Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd yn ymuno â “chwmni da” Monday 4 January 2021
Mae Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd Grŵp Cynefin yn dweud ei bod wrth ei bodd o ymuno â “chwmni da” ac yn edrych ymlaen at yr her sydd o’i blaen.

Mae Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd Grŵp Cynefin yn dweud ei bod wrth ei bodd o ymuno â “chwmni da” ac yn edrych ymlaen at yr her sydd o’i blaen.
Dyna eiriau Mari Williams, o Lanuwchllyn, ger Y Bala wrth iddi ddechrau ar ei swydd newydd: “Roedd y swydd yn apelio oherwydd bod gan Grŵp Cynefin enw fel cwmni da yn fy milltir sgwâr ac fy mod yn gyfarwydd â’u hethos ers fy nyddiau’n rhedeg y papurau lleol.”
Adeiladu ar y gwaith hwnnw o godi proffil y gymdeithas dai, sy’n gweithredu yng ngogledd Cymru a gogledd Powys, fydd rhan o rôl y cyn berchennog a chyn olygydd papurau newydd Y Cyfnod a’r Corwen Times.
Yn ôl Mari Williams: “Dwi’n dechrau ar swydd mewn cyfnod na welwyd ei fath, gyda llawer o staff yn gweithio o gartref a’n swyddfeydd ar gau. Felly mae dod i adnabod y staff, y gwahanol adrannau a gwaith y grŵp yn sialens ynddo’i hun, a dwi’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â chyfathrebu mewnol ac allanol y gymdeithas dai.
“Beth sy’n agoriad llygad yw deall bod nifer o staff y gymdeithas sydd wedi bod efo’r cwmni ers cymaint o flynyddoedd. Mae’n siarad cyfrolau am y math o gwmni ydi Grŵp Cynefin i weithio iddo. Y staff ydi asgwrn cefn y gymdeithas ac mae eu hymroddiad a’u profiad yn amhrisiadwy. Law yn llaw â hynny mae ganddynt sgiliau ac arbenigedd mewn cymaint o wahanol feysydd..”
Mae Mari’n ymuno â’r gymdeithas dai wedi treulio bron i bedair blynedd fel golygydd cylchgronau yna rheolwr cyfathrebu Urdd Gobaith Cymru.
Dechreuodd ei gyrfa gyda chwmni Golwg, cyn mynd ymlaen i weithio’n llawrydd i amrywiol gyhoeddiadau, gan gynnwys y Western Mail. Yna, bu’n rheolwr cyfathrebu i BBC Cymru am 14 mlynedd, lle treuliodd gyfnod helaeth o’r amser yn gweithio yng Nghaerdydd.
Mae bellach yn byw yn ardal Llanuwchllyn, yn briod gyda newyddiadurwr ac yn magu dau o blant.
”Yr hyn nad oeddwn i’n ei wybod oedd ystod y gwasanaethau a pha mor eang ydi gwaith y Grŵp – cefnogi lles tenantiaid, trais yn y cartref, teuluoedd bregus, digartrefedd – mae Grŵp Cynefin yn delio hefo problemau dyrys. Mae’n gyfnod ofnadwy o gyffrous hefyd gyda datblygiad iechyd a lles gwirioneddol arloesol yn Nyffryn Nantlle a’r cynllun tai gofal mwyaf yn hanes y gymdeithas yn Ninbych.
“Ddyddiau’n unig wedi dechrau’r swydd, mi ddysgais bod neges greiddiol y gymdeithas ‘Mwy na Thai’ yn llygad ei lle.”
Mae’r gymdeithas dai yn rheoli 4,800 eiddo ledled gogledd Cymru a gogledd Powys ac ar hyn o bryd yn delio gydag effaith y pandemig ar waith dydd i ddydd staff a thenantiaid.
Gwreiddiau Grŵp Cynefin yw atgyfnerthu a chyfoethogi cymunedau, ac mae’r iaith a’r diwylliant yn flaenllaw yn ei hystyriaethau.
“Dwi’n edrych ymlaen at ddysgu mwy, cydweithio â phartneriaid y gymdeithas, staff ac aelodau’r Bwrdd ac adeiladu ar waith da Grŵp Cynefin i’r dyfodol,” meddai Mari Williams.
Wrth ei chroesawu i’r gymdeithas, dywedodd Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae’n braf croesawu Mari i’n plith, fel un sydd â phrofiad helaeth ym maes cyfathrebu ac sydd â brwdfrydedd at y gwaith. Rydym yn edrych mlaen at dynnu ar ei phrofiad a datblygu’r gwaith o gyfathrebu a marchnata gwasanaethau a phrosiectau Grŵp Cynefin gyda’r byd.”
Gallwch drefnu cyfweliadau yn uniongyrchol gyda Mari Williams ar 07970 142305.
Yn ôl i'r rhestr

Newyddion
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd yn ymuno â “chwmni da” Mae Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd Grŵp Cynefin yn dweud ei bod wrth ei bodd o ymuno â “chwmni da” ac yn edrych ymlaen at yr her sydd o’i blaen.
Monday 4 January 2021

Newyddion
Gwobr tenantiaid arbennig i Grŵp Cynefin Mae Grŵp Cynefin wedi ennill clod uchaf am wasanaethau rhagorol i'w thenantiaid yn ystod argyfwng Covid a'i disgrifio fel “enghraifft o arfer gorau wrth gyfathrebu â thenantiaid”.
Thursday 17 December 2020

Newyddion
Grŵp Cynefin yn cyhoeddi enw ei Gadeirydd newydd Mae Grŵp Cynefin wedi penodi Carys Edwards, cyn bennaeth gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Ynys Môn, fel ei gadeirydd newydd.
Monday 9 November 2020