Fy Nhaith yn y Sector Dai Gan Clifton Robinson, aelod o'r bwrdd, Grŵp Cynefin Sul 16 Rhagfyr 2018

Yn fy ngyrfa o bron i 40 mlynedd, rwyf wedi bod yn hyfforddwr, mentor, cadeirydd bwrdd prawf, cyfarwyddwr tai, prif weithredwr, ac aelod bwrdd o ddwy gymdeithas dai wahanol.


Fy Nhaith yn y Sector Dai Gan Clifton Robinson, aelod o'r bwrdd, Grŵp Cynefin

Rwyf wrth fy modd â thai cymaint felly nes i mi ymddeol yn gynharach eleni i ymuno â bwrdd Grŵp Cynefin sydd wedi ei leoli yng ngogledd Cymru, o dan brif weithredwr newydd, Shan Lloyd Williams.

Nid dyma’r daith yrfaol yr oeddwn wedi’i ddychmygu fel person ifanc. Wedi fy ngeni a’m magu yn Shepherd’s Bush, Gorllewin Llundain, roeddwn i’n bwriadu mynd yn gyfreithiwr.

Ymunais ag adran gyfreithwyr Cyngor Bwrdeistref Hounslow fel person graddedig yn y gyfraith gyda’r dasg o ddelio â materion tai.

Erbyn hynny, wedi priodi â dau o blant ifanc, penderfynais na fyddai’n dda i’m teulu imi dreulio’r blynyddoedd sy’n ofynnol fel cyfreithiwr dan hyfforddiant, cyn cymhwyso fel cyfreithiwr.

Trwy hap a damwain, fe welais hysbyseb recriwtio, a arweiniodd i mi ymuno â Chymdeithas Dai Thames Valley fel ei swyddog perchentyaeth cyntaf.

1983 oedd hi, ac roedd y Gorfforaeth Dai a’r sector yn ceisio mynd i’r afael â mentrau tai newydd megis rhan-berchenogaeth, cynlluniau prydles ar gyfer yr henoed, a’r ddeddfwriaeth ddadleuol newydd, Hawl i Brynu.

Un o’m profiadau cyntaf fel swyddog oedd ymgais arweinydd y cyngor i’m disgyblu am hwyluso gwerthu tŷ cyngor yn ei ward. Nid oeddwn erioed wedi cwrdd ag o, a bu’n rhaid i mi esbonio wrtho mai dim ond gwneud fy ngwaith a chymhwyso’r gyfraith oeddwn i. Roedd yn amser diddorol!

Astudiais ddiwrnod yr wythnos yng ngholeg Polytechnig Kingston ar gyfer Diploma mewn Astudiaethau Rheoli. Yna, yn 1987, trwy hap a damwain unwaith eto, gwelais hysbyseb am reolwr tai gyda Chymdeithas Dai Clwyd Alyn yn Y Rhyl, gogledd Cymru. Cefais y swydd ac ar ôl i ni ymchwilio’n drylwyr i’r ardal a thrafod gyda’r teulu, fe wnaethom fentro symud i ogledd Cymru.

Roedd yn newid byd llwyr. Doeddwn i erioed wedi byw y tu allan i Lundain. Roedd gennym deulu ifanc. Eto, cawsom ein perswadio i symud oherwydd byddai gennym fwy o le i fyw, y cefn gwlad hyfryd, yr hanes a’r diwylliant cryf sy’n yr ardal. Rydym yn wrth ein boddau yma hyd heddiw.

Wedi dweud hynny, fel dyn du, roedd gadael Llundain a gweithio yng ngogledd Cymru yn yr 1980au yn dipyn o her.

Erbyn 1993, roeddwn yn gyfarwyddwr tai yng Nghymdeithas Dai Gogledd Cymru ac yn gyfrifol am gyflawni’r swyddogaethau tai, cynnal a chadw a chyfranogiad tenantiaid yn strategol.

Erbyn 2002, tra’n parhau i fod yn gyfarwyddwr tai, cefais fy nenu’n gynyddol i’r agenda cydraddoldeb. Yn fuan cefais fy hun yn rhan o weithgor dylanwadol Llywodraeth Cymru o uwch weision sifil a gweithwyr proffesiynol tai yn gyfrifol am ddatblygu canllawiau i awdurdodau lleol Cymru a chymdeithasau tai i ddatblygu tai i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) a strategaethau hyfforddi cydraddoldeb o dan ddarpariaethau Deddf Diwygio Cysylltiadau Hil 2000.

Felly, gyda dau gydweithiwr arall, fe wnaethom ffurfio Consortiwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cymru, sef gwasanaeth ymgynghorol a oedd yn darparu hyfforddiant ar amrywiaeth o fewn y sector dai.

Arweiniodd hyn at swydd ar Fwrdd Ymarferwyr Trosedd ac Anrhefn Gogledd Cymru, ac a arweiniodd yn ei dro at swydd cadeirydd Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru.

Ar y pryd, roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn cael ei ffurfio, a chefais fy mhenodi i bwyllgor statudol Cymru, gan helpu i lunio polisi Prydain gyfan.

Ymunais hefyd â bwrdd Cartrefi Conwy a oedd newydd gael ei sefydlu, sef y corff tai ar gyfer trosglwyddo stoc sir Conwy.

Rhwng 2008-10, roeddwn i’n jyglo rolau fel hyfforddwr ymgynghorol gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer y gwasanaeth prawf ac fel aelod o fwrdd Cartrefi Conwy. Roeddwn i’n mwynhau pob munud.

Fodd bynnag, ar ôl y dirwasgiad, roedd y gwaith ymgynghorol yn prinhau. Roedd yn rhaid i mi chwilio am swydd llawn-amser.

Fe gefais swydd prif weithredwr y Rhwydwaith Amrywiaeth Tai (Housing Diversity Network - HND), gan deithio o Ogledd Cymru i’w swyddfa yn Huddersfield, Swydd Efrog.

Roedd HDN yn sefydliad anhygoel! Gyda dim ond chwe aelod o staff (a rhai ohonynt yn rhan-amser) a chriw bach o hyfforddwyr ac ymgynghorwyr hunangyflogedig, roeddem yn cefnogi aelodaeth o dros 100 o gymdeithasau tai yn Lloegr ynghyd â llond llaw o awdurdodau lleol.

Yn ogystal â darparu gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori ar gydraddoldeb, llwyddom hefyd i gynnal rhaglen fentora staff arloesol am nifer o flynyddoedd.

Un o’m cyraeddiadau arbennig gyda HDN oedd datblygu Rhaglen Fentora Aelodau’r Bwrdd, gyda chymorth rhai pobl anhygoel (gan gynnwys David Orr a wnaeth ymddeol yn ddiweddar o’r NHF), ac mae’r rhaglen hon yn dal i fynd o nerth i nerth heddiw. Rhaid i bob peth da ddod i ben felly, ar ôl i mi gyrraedd 60 yn 2016, fe wnes i ymddeol o HDN.

Yn 2017 daeth fy amser fel aelod o’r bwrdd yng nghymdeithas tai Cartrefi Conwy i ben hefyd oherwydd y rheol 9 mlynedd.

Yn ystod fy amser yn Cartrefi Conwy, roeddwn yn arbennig o falch o gadeirio eu Pwyllgor Archwilio a Risg yn ogystal â bod yn bencampwr y bwrdd ar ymgysylltu â thenantiaid a chydraddoldeb.

Ond er hyn ... nid oedd modd i mi anwybyddu’r cyfle pan ddaeth lle ar fwrdd Grŵp Cynefin yn gynharach eleni. Mae wedi bod yn braf iawn ymuno fel aelod bwrdd newydd sbon. Fel aelod o bwyllgor cwsmeriaid a chymunedau, rwy’n mwynhau gweithio gyda phreswylwyr yn fawr iawn.

Wrth gwrs mae heriau. Yn eu mysg y mae’r rhaglen diwygio lles wrth i Gredyd Cynhwysol gael ei gyflwyno, heb sôn am Brexit, sy’n peri risg gan nad ydym yn gwybod sut y bydd y sector adeiladu neu ffynonellau llafur yn cael eu heffeithio yn y dyfodol, er enghraifft.

Ond rwy’n mwynhau bob munud, a gobeithio fy mod yn cyfrannu’n helaeth oherwydd y profiadau yr wyf wedi’i gael dros y blynyddoedd.

Gwersi

1. Gwydnwch. Bodau dynol ydym i gyd. Rwyf wedi dysgu dros y blynyddoedd (yn boenus o araf ar adegau!) i geisio dod dros unrhyw gamgymeriad cyn gynted ag y bo modd a dysgu unrhyw wersi hefyd er mwyn ceisio osgoi ailadrodd yr un camgymeriad.

2. I newydd-ddyfodiaid y sector dai, sôn am amser cyffrous i ymuno â‘r sector! Yn sicr, byddwch chi ar ryw adeg yn gallu cydweithio â disgyblaethau eraill felly ewch amdani a manteisiwch ar unrhyw gyfle i feithrin eich sgiliau.

3. Yn olaf, rwyf wedi darganfod byd podlediadau ac un, yn arbennig, sef Podlediad ‘The Grenfell Tower Inquiry’. Byddwn yn sicr yn argymell y podlediad hwn gan ei fod yn agor eich llygaid ac yn eich dychryn am y rhwyg a all ddatblygu rhwng asiantaethau a’u cwsmeriaid. Gwrandewch arno os gallwch chi, a chadwch eich traed ar y ddaear!


Yn ôl i'r rhestr