Cynllun arloesol i helpu pobl hŷn barhau i fyw yn eu cartrefi eisoes yn dwyn ffrwyth Llun 24 Gorffennaf 2017
Mae helpu i adennill cysylltiad â theulu wedi ymddieithrio, a chymorth i gael trefn ar faterion ariannol yn dilyn tair trawiad ar y galon, ill dau wedi eu galw'n llwyddiannau cynnar o wasanaeth pobl hŷn arloesol ar gyfer trigolion Ynys Môn, mewn lansiad swyddogol diweddar.

Mynychodd drigolion sydd eisoes wedi elwa o’r Prosiect Pobl Hŷn Môn seremoni lansio arbennig yn Neuadd y Dref Llangefni (12 Gorffennaf).
Mae Prosiect Pobl Hŷn Môn yn darparu cefnogaeth ‘hyblyg’ yn y tymor byr, canolig a ac yn yr hir dymor i alluogi pobl hŷn i fyw mor annibynnol ag sy’n bosib.
Rheolir y gwasanaeth newydd, sy’n ymwneud â thai, gan wasanaeth cefnogi Gorwel, ar gyfer Tîm Cefnogi Pobl Cyngor Ynys Môn.
Mae Prosiect Pobl Hŷn Môn ar gael yn rhad ac am ddim i denantiaid cymdeithasol a phreifat, yn ogystal â perchnogion preswyl, dros 55 oed. Ar hyn o bryd, mae tua 400 o drigolion ar yr Ynys yn gymwys ar gyfer y gwasanaethau.
Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys cymorth i: rheoli ôl-ddyledion sy’n deillio o fethu taliadau rhent / morgais neu filiau dŵr a gwresogi; sefydlu cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol neu; rheoli cyllidebau a mynediad i fudd-daliadau lles sy’n ddyledus; ac i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg ac hyfforddiant.
Dyma rai o enghreifftiau o bobl leol sydd eisoes wedi derbyn cymorth gan y gwasanaeth:
- Unigolyn sydd wedi ail-adeiladu ei fywyd yn dilyn digartrefedd a alcoholiaeth, ond a gafodd 12 mis i ddod o hyd i gartref newydd, yn dilyn marwolaeth ei bartner, perchennog yr eiddo. Cynorthwyodd y gwasanaeth trwy ei helpu i wneud cais am eiddo cyngor a’i gynorthwyo i drefnu llawdriniaeth a fyddai’n gwella ei les. Unwaith bydd wedi dod dros ei lawdriniaeth, mae’n bwriadu cynorthwyo fel gweithiwr gwirfoddol i elusen ar yr Ynys.
- Person oedrannus sy’n byw ar ei ben ei hun heb deulu gerllaw, sydd bellach â llawer o anghenion iechyd sy’n gysylltiedig a’i oed ac anafiadau a brofodd yn ystod ei ieuenctid. Mae Gorwel wedi ei helpu i wneud cais am a sicrhau Lwfans Gweini, cael mynediad at becyn gofal a gwneud addasiadau i’w gartref gan y gwasanaethau cymdeithasol, a chofrestru ar gyfer gwasanaethau cyfeillio a siopa.
- Mae unigolyn sydd wedi dioddef salwch difrifol yr un pryd â chwalfa priodasol wedi mynd i ddyled wrth adael biliau heb eu talu. Mae’r gwasanaeth wedi helpu’r person glirio gwaith papur a bentyrrodd dros saith mlynedd, talu biliau a dod allan o’r ddyled yn ogystal â threfnu sefydlu llinell ffôn a chysylltiad i’r rhyngrwyd wnaiff ei alluogi i siopa a bancio ar-lein.
Mae cyfanswm o tua 400 o bobl ar Ynys Môn yn gymwys i dderbyn y gwasanaeth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r niferoedd yn debygol o godi’n llawer uwch wrth i gyfartaledd oedran poblogaeth yr ynys godi.
Mae Gorwel yn wasanaeth cefnogi o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, sydd hefyd yn gyfrifol am Dai a Gwasanaethau Cymdeithasol y sir: “Fel awdurdod, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Gorwel i gyflwyno’r Prosiect Pobl Hŷn Môn. Mae’r prosiect eisoes yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau llawer o bobl hŷn.
“Bydd ein partneriaeth yn parhau i ganolbwyntio ar wireddu anghenion tai poblogaeth hŷn Ynys Môn, gan wella ansawdd eu bywydau a sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw’n annibynnol yn eu cartrefi cyn hired â phosib.”
Yn ôl Gwyneth Williams, Rheolwr Gorwel: “Mae ffigurau diweddar yn dangos bod 11,000 o bobl rhwng 60-74 oed a 5,900 o bobl dros 75 oed yn byw yn Ynys Môn. Mae’r ffigurau yn debygol o gynyddu 11% a 33% yn y drefn honno.
“Mae pobl yn byw’n hirach ac yn iachach, ond bydd achosion yn ystod eu bywydau pan y gallant fod angen cefnogaeth a gofal.
“Mae o fudd i bawb i gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol cyn hired â phosib.
“Rydym yn falch bod y Prosiect Pobl Hŷn Môn eisoes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yr ynys.”
I gael gwybodaeth am Brosiect Pobl Hŷn Môn, cysylltwch â Gorwel ar 0300 111 0226 neu e-bostiwch poblhyn@gorwel.org
Yn ôl i'r rhestr

Newyddion
‘Youth Shedz’ Bydd menter newydd a elwir yn ‘Youth Shedz’ yn agor yn Ninbych y mis hwn. Nod y fenter yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu a datblygu sgiliau newydd mewn lleoliad diogel.
Llun 16 Ebrill 2018

Newyddion
Annog unigolion sy’n newydd i’r rôl cyfarwyddwr anweithredol i ymgeisio am le ar Fwrdd Grŵp Cynefin. Mae galwad ar unigolion sydd â diddordeb yn y sector tai, sydd hefyd â phrofiad busnes, i ymgeisio am swydd wag ar Fwrdd Rheoli Grŵp Cynefin.
Llun 9 Ebrill 2018

Newyddion
Buddsoddiad sylweddol am dai lleol ym mhentref Cemaes Dros yr wythnosau diwethaf, mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu cartrefi newydd mewn un gymuned yn Ynys Môn.
Mercher 21 Mawrth 2018