felly yn 16 oed, cefais fy lleoli mewn prosiect tai â chymorth yn Sir y Fflint. Ond cysylltodd fy nhiwtor coleg yn Llaneurgain gyda’m gweithiwr Prosiect Ieuenctid, a phum wythnos yn ddiweddarach, cefais fy nghyfeirio at Yr Hafod.

“Roedd yn gam mawr ymlaen i mi’n bersonol - roeddwn nôl yn fy nhref leol, roeddwn yn agos at fy nhaid, sy’n byw yn Ninbych a ches y gefnogaeth i ddysgu nifer o sgiliau.

“Cefais wersi coginio gan ddysgu sut i baratoi prydau iach blasus. Cefais fy nghynghori sut i ymdrin ag arian yn wythnosol a rhoddwyd cefnogaeth i mi gan y prosiect Bus Stop, sy’n helpu pobl ifanc i ddeall mwy am faterion tai a chyfleoedd tenantiaeth.

“Rwyf bellach mewn gwell lle, ac rydw i wedi gorffen fy nghwrs coleg City & Guilds mewn Gofal Anifeiliaid. Rwy’n gwirfoddoli dwy noson yr wythnos yn yr Hwb, gan gynnig cefnogaeth i’r Gweithwyr Ieuenctid wrth iddynt ymdrin â’r bobl ifanc sy’n mynychu.

“Mae’n debyg bod hyn yn rhan o’r rheswm i mi ennill y wobr. Oherwydd fy mhrofiad i, gallai gynnig golwg ochr arall ar yr hyn sy’n gweithio i bobl ifanc sydd angen cymorth.

“Mae’n dda gallu rhoi rhywbeth yn ôl. Wrth i mi ennill mwy o brofiad o weithio gyda phobl ifanc, rwy’n gobeithio gallaf ddod o hyd i swydd yn gweithio yn y sector yma.”

Mae Chloe, yn y misoedd diwethaf, wedi datblygu cymeriad dychmygol o’r enw Fred, gwrtharwr, sy’n cynnig awgrymiadau a chyngor am faterion dydd i ddydd mewn ffordd ddoniol ac ysgafn. Crëwyd Fred fel rhan o brosiect tai â chymorth y bu Chloe’n ei fynychu gyda Tape, cynllun cymunedol cerddoriaeth a ffilm.

“Roedd rhaid defnyddio Fred yn fy araith wrth dderbyn y wobr,” meddai Chloe. “Mae o wedi bod yn allweddol wrth rannu fy meddyliau gyda sefydliadau sy’n ariannu cynlluniau tai â chymorth.”

Derbyniodd Yr Hafod a’i wasanaethau gydnabyddiaeth hefyd, gan ennill y wobr Cyfranogiad mewn Tai â Chymorth yn seremoni TPAS Cymru.

Mae prosiect tai â chymorth, Yr Hafod, yn cynnig gweithgareddau a chefnogaeth ar y safle ac yn y gymuned i chwech o bobl ifanc 16 i 25 oed

Mae’r Hafod yn eiddo i Grŵp Cynefin ac fe’i rheolir gan ddarparwr cefnogaeth mewnol y gymdeithas dai, Gorwel. Cyllidir y gwaith trwy dîm Cefnogi Pobl Cyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd Catherine Owen o Dîm Atal Digartrefedd Sir Ddinbych: “Hoffwn longyfarch Chloe ar ei llwyddiant. Dyma enghraifft wych o berson ifanc yn Sir Ddinbych yn trawsnewid ei bywyd drwy gyrchu’r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir.

“Mae hon yn stori o lwyddiant ac mi fydd profiadau Chloe, ynghyd â’i hyder a’i sgiliau newydd yn cynnig gobaith ac ysgogiad i bobl ifanc eraill i wireddu eu breuddwydion.”

Dywedodd Osian Elis Cydlynydd Atal Digartrefedd Gorwel: “Rydym wrth ein bodd bod Chloe a’r Hafod wedi cyrraedd adref gyda dwy wobr anhygoel.

“Mae nifer o bobl a sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd ar lawr gwlad i gynnig cefnogaeth i bobl ifanc anghenus, felly derbynnir gwobrau cenedlaethol fel rhain ar ran yr holl unigolion hynny.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio mor galed yn cefnogi pobl ifanc ar draws gogledd Cymru.”

Cynllun arloesol i helpu pobl hŷn barhau i fyw yn eu cartrefi eisoes yn dwyn ffrwyth

Mynychodd drigolion sydd eisoes wedi elwa o’r Prosiect Pobl Hŷn Môn seremoni lansio arbennig yn Neuadd y Dref Llangefni (12 Gorffennaf).

Mae Prosiect Pobl Hŷn Môn yn darparu cefnogaeth ‘hyblyg’ yn y tymor byr, canolig a ac yn yr hir dymor i alluogi pobl hŷn i fyw mor annibynnol ag sy’n bosib.

Rheolir y gwasanaeth newydd, sy’n ymwneud â thai, gan wasanaeth cefnogi Gorwel, ar gyfer Tîm Cefnogi Pobl Cyngor Ynys Môn.

Mae Prosiect Pobl Hŷn Môn ar gael yn rhad ac am ddim i denantiaid cymdeithasol a phreifat, yn ogystal â perchnogion preswyl, dros 55 oed. Ar hyn o bryd, mae tua 400 o drigolion ar yr Ynys yn gymwys ar gyfer y gwasanaethau.

Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys cymorth i: rheoli ôl-ddyledion sy’n deillio o fethu taliadau rhent / morgais neu filiau dŵr a gwresogi; sefydlu cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol neu; rheoli cyllidebau a mynediad i fudd-daliadau lles sy’n ddyledus; ac i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg ac hyfforddiant.

Dyma rai o enghreifftiau o bobl leol sydd eisoes wedi derbyn cymorth gan y gwasanaeth:

  • Unigolyn sydd wedi ail-adeiladu ei fywyd yn dilyn digartrefedd a alcoholiaeth, ond a gafodd 12 mis i ddod o hyd i gartref newydd, yn dilyn marwolaeth ei bartner, perchennog yr eiddo. Cynorthwyodd y gwasanaeth trwy ei helpu i wneud cais am eiddo cyngor a’i gynorthwyo i drefnu llawdriniaeth a fyddai’n gwella ei les. Unwaith bydd wedi dod dros ei lawdriniaeth, mae’n bwriadu cynorthwyo fel gweithiwr gwirfoddol i elusen ar yr Ynys.
  • Person oedrannus sy’n byw ar ei ben ei hun heb deulu gerllaw, sydd bellach â llawer o anghenion iechyd sy’n gysylltiedig a’i oed ac anafiadau a brofodd yn ystod ei ieuenctid. Mae Gorwel wedi ei helpu i wneud cais am a sicrhau Lwfans Gweini, cael mynediad at becyn gofal a gwneud addasiadau i’w gartref gan y gwasanaethau cymdeithasol, a chofrestru ar gyfer gwasanaethau cyfeillio a siopa.
  • Mae unigolyn sydd wedi dioddef salwch difrifol yr un pryd â chwalfa priodasol wedi mynd i ddyled wrth adael biliau heb eu talu. Mae’r gwasanaeth wedi helpu’r person glirio gwaith papur a bentyrrodd dros saith mlynedd, talu biliau a dod allan o’r ddyled yn ogystal â threfnu sefydlu llinell ffôn a chysylltiad i’r rhyngrwyd wnaiff ei alluogi i siopa a bancio ar-lein.

Mae cyfanswm o tua 400 o bobl ar Ynys Môn yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r niferoedd yn debygol o godi’n llawer uwch wrth i gyfartaledd oedran poblogaeth yr ynys godi.

Mae Gorwel yn wasanaeth cefnogi o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, sydd hefyd yn gyfrifol am Dai a Gwasanaethau Cymdeithasol y sir: “Fel awdurdod, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Gorwel i gyflwyno’r Prosiect Pobl Hŷn Môn. Mae’r prosiect eisoes yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau llawer o bobl hŷn.

“Bydd ein partneriaeth yn parhau i ganolbwyntio ar wireddu anghenion tai poblogaeth hŷn Ynys Môn, gan wella ansawdd eu bywydau a sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw’n annibynnol yn eu cartrefi cyn hired â phosib.”

Yn ôl Gwyneth Williams, Rheolwr Gorwel: “Mae ffigurau diweddar yn dangos bod 11,000 o bobl rhwng 60-74 oed a 5,900 o bobl dros 75 oed yn byw yn Ynys Môn. Mae’r ffigurau yn debygol o gynyddu 11% a 33% yn y drefn honno.

“Mae pobl yn byw’n hirach ac yn iachach, ond bydd achosion yn ystod eu bywydau pan y gallant fod angen cefnogaeth a gofal.

“Mae o fudd i bawb i gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol cyn hired â phosib.

“Rydym yn falch bod y Prosiect Pobl Hŷn Môn eisoes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yr ynys.”

I gael gwybodaeth am Brosiect Pobl Hŷn Môn, cysylltwch â Gorwel ar 0300 111 0226 neu e-bostiwch poblhyn@gorwel.org

Cefnogaeth Gymunedol i ardal Porthmadog

Yn ôl Sharon Jones, Arweinydd Cylch Ti a Fi Porthmadog bydd babanod a phlant bach yr ardal yn elwa o dderbyn offer a theganau newydd i’r Cylch, diolch i gyfraniad £500 gan Grŵp Cynefin.

“Roedd hi’n hen bryd i ni fuddsoddi mewn beiciau bach tair olwyn a sgwteri i’r plant bach yn y Cylch, felly mae’n newyddion grêt!” eglurodd Sharon sy’n arwain y Cylch o’r Ganolfan ym Mhorthmadog ers dros 20 mlynedd.

Ymysg y mudiadau eraill sy’n llawenhau o dderbyn cymorth ariannol ar gyfer eu prosiectau, mae Cylch Meithrin Chwilog, papur bro’r Wylan, adnewyddu Parc Gwerin y Coed ym Mhenrhyndeudraeth, gwella ardal chwarae tu allan Gorlan Fach, Tremadog, adnewyddu Cae Chwarae Minffordd a phrynu diffibrilydd i Dalsarnau.

Yn ôl Sharon Jones, Cylch Ti a Fi Porthmadog: “Mae’r esgid yn gwasgu gyda nifer o fudiadau lleol ac yma yn y Cylch Ti a Fi mae niferoedd y plant wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf. Mi aeth pethau’n ddigon anodd a bu raid i ni eistedd i lawr ac ail strwythuro’r amserlen er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir y Cylch Ti a Fi.

“Erbyn hyn mae pethau wedi setlo, ac rydyn ni ar agor bob bore Iau i groesawu rhieni, babanod a phlant bach am ddwy awr o chwarae o 9 tan 11 y bore a chael paned, sgwrs a mwynhau.

“Cawson ni’r newydd da bod Grŵp Cynefin wedi edrych yn ffafriol ar ein cais, felly gallwn ni fuddsoddi mewn offer newydd i’r Cylch. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r gymdeithas dai am yr arian, ac yn edrych ymlaen at ddatblygu cornel arbennig ar gyfer y babanod, gyda theganau meddal a lliwgar i’w diddanu gyda’r arian yn ogystal â’r beiciau a’r sgwteri bach.”

Nepell o leoliad y Cylch Meithrin ar draws y dref, mae datblygiad newydd Hafod y Gest ar gyfer bobl hŷn yr ardal, yn symud yn ei flaen yn hwylus. Mae’r tai gofal ychwanegol yn cael ei ddatblygu gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd i gynnig cartref cyfforddus i bobl hŷn a phobl fregus allu byw’n annibynnol.

Mae’r cynllun gwerth £8.5m yn cynnig llety gofal ychwanegol i bobl hŷn yr ardal gyda 40 o fflatiau un a dwy lofft gyda gofal 24 awr; canolbwynt cymunedol ar gyfer gweithgareddau; ystafelloedd hobïau, ffitrwydd, harddwch a therapi; lolfa a bwyty, ynghyd ag adnoddau cymdeithasol a hamdden. Hefyd bydd gwasanaethau gofal a chefnogi ar gael ar y safle fel bo angen.

Yn ôl Carina Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Grŵp Cynefin: “Mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo yn hwylus ac rydym yn anelu at gwblhau’r gwaith erbyn Gwanwyn 2018.

“Mae’n braf iawn gallu rhyddhau’r arian cymunedol a gytunwyd fel rhan o’r broses gynllunio gychwynnol gyda Cyngor Gwynedd a’r cwmni adeiladu, Anwyl Construction. Mae’n hollbwysig i Grŵp Cynefin gefnogi’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio wrth i waith adeiladu ddigwydd o fewn cymuned. Ein gobaith yw gweld adnodd o’r radd flaenaf yn agored yn fuan ar gyfer bobl hŷn yr ardal, adnodd sy’n cynnig parch ag urddas iddynt ei fwynhau.”

Yn ôl Cynghorydd Gwynedd dros ward Gorllewin Porthmadog, Selwyn Griffiths: “Rwy’n hynod o falch o weld parodrwydd Grŵp Cynefin, sy’n datblygu’r unedau tai gofal ychwanegol Hafod y Gest, i gefnogi gweithgareddau cymunedol lleol yn ariannol.

“Mae’r grwpiau yma’n rhan bwysig o fywyd dyddiol ein cymuned ac mae cefnogaeth fel hyn yn gymorth mawr i sicrhau eu dyfodol. Mewn ychydig fisoedd bydd Hafod y Gest yn dod yn rhan o gymuned Porthmadog ac mae cefnogaeth fel hyn i rannau eraill o’r ardal yn symudiad positif i gydgysylltu gweithgareddau cymunedol.”

Canmol staff gweithgar Grŵp Cynefin am eu hymroddiad

Diolchodd y Prif Weithredwr, Walis George, i’r staff i gyd, sef tîm o 200, pan gyhoeddodd fod Grŵp Cynefin wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn safon ryngwladol sy’n dangos bod sefydliad wedi ymrwymo i roi perfformiad arbennig o dda drwy reoli pobl yn dda.

Mae Grŵp Cynefin, sydd â’i brif swyddfeydd yn Llangefni, Penygroes, Dinbych a’r Bala, yn rheoli dros 3,800 o gartrefi ar rent yn ogystal â 700 o dai ar gyfer y farchnad canolraddol, i bobl na allant brynu cartref addas ar y farchnad agored.

Mae Grŵp Cynefin hefyd yn gyfrifol am fentrau cymdeithasol a phrosiectau cymunedol, gan gynnwys HWB Dinbych sef canolfan fenter i fobl ifanc yn Ninbych; Canolfan Fenter Congl Meinciau ym Motwnnog, Gwynedd; a’r tîm Hwyluswyr Tai Gwledig sydd yn cefnogi ymdrechion cymunedol i ofalu bod mwy o dai ar gael ar gyfer pobl leol.

Cynhaliodd aseswyr Buddsoddwyr mewn Pobl arolwg ar-lein o weithwyr Grŵp Cynefin ac yna cynhaliwyd cyfweliadau gyda sampl o 24 o bobl o bob rhan o’r sefydliad, ynghyd ag is-gadeirydd y bwrdd ac un o’r cyfarwyddwyr.

Bu’r aseswyr yn arsylwi’r staff wrth eu gwaith mewn gwahanol swyddfeydd ac yn gweld sut fath o groeso oedd i’w gael ym mhob swyddfa. Cynhaliwyd ymchwil ar y we er mwyn casglu data o wefan y grŵp, adroddiadau Llywodraeth Cymru a deunydd cyhoeddusrwydd a gwybodaeth i gwsmeriaid.

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn galluogi sefydliadau i feincnodi yn erbyn y goreuon yn y busnes, ar raddfa ryngwladol.

Meddai Paul Devoy, Pennaeth Buddsoddwyr mewn Pobl: “Llongyfarchiadau i Grŵp Cynefin. Mae achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn profi bod y cyflogwr dan sylw yn ardderchog, y gweithle yn well nag mewn mannau eraill a bod ymrwymiad clir i lwyddo. Dylai Grŵp Cynefin fod yn falch iawn o’r hyn y maent wedi’i gyflawni.”

Dywedodd Walis George, prif weithredwr Grŵp Cynefin, wedi iddynt dderbyn y dyfarniad: “Hoffwn ddiolch i bob un o’r gweithwyr. Eu gwaith caled a’u hymroddiad nhw i ofalu am y teuluoedd a’r cymunedau rydym yn eu cefnogi, sy’n gyfrifol bod Grŵp Cynefin yn ei gyfanrwydd wedi ennill yr achrediad hwn.

“Mae pawb yn cytuno yr hoffem yn awr weithio tuag at lefel uwch ac rydym yn anelu am safon aur Buddsoddwyr mewn Pobl, y gallwn ei gyflawni yn 2020 gobeithio.”

Wedi cydweithio agos am dros 25 mlynedd, mae’r garreg filltir sylweddol yma yn golygu mai erbyn hyn, un endid fydd yn gwasanaethu dioddefwyr trais yn y cartref yng Ngwynedd a Môn.

Meddai Carina Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Grŵp Cynefin:

“Mae’n braf iawn heddiw cael croesawu cyn staff Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd yn ffurfiol i Grŵp Cynefin. Hoffwn ddiolch i’r holl staff am eu hymroddiad i sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod heddiw.

Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod ni’n parhau i gynnig cefnogaeth i unigolion sydd angen cymorth. Trwy fod yn rhagweithiol a chreu’r bartneriaeth gref yma, rydym yn gwarchod a chryfhau’r gwasanaeth pwysig yma.”

Robart, 21 a Gwen, 20, yn prynu cartref cyntaf, diolch i bartneriaeth newydd sy’n rhoi hwb i dai gwledig

Mae cymdeithas dai, Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd wedi ffurfio Cynllun Cartrefi Lleol, i ddarparu tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Gwynedd.

Maent yn lansio’r cynllun yn natblygiad newydd Grŵp Cynefin ym Mynytho.

Ac mae’r cwpl cyntaf i elwa wedi canmol y bartneriaeth am eu galluogi i brynu cartref flynyddoedd cyn y gallent, fel arall, fforddio prynu tŷ cyntaf.

Robart Williams, 21 oed, a’i bartner, Gwen Jones, 20, sy’n prynu eu cartref newydd trwy ranberchenogaeth.

Mae Robart yn byw gyda’i rieni ym Mhwllheli, tra bod Gwen yn byw gyda’i theulu ym Mhencaenewydd.

Yn ôl Robart: “Gallwn symud i mewn gyda’n gilydd yn gynt, oherwydd ein bod yn gallu fforddio prynu ein cartref ein hunain drwy’r cynllun yma.

“Grŵp Cynefin sydd berchen rhan o’r eiddo, sy’n gwneud y rhan sy’n weddill yn fforddiadwy i ni brynu.

“Gallwn hefyd barhau i fyw yn lleol. Mae ein tŷ newydd ym Mynytho ddim ond pum munud o leoliad gwaith Gwen, tra mod i’n gweithio yng Nghaernarfon.”

Mae Robart yn dechnegydd i Ymgynghoriaeth Gwynedd tra bod Gwen yn gweithio fel gwarchodwr plant ym Meithrinfa Blagur.

Mae’r datblygiad naw eiddo ym Mynytho bron wedi’i gwblhau a’r datblygiad hwn yw’r cyntaf i’w chynnwys yn y bartneriaeth newydd.

Mae cartrefi newydd ym Mhenygroes, Waunfawr, Bethesda a Llanuwchllyn hefyd yn cael eu hystyried fel rhan o’r cynllun.

O dan y bartneriaeth, bydd datblygiadau yn y dyfodol yn cael eu cynllunio yn unol ag angen lleol am dai.

Mae’r lleoliadau wedi eu dewis oherwydd nad oes cyfleoedd penodol i bobl ifanc sy’n dymuno prynu cartref cyntaf neu rentu eiddo mewn cymunedau gwledig.

Ym Mhenygroes, er enghraifft, mae pris y farchnad ar gyfer prynu cartref yn is na’r gost o adeiladu tŷ.

Mae Grŵp Cynefin yn arbenigo mewn darparu tai fforddiadwy mewn cymunedau gwledig.

Dywedodd y prif weithredwr, Walis George: “Mae pobl ifanc yn benodol yn parhau i gael eu gwasgu o’r farchnad dai leol.

“Diolch i’r bartneriaeth hon, gallant brynu ar y farchnad agored neu ddod o hyd i gartref addas i’w rentu o fewn eu hardal.

“Dylai llai o bobl leol orfod symud i ffwrdd oherwydd na allant fforddio to uwch eu pennau.

“Mewn rhai ardaloedd, mae pobl angen cymorth i brynu cartref, tra mewn ardaloedd eraill, gall rhentu tŷ fod yn well opsiwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai: “Os ydym am sicrhau cynaladwyedd tymor hir o fewn ein cymunedau gwledig, mae’n hanfodol bod teuluoedd ifanc yn cael mynediad at dai addas sy’n eu galluogi i aros yng Ngwynedd.

“Drwy weithio gyda Grŵp Cynefin, byddwn yn gallu cynnig y math o dai mae’r trigolion lleol yn holi amdanynt - tai i’w rhentu, cartrefi i’w prynu a thai rhanberchenogaeth sy’n addas ar gyfer prynwyr tro cyntaf. Mewn rhai achosion efallai mai byngalos fyddai’n fwy addas ar gyfer trigolion hŷn.”

I gofrestru diddordeb, ewch i: www.taiteg.org.uk neu grwpcynefin.org.uk

Rhoi Caniatâd i Gynllun Gofal Ychwanegol ar y Lôn Ganol

Cyflwynwyd y cais gan Grŵp Cynefin, a ddewiswyd gan Sir Ddinbych i lunio cynigion ar gyfer cynllun gofal ychwanegol yn y dref.

Mae’r cais yn cynnwys dymchwel yr adeiladau ysgol presennol ar Lôn Ganol, a chodi 70 o unedau llety ac uned gymunedol.

Bydd y llety yn cynnwys 42 rhandy dwy ystafell wely a 28 rhandy un ystafell wely ar gyfer pobl gydag anghenion gofal ychwanegol a byw â chymorth. Bydd hefyd yn cynnwys gofod byw cymunedol ar gyfer pedwar person sydd angen gofal a chefnogaeth fwy ffurfiol. Bydd cyfleusterau cymunol ar gael yn y prif adeilad gofal ychwanegol a byddant yn cynnwys cyfleusterau arlwyo mewn caffi i gynorthwyo’r rheiny sy’n llai abl i baratoi bwyd ac i roi cyfle i drigolion fwyta gyda’i gilydd.

Meddai Phil Gilroy, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol: “Mae cynlluniau gofal ychwanegol yn boblogaidd iawn yn Sir Ddinbych, gan eu bod yn rhoi cyfle i bobl barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn ogystal â derbyn sicrwydd bod cymorth a chefnogaeth ar gael bob awr o’r dydd.

“Nod cynllun Pentre Canol yw darparu gwasanaeth gofal ychwanegol heb ei ail i drigolion Dinbych a’r fro; mae’r cyfleusterau yn agos at ganol y dref ac mae yna wasanaethau cludiant cyhoeddus ar gael i mewn ac allan o’r dref.

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft dda o waith partneriaeth. Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Grŵp Cynefin i ddatblygu’r cynlluniau yn gyfleuster addas i’r diben sy’n diwallu anghenion pobl hŷn yn ein cymuned. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i ddatblygiad gofal ychwanegol yn Sir Ddinbych.”

Ychwanegodd Rhys Dafis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin: “Rydym wrth ein bodd cael cydweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych ar y gwaith o ail-ddatblygu’r safle hwn, fydd yn ateb y galw am dai ar gyfer pobl hyn yn Ninbych.

“Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r gymuned leol er mwyn sicrhau bod y gymuned yn ehangach yn manteisio ar fudd y cynllun”.

Prosiect cerddoriaeth yn pontio'r cenedlaethau wrth i blant bach a phobl hŷn uno i berfformio

Daeth 18 o bobl hŷn o gynllun gofal ychwanegol Awel y Coleg yn y Bala ynghyd â disgyblion Ysgol Bro Tryweryn, Frongoch, oedd yn amrywio o bedair i saith oed, i gymryd rhan mewn tair sesiwn cerddoriaeth a grëwyd yn arbennig ar eu cyfer. Nod y cynllun oedd mynd i’r afael ag unigrwydd gan ddefnyddio’r celfyddydau.

Pwrpas y prosiect tri mis dan arweiniad cerddorion proffesiynol o Ganolfan Gerdd William Mathias ac a gomisiynwyd i’r gwaith gan Gyngor Gwynedd oedd edrych ar daclo unigrwydd ymysg pobl hŷn sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng Ngwynedd.

Cynhaliwyd sesiynau cyflwyno ar wahân yn yr ysgol ac yn Awel y Coleg ar ddechrau’r prosiect, cyn i’r ddwy genhedlaeth ddod ynghyd i rannu eu doniau cerddorol yng nghyfleuster gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn y Bala.

Treialwyd y prosiect ‘Atgofion ar Gân - Cysylltu Cenedlaethau’ trwy ddefnyddio dulliau amgen o gyrraedd a gweithio gyda phobl hŷn mewn ardaloedd gwledig Gwynedd; Y Bala a Gellilydan ger Blaenau Ffestiniog.

Yn ôl un o’r cyfranogwyr, Helen Margaret Roberts, 82 oed o’r Bala: “Rwyf wedi mwynhau’r sesiynau yn arw, gan ei fod yn uno fy nau ddiléit pennaf - canu a threulio amser gyda phlant.”

Yn ôl Mrs Roberts, y gyn athrawes ysgol gynradd a dreuliodd rhan o’i gyrfa yn addysgu plant bach yn Lerpwl: “Mae wedi bod yn chwa o awyr iach cael canu gyda’r plant, ac wedi dwyn i gof atgofion melys iawn o’m cyfnod yn addysgu plant cynradd.”

Yn ôl Siân Ellis, Uwch Swyddog Pobl Hŷn Grŵp Cynefin: “Yma yn Awel y Coleg, mae ein trigolion yn ffodus o gael ystafelloedd cymunedol, sy’n cynnwys bwyty ac ystafelloedd sy’n addas ar gyfer cynnal gweithgareddau ac ymlacio, yn ogystal â‘u fflatiau preifat a phersonol o fewn y lleoliad.

“Ond mae unigrwydd yn broblem go iawn i lawer o bobl hŷn yng ngogledd Cymru.

“Mae ymateb y plant a’r bobl hŷn yma yn Awel y Coleg dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn anhygoel. Mae wedi bod yn brosiect gwerth chweil, ac rydym yn llongyfarch Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd a Chanolfan Gerdd William Mathias ar eu cynllun arloesol o bontio’r cenedlaethau drwy’r celfyddydau.”

Dywedodd Meinir Llwyd Roberts, o Ganolfan Gerdd William Mathias: “Mae’r prosiect hwn wedi rhoi cyfle gwirioneddol i ni arbrofi gyda chynllun sy’n dod â chenhedlaeth hynaf ac ieuengaf ein cymunedau ynghyd trwy’r celfyddydau. Teimlwn bod y ddwy genhedlaeth wedi cyfoethogi bywydau ei gilydd a braf gweld y naill genhedlaeth yn dysgu oddi wrth y llall ac yn cyd-greu. Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn i’n tiwtoriaid gydweithio efo’r plant a’r bobl hŷn”

Yn ystod y sesiwn olaf ar Fawrth 3, gwahoddwyd ffrindiau, teuluoedd a rhieni i fynychu Awel y Coleg lle’r oedd y trigolion a’r plant yn perfformio rhai o’r caneuon. Roeddent yn cynnwys rhai o’r hen ffefrynnau fel ‘Oes Gafr Eto?’ ‘Holi ac Ici’ a chân arbennig a gyfansoddwyd gan un o diwtoriaid William Mathias, Marie-Claire Howorth.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet y Celfyddydau yng Ngwynedd: “Fel Cyngor, roedden ni’n awyddus i ddatblygu cynllun newydd, dyfeisgar a chyffrous a fuasai’n cynnig dulliau amgen o gyrraedd a gweithio gyda phobl hŷn mewn ardaloedd gwledig.

“Rydyn ni’n falch iawn gyda’r hyn mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi ei gynllunio sef “Atgofion ar Gân - Cysylltu Cenedlaethau” sy’n ceisio cyrraedd pobl hŷn sydd wedi eu hynysu mewn ardaloedd gwledig yng Ngwynedd.

“Mae’r prosiect peilot yma yn mynd i’r afael â’r her o gyrraedd ardaloedd gwledig ym mhle mae bylchau mewn darpariaeth gelfyddydol ynghyd â’r nod o ddarparu cyfleoedd i bobl hŷn. Dros y misoedd diwethaf maent wedi treialu’r cynllun yng nghymunedau Gellilydan a’r Bala a braf oedd gweld ffrwyth llafur y gwaith ar Fawrth y 3ydd.”

Bydd Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd yn uno gyda Gorwel, uned sydd eisoes yn rhan o Grŵp Cynefin. Bydd y gwasanaeth ar y cyd mewn sefyllfa gryfach i gefnogi dioddefwyr trais yn y cartref, pobl ddigartref a phobl hŷn, yn wyneb toriadau gwariant cyhoeddus.

Mae Gorwel a Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd wedi cydweithio’n agos ers dros chwarter canrif, felly mae hanes da o gydweithio.

“Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod ni’n parhau i gynnig cefnogaeth i unigolion sydd angen cymorth yn ardaloedd gwledig gogledd Cymru a’u bod yn gwybod sut i gael gafael arnom,” eglura Carina Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Grŵp Cynefin.

“Trwy fod yn rhagweithiol a chreu partneriaeth gref, rydym yn gwarchod a chryfhau’r gwasanaethau pwysig yma yng nghefn gwlad.”

O fis Mawrth ymlaen bydd Gorwel yn cefnogi merched, dynion a phlant yng Ngwynedd a Môn sy’n dioddef trais yn y cartref i chwilio am loches a chefnogaeth. Bydd hefyd yn cynnig cymorth i geisio atal digartrefedd, trwy gefnogi bobl sengl a theuluoedd yng Ngwynedd ac yn ardal Dinbych sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cefnogi pobl sy’n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl yn Sir Ddinbych. Ac yn Ynys Môn, bydd Gorwel yn darparu cefnogaeth sy’n gysylltiedig â thai i bobl dros 55 oed i fyw mor annibynnol a phosib

Yn ôl Rhian Ellis, Cadeirydd Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd: “Rydym yn ffodus o allu cynnig gwasanaeth rhagorol i unigolion a theuluoedd, oherwydd bod gennym staff profiadol ac ymroddedig. Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’r staff, y byrddau rheoli a’n partneriaid am gydweithio yn hwylus dros gyfnod y trosglwyddo. Rydym yn edrych ymlaen i barhau i gefnogi unigolion yng nghefn gwlad Cymru, fel un tîm cryf yn Gorwel.”

Os ydych angen unrhyw wybodaeth pellach am wasanaethau Gorwel, cysylltwch a Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122.

#gwledig17: Sylw i dai gwledig

Mae Grŵp Cynefin yn rheoli dros 4,500 o gartrefi ar draws Gogledd Cymru, gyda nifer sylweddol o’r rheiny mewn cymunedau gwledig. Yn ystod yr wythnos rydym am roi sylw i rhai o’n datblygiadau tai gwledig diweddaraf, yn ogystal a rhannu esiamplau o’r math o waith rydym yn ei wneud i gefnogi’r cymunedau hynny.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth hefo Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Parc Cenedlaethol Eryri a cymdeithasau tai eraill i gefnogi Hwyluswyr Tai Gwledig yng ngogledd orllewin Cymru. Mae’r Hwyluswyr yn gweithio hefo cymunedau i adnabod yr angen am dai yn lleol, a gweithio i sicrhau fod yr angen yna yn cael ei ddiwallu. Mae rhai o’r prosiectau y byddwn yn rhoi sylw iddynt yn ystod yr wythnos wedi cael eu datblygu o ganlyniad i waith yr Hwyluswyr, yn cynnwys stad o 12 cartref newydd yn Tŷ Croes, cymuned wledig ar Ynys Môn. Wedi i’r angen am gartrefi gael ei adnabod yno, buom yn gweithio hefo Cyngor Ynys Môn i ddod o hyd i dir addas, a cafodd y tir yno ei drosglwyddo i ni fel rhodd gan y Cyngor. Mae gweithio mewn ffyrdd arloesol ac edrych ar fodelau eraill o ariannu cynlluniau yn hanfodol os ydym am sicrhau fod pobl yn gallu parhau i fyw yn y cymunedau gwledig yn lle cawsant eu magu, ac fod yr ardaloedd hynny yn parhau i fod yn gymunedau byw.

Ein nod yw i ddarparu cartrefi o safon, gwasanaethau rhagorol a datblygu cymunedau cynaliadwy lle mae pobl yn dymuno byw. Mae cynnal cymunedau yn aml yn golygu ein bod yn dod yn rhan o brosiectau y tu hwnt i ddarpariaeth o gartrefi fforddiadwy. Er enghraifft, rydym wedi cynnig cefnogaeth yn ddiweddar i grŵp cymunedol yn Cynwyd, ger Corwen sydd yn edrych i brynu’r siop lleol. Heb y sioe, mae trigolion lleol yn dweud y byddant yn gorfod teithio yn bell i gael mynediad at wasanaethau ariannol sylfaenol, ac mae diffyg trafnidiaeth cyhoeddus yn golygu fod y gymuned yn unig. Mewn achosion o’r fath, byddwn yn edrych i weithio hefo’r gymuned i sicrhau fod hyfywedd eu ardal yn cael ei warchod.

Yn Botwnnog, pentref gwledig ar Benrhyn Llŷn, rydym wedi datblygu 12 o gartrefi, yn ogystal a canolfan fenter ar yr un safle, Canolfan Fenter Congl Meinciau. Mae’r ganolfan yn cynnig cyfleon cyflogaeth ar gyfer y pobl sy’n byw yn yr ardal, ac ar yr un pryd yn cynnig cyfleusterau modern i fusnesau, fel eu bod yn gallu rhedeg eu busnes o’u cymuned leol, heb orfod symud eu lleoliad, a swyddi, allan o’r adral. Mae’r ganolfan yn ffynnu, gyda 12 o fusnesau wedi eu lleol yno.

Rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n gwynebu darparwyr cefnogaeth, yng ngwyneb toriadau cyllid a’r costau uchel o fod yn ymgysylltu hefo cymunedau gwledig. Mae Gorwel, darparwr cefnogaeth Grŵp Cynefin, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth hefo Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd ers 2 flynedd i sicrhau gwasanaethau i ddioddefwyr trais yn y cartref mewn ardaloedd gwledig. Rydym nawr yn y broses o ddod a Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd yn rhan o Grŵp Cynefin, er mwyn lleihau costau canolog a gwarchod gwasanaethau rheng flaen.

Mae’r holl waith yma’n rhan o’n nod i ddarparu ‘mwy na tai’, ac adnabod fod creu cymunedau cynaliadwy yn golygu darparu mwy nag adeiladau.

Cofiwch ddilyn y hashnod #gwledig17 am fwy o newyddion ar y llwyddiannau a’r heriau yma yng Nghymru ac ar draws Ewrop.

Dogfennau

  • Astudiaeth Achos: Pant yr Eithin, Harlech: Cartrefi teuluol a tai â chefnogaeth arloesol
  • Astudiaeth Achos: Tai Pendre, Tywyn: 17 o gartrefi i ddiwallu anghenion lleol
  • Astudiaeth Achos: Isfryn, Penrhyndeudraeth: 8 cartref teuluol wedi ei adeiladu i safon ‘Passivhaus’
  • Astudiaeth Achos: Cwrt y Glowyr, Penyffordd: 9 cartref teuluol ynni effeithlon
Cwmni bwyd yn canmol canolfan fenter wledig am gadw swyddi'n lleol

Yn ôl Lynne King fyddai hi byth wedi gallu parhau i dyfu ei hegin fusnes Daffodil Foods, sydd wedi creu cyflogaeth ar gyfer deg o bobl, heb adnoddau Canolfan Fenter Congl Meinciau, Botwnnog ym Mhwllheli.

Yn gyn-gyfarwyddwr masnachol mewn cwmni hufenfa, dechreuodd Lynne ei busnes yn 2011 o’i stafell cadw dillad yn ei chartref ym Morfa Nefyn.

Pan dyfodd Daffodil Foods y tu hwnt i’r gofod, llwyddodd Lynne i gadw’r busnes yn lleol, trwy gymryd gofod yn Nghongl Meinciau.

Mae Daffodil Foods yn cynhyrchu iogwrt, cynnyrch llaeth a phwdinau dan ei brand ei hun ac ar gyfer brandiau’r archfarchnadoedd eu hunain. Ffocws marchnata mawr y cwmni yw tarddiad Cymreig y bwydydd.

Heddiw, mae cynnyrch Daffodil ar gael mewn cadwyni o dafarndai cenedlaethol a phob un o ysbytai Cymru, yn ogystal â Morrisons ac Ocado.

Cymdeithas dai elusennol, Grŵp Cynefin yw perchennog Canolfan Fenter Congl Meinciau a’r gymdeithas dai sydd hefyd yn rhedeg y ganolfan.

Yn ogystal â darparu cartrefi o ansawdd uchel, cenhadaeth Grŵp Cynefin yw creu cymunedau cynaliadwy. Yn achos Congl Meinciau, golyga hyn gefnogi mentrau cynhenid newydd a chreu chyflogaeth i bobl leol, yn ogystal â datblygu 12 o dai i bobl leol ar y safle.

Dywedodd Lynne: “Ro’n i’n ysu am fwy o le. Fy unig ddewis arall oedd adleoli Daffodil Foods i Bwllheli a chymryd gofod uwchben siop, sef rhywbeth nad oeddwn i’n awyddus i’w wneud.

“Mae Congl Meinciau yn adeilad modern hyfryd mewn lleoliad tawel. Mae band eang cyflym yma ac mi allwch barcio am ddim.”

Agorwyd y ganolfan yn 2011, ac mae ystafelloedd cyfarfod ac hyfforddiant yno ynghyd â chyfleusterau swyddfa taro mewn yno. Mae caffi hefyd ar y safle, sy’n ail agor yn fuan wedi i’r busnes newid dwylo.

Mae Daffodil Foods yn un o 27 o gwmnïau gwahanol sydd wedi gweithio o’r ganolfan ers iddi agor yn 2011. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae mwy na 40 o weithwyr wedi eu cyflogi gan y cwmnïau sydd wedi eu lleoli yno, gan gynnwys tri o denantiaid Grŵp Cynefin sy’n byw yn lleol.

Yn ôl rheolwr y Ganolfan, Darren Morley: “Mae Grŵp Cynefin yn ymwneud â mwy na thai. Mae gennym wir ddiddordeb mewn creu cymunedau cynaliadwy, ac rydym mor falch bod Congl Meinciau wedi rhoi’r cyfleusterau i Lynne ehangu’r cwmni heb symud i ffwrdd.”

Daw’r ganmoliaeth fel mae Grŵp Cynefin yn paratoi i nodi Wythnos Tai Gwledig, sy’n rhedeg o’r 23 o Ionawr, sy’n arddangos atebion arloesol cymdeithasau tai ar gyfer cefnogi cymunedau gwledig.

Fel rhan o’r wythnos, bydd Grŵp Cynefin yn agor y drws ar un o’r cartrefi fforddiadwy newydd sydd wedi ei gwblhau ar ddatblygiad newydd, Stad Cornwall ym Mynytho. Bydd pobl leol a darpar brynwyr yn gallu ymweld â’r eiddo, ddydd Gwener 27 o Ionawr.

Grŵp Cynefin yn dathlu buddsoddiad o dros £10m mewn cartrefi gwledig fforddiadwy mewn tair blynedd

Mae cyfanswm o 108 o dai fforddiadwy o safon wedi eu hadeiladu mewn cymunedau gwledig gan Grŵp Cynefin ers ei ffurfio.

I nodi’r garreg filltir, ymunodd cynrychiolwyr Grŵp Cynefin â’i phartneriaid yn ei datblygiad diweddaraf yn Nhŷ Croes, cymuned wledig ar Ynys Môn.

Mae 12 eiddo newydd eu hadeiladu yn Stâd y Felin, Tŷ Croes, yn dilyn gwaith gan Hwyluswyr Tai Gwledig a nodwyd bod angen mwy o gartrefi yno.

Mae’r gymdeithas dai elusennol, a ffurfiwyd ym mis Ebrill 2014, erbyn hyn wedi buddsoddi dros £4 miliwn ar 37 o gartrefi newydd gwledig ar Ynys Môn.

Mae Hwyluswyr Tai Gwledig yn gweithio gan ymchwilio i weld pa gymunedau gwledig sy’n brin o dai a darganfod ffyrdd arloesol i ariannu adeiladu datblygiadau newydd.

Dywedodd Trystan Evans, Grŵp Cynefin: “Yn Nhŷ Croes, unwaith nododd yr Hwylusydd Tai Gwledig bod angen am gartrefi newydd yn yr ardal, buom yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i ddarganfod tir addas.

“Cyflwynwyd y tir i ni gan yr awdurdod lleol fel rhodd, a wnaeth gyfraniad enfawr i ochr ariannol y cynllun.

“Mae gweithio mewn ffyrdd arloesol a nodi modelau ariannu amgen yn hanfodol er mwyn i Grŵp Cynefin sicrhau bod pobl yn gallu aros yn y cymunedau gwledig y maent wedi eu magu ynddynt, a sicrhau bod yr ardaloedd hynny yn parhau i fod yn gymunedau bywiog.

Dywedodd Shan Lloyd Williams, Pennaeth Gwasanaethau Tai, Cyngor Sir Ynys Môn: “Nodwyd yr angen am dai fforddiadwy yn y gymuned wledig hon trwy waith yr Hwylusydd Tai Gwledig, ac arweiniodd hyn at Wasanaethau Tai yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau gwledig i helpu cynnal busnesau a gwasanaethau allweddol. Un ffordd y gallwn ni wneud hyn yw cynnig atebion cynaliadwy i anghenion cartrefi pobl leol. Rydym yn dymuno’r gorau i’r trigolion sydd wedi symud i’r tai newydd ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Trystan Evans, Grŵp Cynefin: “Rydym yn falch ein bod wedi gallu buddsoddi dros £10m hyd yma i adeiladu 108 o gartrefi a helpu cymunedau gwledig yng ngogledd Cymru.”

Nodwyd y garreg filltir gan Grŵp Cynefin fel rhan o Wythnos Tai Gwledig, sy’n dechrau ar y 23 o Ionawr.

Fel rhan o’r wythnos, bydd Grŵp Cynefin yn agor y drws ar un o’r cartrefi fforddiadwy newydd sydd wedi ei gwblhau ar ddatblygiad newydd, Stad Cornwall ym Mynytho. Bydd pobl leol a darpar brynwyr yn gallu ymweld â’r eiddo, ddydd Gwener 27 o Ionawr.

Ar hyn o bryd mae Grŵp Cynefin yn archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu cynlluniau tai fforddiadwy newydd yn: Penygroes, Waunfawr, Rhoshirwaun a Llanuwchllyn yng Ngwynedd yn ogystal â chynllun yn Rhewl, Sir Ddinbych.

Mae’r grŵp yn gweithredu o’i brif leoliadau yn Llangefni, Penygroes, Dinbych a’r Bala, ac mae’n cyflogi cyfwerth â 181 o swyddi llawn amser. Mae’n gweinyddu’r gofrestr tai fforddiadwy ar gyfer pob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru.

Comisiynydd yr Heddlu, Arfon Jones, yn ymweld â chynllun arloesol i gefnogi pobl ifanc yn Ninbych

Cafodd Mr Jones gwmni’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Cydweithio a Phartneriaethau Cyngor Wrecsam ar yr ymweliad, a chawsant gyfle i weld y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi pobl ifanc a’r gymuned ehangach yn Ninbych.

Un o brif amcanion yr HWB yw helpu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) i ennill cymwysterau a mynediad i addysg bellach. Mae’n darparu amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, gan gynnwys clwb ceiswyr swyddi gaiff ei gynnal gan grwpiau cymunedol Cymunedau’n Gyntaf Gogledd Sir Ddinbych, Cymunedau dros Waith a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.

Cafwyd taith o amgylch yr HWB i weld yr ystafell Technoleg Gwybodaeth, yr ystafell ar gyfer gweithgareddau cymunedol a’r pedair ystafell addysgu a ddefnyddir gan Goleg Llandrillo.

Fel rhan o’i ymweliad, cafodd Mr Jones hefyd gyfarfod pobl ifanc sy’n byw yng nghynllun tai â chefnogaeth Yr Hafod, sef llety sydd ynghlwm â’r adeilad, sy’n galluogi pobl ifanc sy’n byw yno i elwa o’r ystod eang o gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu yn yr HWB. Mae’r llety, sydd yn cael ei ariannu drwy gynllun Cefnogi Pobl Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sy’n wynebu digartrefedd.

Meddai Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones:

“Mae Grŵp Cynefin yn gwneud gwaith gwych ar draws Gogledd Cymru. Roeddwn yn falch o weld y gwaith arloesol sy’n cael ei gyflawni yn yr HWB gyda’r bobl ifanc yma i gynnig dyfodol gwell iddynt.

“Mae’r bartneriaeth hefo Coleg Llandrillo yn gweithio’n dda i sicrhau fod gan y bobl ifanc y sgiliau i’w cynorthwyo i ddod o hyd i gyflogaeth.

“Wrth helpu pobl ifanc ddod o hyd i waith, maent hefyd, yn y tymor hir, yn cynorthwyo i leihau troseddu ac ail droseddu, ac felly mae’n ffitio’n dda hefo blaenoriaethau fy nghynllun Heddlu a Throsedd.”

Am fwy o fanylion am HWB Dinbych, cysylltwch ag Ann Davies ar 01745 818485 neu ddilyn @HWB_Dinbych ar Trydar.

Cyhoeddi enw swyddfa newydd Dinbych, Tŷ John Glyn - tysteb i un o hoelion wyth y sector dai yng Nghymru

Mae enwi adeilad newydd £3miliwn y Gymdeithas ar ôl y diweddar annwyl John Glyn Jones, swyddog gyntaf Cymdeithas Tai Clwyd, yn ffordd deilwng o gydnabod ei gyfraniad enfawr i ddatblygiad y sector dai yng Nghymru dros chwarter canrif yn ei rôl fel Prif Weithredwr Tai Clwyd.

Roedd cyfraniad John Glyn Jones i weithgareddau diwylliannol tref Dinbych a thu hwnt hefyd yn enfawr. Trwy ei weledigaeth a’i ymroddiad i ogledd Cymru, tyfodd yn un o hoelion wyth y sector dai yng Nghymru.

Yn ôl Rhys Dafis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin: “Pan gollwyd John Glyn yn llawer rhy fuan llynedd, roedd staff ac aelodau Bwrdd y gymdeithas yn unfrydol y dylem roi enw’r gŵr hynaws hwn ar ein swyddfa newydd, fel coffâd iddo yn nhref Dinbych.

“Unwyd Tai Clwyd a Thai Eryri ddwy flynedd a hanner yn ôl gan ffurfio Grŵp Cynefin, ond mae ffrwyth llafur y blynyddoedd o dan arweiniad John Glyn cyn ymddeol yn 2007 yn parhau. Creodd ysbryd teulu ymhlith y staff, gan ennyn brwdfrydedd ac ymroddiad pawb. Mae’r 80 aelod o staff yn Ninbych yn edrych ymlaen at gerdded drwy ddrws Tŷ John Glyn i’w gweithle yn ystod y misoedd nesaf.”

Ar hyn o bryd mae’r staff wedi’u lleoli mewn tair swyddfa ar wahân yn y dref, ar ôl y penderfyniad i ddymchwel yr hen adeilad a chreu gofod gwaith newydd sbon ar y stryd fawr. Mae swyddfa Dinbych yn un o bedair swyddfa ardal Grŵp Cynefin, gyda’r lleill wedi eu lleoli ym Mhenygroes, Gwynedd, Y Bala a Llangefni.

Cwmni penseiri lleol Creu yw dylunwyr yr adeilad newydd a chwmni R L Davies, Bae Colwyn sy’n brysur yn ei godi. Mae muriau a tho’r adeilad bellach bron yn gyflawn, a bydd y gwaith o ddatblygu’r gofod tu fewn yn bwrw yn ei flaen dros fisoedd y gaeaf. Y bwriad yw cwblhau’r datblygiad erbyn y gwanwyn.

Dywedodd Manon Glyn, merch John Glyn Jones, ar ran y teulu: “Fel teulu da ni’n gwerthfawrogi’n fawr fod gwaith Dad, a’i ymroddiad i’r ardal ac i Gymdeithasau Tai lleol a thrwy Gymru gyfan yn cael ei gofio a’i gydnabod mewn ffordd mor nodedig. Roedd o’n falch iawn o’r hyn gwnaeth Tai Clwyd ei gyflawni, a fo fuasai’r cynta i bwysleisio maint cyfraniadau pob un o’r gweithwyr a’u cefnogaeth i feithrin Tai Clwyd o’r dyddiau cyntaf mewn stafell fechan ar dop y dref. Mi fuasai hefyd wedi ymfalchïo yn y swyddfa ecogyfeillgar newydd a bod pawb eto’n cael cydweithio o dan yr un to. Ond yn fwy na hyn, byddai’n hynod o falch fod Grŵp Cynefin wedi llwyddo i gadw’r swyddfa newydd, nid yn unig yn Ninbych, ond yng nghanol y dref.”

Nodwyd yr angen am swyddfa newydd yn Ninbych nifer o flynyddoedd yn ôl, wrth i’r sefydliad dyfu yn rhy fawr i’r adeilad blaenorol ar Stryd y Dyffryn, ac mae’n golled na chafodd John Glyn fyw i weld gwireddu’r freuddwyd.

“Cartref newydd – ond yr un nod â phan sefydlwyd Tai Clwyd a Thai Eryri ddeugain mlynedd yn ôl, sef darparu tai o ansawdd a chefnogi cymunedau ar draws gogledd Cymru,” ychwanegodd Rhys Dafis.

“Rydym yn falch hefyd ein bod yn cefnogi traddodiadau diwylliannol ac ieithyddol gogledd Cymru drwy ein gweithgareddau. Roedd creu sefydliad sy’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg a darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog yn agos iawn at galon John Glyn, ac mae’n parhau i fod yn un o gonglfeini amcanion busnes Grŵp Cynefin. Gallwch gerdded i mewn i unrhyw un o’n swyddfeydd, a chael gwasanaeth llawn yn y ddwy iaith ym mhob agwedd o’n gwaith. Hir y parhaed hynny.”

Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau a phlant yn canmol Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Canmolodd Carl Sargeant y staff am eu hymroddiad a’u penderfyniad wrth gynorthwyo a galluogi bron i 4,000 o bobl hŷn a bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn y ddwy sir.

Unwyd dwy asiantaeth Conwy a Sir Ddinbych yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2015 gan ffurfio’r asiantaeth newydd Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych newydd gaiff ei reoli gan Y Prif Swyddog, Lynda Colwell.

Mae’r swyddfa newydd yn Llanelwy bellach yn gartref i holl staff yr asiantaeth sy’n gweithio fel un tîm cryf, Maent yn cynnig gwasanaeth ymweld â chartrefi pherchnogion neu denantiaid sydd dros 60 oed, gan ddarparu cyngor ac arweiniad, hwyluso atgyweiriadau yn y cartref, cynnal a chadw, addasiadau yn y cartref a gwasanaethau garddio.

Y nod craidd yw galluogi pobl hŷn neu fregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn ddiogel, yn gysurus ac yn gynnes.

Is-gwmni yw’r asiantaeth o fewn strwythur fwy cymdeithas dai Grŵp Cynefin. Gall Gofal a Thrwsio helpu gyda gwelliannau bychan i’r cartref, addasiadau megis trwsio tap sy’n diferu, gosod ffens yn yr ardd, gosod rheiliau llaw a gosod teclyn diogelwch i allweddi. Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys cyngor ac arweiniad i greu a gosod ystafelloedd ymolchi wedi’u haddasu’n arbennig.

Mae gweithwyr achos a swyddogion technegol ‘archwiliadau cartrefi iach’ hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad i gleientiaid ar beryglon baglu, archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn ogystal â stad gyffredinol yr eiddo a lles y perchnogion tai.

Gall cleientiaid sy’n chwilio am gymorth gysylltu â‘r gwasanaeth drwy ffonio 0300 111 2120.

Wrth sôn am y swyddfa newydd yn Llanelwy, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: “Mae heddiw yn garreg filltir arbennig i Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych wrth iddynt agor ei swyddfa newydd. Trwy gydweithio ac uno’r weinyddiaeth, mae’r asiantaeth bellach yn sicrhau bod mwy o arian yn canolbwyntio ar wasanaethau rheng flaen fel ei bod yn helpu mwy o bobl i aros yn eu cartrefi. Rwy’n llongyfarch y tîm am yr hyn maent wedi ei gyflawni hyd yn hyn ac yn dymuno pob llwyddiant yn y gwaith i’r dyfodol.

Yn ôl Gwynne Jones, Cadeirydd Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych: “Rydym yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant a phartneriaid yr asiantaeth i agoriad swyddogol ein swyddfa newydd. Mae ein hethos wedi ei seilio ar wasanaeth sy’n canolbwyntio ar y cleient, gan ymateb i broblem neu’r angen i sicrhau ‘Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd’ ar gyfer ein cwsmeriaid.

“Mae’r swyddfeydd newydd yn dod a’n holl staff ynghyd o dan un to, gan eu galluogi i gyflawni’r ethos hwnnw. Wrth uno ein hadnoddau ac ennill mwy o arbenigedd a chefnogaeth gan Grŵp Cynefin, ein rhiant-gwmni, mae’n gam tuag at sicrhau cyflawni mwy am lai.

“Mae ein partneriaethau lleol, ynghyd â‘n dyheadau i ddatblygu ffyrdd o greu incwm pellach a datblygu cyfleoedd menter gymdeithasol yn golygu ein bod yn ail-fuddsoddi yn ein gwasanaethau rheng flaen, gan gefnogi poblogaeth sy’n heneiddio.”

Yn ystod yr agoriad swyddogol, rhannodd yr asiantaeth ei gweledigaeth gyda’i phartneriaid sef canolbwyntio ar ei gwasanaeth craidd o gefnogi perchnogion tai a thenantiaid preifat dros 60 oed i barhau i fyw yn annibynnol mewn cartrefi diogel, cyfforddus a chynnes yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Yn ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet yn y lansiad roedd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, timau Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Conwy a Sir Ddinbych , Grŵp Cynefin, Canllaw (Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn) Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain ynghyd â staff ag aelodau o Fwrdd Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.

Sied nwyddau i’w throi’n ganolfan fenter ymwelwyr yn dathlu ennill £1.1m o arian loteri

Mae trigolion Gallt Melyd yn dathlu heddiw wedi’r cyhoeddiad gan y Gronfa Loteri Fawr eu bod wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn eu cais i drawsnewid hen sied nwyddau rheilffordd rhestredig Gradd 2 yn ased cymunedol.

Wedi’i leoli ar ffordd brysur o Brestatyn i Ddyserth, cofnodwyd bod mwy na 60,000 o gerddwyr a beicwyr wedi mynd heibio i’r adeilad yn ystod 2015.

Bydd Y Sied yn cael ei drawsnewid i fod yn gaffi ar gyfer 100 o bobl ac yn ganolfan dreftadaeth sy’n cyflwyno hanes y pentref a’r diwydiannau mwyngloddio a chwareli lleol mewn dau dwnnel amser. Bydd cyfleusterau eraill hefyd ar y safle gan gynnwys gwasanaeth llogi beiciau i deuluoedd, rhandiroedd a pherllan.

Bydd y ganolfan hefyd yn cynnwys dwy uned ar gyfer busnesau bychain a gweithdai crefft a gaiff eu dylunio fel bod ymwelwyr yn gallu gwylio’r crefftwyr wrth eu gwaith. Bydd siop gymunedol hefyd ar y safle i alluogi crefftwyr bach i hyrwyddo a gwerthu eu nwyddau.

Cyflwynwyd y cais loteri gan gymdeithas tai elusennol, Grŵp Cynefin.

Yn ôl Rheolwr Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin, Mair Edwards: “Mae’r prosiect heddiw yn cymryd cam pwysig ymlaen ac rydym wrth ein bodd bod y Loteri wedi penderfynu cefnogi ein prosiect ni. Unwaith y bydd arian cyfatebol yn ei le rydym yn disgwyl y bydd y gwaith datblygu yn dechrau yn ystod y Pasg 2017.

“Bydd y Sied yn darparu cyfleoedd cyflogaeth, gwirfoddoli ac addysgol gwerthfawr, yn ogystal â gwarchod treftadaeth Gallt Melyd.

“Bydd tîm Grŵp Cynefin yn cefnogi staff y Shed, tenantiaid a gwirfoddolwyr, wrthi i’r fenter dyfu i fod yn adnodd cymunedol cynaliadwy ac atyniad ymwelwyr.

“Dylid llongyfarch cymuned Gallt Melyd am ei dycnwch wrth weithio i adfywio’r adeilad er budd ymwelwyr a’r bobl leol dros y blynyddoedd diwethaf.”

Dywedodd Cynghorydd Sir Ddinbych sy’n cynrychioli trigolion Gallt Melyd, Peter Evans: “Ers cau’r adeilad rhestredig gradd 2, rydym wedi bod â dyheadau i’w datblygu yn ganolfan sy’n ymgorffori treftadaeth gyfoethog Gallt Melyd gan annog ymwelwyr i’r ardal. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi anogaeth wych i ni bod y Loteri wedi rhannu ein gweledigaeth ac yn rhoi’r ffydd ynom i symud ymlaen gyda hyder.”

Gwnaed y prosiect yn bosibl diolch i drosglwyddo asedau rhydd-ddaliad yr adeilad gan Gyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai Cyngor Sir Ddinbych: “Adfer y Sied nwyddau oedd y flaenoriaeth uchaf a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ym Gallt Melyd wrth i ni gynorthwyo yn y gwaith o greu cynllun ardal ar gyfer y pentref.

“Mae’r Cyngor Sir yn falch o fod yn aelod o’r bartneriaeth sydd bellach yn mynd i allu cyflwyno’r prosiect hwn er budd y gymuned leol.”

Mae cadarnhad o’r grant nawr yn galluogi’r bartneriaeth dynnu arian cyfatebol pellach i lawr.

Dywedodd Rob Pickford, aelod o Gronfa Loteri Fawr Cymru a chadeirydd CAT2 y rhaglen bwyllgor: “Mae’r rhaglen yn helpu cymunedau Cymru i fod yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy drwy eu cynorthwyo i dderbyn a datblygu asedau a gwella eu hardaloedd. Drwy helpu i

drosglwyddo asedau i sefydliadau mentrus sydd o fudd i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu, rydym yn y pen draw yn helpu mwy o bobl i elwa o’u hasedau cymunedol lleol, cynhyrchu incwm lleol a chyflogaeth.”

Rheolydd tai fforddiadwy newydd yn gwahodd pobl i gofrestru diddordeb mewn cynlluniau tai fforddiadwy ledled gogledd Cymru

Ac mae Catrin wedi galw ar bobl gaiff eu prisio allan o’r farchnad dai agored, i gysylltu â thîm Grŵp Cynefin i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer eu cynlluniau tai fforddiadwy yn y gogledd.

Grŵp Cynefin sy’n gweinyddu’r gofrestr tai fforddiadwy ar gyfer pob un o’r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru. Mae’r tîm yn gwneud hyn trwy asesu ymgeiswyr sy’n awyddus i ddod o hyd i gartref yn unrhyw un o’r cynlluniau tai fforddiadwy. Maent hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth a chynghori pobl am yr opsiynau tai sydd ar gael iddynt.

Yn ôl Catrin, sy’n gweithio o swyddfeydd Grŵp Cynefin yn Ninbych a Phenygroes:

“Heddiw, mae llawer o ddewisiadau ar gyfer pobl all ei chael hi’n anodd i brynu tŷ am werth llawn y farchnad. Mae’r dewisiadau hyn yn cynnwys rhannu perchnogaeth, prynu cartref a rhannu ecwiti.

“Er enghraifft, gyda rhannu ecwiti, efallai y byddwch yn gweld cartref newydd sy’n werth £220,000 ar y farchnad agored, ond mae eich incwm yn golygu mai dim ond ad-daliadau ar forgais o £110,000 y gallwch ei gwneud. Yn yr achos hwn, gallech brynu 50 y cant o’r eiddo, tra bod Grŵp Cynefin yn cadw’r 50 y cant o werth yr eiddo sy’n weddill. Byddai’r ganran rydych chi’n ei phrynu felly, yn dibynnu ar eich incwm a gofynion y cynllun.

“Mae’r trefniant yn aros felly hyd nes y byddwch yn penderfynu gwerthu, pa faint bynnag o flynyddoedd yn ddiweddarach y bydd hynny. Os byddwch yn penderfynu gwerthu, yna byddai’r eiddo’n cael ei brisio a byddech chi’n derbyn y canran roeddech chi wedi ei gyfrannu’n wreiddiol, yn ddibynnol ar werthiant yr eiddo. Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill ac mae’n golygu bod pobl leol yn cael help llaw i gychwyn ar yr ystol eiddo ledled y gogledd.”

Siaradodd Catrin yn ystod ymweliad â chynllun tai fforddiadwy sy’n agosau at gael ei orffen yn Mynytho ger Pwllheli, Gwynedd.

Ychwanegodd: “Mae’r eiddo tair ystafell wely sydd yma, yn nodweddiadol o gartrefi fforddiadwy modern sy’n cael eu hadeiladu ar gyfer eu gwerthu heddiw. Mae’r nodweddion yn cynnwys cegin fodern llawn offer gyda hob nwy integredig, popty trydan, ffan uwchben y pobty, rhewgell, oergell a pheiriant golchi llestri. Mae pob cartref ag ystafelloedd ymolchi i fyny’r grisiau ac mae ystafell gawod ar y llawr isaf. Bydd ymgeiswyr am y tai yn gallu dewis yr unedau cegin a’r teils eu hunain ar gyfer y lloriau a’r ystafell ymolchi.”

Mae Grŵp Cynefin hefyd yn archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu cynlluniau tai fforddiadwy newydd yn: Penygroes, Waunfawr, Rhoshirwaun a Llanuwchllyn yng Ngwynedd yn ogystal â chynllun yn Rhewl, Sir Ddinbych.

Mae Catrin yn dod â phrofiad helaeth i’w rôl o Gyngor Gwynedd. Bu’n cynnig gwasanaeth tai cefnogol i bobl yng Ngwynedd, rhedeg cynlluniau ar gyfer pobl digartref ac yna bu’n cynorthwyo i ddatblygu strategaeth dai y sir.

Wrth drafod ei swydd newydd yn Grŵp Cynefin, dywedodd: “Mae digon o opsiynau bellach ar gael y tu hwnt i’r model tai cymdeithasol traddodiadol lle rydych yn rhentu eiddo gan gymdeithas dai. Gallwn drafod a dweud wrth bobl yn gyflym pa fath o ddewisiadau sydd ar gael iddynt.

“Mae rhan-berchnogaeth a rhannu ecwiti yn dod yn fwy a mwy poblogaidd. Maent yn ffordd wych i fod yn berchen ar eich cartref eich hun. Ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu cael mynediad at dai cymdeithasol neu sy’n methu prynu eu cartref eu hunain, mae gennym hefyd gynlluniau rhent canolradd, pan fo person yn talu rhent am y llety ar gyfradd uwch na’r tai cymdeithasol, ond yn is na rhent y farchnad agored.”

Am fanylion pellach, cysylltwch â thîm tai fforddiadwy Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122 neu ebostiwch taifforddiadwy@grwpcynefin.org

Teuluoedd Penrhyndeudraeth yn agor eu drysau i wleidyddion weld eu cartrefi amgylcheddol newydd

Symudodd un o’r tenantiaid, Thea Jones i un o wyth o gartrefi newydd Grŵp Cynefin yn stad Isfryn, Penrhyndeudraeth ar amser tyngedfennol pwysig yn ei bywyd.

“Ro’n i’n byw mewn tŷ yn arbennig ar gyfer pobl sydd ag angen brys am lety, wedi i mi roi genedigaeth i’m merch fach, Olivia,” eglura Thea.

“Trefnodd Cyngor Gwynedd bod swyddog tai Grŵp Cynefin yn dod i’m gweld ac mi fues i’n ffodus iawn o gael cartref fforddiadwy yma yn Isfryn.

“Symudodd Olivia, y fechan, a minnau i’n cartref newydd pan oedd hi’n 5 wythnos oed, ac rydyn ni wedi cael haf braf yma yn setlo i’n cartref bach clyd newydd.

“Mae’r tŷ wedi ei leoli mewn lleoliad delfrydol i ni, gan bod fy nheulu yn byw deg munud i ffwrdd yn Blaenau.

“Dwi’n falch iawn o’r buddiannau amgylcheddol sydd i’r tŷ ac yn falch o gael cartref braf lle gall Olivia dyfu a datblygu.”

Mae’r tai, pedwar tŷ 3 llofft a phedwar tŷ 2 lofft wedi eu datblygu i safon effeithlonrwydd ynni uchel, safon debyg i Passivhaus.

Gwelodd Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas a’r Cynghorydd Sir lleol Gareth Thomas, drostynt eu hunain sut mae’r elfennau amgylcheddol arbennig yn cynorthwyo i leihau biliau ynni’r tenantiaid yn sylweddol.

Mae’r tai yn cael eu gwresogi, i raddau helaeth, gan weithgareddau dydd i ddydd y trigolion gan bod offer arbennig yn yr atig sy’n cylchdroi’r awyr mewnol ac yn ei gadw’n bur, iach ac ar y tymheredd cywir.

Yn ychwanegol mae lefel ynysu uchel i’r adeiladau – strwythur ffrâm goed, hen bapur newydd wedi ei ail-gylchu sy’n llenwi’r waliau a ffenestri gwydr triphlyg; felly bydd costau cynhesu’r adeilad yn fychan iawn.

Yn ôl Trystan Evans, Grŵp Cynefin: “Rydym hefyd wedi sicrhau bod paneli solar PV ar y to sy’n creu ynni ac mae’r ffenestri sy’n wynebu’r de yn fwy na’r rhai sy’n wynebu’r gogledd, fel ein bod yn dal pelydrau’r haul i gynorthwyo gyda’r gwresogi. Oherwydd bod y tai mor amgylcheddol arbennig, dylai bod y tenantiaid yn cael biliau ynni isel iawn iawn.”

Wrth groesawu’r datblygiad newydd, dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC: “Rwy’n croesawu’r buddsoddiad sylweddol yma gan Grŵp Cynefin yn Stad Isfryn. Roedd hi’n braf iawn cael y cyfle i ymweld â‘r tai a sgwrsio gyda rhai o’r teuluoedd sy’n denantiaid yno. Bydd y datblygiad hwn gan Grŵp Cynefin yn sicrhau bod teuluoedd yn cael lle diogel i fyw, gyda thai sy’n effeithlon o ran ynni ac o ansawdd sy’n diwallu eu hanghenion.”

Yn ôl Y Cynghorydd Gareth Thomas: “Roedd hi’n fraint cael ein gwahodd i weld y datblygiad newydd yn Isfryn a gweld pobl leol yn setlo’n gyfforddus i’w tai newydd sy’n fforddiadwy ac yn amgylcheddol arbennig. Safon tai Grŵp Cynefin yn Isfryn yw’r safon y dyla ni barhau i anelu tuag ato ledled Gwynedd, er mwyn cwrdd ag anghenion cartrefu pobl leol.”

Enwi Warden Arbed Ynni, Sandra, yn Arwres Ynni’r Deyrnas Gyfunol

Mae Sandra Kargin yn dweud ei bod wrth ei bodd ac y bydd ei thaith i San Steffan: “Fel bod ar y X-Factor!”

Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, roedd Sandra yn ddi-waith ac mae’n cyfaddef ei bod mewn “lle drwg” cyn iddi gael ei chyflogi gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin, i roi cyngor arbed ynni i bobl ar fudd-daliadau yng Ngwynedd.

Nawr mae ei hymroddiad wedi sicrhau ei bod wedi ennill gwobr Arwyr Ynni gan yr elusen, National Energy Action .

“Mi griais ar ôl derbyn y neges e-bost oedd yn dweud fy mod wedi ennill. Yna es â’r tîm i gyd allan am bryd o fwyd,” meddai Sandra.

Er mai trwy ei swydd y mae wedi ennill y wobr genedlaethol, mae Sandra hefyd yn awyddus i dynnu sylw at effaith personol ei swydd gyda Grŵp Cynefin.

“Mae wedi codi fy hunan-hyder. Dwi’n teimlo ddeng mlynedd yn iau a dwi hyd yn oed wedi colli pwysau hyd yn oed,” meddai.

Mae Sandra hefyd wedi cwblhau cymwysterau ers ymuno â Grŵp Cynefin, gan gynnwys City & Guilds mewn effeithlonrwydd ynni ac ymwybyddiaeth ynni, yn ogystal â TGAU yn y Gymraeg.

Mae Sandra, sy’n fam i ddau ac yn nain i ŵyr bach pedair blwydd oed, yn angerddol am helpu pobl i leihau eu biliau ynni ac, yn awyddus i’w gwneud yn ymwybodol o’r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes y llywodraeth sy’n golygu bod deiliaid tai sydd ar fudd-daliadau â’r hawl i gael gostyngiad o £140 unwaith yn unig ar filiau trydan rhwng mis Hydref ac Ebrill.

Yn 2016 yn unig, mae Sandra a’i thîm wedi helpu 380 o bobl hawlio £53,200 o arbedion ar y cynllun.

Mae hi hefyd yn helpu deiliaid tai i leihau eu biliau mewn amrywiaeth o feysydd eraill.

“Derbyniodd un wraig oedrannus fil am £2,000 a achosodd sioc a thristwch iddi, ond pan cawson ni drefn ar y cyfan darganfyddom mai bil o £300 ddylai hi fod wedi ei dderbyn.

“Yr enghraifft waethaf o wastraffu ynni rydyn ni wedi ei ddarganfod oedd gwraig a oedd yn cadw’r gwres canolog ymlaen yn uchel ond yn gadael holl ffenestri’r tŷ yn agored i sicrhau bod y cathod yn gallu mynd i mewn ac allan o’r tŷ. Dywedais wrthi y byddai’n haws iddi daflu ei harian drwy’r ffenestr.

“Un o fy awgrymiadau gorau yw peidio â berwi cymaint o ddŵr. Mae’n costio 6c i ferwi digon o ddŵr i wneud paned o de ond 20c i 30c i ferwi tegell llawn yn ystod y dydd,” meddai.

Mae Sandra yn un o 15 o Arwyr Ynni ledled y Deyrnas Gyfunol a bydd ei phennaeth Swyddog Cyflogaeth a Hyfforddiant Grŵp Cynefin, Ieuan Davies, yn ymuno â hi ar 7 Medi i dderbyn ei gwobr.

Ef a’i henwebodd, ac meddai yn ei gyflwyniad: “Aeth Sandra o nerth i nerth wedi iddi ddod yn rhan o’r prosiect ynni cymunedol sy’n mynd i’r afael â thlodi tanwydd, gweithgarwch economaidd a lleihau allyriadau carbon.

“Mae’r prosiect yn darparu lleoliadau gwaith i bobl sydd heb swydd ac wedyn yn gweithio gyda thrigolion mewn cymunedau difreintiedig.

“Mae hi bellach wedi helpu mentora tri warden ynni newydd, mae hi wedi helpu i roi cyngor i tua 1,200 o drigolion ac mae hi hefyd wedi ennill y trydedd wobr fel Tenant y Flwyddyn 2014 yng ngwobrau TPAS Cymru.”

Ystlumod yn dod adref nôl i glwydo ar safle tai fforddiadwy newydd yn Sir Ddinbych

Ymwelodd disgyblion Ysgol Gwernant yn Llangollen, Sir Ddinbych â hen Ysbyty Llangollen yn y dref i ddysgu mwy am y dulliau ecolegol o adeiladu cartrefi ar gyfer pobl leol pan fo bywyd gwyllt yn bresennol.

“Gall adeiladu cartrefi ddod â heriau ychwanegol i chi weithiau, a dyma’n union welson ni wrth adeiladu yn Llangollen,” eglura Bryn Davies, Rheolwr Datblygu Grŵp Cynefin.

“Roeddem yn gwybod cyn i ni brynu’r Ysbyty bod ystlumod lleiaf soprano yn byw ar y safle, felly roedd ein harbenigedd amgylcheddol yn dechrau’r funud roedden ni’n prynu’r tir.”

Mae’r dylunio a chynllunio’r adeiladu ar gyfer y safle, a fydd yn gartref i 6 tŷ tair a phedair ystafell wely, a 6 fflat dwy ystafell wely, yn gorfod ystyried cyfnod magu’r ystlumod.

Yn ôl Bryn Davies: “Mae ystlumod yn rhywogaeth gaiff ei gwarchod, felly roedd rhaid i ni baratoi ein cynlluniau adeiladu o amgylch yr ystlumod a chael trwydded gan Llywodraeth Cymru. Mae’r arolygon cychwynnol a gynhaliwyd wedi cofrestru 656 o ystlumod lleiaf soprano o amgylch y safle yn ystod un noson arbennig!

“Roedd rhaid felly gohirio’r cyfnod adeiladu, i sicrhau bod yr ystlumod wedi gadael yr adeilad ar ddiwedd yr haf ac wedi iddynt orffen eu cyfnod magu. Yna, aethom ati i adeiladu adeilad newydd ar eu cyfer. Roedd rhaid i ni weithio o fewn misoedd y gaeaf i adeiladu’r cartref newydd, a fyddai hefyd yn datblygu yn storfa biniau, gan y byddent yn dychwelyd yn fuan i’r safle yn barod ar gyfer tymor magu’r flwyddyn ganlynol.

“Mi adeiladon ni adeilad newydd sy’n sefyll ar ei draed ei hun, wedi ei orchuddio â choed gyda digon o bwyntiau mynediad i’r ystlumod - sy’n dynwared hen strwythur yr ysbyty lle mae’r ystlumod wedi bod yn byw ac yn bridio yn llwyddiannus ers y 1990au,” esbonia Bryn Davies. “Mae’r ystlumod yn byw yng ngheudod yr adeilad, felly roedd yn bwysig ein bod yn ailadrodd yr amgylchedd sy’n eu hannog i symud i mewn i’r adeilad newydd unwaith y bydd y cyfnod clwydo ddechrau mis Mai.

Yn hen adeilad yr ysbyty roedd yr ystlumod yn defnyddio rhan o’r adeilad oherwydd ei olwg at yr haul. Roedd yn cynhesu’r strwythur yn ystod y dydd, gan gario a chadw’r gwres yn y nos gan ei wneud yn fagwrfa ddelfrydol. Mae’r benywod yn gadael yr ystlumod bach yn y nos i chwilio am fwyd tra bod y rhai ifanc yn cael eu gadael yn ddiogel ac yn glyd mewn amgylchedd cynnes.

“Rydyn ni wedi ailadrodd yr amodau yna yn yr adeilad newydd, ac rydyn ni’n falch iawn o ddweud bod yr ystlumod wedi dychwelyd yn eu heidiau. Ymwelodd disgyblion Ysgol Gwernant y safle yn ddiweddar a chawsom y cyfle i rannu’r profiadau roeddem wedi eu cael gyda’r ystlumod wrth i ni geisio adeiladu cartrefi newydd, yn enwedig yma yn Llangollen. “

Dywedodd Mrs Eleri Jones, athrawes blwyddyn 3 a 4 Ysgol Gwernant a ymwelodd â‘r safle gyda’r bobl ifanc: “Mwynhaodd y disgyblion eu hymweliad â hen safle’r ysbyty. Roedd yn ddiddorol clywed am yr ystlumod a deall sut roedd Grŵp Cynefin wedi gorfod adeiladu cartref newydd yn arbennig ar eu cyfer. Roedd yr ymweliad yn rhan o’n Gwobr Cyngor Eco Baner Platinwm diweddar ac roedd yn clymu’n dwt gyda’n hamgylchedd lleol yma yn Llangollen. Cawsom hefyd weld y tai eu hunain yn cael eu hadeiladu ar y safle, ac wrth gwrs, y peiriannau mawr oedd yn boblogaidd iawn gyda’r disgyblion!”

Mae’r datblygiad ar y safle yn mynd rhagddo’n dda ac amcangyfrifir y bydd y gwaith wedi ei gwblhau yno yng nwanwyn 2017.

Mae’r rhaglen Tadau Gofalgar yn Ynys Môn eisoes wedi atal dwsinau o blant rhag gorfod cael eu rhoi mewn gofal, wrth i dadau ailadeiladu perthynas gadarnhaol gyda’u teuluoedd.

Bellach mae’r cynllun yn cael ei ehangu i Wynedd er mwyn helpu tadau yno i ddatblygu perthynas tad-plentyn iach, fel y gall eu plant barhau i fyw adref gyda’r teulu yn eu cartrefi yn ddiogel.

Mae’r cynllun arloesol yn cael ei redeg gan wasanaeth cymorth camdrin domestig Gorwel, a Gwasanaethau Camdrin Domestig De Gwynedd mewn partneriaeth â Thadau Gofalgar Canada. Rheolir Gorwel gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Bydd y rhaglen yng Ngwynedd yn cael ei lansio ym Mhenrhyndeudraeth ar y 25 o Orffennaf a bydd yn digwydd yn wythnosol am 17 wythnos.

Yn ôl arweinydd y rhaglen, sy’n weithiwr cymdeithasol therapiwtig, Paul Jones, hyd yma mae’r cyfranogwyr wedi amrywio o ŵr 17 oed sy’n dad am y tro cyntaf i dad yn ei chwedegau.

“Maen nhw hefyd yn dod o sbectrwm cymdeithasol eang. Mae cyfranogwyr wedi cynnwys dyn digartref a thad sydd wedi ei addysgu i lefel prifysgol sydd â chymwysterau proffesiynol,” meddai.

Mae Tadau Gofalgar yn awyddus i gynyddu ymwybyddiaeth cyfranogwyr o agweddau, credoau ac ymddygiad sy’n ffurfio perthynas tad-plentyn, Mae hefyd yn cynyddu eu cyfrifoldeb am ymddygiad esgeulus a chamdrin a datblygu ymwybyddiaeth o dad sy’n canolbwyntio ar anghenion y plentyn.

Mae ymchwil yn dangos bod ymgysylltu effeithiol gyda thadau yn cynyddu’r cyfraniad cadarnhaol maen nhw’n ei gael ar fywydau eu plant. Mae hyn wedyn yn arwain at amrywiaeth o fanteision emosiynol, corfforol a gwybyddol i’r plant.

Ychwanegodd Paul: “Hyd yn hyn, mae dwsinau o blant wedi cael eu tynnu oddi ar y Rhestr Amddiffyn Plant ac nid oedd angen eu rhoi yng ngofal yr awdurdod lleol. Mae teuluoedd wedi aros gyda’i gilydd.

“Wrth gwrs yr elfen o ddiogelu plant yw’r prif flaenoriaeth i ni, ond gyda’r esgid yn gwasgu allwn ni ddim diystyru’r ffaith bod y gost o gadw un plentyn mewn gofal yn £1,000 yr wythnos a bod gofal i blentyn ag anghenion arbennig yn amrywio rhwng £3,000 a £4,000 yr wythnos. Arian trethdalwyr drwy’r awdurdodau lleol yw hwnnw.”

Erbyn hyn mae’r tîm yn cyhoeddi bod y rhaglen bellach yn weithredol yng Ngwynedd a hynny drwy’r ymwelwyr iechyd, bydwragedd, gwasanaethau cymdeithasol, meddygon teulu ac asiantaethau eraill. Gall tadau hefyd gyfeirio eu hunain at y rhaglen.

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu hasesu i benderfynu a ydynt yn addas ar gyfer y rhaglen.

Mae gan Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd swyddfeydd ym Mlaenau Ffestiniog a Dolgellau, ac yn Llangefni mae ‘siop un stop’ Gorwel sy’n darparu gwybodaeth a gwasanaethau i geisio lleihau camdrin domestig. Mae prosiectau eraill a ddarperir gan y ddau wasanaeth yn cynnwys lloches, Ymgynghorydd Trais Domestig annibynnol, cymorth cymunedol a Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

Am ragor o wybodaeth am Tadau Gofalgar, gan gynnwys manylion am sut i gymryd rhan yn y rhaglen, cysylltwch â Paul Jones & Megan Williams - 01341 422 210 swyddfa@degwynedd.co.uk.

Gwleidyddion yn canmol y gwaith ar gynllun tai gofal ychwanegol ym Mhorthmadog

Daeth Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, a Selwyn Griffiths, un o Gynghorwyr Gwynedd sy’n cynrychioli Porthmadog, i weld y datblygiad newydd ar safle hen gartref gofal Hafod y Gest.

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd i gynnig cartref cyfforddus i bobl hŷn a phobl fregus fyw’n annibynnol.

Dangoswyd y gwleidyddion o amgylch y safle gan brif weithredwr Grŵp Cynefin Walis George.

Meddai: “Mae gwaith clirio’r safle yn mynd yn ei flaen yn dda. Rydym bron a gorffen dymchwel prif adeilad yr hen gartref, Hafod y Gest.”

Bydd yr Hafod y Gest newydd yn cynnig llety gofal ychwanegol i bobl hŷn yr ardal, ynghyd ag adnoddau cymdeithasol a hamdden. Hefyd bydd gwasanaethau gofal a chefnogi ar gael ar y safle fel bo angen.

Bydd yno 40 o fflatiau un a dwy lofft gyda gofal 24 awr; canolbwynt cymunedol ar gyfer gweithgareddau; ystafelloedd hobïau, ffitrwydd, harddwch a therapi; lolfa a bwyty.

Meddai AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts: “Dwi’n croesawu buddsoddiad o’r maint hwn ym Mhorthmadog yn fawr iawn. Mae pobl hŷn ein cymdeithas yn haeddu gofal a chyfleusterau o’r ansawdd gorau. Bydd pobl Dwyfor yn sicr yn croesawu’r datblygiad newydd ac edrychaf ymlaen at weld Hafod y Gest ar ei newydd wedd. Rwy’n llongyfarch Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd am y ffordd y maent yn cydweithio mewn partneriaeth.”

Meddai’r Cynghorydd Selwyn Griffiths o Borthmadog, sy’n bencampwr Pobl Hŷn Cyngor Gwynedd, “Rydw i wrth fy modd o weld y gwaith ar y datblygiad newydd yn mynd yn ei flaen. Mae’n gynllun cyffrous ac yn fuddsoddiad sylweddol ar gyfer y dref gan greu adnodd pwysig i gefnogi pobl hŷn yn yr ardal. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda’r gymuned leol i sicrhau fod y gwaith yn cael ei orffen mor gyflym â phosibl.”

Dywedodd Tom Anwyl, un o gyfarwyddwyr y contractwr Anwyl Construction sy’n cydweithio ar y datblygiad: “Mae’n braf cael cydweithio unwaith eto gyda Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd ar ddatblygiad sydd mor bwysig i’r ardal.

“Mae gennym berthynas waith dda gyda Grŵp Cynefin. Yn ddiweddar, cawsom wobr am gynllun y buom yn ei adeiladu iddynt yn Sir y Fflint.

“Yn ogystal â chynnig cyfleusterau ardderchog i bobl leol ym Mhorthmadog, bydd Hafod y Gest yn gyflogwr pwysig ac yn fuddsoddiad gwerthfawr yn economi’r ardal.”

Mae Grŵp Cynefin yn darparu mwy na 3,700 o dai rhent a 700 eiddo fforddiadwy i bobl ym mhob rhan o Ogledd Cymru.

Asesiad Rheoleiddiol

Cynhelir asesiad blynyddol i ystyried pa mor effeithiol yw cymdeithasau tai o fodloni’r materion hynny. Cyhoeddwyd barn reoleiddiol Llywodraeth Cymru o Grŵp Cynefin, a gellir gweld copi o’r adroddiad yma.

Mae’r Farn yn un adeiladol ac rydym yn arbennig o falch bod y meysydd sydd angen sicrwydd rheoleiddiol pellach yn adlewyrchu canlyniadau ein proses hunan-arfarnu yn ddiweddar. Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y Farn neu unrhyw agwedd arall o weithgareddau’r grŵp.

Teuluoedd yn canmol cynllun sy’n dod â thai fforddiadwy newydd i galon eu cymuned

Mae Hwyluswyr Tai Gwledig (HTG) yn llwyddo i gynorthwyo teuluoedd i sicrhau cartrefi fforddiadwy o safon ac yn eu galluogi’n aml, i aros yn eu cymunedau.

Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin yn cydweithio gydag Chynghorau siroedd Conwy, Gwynedd â Môn, cymdeithasau tai Cartrefi Conwy a Thai Gogledd Cymru, yn ogystal ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gyllido’r gwasanaeth, i sicrhau fod mwy o gymunedau yn gallu manteisio o’r fenter.

Un teulu sydd erbyn hyn yn byw mewn cartref newydd cyfforddus oherwydd y gwasanaeth yw Catherine Jones, ei phartner Tony Poulton a’u tri o blant. Mae Catherine yn llawenhau wrth setlo yn ei chartref newydd, yng nghalon ei bro enedigol, Gwynedd.

Symudodd y cwpl i’w cartref tair llofft ym Mhant yr Eithin, Harlech yn ystod yr haf, ddeng niwrnod cyn geni eu trydydd plentyn.

Cyn symud, roedd y teulu wedi bod yn byw mewn fflat dwy lofft, tamp lle’r oedd eu merch fach Yvonne, 2, wedi bod yn dioddef o symptomau tebyg i asthma.

Meddai Catherine Jones, 27, sy’n gweithio mewn siop yn Harlech: “Mae ein cartref newydd yn wych, a fedrwn ni ddim gofyn am well. Dwi’n nabod llawer o’m cymdogion gan ein bod wedi tyfu fyny gyda’n gilydd yn yr ardal, a chan fod ganddyn nhw deuluoedd ifanc hefyd, gallwn helpu ein gilydd.

“Mae ein merched wrth eu boddau gan fod cymaint o le yma ac mae ganddynt ardd i chwarae ynddi, rhywbeth nad oedd ganddynt yn ein cartref blaenorol. Mae yna hefyd le diogel i’r plant allu chwarae gyda’i gilydd.

“Mae ein biliau hefyd yn llawer is. Yn y fflat roeddem yn talu £50 yr wythnos am drydan. Ychydig wythnosau wedi i ni symud yma, cawsom fil am £40 a hynny am ddefnydd chwe wythnos. Roeddwn yn meddwl fod camgymeriad wedi digwydd! Ond doedd dim.

“’Does gan Yvonne ddim asthma erbyn hyn, a dwi ddim yn credu ei fod wedi bod arni erioed. Dwi’n credu mai oherwydd ein bod yn byw mewn eiddo tamp roedd hi’n cael trafferthion.”

Fe dderbyniodd y teulu eu goriadau fis Gorffennaf diwethaf, yr un diwrnod ag yr oedd Catherine i fod i eni ei thrydydd plentyn. Fe anwyd Nathaniel ddeng niwrnod wedi hynny, a chafodd Catherine gymorth gan gymydog a ffoniodd am ambiwlans iddi. Mae gan Catherine a Tony ddwy ferch hefyd, Yvonne sy’n ddwy a Sophia sy’n bedair.

Mae Catherine hefyd yn ddiolchgar i allu byw mor agos at ei nain a’i thaid, oherwydd i’r ddau gymryd yr awenau o’i magu o’r cyfnod pan oedd hi’n wyth oed ag ymlaen. “Mae gan Nain glefyd Parkinsons ac mae gan Taid dementia ac felly dwi’n gallu cynorthwyo’r gofalwyr i edrych ar eu holau,” meddai.

Teulu arall sydd hefyd yn elwa o wasanaeth yr Hwyluswyr Tai Gwledig gaiff ei ariannu’n rhannol gan Llywodraeth Cymru, yw Darren a Donna Williams a’u mab bach Siôn. Roedd y cwpl, sy’n disgwyl eu hail blentyn ym mis Gorffennaf, yn arfer byw mewn eiddo rhent preifat cyn symud i Pant yr Eithin. Ond roeddynt yn poeni y gallai’r eiddo gael ei werthu.

Erbyn hyn mae ganddynt denantiaeth sicr, rhent llai a gardd ddiogel i’w mab chwarae ynddo.

Yn ôl Darren, sy’n gweithio yn y siop Spar cyfagos, “Mae’n gartref braf mewn llecyn tawel. Rydym hefyd yn teimlo bod gennym fwy o berchnogaeth dros ein cartref newydd, a gallwn roi ein stamp ein hunain arno.”

Fe weithiodd yr Hwylusydd Tai Gwledig gyda’r cyngor cymuned leol i adnabod yr angen am gartrefi i deuluoedd drwy holiadur a yrrwyd i bob cartref yn yr ardal. Wedyn, bu’r Hwylusydd yn gweithio gyda Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd a Chyngor Tref Harlech i ddatblygu’r safle.

Dywedodd Arfon Hughes, yr Uwch Hwylusydd Tai Gwledig: “Rydym yn falch iawn ein bod, trwy gydweithio hefo partneriaid, wedi gallu cael pecyn ariannu yn ei le fydd yn golygu y bydd y gwasanaeth Hwyluswyr Tai Gwledig ar gael i gymunedau ar draws Gogledd Orllewin Cymru.

“Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau fod gan bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig fynediad at gartrefi sy’n eu galluogi i aros yn eu cymunedau a chyfrannu tuag at y gymdeithas. Mae hyn yn bwysig er mwyn diogelu dyfodol tymor hir a chynaladwyedd cymunedau gwledig ar draws Gogledd Cymru.”

Yn ôl Y Cynghorydd Caerwyn Roberts, sy’n cynrychioli trigolion Harlech ar y Cyngor: “Roedd hi’n braf gweld sut roedd yr Hwylusydd Tai Gwledig yn cynorthwyo’r cyngor cymuned i adnabod yr angen am gartrefi newydd, a sut y gwnaeth hynny sicrhau ein bod yn cael y cartrefi roedd y gymuned ei hangen.

“Mae’n galonogol iawn clywed pa mor dda mae’r teuluoedd yn setlo yn eu cartrefi newydd, a faint maen nhw’n gwerthfawrogi bod yn rhan o’r gymuned y maent yn ei hadnabod mor dda.”

Cystadleuaeth Garddio

Mae gwobrau ar gael i’r enillwyr: Dyma’r 5 categori:

YR ARDD LYSIAU / RHANDIR ORAU

Os ydych chi’n cael hwylar dyfu eich llysiau eich hun, dyma’ch cyfle i gael clod am ffrwyth eich llafur!

YR ARDD ORAU

I unrhyw denant sydd â gardd breifat.

GARDD GYMUNEDOL ORAU

Yn agored i grŵp o drigolion sy’n cynnal gardd gymunedol er budd pawb

POTIAU PATIO / FFENESTRI A BASGEDI

Mae’r categori hwn ar gyfer y rhai ohonoch sydd heb ardd ond wedi addurno y tu allan i’ch cartref gyda basgedi crog, tybiau blodau a.y.b. gan wneud y mwyaf o’r ychydig le sydd ar gael.

GARDDWR IFANC

Blodyn Haul mwyaf i blant ysgol cynradd.

Byddwn yn cysylltu gyda chi i adael chi wybod pryd bydd y beirniaid yn dod o amgylch i feirniadu a byddwn yn cyhoeddi’r ennillwyr yn fuan wedyn.

I ymgeisio, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gystadlu sydd ar gael gan y Tîm Mentrau Cymunedol ar 0300 111 2122 neu fe allwch lawr lwytho ffurflen isod.

Dyddiad cau: 3 Mehefin 2016.

Dogfennau

Partneriaeth tai gofal ychwanegol newydd i Ddinbych

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio tuag at ddatblygu darpariaeth tai gofal ychwanegol yn Ninbych, i gwrdd ag anghenion pobl hyn sydd eisiau parhau i fyw mewn yn eu cartref eu hunain, gyda gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd, yn hytrach na dibynnu ar ofal preswyl.

Mi brynodd y Cyngor safle’r hen Ysgol gan yr elusen oedd yn berchen arno ar Lôn Ganol y llynedd, ac mae wedi gweithio gyda thimau cyfreithiol, caffael a chynllunio, yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddatblygu cynllun fyddai’n addas ar gyfer y safle a’r amgylchfyd o’i gwmpas.

Mi gafodd cynigon eu cyflwyno gan bedwar landlord cymdeithasol rhestredig ac mi gytunodd y Cyngor i greu partneriaeth gyda Grŵp Cynefin i adeiladau’r cyfleuster tai gofal ychwanegol

Mae’r cynllun ar gyfer 50 o fflatiau, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer pobl gyda dementia; 8 uned byw’n annibynnol ar gyfer pobl gydag anableddau a 19 fflat ar gyfer pobl hyn gydag anghenion cyffredinol.

Mae’r bartneriaeth yn ddibynnol ar nifer o ffactorau: costau terfynol y cynllun, er mwyn sicrhau bod y rhent yn fforddiadwy; trefniadau ar gyfer gwerthu’r tir ac mi fydd y cynlluniau yn destun canlyniad cais cynllunio. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn cychwyn ar y safle yn gynnar 2017, gyda’r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn Hydref 2018.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych dros Ofal Cymdeithasol: “Mae hwn yn gyfle unigryw i ddatblygu’r cynnig tai gofal ychwanegol yn Sir Ddinbych.

“Mae cefnogi pobl hyn i fyw’n annibynnol yn un o flaenoriaethau’r Cyngor a thros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio tuag at gael tai gofal ychwanegol yn Ninbych, er mwyn cwrdd anghenion ein pobl hyn mewn modd sy’n hyrwyddo eu hannibyniaeth mewn modd modern a chynaliadwy.

“Mae hwn yn garreg filltir arbennig yn hanes tai gofal ychwanegol yn Ninbych ac rydym yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda Grŵp Cynefin i ddatblygu’r cynlluniau ymhellach, a chreu adnodd arbennig fydd yn cefnogi pobl hyn yn ein cymuned”

Ychwanegodd Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Rydym wrth ein boddau fod y Cyngor wedi’n dewis ni fel y partner ar y prosiect hwn, fydd yn fuddsoddiad sylweddol i dref Dinbych.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael adfywio’r hen safle Lôn Ganol i ddarparu cartrefi o ansawdd ar gyfer pobl hŷn, wrth sicrhau buddiannau i’r gymuned yn ehangach ar yr un pryd”.

Buddsoddiad o £25,000 yn hwb i wireddu cynllun trydan dŵr arloesol

Cyhoeddodd y gymdeithas dai y bydd yn prynu gwerth £25,000 o gyfranddaliadau mewn cynllun darparu ynni glân i dai lleol – ynni wedi ei gynhyrchu gan cynllun trydan dŵr arloesol uwchlaw rhaeadr Pont Ogwen.

Caiff prosiect Ynni Ogwen ei arwain gan fenter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen Cyf gyda chefnogaeth tri chyngor cymuned a rhwydwaith o wirfoddolwyr lleol. Mae’n ffrwyth dwy flynedd o
waith paratoi.

Ochr yn ochr â phrosiect Ynni Ogwen, mae’r cynllun peilot Ynni Lleol yn recriwtio 100 o dai ym Methesda, Mynydd Llandygai, Rachub a Thregarth, lle gall pobl fanteisio ar y datblygiad er nad oes ganddynt o bosibl yr arian i brynu cyfranddaliadau.

Mae Grŵp Cynefin yn rheoli dros 4,500 o dai fforddiadwy ar draws Gogledd Cymru. Meddai Dewi Llwyd Evans,eu rheolwr adfywio a chynaliadwyedd:

“Rydym yn awyddus iawn i gefnogi prosiectau arloesol ac mae gennym hanes da o gyflwyno cynlluniau ynni adnewyddol yn ein hardal weithredu. Bydd Ynni Ogwen yn cynhyrchu ynni gwyrdd a glan gan greu incwm arwyddocaol i brosiectau sy’n gwella ansawdd bywyd yr ardal.

“Mae’n gyffrous cydweithio ag Ynni Ogwen hefyd ar gynllun cyfochrog Ynni Lleol – cynllun lle gellir efallai defnyddio elw’r cynllun trydan dŵr i leihau biliau trydan ein tenantiaid a phreswylwyr eraill.

“Bydd cynllun Ynni Ogwen yn arbed tua 245 tunnell o Co2 y flwyddyn rhag cael ei ollwng i’r amgylchedd. Disgwylir iddo gynhyrchu elw o £450,000 dros yr 20 mlynedd nesaf - arian a gaiff ei ail fuddsoddi yn y gymuned a phrosiectau amgylcheddol lleol.”

Meddai prif swyddog Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies: “Rydym yn falch dros ben fod Grŵp Cynefin wedi buddsoddi yn ein cynllun.

“Mae Ynni Ogwen yn gweithio tuag at greu dyfodol cadarn a chynaliadwy i’n cymunedau. Braf gweld fod Grŵp Cynefin yn cytuno â’r weledigaeth honno.”

Mae’r Prosiect Wardeniaid Ynni Cymunedol sy’n cael ei redeg gan Grŵp Cynefin wedi ennill mewn cystadleuaeth gref yn erbyn cyrff eraill ar draws Cymru i gipio’r wobr bwysig. Mae’r Gwobrau, sy’n cael eu rhedeg gan yr elusen tlodi tanwydd Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) mewn partneriaeth gydag SSE SWALEC yn cydnabod ac yn arddangos prosiectau sydd yn
cefnogi ymdrechion lleol i hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy. Fel enillwyr y gwobrau rydym wedi derbyn gwobr o £2000 i’w ddefnyddio i ddatblygu’r prosiect ymhellach.

Dywedodd Carole Morgan-Jones, Cyfarwyddwraig, NEA Cymru: “Hoffwn longyfarch Grŵp Cynefin ar ennill y wobr a’r gwaith ardderchog y maen nhw’n ei wneud i ddelio gyda thlodi tanwydd yng Ngogledd Cymru. Roedd prosiect Grŵp Cynefin yn sefyll allan fel menter sydd yn dangos sut y gall delio gyda thlodi tanwydd greu manteision ehangach i’r gymuned leol trwy well rhagolygon cyflogaeth a lleihau allyriadau carbon.”

Dywedodd Ieuan Davies, Swyddog Cyflogaeth a Hyfforddiant Grŵp Cynefin: “Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill y wobr. Rwy’n falch o’r hyn y mae’r Wardeniaid Ynni Cymunedol wedi’i gyflawni wrth helpu dros 1100 o drigolion yng Ngogledd Cymru i ddod yn fwy ynni effeithlon yn eu cartrefi ac arbed arian oherwydd hynny. Mae mwyafrif llethol y rhai sydd wedi derbyn hyfforddiant wedi cael cyflogaeth neu wedi symud i gfleoedd hyfforddi eraill. Hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid yn y prosiect am eu cefnogaeth parhaus.”

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Traws Bleidiol ar Dlodi Tanwydd: “Hoffwn longyfarch Grŵp Cynefin am y gwaith ardderchog maen nhw’n ei wneud i ddelio gyda thlodi tanwydd ar draws y sir. Mae gan gynlluniau fel hyn effaith gwirioneddol ar fywydau pobl .”

Tai â chefnogaeth arloesol Harlech yn gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion

Mae Pant yr Eithin, Harlech, cynllun tai â chefnogaeth newydd a ddatblygwyd gan Grŵp Cynefin ar hen safle cartref gofal, yn helpu tenantiaid fyw’n annibynnol gyda chefnogaeth hyd braich wrth law.

Datblygwyd chwe byngalo un ystafell wely, a adeiladwyd i ofynion ‘Cartrefi am Oes’ wedi eu haddasu’n arbennig ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous arloesol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion fyw yn eu cartrefi eu hunain ac i fod mor annibynnol â phosib.

Mae byngalo dwy ystafell wely ar gyfer dau denant sydd ag anghenion mwy cymhleth hefyd ar y safle, gyda staff yn bresennol 24 awr. Mae’r un staff hefyd yn gyfrifol am gynnig cymorth i drigolion y 6 byngalos sengl.

Nod y datblygiad yw:

  • darparu gofal a chefnogaeth briodol i bob unigolyn, a thrwy hynny feithrin diwylliant sy’n lleihau gor-ddibyniaeth
  • annog cyfleoedd i fod yn rhan o’r gymuned leol

Er mwyn hwyluso’r broses gefnogaeth, mae darpariaethau technoleg cynorthwyol wedi eu gosod yn y saith cartref newydd, sy’n galluogi unigolion i fyw mor annibynnol â phosib.

“Mae hwn yn gysyniad arloesol, ac rydym yn hynod falch o weld tenantiaid yn ymgartrefu’n dda yn eu cartrefi a gynlluniwyd yn arbennig ar eu cyfer. Rydym wrth ein bodd i fod ar flaen y gad wrth
ddatblygu’r cynllun yma’n Harlech,” eglura Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin.

Yn cydweithio â Grŵp Cynefin ar y safle 13 eiddo y mae Cyngor Gwynedd, Hwylusydd Tai Gwledig Gwynedd a Chyngor Cymuned Harlech. Yn ychwanegol at y saith byngalo pwrpasol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, mae hefyd chwe chartref fforddiadwy newydd ar gyfer teuluoedd lleol.

Yn ôl Kevin Griffiths o Wasanaeth Anableddau Dysgu Cyngor Gwynedd mae un o’r tenantiaid newydd 22 mlwydd oed wedi, yn y gorffennol, derbyn cefnogaeth ddwys, ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Harlech gyda chynllun cymorth llawer llai dwys.

Meddai Kevin: “Mae’r denantiaeth newydd wedi grymuso’r tenant i gynyddu ei sgiliau byw’n annibynnol ac i’w alluogi i wneud ei benderfyniadau ei hun, gyda chymorth ‘hyd braich’ ar gael i gynghori pan yn berthnasol ac yn ôl yr angen.

“Mae gan y tenant gynllun cymorth gweithredol i gynnal ei denantiaeth a byw o fewn ei gymuned. Mae’r model cadarnhaol hwn yn Harlech yn cyflawni nodau ac amcanion y mae’r tenant wedi dyheu amdanynt ers blynyddoedd lawer. Mae hyn wedi caniatáu i’r tenant fod yn rhagweithiol ac wedi sicrhau fod ganddo ymdeimlad cadarnhaol o hunan gyflawniad.”

Dywedodd y Cynghorydd Caerwyn Roberts sy’n cynrychioli trigolion Harlech ar Gyngor Gwynedd: “Mae hwn yn fuddsoddiad gwych i Harlech ac mae wedi mynd i’r afael ag anghenion tai pobl ym Meirionnydd sydd ag anableddau dysgu ac sydd angen gwahanol fathau o gymorth. Mae hefyd yn gyfle gwych i bobl leol gael gafael ar dai fforddiadwy o safon uchel yn eu hardal wledig.”

Ychwanegodd Aelod Cabinet Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor Gwynedd, y Cynghorydd Gareth Roberts: “Rwy’n falch o weld bod tenantiaid yn setlo i’w cartrefi yn y datblygiad £1.5 miliwn ar y cyd â Grŵp Cynefin. Mae’r saith cartref a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu yn rhan o fodel newydd o lety a fydd yn cwrdd ag anghenion a dyheadau tenantiaid, a hyrwyddo byw’n annibynnol.”

Ychwanegodd Walis George o Grŵp Cynefin: “Mae ail ddatblygu’r safle ym Mhant yr Eithin yn dangos ein hymrwymiad I gefnogi cymunedau gwledig ar draws Gogledd Cymru. Yn ogystal â chwrdd â chymorth anghenion tai a thai fforddiadwy lleol, bydd yr agwedd arbed ynni yn y tai yn helpu tenantiaid frwydro yn erbyn tlodi tanwydd, mater sy’n pery trafferthion mewn ardaloedd gwledig.

Ariannwyd y datblygiad drwy amrywiaeth o ffynhonellau gan gynnwys grant gan Lywodraeth Cymru, tir a ddarparwyd gan Gyngor Gwynedd, a chyllid preifat trwy Grŵp Cynefin.

Gweinidog yn ymweld â chyfleuster cymunedol sy'n newid bywydau yn Sir Ddinbych

Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth unigolion sy’n chwilio am waith trwy gefnogaeth HWB Dinbych, datblygiad £2.2m a reolir gan gymdeithas dai, Grŵp Cynefin.

Ymunodd swyddogion o Gronfa Loteri Fawr Cymru, a gyfrannodd dros £420,000 o gyllid i’r prosiect, â Mr Skate ar yr ymweliad.

Un o brif amcanion yr HWB yw helpu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) i ennill cymwysterau a mynediad i addysg bellach.

Mae’r HWB wedi perfformio’n llawer gwell na’r targed o helpu pobl ifanc i ennill cymwysterau newydd a mynediad dysgu pellach. Hyd yma, mae’r ganolfan wedi helpu pum gwaith y nifer o bobl ifanc na’r hyn a gynlluniwyd i gael mynediad i ddysgu pellach a sgiliau newydd.

Mae’r HWB hefyd wedi helpu 61 o bobl ifanc ddod o hyd i swyddi, ac mae ar y llwybr i gyflawni ei nôd erbyn diwedd 2016.

Mae HWB Dinbych yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, gan gynnwys clwb ceiswyr swyddi gaiff ei gynnal gan grwpiau cymunedol Cymunedau’n Gyntaf Gogledd Sir Ddinbych, Cymunedau dros Waith a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.

Fel rhan o’i ymweliad, cyfarfu Mr Skates ag aelodau o’r clwb swyddi sy’n cymryd rhan mewn sesiwn galw heibio yn yr HWB, lle gall mynychwyr dderbyn cymorth wrth greu CV, chwilio am swyddi ar-lein, ysgrifennu at ddarpar weithwyr a dysgu technegau cyfweliad.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae HWB Dinbych yn enghraifft wych o sut mae arian Loteri Fawr Cymru yn cael ei ddefnyddio i wella prosiectau cymunedol sy’n darparu budd go iawn i drigolion lleol.

“Mae lleihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru a sicrhau bod ein cymunedau mwyaf bregus yn cael eu cefnogi yn flaenoriaethau allweddol ar gyfer y llywodraeth hon. Felly roeddwn wrth fy modd cael ymweld â’r HWB i siarad â‘r rhai sy’n rhedeg y ganolfan a’r rhai sy’n defnyddio’r cyfleuster gan glywed sut mae’n eu cynorthwyo.”

Aed â Mr Skates ar daith o amgylch yr HWB i weld yr ystafell Technoleg Gwybodaeth, yr ystafell ar gyfer gweithgareddau cymunedol a’r pedair ystafell addysgu a ddefnyddir gan Goleg Llandrillo.

Yn ôl Ann Davies, rheolwraig HWB Dinbych: “Mae’r Clwb Swyddi wedi cyflawni canlyniadau gwych dros y 12 mis diwethaf gan helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith.

“Wedi’i leoli mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf, mae’r HWB yn helpu i rymuso rhai o bobl fwyaf difreintiedig y gymuned, gan eu cynorthwyo i lunio eu dyfodol eu hunain.

“Mewn lleoliad canolog ar gyfer mentrau megis y clwb swyddi a sesiynau galw heibio a ymwelodd Mr Skates â nhw, mae HWB Dinbych yn gwneud camau breision wrth newid bywydau teuluoedd yn ardal Dinbych.

“Mae hefyd rhaglen lawn o gymwysterau sydd ar gael drwy Goleg Llandrillo yn helpu cyflogadwyedd trigolion â’r HWB, yn ogystal ag ystod o ddosbarthiadau a chyrsiau eraill sy’n agored i’r gymuned gyfan.”

Enillodd HWB Dinbych wobr Datblygiad Rhagorol y Flwyddyn 2015 yng Ngwobrau Tai Prydeinig, un o’r prif wobrau ar gyfer y sector tai yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn cefnogi dyheadau pobl sydd am wella bywyd yn eu cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n gyfrifol am ddosbarthu 40% o’r arian a ddosberthir gan y Loteri Genedlaethol ac yn buddsoddi dros £650 miliwn bob blwyddyn mewn prosiectau, rhai bach a rhai mawr, at ddibenion iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol.

Er mis Mehefin 2004 mae’r Gronfa wedi dyfarnu dros £6.5 biliwn i brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth i bobl a chymunedau mewn angen, o ymyrraeth blynyddoedd cynnar i ariannu teithiau coffáu ar gyfer cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd.

Ers i’r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae £33 biliwn wedi’i godi a mwy na 450,000 o grantiau wedi’u dyfarnu.

Am ragor o wybodaeth am HWB Dinbych, cysylltwch ag Ann Davies ar 0300 111 2122 neu dilynwch @HWB_Dinbych ar Twitter.

Grŵp Cynefin y gymdeithas tai gyntaf yng Ngogledd Cymru i ennill gwobr sy’n cefnogi’r rhai sy’n colli eu golwg

Mae cynlluniau tai gofal ychwanegol Llys Awelon yn Rhuthun ac Awel y Coleg yn Y Bala ill dau wedi derbyn safon blatinwm yr RNIB sef safonau Visibly Better Cymru.

Y wobr yw lefel uchaf achrediadau’r elusen colli golwg, ac mae’n cael ei chyflwyno i ddarparwyr tai sy’n sicrhau bod eu heiddo, eu gwasanaethau a’u staff yn diwallu anghenion pobl sydd â nam ar eu golwg.

Cyflwynwyd y wobr blatinwm Visibly Better Cymru i breswylwyr a staff Grŵp Cynefin yn Awel y Coleg gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira a John Ramm, Cadeirydd RNIB Cymru.

Aseswyd Grŵp Cynefin ar feini prawf penodol gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth weledol barhaus ar gyfer ei staff, sicrhau bod eiddo yn cael ei gynllunio i leihau risg a gwella annibyniaeth i bobl sydd wedi colli eu golwg, a hyrwyddo gweithredol mewn iechyd llygaid.

Cymrwyd nifer o gamau ymarferol gan Grŵp Cynefin i gefnogi trigolion sydd wedi colli golwg, gan gynnwys peintio waliau pellaf ystafelloedd yn lliw gwahanol i wella’r canfyddiad o ddyfnder a defnyddio botymau a switsys gyda lliwiau cyferbyniol i gynorthwyo gwelededd.

Yn ôl Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: “Mae ein gwobrau Visibly Better Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau tenantiaid. Yn aml, y newidiadau bychan a syml sy’n arwain at leihad yn nifer y cwympiadau a damweiniau.

“Er bod y safonau wedi’u hanelu at wella hygyrchedd ar gyfer pobl sydd wedi colli eu golwg, byddant o fudd i ystod eang o denantiaid, gan gynnwys pobl sydd â phroblemau dementia neu symudedd.

“Rydym yn gwybod bod un o bob pump o bobl 75 oed a hŷn yn byw gyda cholli golwg, a bod colli golwg yn debygol o ddyblu yn y 25 mlynedd nesaf.

“Llongyfarchiadau i Grŵp Cynefin ar lwyddo i dderbyn dwy wobr ragorol blatinwm – y gwobrau dwbl cyntaf i’n partneriaid yng ngogledd Cymru!”

Bydd Grŵp Cynefin nawr yn ceisio gweithredu safonau Visibly Better Cymru yn ei adeiladau eraill, gan gynnwys ei trydydd canolfan gofal ychwanegol, Penucheldre yng Nghaergybi. Mae’r RNIB hefyd yn cydweithio ar ddyluniad cynllun tai gofal ychwanegol arall Grŵp Cynefin, sef Hafod y Gest ym Mhorthmadog, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Grŵp Cynefin, John Arthur Jones: “Rydym yn gwneud pob ymdrech i wella safon byw ar gyfer ein holl breswylwyr tai gofal ychwanegol.

“Mae’r newidiadau bychain yn ein heiddo yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau tenantiaid sy’n byw â cholled golwg, ac rydym nawr yn gweithredu’r safon Visibly Better mewn canolfannau eraill a reolir gennym.”

Y wobr hon yw’r diweddaraf mewn cyfres o lwyddiannau ar gyfer Grŵp Cynefin, a enillodd Datblygiad Rhagorol y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai Prydeinig 2015 ar gyfer ei wgaith gyda chanolfan HWB Dinbych, ac mae’r gymdeithas ar restr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Tai Cymru 2015.

Gweinidog yn lansio Asiantaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Mae’r asiantaeth newydd, a unwyd ar y cyntaf o Orffennaf, yn cynnig gwasanaeth ymweld â‘r cartref rhad ac am ddim sy’n galluogi pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi, ac mae eisoes wedi dechrau gweld y budd o gydweithio.

Llongyfarchodd Lesley Girffiths y tîm ar ei uniad llwyddiannus yn ystod y lansiad swyddogol yn Llanelwy yr wythnos hon. Roedd nifer o bartneriaid a rhanddeiliaid yn bresennol yn ystod y lansiad.

Gan bod yr asiantaeth yn is-gwmni o fewn strwythur mwy cymdeithas dai Grŵp Cynefin, gall Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych ganolbwyntio ar ei wasanaeth craidd o gynorthwyo pobl hŷn a phobl fregus o fewn siroedd Conwy a Dinbych. Mae’r asiantaeth yn elwa o gefnogaeth gorfforaethol ac ariannol y gymdeithas dai.

Yn ystod y lansiad, manteisiodd y Gweinidog ar y cyfle i longyfarch y tîm ar ei gwaith a diolch iddynt am gefnogi pobl oedrannus yma yng ngogledd Cymru. Meddai Lesley Griffiths:

“Mae byw mewn cartref diogel a chyfforddus o fewn cymuned gyfarwydd yn hanfodol i fywyd hapus. Dyma pam bod gwaith Gofal & Thrwsio yn gwneud gwaith mor bwysig, a pham ein bod, fel Llywodraeth, wedi ymrwymo i warchod gwasanaethau rheng flaen er gwaetha’r sefyllfa heriol o fod ag adnoddau sy’n lleihau a chyllidebau tynn.

“Rwy’n gwerthfawrogi’r holl waith caled sydd wedi’i wneud i sefydlu Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych – ac mae’r digwyddiad hwn yn glod i chi gyd, ac rwy’n falch o fod yma i lansio’r asiantaeth newydd. Hoffwn ddymuno’r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.”

Gall yr Asiantaeth wella ansawdd bywyd pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain. Mae staff yn cefnogi byw’n annibynnol i bobl dros 60 oed mewn cartrefi diogel, cyfforddus a chynnes.

Gall Gofal a Thrwsio helpu gyda gwelliannau bychan i’r cartref fel trwsio tap sy’n gollwng, gosod rheiliau llaw neu gloeon newydd, i waith adeiladu mawr fel addasu ystafell ymolchi i ddefnyddiwr hŷn neu osod to newydd.

Gall cleientiaid sy’n chwilio am gymorth gysylltu â ni trwy alw 0300 111 2120.

Mae Grŵp Cynefin hefyd yn rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd ac Ynys Môn trwy is-gwmni o’r enw Canllaw.

Yn ôl Gwynne Jones, Cadeirydd asiantaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Dinbych: “Mae cydweithio bod yn hanfodol i waith yr asiantaeth newydd. Hoffwn ddiolch i fyrddau’r ddwy asiantaeth flaenorol am wneud hyn yn bosibl.

“Mae wedi bod yn bleser croesawu’r Gweinidog i’r lansiad heddiw, a hoffwn ddiolch i staff Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych am eu hymroddiad a’i barodrwydd i hwyluso’r broses uno dros y misoedd diwethaf. Rydym yn llwyr sylweddoli bod y cyfan er lles ein cwsmeriaid, rhai ohonynt yn bobl fregus sy’n byw o fewn ein cymunedau, ac rydym yn ddiolchgar i’r tîm o staff am eu gwaith.

Yn ôl Walis George, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae cefnogi pobl hŷn a bregus yn eu cartrefi eu hunain yn rhan hanfodol o ddatblygu cymunedau cynaliadwy ledled gogledd Cymru. Ein bwriad yw cynorthwyo er mwyn diogelu’r gwasanaethau hyn ar gyfer y dyfodol ac rydym yn hyderus y gall asiantaeth Gofal a Thrwsio Conwy a sir Ddinbych gyflawni mwy i’n cleientiaid am lai.”

Tenant newydd Caffi Congl yw’r diweddaraf i ymuno â chanolfan fenter lwyddiannus

Mae Caffi Congl, a redir gan y rheolwraig Helen Mai Roberts, yn cyflogi staff newydd yng Nghanolfan Congl Meinciau ym Motwnnog, Pen Llŷn.

Y caffi, sydd wedi ail-agor yn ddiweddar, yw’r busnes diweddaraf i sefydlu yn y ganolfan fenter brysur, sydd â nifer cyfyngedig o ofod swyddfa ac unedau gweithdai o wahanol feintiau ar gael i fusnesau a thenantiaid newydd eraill.

Ymysg tenantiaid Congl Meinciau mae cwmni amgylcheddol, busnes twristiaeth gwyliau, gwasanaeth gofal yn y cartref a chwmni therapi. Mae trafodaethau hefyd yn parhau gyda mwy o denantiaid newydd sy’n awyddus i achub ar y cyfle i weithio yng nghanol Pen Llŷn.

Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod a hyfforddiant, cyfleusterau i weithio wrth ddesg yn ogystal â‘r caffi. Mae gan y ganolfan fynediad at fand eang cyflym iawn hefyd.

Yn ôl Dewi Llwyd Evans, Rheolwr Cynaladwyedd ac Adfywio Grŵp Cynefin: “Ers ei sefydlu mae Canolfan Congl Meinciau wedi bod yn lle gwych ar gyfer busnesau bach, unigolion neu i fusnesau sefydlu gan ddatblygu sgiliau, marchnadoedd a chynnyrch. Mae rhannu cyfleusterau yn ffordd wych i ddod ag unigolion o’r un anian at ei gilydd, unigolion sy’n awyddus i ddatblygu a ffynnu.

“Mae’r buddsoddiad cychwynnol yma yng nghalon Pen Llŷn wedi bod yn allweddol o ran cefnogi datblygiad economaidd, cyfleoedd cyflogaeth a chynaliadwyedd y gymuned. Ynghyd â‘r 12 o dai lleol a ddatblygwyd ar y safle, mae Canolfan Congl Meinciau yn fwrlwm o weithgarwch yn yr ardal wledig hon.

“Ers 2011, mae Congl Meinciau wedi ei chysylltu â 70 o swyddi lleol drwy’r gwahanol fentrau sy’n seiliedig yn y ganolfan. Mewn ardal sydd â phoblogaeth fechan, mae hwn yn ffigwr sylweddol.”

Mae’r paneli solar yn yr adeilad ecogyfeillgar wedi cynhyrchu 14,926 wat cilo o ynni yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, gan arbed 8.09 tunnell o garbon deuocsid. Mae cymwysterau amgylcheddol Canolfan Congl Meinciau yn atyniad gwych i unrhyw fusnes newydd sy’n awyddus i sefydlu yng nghanol Pen Llŷn.

Helen Mai Roberts o Sarn, Pen Llŷn yw’r ddiweddaraf i gymryd tenantiaeth yng Nghaffi Congl sydd wedi ei lleoli o fewn y Ganolfan. Wedi gadael y sector bwyd a diod flwyddyn yn gynharach, roedd Helen yn awyddus i fynd i’r afael â phrosiect newydd.

“Dwi wedi gweithio am flynyddoedd lawer yn y diwydiant bwyd a diod a phan welais bod tenantiaeth Caffi Congl ar gael, roedd yn gyfle gwych i sefydlu prosiect newydd. Mae cyfleoedd gwaith yn Llŷn yn brin iawn, felly pan ddaeth hwn i fyny, roedd yn brosiect y gallwn i weithio arno ar fy stepen drws fy hun.

“Rydym wedi cael dipyn o wythnosau prysur, ac wedi cael cefnogaeth leol wych. Mae pobl ifanc yn dod drwy’r drws am eu brecwast dros y penwythnos, gyda phobl leol a thenantiaid Congl Meinciau yn mwynhau te a choffi a chinio ysgafn yn ystod yr wythnos. Rydym newydd ddechrau cynnig cinio dydd Sul ar y fwydlen, sydd wedi plesio’r cwsmeriaid.

“Dwi’n ffodus o allu cynnig cyflogaeth i fy merch hefyd, ac mae hi wedi bod yn gaffaeliad mawr i’r Caffi. Yn fam i bedwar a nain i bedwar, mae Caffi Congl wedi cyrraedd ar yr amser iawn i mi, a dwi’n edrych ymlaen at gyflwyno syniadau newydd a ddylai sicrhau ein bod yn parhau gyda thymor yr hydref prysur,” eglura Helen.

Datblygwyd Canolfan Congl Meinciau mewn partneriaeth â Chymunedau’n Gyntaf Pen Llŷn, Llywodraeth Cymru, WEFO a Chyngor Gwynedd. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhentu swyddfa neu weithdy lle gysylltu â Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122, www.grwpcynefin.org

Mae Caffi Congl ar agor rhwng 8:30 a 5:00 yn ystod yr wythnos a rhwng 9:00 a 04:00 dros y penwythnos. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01758 77007.

Bydd y rhaglen pedwar mis Tadau Gofalgar, a redir gan wasanaeth cymorth cam-drin domestig Ynys Môn Gorwel, yn dechrau ar ei drydydd cwrs ar 7 Medi.

Mae’r rhaglen wirfoddol wedi helpu nifer o dadau Ynys Môn ddechrau ar y dasg o wella’r berthynas sydd ganddynt gyda’u plant.

Mae sesiynau Tadau Gofalgar yn helpu’r cyfranogwyr i ddod yn ymwybodol o agweddau, credoau ac ymddygiad gadarnhaol, sy’n ffurfio perthnasau tad a phlentyn, gan gydnabod eu cyfrifoldeb am ymddygiad difrïol neu esgeulus, a datblygu eu hymwybyddiaeth bod plentyn yn ganolbwynt i’w perthynas.

Mae’r rhaglen wythnosol, a gynhelir yn Llangefni, yn helpu tadau adnabod ymddygiad tad-plentyn problemus a chynllunio ar gyfer perthynas adeiladol yn y dyfodol.

Mae ymchwil yn dangos bod ymgysylltu effeithiol gyda thadau yn cynyddu’r cyfraniad cadarnhaol y maent yn ei gael ar fywydau eu plant. Mae hyn yn ei dro yn arwain at amrywiaeth o fanteision emosiynol, corfforol a gwybyddol ar gyfer eu plant.

Yn ôl Paul Jones, arweinydd y rhaglen Tadau Gofalgar: “Mae Gorwel wedi cyflawni canlyniadau cadarnhaol i deuluoedd Ynys Môn drwy weithio’n uniongyrchol gyda thadau i sicrhau newid yn eu hymddygiad.

“Trwy gymryd rhan yn y rhaglen Tadau Gofalgar, mae tadau wedi dod yn ymwybodol o’r effaith negyddol y gall eu hymddygiad gael ar eu plant a’i partneriaid. Mae rhai tadau hefyd wedi myfyrio ar y cam-drin domestig y roedden nhw eu hunain yn dyst iddo fel plentyn, a sut mae’r profiad wedi effeithio arnynt heddiw.

“Wrth ddatblygu’r rhaglen, mae Gorwel wedi gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau lleol fel adrannau gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a gofal ac adran addysg Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn darparu agwedd gyfannol wrth weithio gyda phlant a theuluoedd.

“Mae hyn wedi darparu canlyniadau cadarnhaol i nifer o deuluoedd ar Ynys Môn. Mae’r gwaith wedi llwyddo i atal rhai plant rhag cael eu symud oddi wrth eu teuluoedd neu wedi gweithio tuag at gael gwared ar enwau’r plant oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

“Os oes unrhyw un yn teimlo y gallent elwa ar gymorth i fod yn well tad ac i feithrin perthynas iach gyda’u plant a’u partner, yna rydym yn eu hannog i gysylltu â ni i drefnu apwyntiad i weld a ydyn nhw’n addas i fynychu’r sesiwn Tadau Gofalgar nesaf.”

Bydd pob ymgeisydd yn mynychu apwyntiad asesiad cychwynnol cyn penderfynu ar eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.

Mae’r cynllun hwn yn un o nifer o fentrau a redir gan Gorwel, sy’n cael ei reoli gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Mae ‘Siop Un Alwad’ Gorwel yn Llangefni yn darparu gwybodaeth a gwasanaethau sy’n anelu at leihau cam-drin domestig. Mae prosiectau eraill a ddarperir gan Gorwel yn cynnwys lloches, Ymgynghorydd Annibynnol Trais Domestig, cymorth cymunedol a gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Tadau Gofalgar, gan gynnwys manylion am sut i gymryd rhan yn y rhaglen, cysylltwch â Gorwel ar 01248 750903.

Y gwaith o adeiladu swyddfa newydd sbon Grŵp Cynefin yn Ninbych wedi cychwyn

Mae’r datblygiad gwerth £3 miliwn ar Stryd y Dyffryn yn Ninbych wedi ei gynllunio i’w gwblhau yn haf 2016, a bydd yn caniatáu staff sydd wedi’u lleoli mewn tair swyddfa ar wahân yn y dref ar hyn o bryd, i weithio o dan yr un to, gan gynyddu effeithlonrwydd a lleihau costau rhedeg y cwmni.

Mae’r adeilad, a fydd yn darparu gofod gweithio i 80 aelod o staff, wedi ei ddylunio gan benseiri Creu yn Ninbych. Cwmni R L Davies, Bae Colwyn sydd wedi ennill y cytundeb adeiladu.

Mae’r cynllun ecogyfeillgar yn cyrraedd safon ‘ardderchog’ BREEAM wrth edrych ar asesiad amgylcheddol yr adeilad, a bydd yn cynnwys deunyddiau wedi’u hailgylchu o’r adeilad blaenorol, lefelau uchel o insiwleiddio, paneli PV solar ar y to a gwresogi effeithlon ynni a systemau trydanol.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin, Rhys Dafis: “Mae Grŵp Cynefin wedi ymrwymo i fuddsoddi yn nhref Dinbych a chynnal swyddi yn yr ardal, a bydd yr adeilad newydd yn ein cynorthwyo i gyflawni ein nod tymor hir o barhau ein cyswllt hanesyddol glos o fewn Sir Ddinbych.

“Nodwyd yr angen am swyddfa newydd yn Ninbych nifer o flynyddoedd yn ôl, wedi i ni dyfu yn rhy fawr i’r adeilad blaenorol ar Stryd y Dyffryn.

“Bydd y swyddfeydd newydd yn gwella effeithlonrwydd ein gwaith yn sir Ddinbych mewn cyfleusterau sy’n addas i’r pwrpas, ac a fydd yn ein galluogi i ehangu yn y dyfodol.

“Bydd hyn yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar ein gwaith o ddarparu tai o ansawdd a chefnogi cymunedau ar draws gogledd Cymru.”

Fel cyflogwr, mae Grŵp Cynefin hefyd wedi ymrwymo i wasanaethu anghenion cymunedau lleol, ac yn ymfalchïo yn ei chysylltiadau cryf â‘r iaith Gymraeg. Mae’n un o’r sefydliadau sy’n cyflogi’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn nhref Dinbych, os nad Sir Ddinbych, un o’r egwyddorion sylfaenol i sefydlu’r ddwy gymdeithas dai a ddaeth ynghyd i ffurfio Grŵp Cynefin. Sefydlwyd Tai Clwyd a Thai Eryri yn y 1970au hwyr a’r 80au cynnar ac fe’i hunwyd ym mis Ebrill 2014 i greu Grŵp Cynefin.

“Rydym yn falch o’n cysylltiadau diwylliannol ac ieithyddol â Dinbych a threfi eraill yng ngogledd Cymru,” eglura Rhys Dafis. “Rydym yn ymfalchïo ei bod yn gyflogwr allweddol yn Sir Ddinbych ac yn sefydliad sy’n adlewyrchu anghenion dwyieithog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Mae Dinbych yn un o bedwar lleoliad yng ngogledd Cymru y mae Grŵp Cynefin yn gweithredu ohoni, gyda swyddfeydd pellach yn Llangefni, Ynys Môn a dau safle yng Ngwynedd yn y Bala ac ym Mhenygroes.

Mae’r datblygiad newydd yn Ninbych yn dilyn y buddsoddiad a wnaed yn y dref y llynedd wrth gwblhau’r adeilad HWB Dinbych £2.2m, sy’n darparu nifer o gyfleusterau addysgol a hamdden i drigolion lleol.

Meddai’r Cynghorydd Gwyneth Kensler, cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych “Mae’r datblygiad yma’n dystiolaeth pellach o ymrwymiad Grŵp Cynefin i gefnogi a buddsoddi yn yr ardal.

“Mi fydd y swyddfeydd yma hefyd yn sicrhau fod swyddi yn aros yn nghanol y dref, ac felly’n hwb i’r economi leol”

Un rhif cyswllt wrth uno asiantaethau Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Mae’r gwasanaethau yng Nghonwy a Sir Ddinbych wedi bod yn cydweithio ers mis Ebrill eleni, ond bydd uniad ffurfiol o’r ddwy asiantaeth yn digwydd ar y 1af o Orffennaf 2015.

Y newid mwyaf i gleientiaid yw y bydd un rhif cyswllt wrth holi am gymorth, sef 0300 111 2120 o fis Gorffennaf ymlaen. Ni fydd unrhyw newid i’r gwasanaeth a dderbynnir gan ddefnyddwyr presennol y ddau wasanaeth gofal a thrwsio.

Trwy uno a chydweithio bydd yn helpu lleihau costau rhedeg y gwasanaethau, a dilyn polisi Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr asiantaethau gofal a thrwsio yng Nghymru o 2015-2016.

Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio Gwynedd ac Ynys Môn, y ddau’n cael eu rheoli eisoes gan Grŵp Cynefin fel is-gwmni ‘Canllaw’, hefyd yn uno.

Mae’r gwasanaeth Gofal a Thrwsio yn wasanaeth ymweld â‘r cartref rhad ac am ddim sy’n galluogi pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.

Mae’r asiantaethau yn gallu gwella ansawdd bywyd pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn cefnogi byw’n annibynnol i bobl dros 60 oed mewn cartrefi diogel, cyfforddus a chynnes.

Gall Gofal a Thrwsio helpu gyda gwelliannau bychan i’r cartref fel trwsio tap sy’n gollwng, gosod rheiliau llaw neu gloeon newydd, i waith adeiladu mawr fel addasu ystafell ymolchi i ddefnyddiwr hŷn neu osod to newydd.

Yn ôl Gwynne Jones, Cadeirydd Asiantaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Dinbych: “Trwy uno a chreu un asiantaeth Gofal a Thrwsio o fewn Conwy a Sir Ddinbych, rydym yn gallu darparu mwy i’n cleientiaid am lai. Mae’n sicrhau bod gennym wasanaeth cynaliadwy sy’n helpu pobl hŷn fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae hefyd o gymorth i ni dynnu adnoddau ynghyd a rhannu profiad ac arfer da yn y gweithlu.

“Trwy weithredu fel is-gwmni i Grŵp Cynefin, mae’r asiantaeth newydd yn cael budd o gymorth ariannol y gymdeithas dai a gwasanaethau corfforaethol. Hoffwn hefyd fantieisio ar y cyfle i ddiolch i’r staff am eu hymroddiad a’i parodrwydd i hwyluso’r broses o uno dros y misoedd diwethaf, er budd ein cwsmeriaid, rhai ohonynt yn bobl fregus o fewn ein cymunedau. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tîm o staff am eu cefnogaeth.

“Ein gobaith yw sicrhau na fydd ein cleientiaid yn siroedd Conwy a Dinbych yn sylwi ar unrhyw newid yn y gwasanaeth o ansawdd a ddarperir i’n cleientiaid.”

Yn ôl Walis George, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae cefnogi pobl hŷn a bregus yn eu cartrefi eu hunain yn rhan hanfodol o ddatblygu cymunedau cynaliadwy ledled Gogledd Cymru.

“Mae creu un asiantaeth Gofal a Thrwsio i Conwy a Sir Ddinbych, yn ogystal â siroedd Gwynedd a Môn, yn helpu i ddiogelu’r gwasanaethau hyn ar gyfer y blynyddoedd nesaf, gan dynnu ynghyd ar brofiad ac adnoddau o safon.”

Prif swyddog cyllid newydd yn cefnogi tenantiaid trwy’r newidiadau i’r Credyd Cynhwysol

Bydd y cyfrifydd siartredig, Nia Rhian Owen, yn gyfrifol am arwain tîm cyllid Grŵp Cynefin, gan oruchwylio rheolaeth cyfrifon a bodloni gofynion ariannol statudol y gymdeithas dai.

Un o’i thasgau cyntaf yw gweithio gyda thîm tai Grŵp Cynefin i helpu tenantiaid i reoli taliadau rhent, a fydd yn rhan o’r Credyd Cynhwysol cyn hir gaoiff ei dalu i denantiaid yn hytrach nag yn uniongyrchol i landlordiaid cymdeithasau tai.

Cyn symud at Grŵp Cynefin, bu Nia o Ddeganwy yn gyfarwyddwr cyllid a busnes i’r Galeri yng Nghaernarfon, sy’n dal portffolio eiddo sylweddol yng Nghaernarfon.

Yn ôl Nia: “Un o’r materion amlwg sy’n wynebu’r sector dai yw’r newidiadau a gyflwynir trwy’r Credyd Cynhwysol, gaiff effaith enfawr ar gymdeithasau tai a thenantiaid.

“Mae rhai o’n tenantiaid yn derbyn budd-dal tai tuag at eu costau rhent, a chaiff y taliadau hynny eu talu’n uniongyrchol ar hyn o bryd i gymdeithasau tai gan y cynghorau lleol. O dan y cynigion newydd, bydd budd-daliadau yn cael eu talu’n uniongyrchol i’r tenant a fydd felly yn gyfrifol am sicrhau bod eu rhent yn cael ei dalu i’w landlord. Mae gan Credyd Cynhwysol y potensial i fod yn un o’r bygythiadau mwyaf i incwm landlord.

“Mae Grŵp Cynefin yn bwriadu lleihau’r risg hwnnw drwy gefnogi ein tenantiaid yn ystod y cyfnod pontio. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor cyllidebol lle bo angen, gan bwysleisio pa mor bwysig yw talu rhent ymlaen llaw, bod yn wyliadwrus wrth fonitro dyledwyr, gan roi’r dewis i dalu drwy ddebyd uniongyrchol, ac i ffurfio perthynas agos gyda’r Timau Trefniant Talu Amgen o fewn y cynghorau lleol.”

Mae gan Grŵp Cynefin, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd cyntaf, adran ar ei wefan yn egluro’r newidiadau i’r sustem budd-daliadau yng Nghymru, lle gall tenantiaid fynd iddo er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth ar sut y bydd newidiadau yn effeithio arnynt.

“Un o’m prosiectau cyntaf eraill yma fydd asesu’r amrywiadau mewn gweithdrefnau a pholisïau sydd eisoes yn bodoli o fewn y cwmni a gwerthuso eu heffeithlonrwydd”

Yn ôl Walis George, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Dwi’n falch o groesawu Nia Owen atom i Grŵp Cynefin, ac mae’n wych gweld ei bod eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar y cwmni yn yr amser byr y mae hi wedi bod gyda ni.”

Byw yn Annibynnol - gêm fwrdd newydd yn adlewyrchu materion bywyd go iawn sy'n wynebu pobl ifanc

Sefydlwyd y gêm fwrdd ‘Byw yn Annibynnol’, a gefnogir gan Grŵp Cynefin, Cartrefi Conwy, Tai Gogledd Cymru a Phrosiect Bus Stop, o daflen wybodaeth a grëwyd i helpu pobl ifanc i ddysgu am sgiliau bywyd fel rheoli cyllideb a chostau byw.

Teimlai’r bobl ifanc oedd y tu ôl i ddatblygu’r gêm bod natur ryngweithiol gêm fwrdd yn ffordd hwyliog o gael pobl i siarad am y materion allai eu poeni wrth ddysgu am wirioneddau digartrefedd yr un pryd.

Gan ddod â‘r materion yma’n fyw, cynhaliwyd gwaith ymchwil a sylweddoli bod yr elfen ryngweithiol o chwarae gêm fwrdd yn fwy buddiol i bobl ifanc na dilyn y llwybr arall, o greu gêm ddigidol.

Bydd y gêm a ddatblygwyd gan Rwydwaith Tai Ieuenctid, ar gael ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych i’w ddefnyddio fel adnodd dysgu effeithiol.

Yn ôl Gemma Closs-Davies, Cydlynydd Prosiect Digartrefedd Ieuenctid: “Mae Byw yn Annibynnol yn debyg i’r gêm fwrdd Monopoly mewn sawl ffordd. Rydych yn teithio o gwmpas y bwrdd gan godi cerdyn sefyllfa wahanol a rhyngweithio. Mae gennych bedwar diwrnod pan fydd eich cyflog yn cyrraedd a phedwar diwrnod i dalu biliau yn ystod y gêm, ac mae angen i chi reoli eich arian i sicrhau bod gennych ddigon o arian i fynd â chi o gwmpas y bwrdd.

“Cyn lansio’r gêm, rydym wedi cynnal nifer o sesiynau peilot i brofi’r gêm ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan bobl ifanc sydd wedi ei ddefnyddio.

“Gan fod y gêm wedi cael ei datblygu gan bobl ifanc sydd wedi cael profiadau go iawn o’r problemau hyn, mae’n cynnwys sefyllfaoedd realistig all gael eu defnyddio fel pynciau trafod. Mae’r digwyddiadau a grëwyd o fewn y gêm yn adlewyrchu’r hyn all ddigwydd mewn bywyd go iawn.”

Yn ôl Mair Edwards o Grŵp Cynefin: “Mae ffigurau Shelter Cymru yn dangos y bydd tua 1 o bob 5 o bobl ifanc yn wynebu rhyw fath o ddigartrefedd cyn eu bod yn 25 oed. Gall hyn olygu eu bod yn treulio amser yn cysgu ar soffa ffrind neu berthynas ‘soffa-syrffio’ neu’n byw mewn llety dros dro fel hosteli.

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o nifer o gynlluniau sy’n cefnogi pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru. Gall y math yma o brosiect wneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a’r gymuned ehangach.”

Mae’r gêm yn cael ei lansio yn TAPE, Bae Colwyn lle mae gêm enfawr wedi ei greu a’i osod ar y llawr.

Os ydych yn chwilio am wybodaeth ynglŷn â’r gêm fwrdd ‘Byw yn Annibynnol’, neu i gael manylion am gymorth ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd, cysylltwch â Grŵp Cynefin ar 0300 111 21220.

Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn canmol prosiect sy’n helpu ieuenctid mewn perygl o ddigartrefedd

Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru â Yr Hafod, cynllun tai â chefnogaeth yn Ninbych sy’n cynnig llety dros-dro i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed.

Mae’r cynllun, a ariennir gan raglen Cefnogi Pobl Cyngor Sir Ddinbych, sy’n gallu cartrefu chwech o bobl ifanc, wedi ei leoli yn HWB Dinbych.

Mae HWB Dinbych, a agorodd fis Awst y llynedd, yn ddatblygiad arloesol £2.2miliwn gan Grŵp Cynefin. Yn ddiweddar, enillodd Wobr Datblygiad Rhagorol y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai y DU.

Fel rhan o’r ymweliad, cafodd Mr Roddick daith o amgylch yr HWB, sy’n cynnwys ystafell TG, gofod gweithgaredd cymunedol a phedair ystafell addysgu a ddefnyddir gan Goleg Llandrillo i gynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau a chyrsiau sydd ar gael i gymuned Dinbych gyfan.

Un o’r bobl y bu i Mr Roddick ei gyfarfod oedd Will Hession, 24 oed, a oedd yn wynebu’r posibilrwydd o ddigartrefedd cyn iddo symud i Yr Hafod.

Dywedodd Will: “Mae bod yma wedi fy helpu gyda llawer o bethau. Mae wedi fy helpu gyda fy hunan-barch a’m hyder. Rydw i wedi bod yn dysgu sgiliau adeiladu tîm a sut i gyllido fy arian.

“Maent hefyd yn fy helpu i geisio dod o hyd i swydd ac wedi fy rhoi mewn cysylltiad â’r ganolfan waith.

“Rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gyda Chyngor Sir Ddinbych, yn gwneud coedwigaeth a gofalu am gefn gwlad gan wneud pethau fel plannu coed, plygu gwrychoedd, codi sbwriel, a phethau fel ‘na. Rwyf wedi mwynhau’n fawr. Dyma’r math o swydd yr hoffwn ei wneud gan fy mod i’n hoffi bod allan yn yr awyr agored.

Roedd yr hyn a welodd wedi creu argraff ar Mr Roddick.

Dywedodd: “Rwy’n meddwl fod gan Grŵp Cynefin lawer iawn i ymfalchïo ynddo am eu bod wedi dangos eu bod yn cydnabod yr angen mawr am le o’r math hwn. Mae’n llenwi bwlch enfawr mewn modd effeithiol ac ystyrlon iawn. Does dim ond angen i chi fod ymysg y bobl sy’n byw yma, a’r rhai sy’n defnyddio’r lle i gael mesur o’r gwerthfawrogiad a deimlir am yr hyn sy’n cael ei wneud ar eu rhan.

““Mae’n agoriad llygad i ddod yma i weld safon y cyfleusterau ac ymrwymiad y bobl sy’n gweithio yma. Maent yn gwbl ymroddedig; mae ganddynt ddealltwriaeth wych o’r angen, a sut i ddarparu ar gyfer hynny.

Dywedodd Osian Elis, rheolwr prosiect Yr Hafod: “Paratôdd trigolion presennol Yr Hafod deisen cyn y cyfarfod, a manteisio ar y cyfle i rannu eu profiadau gyda Mr Roddick. Buont yn trafod sut mae’r HWB yn eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd a pharatoi ar gyfer byw’n annibynnol.

“Mae’n wych o beth eu bod nhw gallu gweithio gyda’r HWB gan fod popeth sydd ei angen arnynt o dan un to.

“Mae’r bobl ifanc yn gwneud yn dda iawn. Gallant aros yma am hyd at 12 mis ac yna gallant symud ymlaen i denantiaeth gynaliadwy yn y gymuned. Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth emosiynol. ”

Ychwanegodd Claire Owens, swyddog cymorth tai ar gyfer Cefnogi Pobl,: “Rydym yn cael cyfeiriadau gan yr adran tai, gwasanaethau cymdeithasol, Heddlu Gogledd Cymru, ac amrywiaeth o asiantaethau eraill. Os oes pobl ifanc o ardal Dinbych sydd ag anghenion uchel ac sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yna i fan hyn y byddem yn eu cyfeirio.

“Mae’r cynllun hwn yn helpu pobl ifanc i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw yn annibynnol pan fyddant yn symud ymlaen o fan hyn. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys gweithio, coginio, rheoli tenantiaeth, rhannu gyda’i gilydd, a chyllidebu eu harian.

“Mae’n llety o safon uchel iawn. Os yw pobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, mae’n gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae Gwasanaeth Cynllunio a Uned Strategol Tai Cyngor Gwynedd wedi sicrhau y bydd 58 tŷ fforddiadwy wedi eu cynnwys yn natblygiad Goetre Uchaf – dyma’r nifer uchaf erioed o dai fforddiadwy o fewn unrhyw ddatblygiad yng Ngwynedd. Bydd cyfanswm o 245 o dai ar stad Goetre Uchaf, Penrhosgarnedd ac mae’r gwaith adeiladu wedi dechrau yn barod.

Mae’n ofynnol i unrhyw un sydd â diddordeb yn un o’r unedau fforddiadwy i gofrestru â Tai Teg. Mae’r cynllun yn dal rhestr o bobl sy’n awyddus i fod yn berchen eu cartref eu hunain ond sy’n methu prynu ar y farchnad agored ar hyn o bryd er mwyn ceisio eu paru efo cartrefi addas posib yng Ngwynedd a Môn.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn tŷ fforddiadwy yng Ngoetre Uchaf alw heibio’r diwrnod agored ar y stad ger Bangor ddydd Sadwrn, 30 Mai rhwng 10am a 2pm. Bydd staff yn bresennol i ateb cwestiynau am y gofrestr Tai Teg.

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd a chyfrifoldeb dros dai fforddiadwy: “Rydw i’n falch fod cymaint o dai fforddiadwy am fod ar gael fel rhan o’r datblygiad hwn a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ei chael yn anodd i gael cartref sy’n addas i’w anghenion i fynd draw i’r diwrnod agored.

“Mae helpu pobl i ffeindio cartref sydd o fewn eu cyrraedd yn ariannol yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd fel y gallwn helpu pobl i aros yn eu cymunedau, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni pryd mae prisiau tai yn parhau i godi.

“Byddwn yn annog pobl i fynd i’r wefan www.TaiTeg.org.uk i gofrestru efo’r cynllun Tai Teg. Bwriad y cynllun yw helpu pobl i ddod o hyd i gartrefi addas ac hefyd helpu’r Cyngor a’r cymdeithasau tai lleol i greu darlun llawn o’r anghenion tai lleol.”

Am fwy o wybodaeth am gynlluniau tai fforddiadwy’r Cyngor ewch i www.TaiTeg.org.uk

Am fwy o wybodaeth am ddatblygiad Goetre Uchaf ewch i www.redrow.co.uk/developments/goetre-uchaf-bangor

Cofrestrau Tai Unigol yng Nghonwy a Sir y Fflint

Mae Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r holl Gymdeithasau Tai yn y siroedd hyn yn gweithio mewn partneriaeth i’w gwneud yn haws i bobl wneud cais am dai cymdeithasol.

Bellach un gofrestr tai sydd yna i bob sir ac mae pob eiddo yn cael ei ddyrannu o’r gofrestr unigol honno. Gynt roedd gan bob Cyngor a chymdeithas tai eu cofrestrau tai eu hunain ac roedd yn rhaid i ddarpar denantiaid wneud cais i bob un ar wahân.

Mae’r system newydd yn anelu i’w gwneud yn haws i wneud cais am dai cymdeithasol a gwneud y gofrestr tai yn haws i’w deall.

O dan y system newydd, bydd pobl sy’n gwneud cais am dai cymdeithasol yn cael eu hasesu i weld a ydynt yn bodloni meini prawf statudol penodol, a fydd yn penderfynu ar eu lefel o angen am dai.

Byddant hefyd yn cael eu hasesu o ran eu cysylltiad lleol â‘r ardal a’r gymuned y maent yn dymuno byw ynddi. Mae gan y system newydd nifer o fandiau, a dim ond y bobl hynny sydd â‘r angen mwyaf, ac â’r brys mwyaf, fydd yn y bandiau uwch, ac felly’n cael blaenoriaeth ar gyfer tai.

Bydd Datrysiadau Tai yn trafod y dewisiadau tai gorau ar gyfer pob cwsmer yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Bydd y cyngor yn cynnwys yr ystod gyfan o ddewisiadau tai fforddiadwy, gan gynnwys tai cymdeithasol, llety rhent preifat, perchnogaeth cartref a dewisiadau eraill sydd ar gael.

Dywedodd y Cyng. Phil Edwards, Aelod Cabinet Cymunedau Conwy, “Mae prinder o dai cymdeithasol a bydd y dull newydd hwn yn ein galluogi i ddarparu ystod o opsiynau realistig i bobl i’w helpu i ddiogelu tai yn yr ardal o’u dewis, drwy archwilio ystod o opsiynau sydd ar gael yn y sir.”

Dywedodd y Cyng. Helen Brown, Aelod Cabinet Tai, Cyngor Sir y Fflint, “Mae’r system newydd hefyd yn berthnasol i’r rhai hynny ar un o’r rhestrau aros presennol. Rydym wedi ysgrifennu at yr holl bobl hyn yn esbonio’r system newydd ac yn gofyn a ydynt yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y rhestr newydd.”

Os ydych yn gwneud cais am gartref yn Sir y Fflint neu yng Nghonwy, mae’n rhaid i chi wneud cais i:

Conwy: Datrysiadau Tai Conwy 0300 1240050 www.taiconwy.co.uk

Sir y Fflint: Datrysiadau Tai Sir y Fflint 01352 703777 www.taifflint.co.uk

Teyrnged i John Glyn Jones

Ef oedd Prif Weithredwr cyntaf Tai Clwyd a bu yn y swydd am 25 mlynedd tan iddo ymddeol yn 2007. Roedd yn un o arweinwyr pwysicaf y mudiad cymdeithasau tai yng Nghymru ers dyddiau cynnar yr 1980au. Gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i ddatblygiad Tai Clwyd, yn bencampwr dros anghenion cymunedau gwledig a’r Gymraeg, ac roedd yn uchel iawn ei barch ymhlith ei gydweithwyr a phartneriaid ar draws Cymru.

Bydd colled enfawr ar ei ôl, fel ffrind a cyn gydweithiwr, ac hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu.

Canolfan HWB Dinbych, Grŵp Cynefin yn ennill un o brif wobrau UK Housing 2015

Mewn seremoni fawreddog yn Llundain, o flaen 700 o bobl flaenllaw diwydiant tai y Deyrnas Gyfunol, derbyniodd Rheolwr Datblygu Cymunedol Grŵp Cynefin, Mair Edwards y wobr gyda balchder ar ran staff a phartneriaid Hwb Dinbych. Cyflwynwyd y wobr a oedd wedi ei noddi gan y NHBC gan y gomedïwraig a phersonoliaeth adnabyddus Sandi Toksvig.

Roedd cynrychiolwyr o gwmni pensaerniol John McCall Architects, Anwyl Construction a Phrosiect Ieuenctid Dinbych gyda Grŵp Cynefin i dderbyn y wobr ‘Datblygiad Rhagorol y Flwyddyn’ ar ran partneriaid y prosiect, yn Seremoni Wobrwyo UK Housing.

Cynllun £2.2 miliwn HWB Dinbych yw’r datblygiad cyntaf o’i fath ac mae’n cynnig nifer o adnoddau addysg a hamdden ar gyfer pobl tref Dinbych a’r cyffiniau.

Mae gwobrau UK Housing yn cydnabod gwaith rhagorol gan sefydliadau tai er mwyn gwella bywydau pobl o fewn eu cymunedau. Trefnwyd y digwyddiad gan y Chartered Institute of Housing (CIH) a’r cylchgrawn Inside Housing.

Dyma’r 19fed flwyddyn i’r seremoni gael ei chynnal a derbyniwyd mwy na 250 o geisiadau am wobrau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Rydym wrth ein boddau o dderbyn y wobr hon. Mae’n cydnabod gwaith caled pawb a fu’n ymwneud â phrosiect arloesol Hwb Dinbych. Bu staff Grŵp Cynefin yn gweithio’n ddiflino i gwblhau’r cynllun, gyda chefnogaeth ac anogaeth ein partneriaid Cyngor Sir Ddinbych (timau Cefnogi Pobl, ieuenctid a thai), Grŵp Llandrillo Menai a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.

“Gyda chymorth ariannol gan Gronfa Pawb a’i Le Y Loteri Fawr, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Freeman Evans, Cyfenter a’r Garfield Weston Foundation, rydym wedi llwyddo i gynnig cymorth yr oedd mawr angen amdano i bobl leol y cylch. Hefyd, darparwyd gwaith i bobl leol yn ystod y cyfnod adeiladu ac mae Hwb Dinbych bellach yn cynnig gwaith tymor hir ers iddo ddechrau gweithredu. Mae’n enghraifft ragorol o’r hyn y gall Grŵp Cynefin ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill – cefnogaeth ymarferol o fewn y gymuned leol sy’n mynd tu hwnt i gwrdd ag anghenion tai yn unig. Rydym mor falch fod y wobr Brydeinig yma’n cydnabod yr ymrwymiad cymunedol hwnnw.”

Yn rhan gymunedol Hwb Dinbych mae pedair stafell ddysgu, stiwdio gerdd, lle ar gyfer gweithdai, ystafell Technoleg Gwybodaeth, cegin hyfforddi a stafell aml bwrpas lle gellir cynnal gweithgareddau amrywiol, yn cynnwys clybiau ieuenctid, cyfarfodydd a chyrsiau crefft.

Yn ôl Mair Edwards, Rheolwr Datblygu Cymunedol Grŵp Cynefin: “Roedd yn brofiad gwych bod yn y seremoni a chael cyfle i weld y gorau o’r sector dai ar draws y Deyrnas Gyfunol. Pan gyhoeddwyd mai HWB Dinbych oedd enillydd y categori, roeddem wedi gwirioni! Mae’n cydnabod ymdrech aruthrol y tîm ac roedd yn anrhydedd o’r mwyaf cael dychwelyd adref fel enillwyr y wobr.”

Mae’r asiantaeth Gofal a Thrwsio yn Sir Ddinbych yn cael ei reoli eisoes gan Grŵp Cynefin. Dros y misoedd nesaf, bydd is gwmni newydd yn trosglwyddo i ffurfio un asiantaeth o’r enw Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.

Ni fydd unrhyw newid i’r gwasanaeth a dderbynnir gan ddefnyddwyr presennol y ddau wasanaeth gofal a thrwsio.

Trwy weithio gyda’i gilydd bydd yn helpu lleihau costau rhedeg, a dilyn polisi Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr asiantaethau gofal a thrwsio yng Nghymru o 2015-2016.

Bydd asiantaethau Gofal a Thrwsio Gwynedd ac Ynys Môn, y ddau’n cael eu rheoli eisoes gan Grŵp Cynefin fel is-gwmni Canllaw, hefyd yn uno yn ystod y misoedd nesaf.

Mae’r gwasanaeth Gofal a Thrwsio yn wasanaeth ymweld â‘r cartref rhad ac am ddim sy’n galluogi pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.

Mae’r asiantaethau yn gallu gwella ansawdd bywyd pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn cefnogi byw’n annibynnol i bobl dros 60 oed mewn cartrefi diogel, cyfforddus a chynnes.

Gall Gofal a Thrwsio helpu gyda gwelliannau bychan i’r cartref fel trwsio tap sy’n gollwng, gosod rheiliau llaw neu gloeon newydd, i waith adeiladu mawr fel addasu ystafell ymolchi i ddefnyddiwr hŷn neu osod to newydd.

Yn ôl Gwynne Jones, fydd yn cadeirio asiantaeth Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych: “Trwy ddod â‘r asiantaethau Gofal a Thrwsio at ei gilydd, byddwn yn gallu darparu mwy am lai a sicrhau bod gennym wasanaeth cynaliadwy sy’n helpu pobl hŷn fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

“Wrth wneud hyn, byddwn mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau ariannol sy’n wynebu asiantaethau Gofal a Thrwsio ledled Cymru. Trwy weithredu o dan Grŵp Cynefin, bydd yr asiantaeth newydd yn cael budd o gymorth ariannol y gymdeithas dai a gwasanaethau corfforaethol.”

“Ni fydd ein cleientiaid yn siroedd Conwy a Dinbych yn sylwi ar unrhyw newid yn y gwasanaeth o ansawdd a ddarperir i’n cleientiaid.”

Yn ôl Walis George, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae cefnogi pobl hŷn a bregus yn eu cartrefi eu hunain yn rhan hanfodol o ddatblygu cymunedau cynaliadwy ledled Gogledd Cymru.

“Mae dod ag asiantaethau Gofal a Thrwsio siroedd Conwy a Dinbych ynghyd, yn ogystal â Gwynedd a Môn yn y dyfodol agos, yn helpu i ddiogelu’r gwasanaethau hyn ar gyfer y blynyddoedd nesaf.”

Dathlu ein Pen-blwydd Cyntaf

​I ddathlu ein penblwydd cyntaf, rydym wedi cynhyrchu’r llyfryn atodol sy’n edrych yn ôl ar beth sydd wedi’w gyflawni, yn ogystal ag edrych ymlaen i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dogfennau

Grŵp Cynefin yn buddsoddi £4.5m mewn cartrefi newydd i bedair cymuned yn Ynys Môn

Mae’r gymdeithas dai yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau tai Cyngor Sir Ynys Môn i ddatblygu pedwar safle bychan o dai ym Mryngwran, Bodedern, Llanfaelog a Chaergybi.

Cyhoeddwyd bod y pedwar datblygiad i ddigwydd yn ystod ymweliad ag un o’r safleoedd, sef datblygiad Bryn Du yn Llanfaelog, sy’n cynnwys deuddeg o dai, chwe chartref (3 ystafell wely) a chwe chartref ychydig yn llai (2 ystafell wely).

Codwyd yr angen am y tai yn ardal Llanfaelog yn dilyn gwaith gan Hwylusydd Tai Gwledig Môn, sy’n cydweithio â chynghorau cymuned i asesu gofynion tai yn eu hardaloedd.

Defnyddiwyd y wybodaeth gan Grŵp Cynefin i gynnig cynlluniau sy’n addas i’w hystyried gan wasanaethau tai Cyngor Ynys Môn, fel rhan o’r broses ar gyfer y rhaglen ddatblygu tai fforddiadwy strategol ar gyfer yr Ynys.

Yn ôl Rhys Dafis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio i Grŵp Cynefin: “Os ydym am weld cymunedau gwledig yn ffynnu, mae angen i bobl leol allu byw yn eu hardaloedd a chefnogi siopau ac ysgolion a chyfleusterau eraill yn yr ardal. Ein nod yw darparu cartrefi fforddiadwy sy’n cyfateb i’r hyn y mae’r gymuned ei hangen.

“Mae gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Hwyluswyr Tai Gwledig yn sicrhau bod datblygiadau o faint a chwmpas priodol yn cael eu darparu, gan sicrhau ein bod yn diwallu anghenion tai cyfredol yn ogystal â chynllunio ar gyfer cynaliadwyedd cartrefi cymunedau i’r dyfodol.

“Mae’r pedwar datblygiad bychan wedi eu teilwra i weddu bob cymuned, ac mae’r cynlluniau yn rhan o ymrwymiad Grŵp Cynefin i gefnogi ffyniant cymunedau gwledig yng ngogledd Cymru i’r dyfodol.”

Ym Modedern, bydd pedwar cartref (3 ystafell wely) a dau gartref (2 ystafell wely) yn cael eu hadeiladu yn natblygiad Bron y Graig, tra y bydd wyth o gartrefi (3 ystafell wely) a dau gartref (2 ystafell wely) yn cael eu hadeiladu ar safle Plas Llechylchedd ym Mryngwran.

Mae Grŵp Cynefin hefyd yn datblygu deuddeg o fflatiau (2 ystafell wely) ar safle Llain Cyttir yng Nghaergybi. Cefnogir y datblygiad trwy Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Cymru a chyllid Fframwaith Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, sy’n annog y gwaith o adeiladu eiddo llai a all wrthsefyll effeithiau cosb dan-ddeiliadaeth neu dreth ystafell wely.

Yn ôl y Cynghorydd Kenneth Hughes, deilydd portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Ynys Môn: “Mae darparu tai fforddiadwy o ansawdd yn flaenoriaeth gorfforaethol allweddol i ni.

“Mae’r pedwar cynllun yn dangos cydweithio llwyddiannus rhwng Cyngor Ynys Môn a Grŵp Cynefin er mwyn ceisio diwallu anghenion tai bobl yr ynys, a gwneud y gorau o’r arian grant sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

“Mae gan Gyngor Ynys Môn hanes da o weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gwrdd â‘r angen am dai cymdeithasol fforddiadwy ar yr ynys.”

Cynllun HWB Grŵp Cynefin ar y rhestr fer i dderbyn gwobr bwysig Brydeinig

Cafodd y cynllun, a reolir gan Grŵp Cynefin, ei enwebu yn y categori Datblygiad Rhagorol.

Mae’r UK Housing Awards yn cydnabod gwaith ardderchog gan ddarparwyr tai i wella bywydau pobl o fewn eu cymunedau. Trefnir y gwobrau gan y Chartered Institute of Housing (CIH) a’r cylchgrawn Inside Housing.

Bellach yn eu 19eg flwyddyn, cafwyd mwy na 250 o gynigion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i’w anrhydeddu yn seremoni eleni.

HWB Dinbych yw’r datblygiad cyntaf o’i fath. Mae’n cynnig nifer o adnoddau addysg a hamdden ar gyfer pobl o bob oed yn nhref ac ardal Dinbych.

Yn rhan gymunedol yr adeilad mae pedair stafell ddysgu, stiwdio gerdd, lle ar gyfer gweithdai, ystafell Technoleg Gwybodaeth, cegin hyfforddi a stafell aml bwrpas lle gellir cynnal gweithgareddau amrywiol, yn cynnwys clybiau ieuenctid, cyfarfodydd a chyrsiau crefft.

Meddai Mair Edwards, rheolwr datblygu cymunedol Grŵp Cynefin: “Rydym wrth ein bodd fod cynllun HWB Dinbych wedi cael ei enwebu am un o brif anrhydeddau’r seremoni wobrwyo.Mae’r categori Datblygiad Rhagorol y Flwyddyn yn un cystadleuol iawn ac mae cael ein henwi ar y rhestr fer yn siarad cyfrolau am ansawdd datblygiad HWB.”

Caiff HWB Dinbych ei redeg mewn partneriaeth ag adrannau Gwasanaethau Ieuenctid a Thai Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Llandrillo Menai a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.

Agorwyd y cynllun £2.2m y llynedd ac fe’i gosodwyd ar restr fer Datblygiad y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai Cymru 2014 y Chartered Institute of Housing.

Cyhoeddir enwau enillwyr yr UK Housing Awards 2015 mewn seremoni arbennig yn Llundain yn y Lancaster London Hotel ar 21 Ebrill, lle bydd y ddigrifwraig adnabyddus Sandi Toksvig yn llywio’r gweithgareddau. Noddir y gwobrau gan Campbell Tickell, Capsticks, CHAS, Higgins, The Housing Contact, ISOS, Locality Solutions a’r NHBC.

Meddai prif weithredwr gweithredol CIH, Gavin Smart: “Mae gwobrau hyn yn cydnabod y gwaith gwych a wneir gan unigolion a sefydliadau proffesiynol ar draws y diwydiant ac yn ein sbarduno ni oll o fewn y sector tai i wneud yn well.

“Gobeithiwn y bydd llwyddiant y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer yn ysbrydoli eraill i roi’r gwasanaethau gorau bosibl i’w preswylwyr a’u cymunedau.”

Meddai Emma Maier, golygydd Inside Housing: “Roedd ansawdd cynigion eleni unwaith eto yn well nag erioed. Mewn cystadleuaeth mor galed mae Grŵp Cynefin ymhlith y goreuon ac wedi cyflawni camp aruthrol yn cyrraedd y brig. Llongyfarchiadau!”

Am ragor o wybodaeth ynghylch HWB Dinbych, cysylltwch â rheolwr y ganolfan Ann Davies ar 0300 111 2122 neu dilynwch @HWB_Dinbych ar Twitter.

Trigolion Dinbych yn croesawu Gweinidog Cymunedau Llywodraeth Cymru i’r HWB

Cyfarfu Lesley Griffiths AC gyda nifer o grwpiau a sefydliadau o’r ardal yn HWB Dinbych, datblygiad gwerth £ 2.2 miliwn gan Grŵp Cynefin.

Mae HWB Dinbych, y datblygiad cyntaf o’i fath yng ngogledd Cymru, yn darparu nifer o gyfleusterau addysgol a hamdden i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymuned yn Ninbych.

Fel rhan o’r ymweliad i gael gwybodaeth am y prosiect arloesol, cyfarfu Lesley Griffiths ag aelodau o Brosiect Ieuenctid Dinbych, grŵp mamau ifanc a leolir yn yr HWB, ac aelodau o glwb sgiliau hanfodol cyfrifiadurol.

Cyfarfu’r Gweinidog hefyd â myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai sy’n defnyddio stiwdio gerddoriaeth bwrpasol ar y safle a thenantiaid y chwe fflat, pobl ifanc sydd wrthi’n derbyn cefnogaeth a chymorth i baratoi eu hunain ar gyfer byw’n annibynnol.

Dywedodd Lesley Griffiths AC: “Rwy’n hynod falch o allu ymweld â HWB Dinbych. Mae’n enghraifft arbennig o dda o sut mae’r sector dai yn gallu gweithio gyda sefydliadau partneriaeth a’r gymuned leol i greu cyfleuster sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ardal Dinbych.

“Yn ogystal â darparu tai â chymorth ar gyfer pobl ifanc, mae’r HWB yn cael ei fwynhau gan bobl leol ar gyfer cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

“Roedd yn wych i gwrdd â llawer o bobl leol sydd eisoes wedi bod yn defnyddio’r cyfleuster ac i glywed sut mae un fam ifanc wedi cael ei hysbrydoli i ddechrau ei menter fusnes bach eu hunain o ganlyniad i’r cymorth a’r gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn yma yn yr HWB.”

Mae HWB Dinbych yn brosiect partneriaeth rhwng Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Llandrillo Menai, a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.

Mae’r gofod cymunedol yn cynnwys pedair ystafell addysgu, stiwdio gerddoriaeth, gweithdai, ystafell Technoleg Gwybodaeth, cegin addysgu ac ystafell amlbwrpas sy’n gallu cynnal amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys clybiau ieuenctid, cyfarfodydd a chyrsiau crefft.

Yn ôl Mair Edwards, rheolwr datblygu cymunedol Grŵp Cynefin: “Roedd yn bleser cael croesawu’r Gweinidog i HWB Dinbych a’i chyflwyno i unigolion a grwpiau sydd yn elwa o’r cyfleuster rhagorol yma.

“Mae HWB Dinbych yn adnodd sydd ar gael i’r gymuned gyfan, ac roedd yn wych gallu dangos rhai o’r camau rydym yn eu cymryd i gynyddu sgiliau a chyflogaeth ar lefel leol”

I gael rhagor o wybodaeth am HWB Dinbych, cysylltwch â rheolwr y ganolfan Ann Davies ar 0300 1112122 neu dilynwch @HWB_Dinbych ar Twitter.

Prosiect tai gwerth £1.6m yn trawsnewid bywydau teuluol ym Meirionnydd

Mae’r buddsoddiad sylweddol gan Grŵp Cynefin yn ne Meirionnydd, wedi sicrhau bod 17 o gartrefi newydd wedi eu hadeiladu yn Nhai Pendre, Tywyn gyda’r pwyslais ar sicrhau bod anghenion pobl leol yn cael eu diwallu.

Mae’r tenantiaid newydd symud i’w cartrefi newydd. O fewn y stad mae pedwar fflat, naw tŷ a phedwar byngalo, gydag un o’r byngalos wedi ei ddylunio’n bwrpasol ar gyfer teulu sydd ag anghenion arbennig.

Mae’r teulu Pitt, sydd â phedwar o blant, yn dweud bod “y byngalo wedi gwneud gwahaniaeth anhygoel i ni i gyd.”

Mae plant iau’r teulu yn dioddef o salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau. Nid oedd eu cartref blaenorol yn ddigon mawr ar gyfer eu hanghenion, yn enwedig gan bod un o’r plant mewn cadair olwyn.

Yn ôl Mrs Jo-Anne Pitt: “Mae’n anodd egluro sut y mae mân newidiadau i’n cartref wedi trawsnewid ein bywyd teuluol yn llwyr, diolch i Grŵp Cynefin.

“Mae ein plant ieuengaf, Anthony, 10 a Annalyse, 2, ag anghenion arbennig, gydag Anthony yn dioddef o barlys yr ymennydd difrifol ac epilepsi. Mae ei quadriplegia yn golygu bod gennym ddau o ofalwyr sy’n cynnig rhywfaint o gefnogaeth i ni yn ystod y dydd, gyda Mark, fy ngŵr, a minnau yn gofalu am Ant yn ystod y nos hefyd.

“Mae’r ffaith bod ein hystafelloedd gwely drws nesa i’n gilydd rŵan ac ar yr un lefel, yn golygu y gallaf godi i ofalu am anghenion Ant yn llawer haws yn ystod y nos. Mae wedi rhoi tawelwch meddwl i ni. Mae yna le rŵan yn ei stafell wely i’r gofalwyr i eistedd ac ymlacio gydag o, lle yn ein hen dŷ doedd dim lle i unrhyw un eistedd yn ei stafell wely.

“Gall Ant hefyd ymuno â ni fel teulu yn ystod prydau bwyd yn y gegin. O’r blaen, roedd yn anodd cael ei gadair olwyn i mewn i’r stafell fwyta gyda phawb arall yn eistedd wrth y bwrdd. Mae o bellach yn ymuno â ni yn y gegin, lle o’r blaen roedd yn gorfod eistedd yn y drws, gan fod hi’n amhosib cael ei gadair olwyn i mewn drwy’r drws.

Mae chwaer a brawd hŷn y teulu, Megan, 14 ac Elliot, 13 hefyd yn falch eu bod bellach yn cael stafell wely yr un yn eu cartref newydd.

Croesawyd Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas i’r stad gan y tenantiaid iddo gael cyfle i weld sut mae’r tenantiaid yn setlo i’w cartrefi newydd safonol.

“Y pwyslais gyda’r stad yma o gartrefi yn Nhywyn oedd sicrhau bod cartrefi yn cael eu hadeiladu ar gyfer pobl leol,” eglura Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin.

“Rydym wedi gweithio’n agos mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref Tywyn a Chyngor Gwynedd i sicrhau bod y polisi gosod lleol ar gyfer y stad tai yn gywir i’r ardal. Ein nod yn y pen draw oedd sicrhau bod anghenion tai lleol yn cael eu bodloni ar gyfer Tywyn,” eglura Walis George.

Yn ôl Dafydd Elis-Thomas AC Dwyfor Meirionnydd: “Mae tenantiaid sydd wedi symud i i’w cartrefi newydd yn dweud bod y tai wedi trawsnewid ansawdd bywyd eu teuluoedd. Mae rhai o’r teuluoedd ifanc wedi eu plesio gyda’r gofod mae’r tai yn ei darparu ar eu cyfer tra bod eraill yn falch o gael gerddi mawr i’w plant fwynhau.

“Dwi’n llongyfarch Grŵp Cynefin am fuddsoddi yn ne Meirionnydd, gan gynnig cartrefi o safon i bobl leol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yng nghefn gwlad Gwynedd.”

Yn ôl y Cynghorydd Ioan Thomas, aelod cabinet tai yng Nghyngor Gwynedd: “Mae’r datblygiad hwn yn Nhywyn wedi dod â llawenydd i’r tenantiaid. Mae cartrefi fforddiadwy o ansawdd ar frig ein hagenda yma yng Ngwynedd, er gwaetha’r wasgfa ariannol sy’n ein hwynebu fel Cyngor.

“Yn ychwanegol, mae Grŵp Cynefin wedi bod yn arbennig o graff yn sicrhau bod dyluniad rhai o’r tai yn golygu y gall teuluoedd sy’n tyfu drawsnewid eu cartrefi yn hytrach na symud i dŷ mwy o faint. Gellir trawsnewid gofod yn y to i greu ystafell wely ychwanegol pan fydd angen, ond heb gael eu cosbi nawr gan bolisi treth ystafell wely Llywodraeth San Steffan,” meddai’r Cynghorydd Thomas.

Dod a phobl Dinbych ynghyd i agoriad swyddogol HWB Dinbych

Caiff y datblygiad £2.2m gan Grŵp Cynefin ei agor yn swyddogol gan Gynghorydd Sir Ward Dinbych Uchaf, Colin Hughes, a ymunodd â grwpiau a sefydliadau Dinbych i agoriad mawreddog yr adeilad newydd arloesol.

Agorodd HWB Dinbych ei drysau am y tro cyntaf ym mis Awst, ac mae’n ofod cymunedol newydd ar gyfer pobl leol, sydd hefyd yn darparu nifer o gyfleoedd addysgol a chyflogaeth.

Mae’r adeilad yn brolio amrywiaeth o gyfleusterau sydd ar gael i aelodau o’r cyhoedd eu defnyddio. Yn eu mysg mae pedair ystafell addysgu, stiwdio cerddoriaeth, gweithdai, ystafell Technoleg Gwybodaeth, cegin addysgu ac ystafell amlbwrpas sy’n gallu cynnal amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd, cyfarfodydd a chlybiau ieuenctid.

Yn ôl Y Cynghorydd Colin Hughes: “Dwi’n hynod falch o fod wedi derbyn y cais i agor HWB Dinbych yn swyddogol, sydd eisoes wedi dod yn ganolbwynt i’r gymuned yma yn Ninbych.

“Bydd yr adeilad yn gwneud cyfraniad sylweddol i adfywiad ardal Dinbych Uchaf, ac mae’n wych gweld cymaint o bobl yma i’r agoriad; pobl sydd wedi cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer canolfan menter ieuenctid yn y dref.

“Mae nifer sylweddol wedi defnyddio’r cyfleusterau yma eisoes, ac edrychaf ymlaen at weld yr effaith hirdymor gaiff HWB Dinbych ar y gymuned.”

Dros y ddau fis diwethaf, mae’r ganolfan wedi dod yn gartref i nifer o glybiau a sefydliadau, gan gynnwys Prosiect Ieuenctid Dinbych. Mae’r ganolfan hefyd yn cael ei defnyddio fel man cyfarfod ar gyfer busnesau Dinbych, ac yn cynnal rhaglen o ddosbarthiadau ar gyfer pob oedran a redir gan Grŵp Llandrillo Menai.

Mae’r cynllun, a ddatblygwyd ar safle tir llwyd, hefyd yn cynnwys chwe fflat i bobl ifanc gaiff eu cefnogi a’u paratoi ar gyfer byw’n annibynnol.

Rheolir HWB Dinbych gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin, ac mae’n bartneriaeth rhwng adrannau gwasanaethau ieuenctid a thai Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Llandrillo Menai, a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.

Yn ôl Walis George, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Rydyn ni’n hynod falch o’r adborth cadarnhaol rydym wedi ei dderbyn am HWB Dinbych gan drigolion Dinbych, grwpiau a busnesau hyd yn hyn.

“Mae’r HWB ar gael i’r gymuned gyfan ei defnyddio, ac rydym yn gobeithio y bydd mwy o grwpiau a sefydliadau yn manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gael ar garreg eu drws.”

Mae Grŵp Cynefin yn rheoli bron i 4,500 o gartrefi fforddiadwy ar draws Gogledd Cymru, yn darparu ystod o wasanaethau cymunedol i bobl mewn angen ac yn cyflwyno nifer o brosiectau adfywio cymunedol hefyd.

Am fwy o wybodaeth am HWB Dinbych ffoniwch Ann Davies ar 0300 111 2122 neu dilynwch @HWB_Dinbych ar Twitter.

Datblygiad HWB Dinbych yn cystadlu am wobr tai arbennig

Mae HWB Dinbych, a reolir gan Grŵp Cynefin, wedi cyrraedd rhestr fer yng nghystadleuaeth Datblygiad y Flwyddyn yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Tai, Gwobrau Tai Cymru 2014.

Mae’r gwobrau’n dathlu rhagoriaeth ym maes tai ac enghreifftiau o arfer da ar draws bob rhan o’r sector dai yng Nghymru.

Mae HWB Dinbych, a leolir ar safle tir llwyd ar Ffordd Smithfield, yn cynnwys nifer o gyfleusterau cymunedol, gan gynnwys stiwdio cerddoriaeth, ystafell Technoleg Gwybodaeth, cegin ac ystafelloedd addysgu.

Mae’r datblygiad gwerth £ 2.2 miliwn hefyd yn cynnwys chwech o fflatiau ar gyfer pobl ifanc o ardal Dinbych, ac yn darparu gwasanaethau i’w cefnogi a’u paratoi ar gyfer byw’n annibynnol.

Yn ôl Rhys Dafis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin: “Mae’r enwebiad ar gyfer Datblygiad y Flwyddyn yn gydnabyddiaeth wych o’r adeilad newydd, sy’n brosiect adfywio sylweddol yn y dref.

“Mae’r adeilad yn adnodd gwerthfawr ar gyfer y gymuned gyfan yn Ninbych, o ddarparu cyflogaeth a chyfleoedd addysgol i bobl ifanc i gynnig lleoliad i grwpiau lleol gyfarfod a dysgu sgiliau newydd.”

Mae’r datblygiad cymunedol hefyd wedi ymddangos yn nigwyddiad Drysau Agored Sir Ddinbych yn ddiweddar, a rhoddwyd y cyfle i’r cyhoedd ymweld â’r safle a dysgu am gartrefi diddorol, anarferol, ac adeiladau arwyddocaol eraill y sir.

Rheolir HWB Dinbych mewn partneriaeth â Gwasanaethau Ieuenctid a Thai Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Llandrillo Menai, a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.

Cynhelir gwobrau’r Sefydliad Tai Siartredig Cymru ar 21 o Dachwedd yng Ngwesty’r Vale Resort, Caerdydd.

Penodi aelodau newydd i fwrdd Grŵp Cynefin

Daw Dafydd Lewis, Carys Edwards a Julia Hughes â chyfoeth o brofiad ym maes tai, gofal cymdeithasol a rheoli ar lefel uwch i’r swyddi gwirfoddol.

O Ddolgellau y daw Dafydd sy’n gyn gyfarwyddwr corfforaethol a oedd yn gyfrifol am dai a gofal cymdeithasol yng Nghyngor Gwynedd.

Mae Carys, o’r Parc ger Y Bala, yn gyn bennaeth gwasanaethau i oedolion yng Nghyngor Ynys Môn.

O Langwyfan ger Dinbych y daw Julia Hughes, a than yn ddiweddar bu’n gyfarwyddwr addysg i oedolion ac addysg cymunedol yng Ngholeg Llandrillo.

Mae aelodau’r Bwrdd wedi treulio’r mis diwethaf ymweld ag eiddo a phrosiectau Grŵp Cynefin i gael dysgu mwy am waith y gymdeithas o fewn cymunedau ar draws Gogledd Cymru.

Yn ôl John Arthur Jones, Cadeirydd Grŵp Cynefin,: “Mae llywodraethu da yn gwbl hanfodol i ddatblygiad parhaus a llwyddiant ein gwaith o ddydd i ddydd. Mae Dafydd, Carys a Julia yn aelodau newydd gwerthfawr i dîm ein Bwrdd Rheoli.

“Mae’r bwrdd yn gyfrifol am gyfarwyddo prosiectau Grŵp Cynefin ar draws Gogledd Cymru, a bydd profiad a sgiliau pob un o’r tri yn cyfrannu’n sylweddol at bortffolio eiddo a mentrau cymunedol y gymdeithas.”

Mae Grŵp Cynefin yn darparu mwy na 3,700 o gartrefi ar rent a 700 o eiddo fforddiadwy i bobl ar draws Gogledd Cymru.

Yn ogystal â phortffolio tai, mae Grŵp Cynefin hefyd yn gyfrifol am nifer o brosiectau cymunedol ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys Canllaw Cyf, Cywaith Cyf, a gwasanaeth cymorth cam-drin domestig Gorwel.

Yn ôl prif weithredwr Grŵp Cynefin, Walis George: “Mae Grŵp Cynefin yn croesawu Julia, Dafydd a Carys yn aelodau newydd i’r Bwrdd Rheoli.

“Maen nhw’n dod â chyfoeth o brofiad mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys addysg i oedolion, gofal cymdeithasol a thai; ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i ddatblygu cymunedau cynaliadwy ar draws Gogledd Cymru.”

Cyflwyno cynlluniau ar gyfer tai gofal ychwanegol newydd ym Mhorthmadog

Byddai’r datblygiad, a leolir ar safle hen gartref henoed Hafod y Gest, yn darparu llety annibynnol i bobl hŷn a phobl fregus fyw ynddynt. Mae’r datblygiad yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd. Bydd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau i fyw’n annibynnol neu gyda chefnogaeth gofal gan gyfuno nifer o gyfleusterau cymdeithasol a hamdden.

Cydnabyddir y model tai gofal ychwanegol fel y ffordd orau o alluogi pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol, ond gyda chefnogaeth agos wrth law os ydynt ei angen.

Mae’r cynllun gofal ychwanegol yn cynnwys 40 o fflatiau un a dwy ystafell wely modern sy’n cynnig gofal 24 awr. Yn ganolog i’r cyfan mae elfennau cymunedol i’r adeilad, gan gynnwys ystafelloedd gweithgareddau a hobïau, ystafelloedd ffitrwydd, harddwch a therapi, lolfa a bwyty. Bydd y cyfleusterau hefyd ar gael i bobl hŷn o’r gymuned ehangach yn ardal Porthmadog ei defnyddio.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys cais i ddymchwel cyfleusterau presennol Hafod y Gest a chais i wneud gwaith sylfaenol sylweddol ar y safle. Mae asesiad o risg llifogydd wedi ei wneud, a bydd yr adeilad yn cael ei adeiladu yn llawer uwch na lefel y ddaear.

Bydd y cytundeb adeiladu yn cael ei ddyfarnu i gontractwr o fframwaith caffael Grŵp Cynefin, ac ynddo bydd ymrwymiad i wneud y budd cymunedol gorau posib drwy gadwyni cyflenwi lleol, gan gyflogi gweithwyr lleol a darparu cyfleoedd hyfforddiant. Yn ddibynnol ar y caniatâd cynllunio, y bwriad fydd dechrau adeiladu yn haf 2015.

Cynllun tai gofal ychwanegol Porthmadog fydd y pedwerydd cynllun o’i fath i’w reoli gan Grŵp Cynefin, gyda datblygiadau llwyddiannus tebyg eisoes ar waith yn y Bala, Caergybi a Rhuthun.

Rhaglen cam-drin domestig Ynys Môn yn ceisio cynorthwyo tadau i ail adeiladu perthynas â phlant

Bydd y rhaglen Tadau Gofalgar, a redir gan wasanaeth cymorth cam-drin domestig Gorwel, ac sydd hefyd wedi partneru gyda Tadau Gofalgar Canada, yn helpu tadau ddatblygu perthynas iach tad a phlentyn.

Bydd y sesiynau yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth cyfranogwyr am agweddau, credoau ac ymddygiad sy’n ffurfio perthynas tad-plentyn. Bydd hefyd yn cynyddu eu cyfrifoldeb am ymddygiad camdriniol ac esgeulus ac yn datblygu ymwybyddiaeth o dad sy’n rhoi’r plentyn yn ganolog, wrth ei fagu.

Mae’r rhaglen wythnosol, a gynhelir yn Llangefni yn ystod y pedwar mis nesaf, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus y llynedd. Y bwriad yn y pen draw yw helpu tadau adnabod ymddygiad tad-plentyn afiach a chynllunio ar gyfer perthynas adeiladol yn y dyfodol.

Mae ymchwil yn dangos bod ymgysylltu effeithiol â thadau yn cynyddu’r cyfraniad cadarnhaol y maent yn ei chael ar fywydau eu plant. Mae hyn yn ei dro yn arwain at ystod o fanteision emosiynol, corfforol a gwybyddol ar gyfer eu plant.

Yn ôl Paul Jones, arweinydd rhaglen Tadau Gofalgar: “Mae Gorwel wedi cydnabod yr angen cynyddol i ymgysylltu â thadau. Ein nod yw cynyddu’r cyfraniad cadarnhaol y mae tadau yn ei wneud i fywydau eu plant.

“Rydym yn ymwybodol pan fydd tadau yn ymwneud yn gadarnhaol gyda’u teuluoedd, bod y canlyniadau ar gyfer plant yn llawer mwy. Mae ymchwil wedi dangos y bydd plant wedyn yn cael gwell ymlyniad a bydd yn elwa’n gymdeithasol, yn emosiynol, yn gorfforol ac yn wybyddol. Rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau gan dadau sy’n meddwl y byddent yn elwa o ddatblygu eu sgiliau i ymdopi â sefyllfaoedd rhwystredig mewn ffordd iach a phositif.”

Bydd yr holl gyfranogwyr yn mynychu apwyntiad asesiad cychwynnol cyn penderfynu ar eu haddasrwydd ar gyfer y rhaglen.

Mae’r cynllun yn un o nifer o fentrau a redir gan Gorwel, sy’n cael ei reoli gan Grŵp Cynefin.

Mae ‘Siop Un Alwad’ Gorwel yn Llangefni yn darparu gwybodaeth a gwasanaethau sy’n anelu at leihau cam-drin domestig. Mae prosiectau eraill a ddarperir gan Gorwel yn cynnwys lloches, Ymgynghorydd Annibynnol Trais Domestig, cymorth cymunedol a gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Tadau Gofalgar, gan gynnwys manylion am sut i gymryd rhan yn y rhaglen, cysylltwch â Gorwel ar 01248 750903.

Gwaith yn dechrau ar ddatblygiad cyntaf Grŵp Cynefin

Y datblygiad £1.1m o bump tŷ tair llofft a phedwar tŷ dwy lofft ym Mhenyffordd, Treffynnon, fydd y cyntaf dan faner Grŵp Cynefin ers ffurfio’r gymdeithas dai ar 1 Ebrill eleni.

Bydd yn cynyddu nifer y tai newydd a godwyd, neu sy’n cael eu codi gan Grŵp Cynefin a’i ragflaenwyr, Tai Clwyd a Thai Eryri, i 286 eiddo dros y tair blynedd ddiwethaf.

Mae tai Penyffordd yn ffurfio rhan o raglen ddatblygu £21m i godi dros 200 o gartrefi newydd ar draws Gogledd Cymru cyn diwedd 2017.

Yr wythnos yma, ymwelwyd â’r cartrefi newydd, sy’n cael eu hadeiladu gan Anwyl Construction, gan gynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref Treffynnon a Grŵp Cynefin.

Meddai Walis George, prif weithredwr Grŵp Cynefin, “Mae’r tai yma’n rhan o’n hymrwymiad i ddatblygu cymunedau cynaliadwy ar draws gogledd Cymru.

“Nhw yw’r tai cyntaf i’w codi yn ein rhaglen ddatblygu ar gyfer 2015-17, lle byddwn yn adeiladu nifer o wahanol fathau o gartrefi ym mhob rhan o’r gogledd, gan adlewyrchu anghenion cymunedau lleol.

“Mae Grŵp Cynefin yn awyddus i wneud llawer mwy na darparu tai. Dymunwn chwarae rhan allweddol yn y dasg o ddatblygu cymunedau cynaliadwy y bydd pobl yn falch o fyw ynddynt. Gobeithio mai fel hyn yn union y bydd tenantiaid y tai newydd hyn yn teimlo.”

Mae Grŵp Cynefin ar hyn o bryd yn codi 104 o dai newydd ar draws siroedd gogledd Cymru ac maent yn disgwyl cwblhau 109 eiddo arall erbyn 2017. Yn eu plith y mae datblygiad gofal ychwanegol i bobl hŷn ym Mhorthmadog a 12 tŷ ar hen safle Ysbyty Cymunedol Llangollen.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Dai, “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy i bobl yr ardal. Hwn yw un o flaenoriaethau Cynllun Gwella’r Cyngor.

“Bydd y datblygiad yma’n darparu tai o ansawdd uchel am rent rhesymol i’w preswylwyr. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai a chyrff eraill i wneud yn siŵr fod hyn yn digwydd ym mhob rhan o’r sir.”

Meddai Tom Anwyl, un o gyfarwyddwyr Anwyl Construction, “Mae Anwyl Construction yn falch iawn o fedru gweithio gyda Grŵp Cynefin i godi tai fforddiadwy y mae gwir angen amdanynt.”

Y Gweinidog Tai yn mwynhau’r ardd, gyda menter gymdeithasol sy’n cefnogi pobl hŷn ledled Sir Ddinbych

Daeth Ann Jones, AC Dyffryn Clwyd, a Carl Sargeant AC i ymweld â Edith, sy’n byw yn Rhuddlan, er mwyn gweld drostynt eu hunain y gwaith garddio a gafodd ei wneud gan Barry Ellis, sy’n gweithio i Wasanaeth Garddio a Thasgmon Gerddi Gwyrdd.

Sefydlwyd Gerddi Gwyrdd yn 2009 gan Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych, sy’n cael ei redeg gan y gymdeithas dai, Grŵp Cynefin. Mae Gerddi Gwyrdd yn gofalu am waith garddio ar ran trigolion Sir Ddinbych na all gynnal a chadw eu gerddi eu hunain.

Gan fod ei iechyd yn dirywio, roedd gŵr Edith yn ei chael yn fwyfwy anodd gofalu am yr ardd yr oedd mor hoff ohoni. Wrth lwc, roedd Gerddi Gwyrdd ar gael i helpu.

Ers dwy flynedd, mae Barry yn ymweld â‘r cwpl bob pythefnos i gadw trefn ar eu gardd. Parhaodd i gadw’r ardd yn daclus ar ôl i gŵr Edith symud i gartref gofal lleol yr haf diwethaf.

Yn ogystal â chynnig cyfeillgarwch a chymorth i’r ddau, bu ymweliadau Barry hefyd yn fodd i’w galluogi i gael gwelliannau i’w cartref, gan gynnwys gosod coffr goriadau a ramp ar gyfer sgwter gŵr Edith.

Meddai Edith: “Mae Barry’n fwy na garddwr i ni, mae’n ffrind hefyd. Mae cael treulio amser yn yr ardd gyda Barry heb orfod gwneud yr holl waith caled yn gwneud cymaint o wahaniaeth!

“Yn ogystal â bod â ffrind y gallwn ddibynnu arno, rydym hefyd yn gwybod y gallwn alw ar Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych os oes arnom angen rhywbeth.”

Mae llawer o drigolion oedrannus eraill hefyd, o bob cwr o Sir Ddinbych, wedi cael cymorth trwy Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych yr un fath â Edith.

Fel rhan o’i ymweliad, siaradodd y Gweinidog â Barry a chynrychiolwyr o Grŵp Cynefin am Gerddi Gwyrdd, yn ogystal â helpu gydag ychydig o waith ysgafn yn yr ardd.

Meddai Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio: “Roeddwn yn falch o gyfarfod â Edith heddiw a chlywed sut y mae Gerddi Gwyrdd trwy Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych yn ei helpu i fyw’n hapus yn ei chartref.

“Mae’n amlwg bod Edith yn mwynhau ei gardd hyfryd ac wedi cael budd mawr drwy’r gwasanaeth hwn. Rwy’n falch iawn bod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi’i galluogi i gael y cymorth ychwanegol y mae arni ei angen er mwyn cadw ei gardd hyfryd yn daclus.”

Mae Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych yn cynnig cyngor ac arweiniad i berchnogion tai a thenantiaid preifat yn Sir Ddinbych, gan eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’r cymorth sydd ar gael i bobl dros 60 oed yn cynnwys gwaith trwsio, gwelliannau a gwiriadau diogelwch cartref a chymorth gyda cheisiadau am grantiau a budd-daliadau.

Meddai Lynda Colwell, rheolwr Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych: “Mae Gerddi Gwyrdd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl na fyddai fel arall yn gallu cynnal eu gerddi eu hunain a gwneud mân waith trwsio.

“Mae hefyd yn helpu Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych i ddod i gysylltiad â phobl hŷn na fuasai wedi cysylltu â ni fel arall.

“Mae’n wych bod Gerddi Gwyrdd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd Edith, a buasem yn falch iawn o glywed gan bobl eraill yn Sir Ddinbych a allai fanteisio ar y gwasanaeth.”

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Gerddi Gwyrdd wedi tyfu’n gyson gan wasanaethu nifer cynyddol o bobl. Sefydlwyd menter newydd hefyd y llynedd, o’r enw Planhigion Bryn Bella.

Mae’r gwasanaeth newydd yn gwerthu amrywiol blanhigion a blychau planhigion ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â disgyblion sy’n astudio ar gyfer TGAU mewn Dylunio a Thechnoleg mewn ysgolion yn Sir Ddinbych. Mae’r disgyblion yn gwneud blychau planhigion fel rhan o’u gwaith cwrs ac maent yn cael budd o’u profiad gwaith gyda Gerddi Gwyrdd.

Meddai Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin: “Roedd yn bleser siarad â Edith a chlywed yn uniongyrchol sut mae Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych wedi cael effaith gadarnhaol ar ei bywyd.

“Mae Grŵp Cynefin yn darparu llawer mwy na thai cymdeithasol ac mae’r gwaith y mae Gerddi Gwyrdd yn ei gyflawni yn enghraifft ardderchog o’n hymrwymiad i gefnogi’r cymunedau lle rydym yn gweithio, o’r trigolion hŷn i’r myfyrwyr sy’n cyfrannu trwy waith Planhigion Bryn Bella.

“Hoffwn longyfarch pawb sy’n gysylltiedig â Gerddi Gwyrdd a Gofal a Thrwsio Sir Ddinbych am eu gwaith gwych yn y gymuned.”

Canolfan newydd i bobl ifanc Dinbych bron yn barod

Adeiladwyd HWB Dinbych ar hen safle Autoworld ar Ffordd Smithfield i gynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi i bobl Dinbych a’r cylch.

Mae’r ganolfan yn cael ei rheoli gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin a disgwylir iddi agor yn Awst. Mae’n brosiect partneriaeth gydag adrannau gwasanaethau ieuenctid a thai Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Llandrillo Menai, a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.

Meddai Mair Edwards, rheolwr datblygu cymunedol Grŵp Cynefin “Prif nod HWB Dinbych yw cynyddu’r cyfleoedd i gael hyfforddiant a gwaith yn lleol.

Gwneir hyn drwy weithio’n agos gyda busnesau lleol, sefydlu mentrau hunan gyflogaeth, datblygu cyfleoedd menter lleol a helpu pobl ifanc i gael addysg bellach.

“Cawsom ymateb rhagorol gan fusnesau lleol. Mae 30 ohonynt eisoes wedi cytuno i’n cefnogi wrth inni ddatblygu cynllun paru â swyddi lleol.”

Bydd HWB Dinbych hefyd yn cynnwys pedair ystafell ddosbarth, stiwdio gerdd, lle ar gyfer gweithdy, ystafell Dechnoleg Gwybodaeth, cegin ddysgu coginio ac ystafell aml bwrpas lle gellir cynnal llawer o wahanol weithgareddau, yn cynnwys dosbarthiadau ffitrwydd, cyfarfodydd a chlybiau ieuenctid.

Mae’r cynllun yn cynnwys chwech fflat i bobl ifanc lle cânt eu cefnogi a’u paratoi ar gyfer byw’n annibynnol.

Meddai Walis George, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Yn ogystal â chefnogi pobl ifanc, rydym yn falch o fod wedi trawsnewid safle yng nghanol Dinbych a esgeuluswyd ers cyfnod maith. Fe’i trowyd yn adnodd a ddaw â manteision tymor hir i’r gymuned gyfan.

“Ymfalchïwn hefyd yn y model partneriaeth a arweiniodd at wireddu’r prosiect hwn. Mae’n dangos ymrwymiad Grŵp Cynefin i’n prosiectau adfywio a gwaith cymunedol.”

Bydd canolfan HWB Dinbych yn trefnu dyddiau agored ar 6 a 13 Awst i roi siawns i’r gymuned leol weld yr adeilad a’i gyfleusterau.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Ann Davies ar 0300 111 2122 neu dilynwch @HWB_Dinbych ar Twitter.


Yn ôl i'r rhestr

Hwyluswyr Tai Gwledig »

Mae nifer o ardaloedd gwledig yn pryderu ynglyn â‘r effeithiau diwylliannol ac economaidd oherwydd prinder tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr allweddol lleol.


Gwybodaeth am Fudd-daliadau »

A ydych chi'n sicr eich bod yn derbyn y budd-daliadau rydych yn gymwys i'w derbyn? Rydym wedi crynhoi y prif fudd-daliadau sydd ar gael isod, ond os ydych yn dal yn ansicr am unrhyw agwedd, cysylltwch â ni.


Adborth, Canmol a Chwyno »

Rydym bob amser yn anelu i ddarparu gwasanaethau rhagorol, ond ni allwn wneud hyn heb wybod beth gredwch chi yr ydym ni’n ei wneud yn dda a lle rydym ni angen gwella.


Cartrefi i Brynu / Rhent Canolraddol

Lansiwyd cofrestr Tai Teg mewn partneriaeth rhwng cymdeithasau tai’r rhanbarth, yr awdurdodau…

Mwy

Gwneud Cais am Waith Trwsio

Mae Grŵp Cynefin yn darparu gwasanaeth trwsio tai ac yn ymrwymo i ddarparu eiddo sydd mewn cyflwr…

Mwy

Swyddi a Gyrfaoedd

Mae Grŵp Cynefin yn cynnig cyfle i unigolion sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes tai mewn…

Mwy

Manylion Cyswllt

Oes gennych chi gwestiwn neu angen cymorth i ddod o hyd i’r wybodaeth rydych ei angen? Yna,…

Mwy