Swyddfa ardal newydd yn cynyddu buddsoddiad tref Dinbych i £15.2m Mawrth 14 Tachwedd 2017
Daeth staff, aelodau'r Bwrdd a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd i ddathlu'r buddsoddiad diweddaraf gan Grŵp Cynefin yng nghanol tref Dinbych.

Mynychwyd seremoni i nodi agoriad swyddogol swyddfa ardal newydd y gymdeithas dai, Tŷ John Glyn, ar Stryd y Dyffryn, Dinbych.
Mae’r datblygiad yn nodi cwblhau buddsoddiad o £3m a sicrhau 80 o swyddi yng nghanol y dref.
Penderfynodd Grŵp Cynefin fuddsoddi a lleoli ei hun yng nghanol Dinbych, yn hytrach nag mewn lleoliad y tu allan i’r dref, fel y gallai barhau i ddarparu ei wasanaethau yn y dref. Mae’r penderfyniad hefyd yn sicrhau bod ei staff yn parhau i gefnogi siopau a gwasanaethau lleol.
Tŷ John Glyn yw’r trydydd datblygiad mawr yn y dref gan Grŵp Cynefin.
Mae hefyd yn buddsoddi £10m ar 70 o fflatiau gofal ychwanegol ar safle hen Ysgol Lôn Ganol, ac yn ddiweddar adeiladwyd HWB Dinbych, gwerth £2.2m, ar Ffordd Smithfield, i ddarparu cyfleoedd addysg a chyflogaeth i bobl ifanc a gwasanaethau cefnogi i drigolion eraill ardal Dinbych.
Mae’r swyddfa ardal tair llawr wedi’i ddylunio i gyrraedd safon ‘ardderchog’ BREEAM, sy’n asesu defnydd deunyddiau adeiladu a defnydd ynni a dŵr i sicrhau bod yr adeilad yn amgylcheddol gynaliadwy.
Yn ôl Bryn Ellis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes Grŵp Cynefin: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac yn benderfyniad strategol a wnaed i gefnogi canol tref Dinbych. Er y byddai’n haws i ni fod wedi mynd i barc busnes, rydym yn cadw swyddi yng nghanol y dref, ac yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid lle maen nhw eu hangen yn lleol.
“Mae’r staff wedi aros yn amyneddgar i symud i’r adeilad newydd. Mae’n wych gallu cynnig amgylchedd waith cyfoes a chyfforddus i’r staff.
“Mae gan y swyddfa ystafelloedd cyfarfod modern a chyfleus lle gall tenantiaid gyfarfod â staff mewn cyfleusterau preifat ac ystafelloedd ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd mewnol ac allanol. Mae Grŵp Cynefin wedi buddsoddi ar gyfer y dyfodol.”
Mae’r datblygiad wedi’i enwi ar ôl y diweddar John Glyn Jones, un o bencampwyr blaenllaw y sector dai yng Nghymru.
Yn frodor o Ddinbych, ef oedd gweithiwr cyflogedig cyntaf y gymdeithas cyn datblygu i fod yn brif weithredwr, Cymdeithas Tai Clwyd, a unodd yn ddiweddarach gyda Thai Eryri i greu Grŵp Cynefin.
Pensaerniwyr Creu o Ddinbych ddyluniodd yr adeilad, gyda chwmni R L Davies o Fae Colwyn yng ngofal yr adeiladu.
Roedd staff Grŵp Cynefin wedi eu lleoli mewn dwy swyddfa ar wahân o amgylch Dinbych cyn symud i’r swyddfa newydd. Mae Tŷ John Glyn yn un o bedair swyddfa ardal i Grŵp Cynefin, gyda’r lleill wedi eu lleoli ym Mhenygroes a’r Bala yng Ngwynedd, a Llangefni, Ynys Môn.
Yn ôl Manon Glyn, merch John Glyn Jones, a fynychodd yr agoriad, ar ran y teulu: “Mae hi’n fraint ac yn anrhydedd cael bod yma gyda’r teulu i nodi’r garreg filltir arbennig yma gyda thîm Grŵp Cynefin. Roedd dad yn ymfalchïo yn yr hyn gyflawnodd Tai Clwyd dros y blynyddoedd, a fo fyddai’r cyntaf i bwysleisio maint cyfraniadau pob un o’r gweithwyr a’u cefnogaeth i feithrin Tai Clwyd o’r dyddiau cyntaf mewn stafell fechan ar dop y dref. Byddai hefyd yn hynod o falch fod Grŵp Cynefin wedi llwyddo i gadw’r swyddfa newydd, nid yn unig yn Ninbych, ond yng nghanol y dref, gyda’r bobl a’r busnesau lleol.”
Yn ôl i'r rhestr

Newyddion
‘Youth Shedz’ Bydd menter newydd a elwir yn ‘Youth Shedz’ yn agor yn Ninbych y mis hwn. Nod y fenter yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu a datblygu sgiliau newydd mewn lleoliad diogel.
Llun 16 Ebrill 2018

Newyddion
Annog unigolion sy’n newydd i’r rôl cyfarwyddwr anweithredol i ymgeisio am le ar Fwrdd Grŵp Cynefin. Mae galwad ar unigolion sydd â diddordeb yn y sector tai, sydd hefyd â phrofiad busnes, i ymgeisio am swydd wag ar Fwrdd Rheoli Grŵp Cynefin.
Llun 9 Ebrill 2018

Newyddion
Buddsoddiad sylweddol am dai lleol ym mhentref Cemaes Dros yr wythnosau diwethaf, mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu cartrefi newydd mewn un gymuned yn Ynys Môn.
Mercher 21 Mawrth 2018