Cartrefi Caergybi bron yn barod ar gyfer y teuluoedd lleol Wednesday 23 May 2018
Mae prif weithredwr newydd Grŵp Cynefin wedi dychwelyd i ddatblygiad tai y bu hi’n allweddol yn eu comisiynu yn ei swydd flaenorol fel pennaeth tai yng Nghyngor Ynys Môn.

Ymwelodd Shan Lloyd Williams â‘r datblygiad yng nghanol tref Caergybi, yr Hen Briordy, i glywed y bydd teuluoedd lleol yn paratoi’n fuan i symud i ran gyntaf y datblygiad, sef chwe chartref newydd tair ystafell wely.
Ariannwyd y tai trwy gyfuniad o raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Cyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn fuddsoddiad sylweddol yn nhref Caergybi, a chyllid Grŵp Cynefin. Cyfanswm y buddsoddiad yn rhan gyntaf y datblygiad yw £750,000.
Mae gwaith bellach ar y gweill ar yr ail ran, i adeiladu wyth fflat un ystafell wely, hefyd ar gyfer pobl leol, mewn cul-de-sac yng nghefn y safle.
Mae’r buddsoddiad o £662,000 ar gyfer yr ail gam wedi dod o Gronfa Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Wedi ei gomisiynu’n benodol mewn ymateb i’r angen am dai teuluol a fflatiau un llofft yn ardal Caergybi, mae’r eiddo newydd yn agos at y porthladd ar waelod y tai creigiau, a chofeb drawiadol gofrestredig Skinner y dref. Mae’r safle yn gyn-ganolfan adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol.
Contractwr lleol, Gwasanaethau B C (Ynys Môn) Cyf, Caergeiliog, Caergybi, gyflawnodd y gwaith adeiladu.
Yn ôl Shan Lloyd Williams: “Dyma ein cytundeb adeiladu cyntaf gyda Gwasanaethau B C, ac mae’n wych gweld y cam cyntaf sef chwech o dai tair llofft bron yn barod. Dylai’r cartrefi fod yn barod i bobl symud iddynt erbyn mis Gorffennaf.
“Bu’n brofiad braf ymweld â’r safle i weld ffrwyth fy llafur fel cyn Bennaeth Gwasanaethau Tai i’r Cyngor oedd â chyfrifoldeb ar gyfer tai, a heddiw yn fy swydd newydd fel Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, dwi ar fin gweld y cartrefi yma’n cael eu cyflwyno i deuluoedd lleol.
“Yn ystod fy ymweliad, clywais hefyd fod y contractwr wedi bod yn gweithio gyda Môn CF, i gynnig cyfleoedd prentisiaeth. Roeddwn hefyd yn ymwneud yn agos â datblygu CF Môn wrth weithio i’r Cyngor, felly dwi’n hynod o falch bod pobl ifanc wedi cael cyfle i gael mynediad at gyflogaeth fel rhan o’r datblygiad.”
Y bwriad yw cwblhau’r fflatiau erbyn Mawrth 2019.
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein datblygiadau newydd yn Ynys Môn, ffoniwch ni ar 0300 1112122 neu ebostiwch post@grwpcynefin.org.
Yn ôl i'r rhestr

Newyddion
Cyngor Diogelwch Canhwyllau Mae canhwyllau yn y cartref yn dod yn ffordd fwyfwy poblogaidd o ymlacio gartref. Golyga hyn fod cynnydd mawr wedi bod mewn digwyddiadau damweiniol yn ymwneud â chanhwyllau.
Friday 6 December 2019

Newyddion
Grŵp Cynefin yn cyhoeddi pedwar aelod newydd i’r bwrdd Mae Grŵp Cynefin, wedi penodi Geraint George, Jane Lewis, Mike Corfield a Tony Jones i’r bwrdd rheoli o 10 aelod sy’n gyfrifol am bob agwedd o weithgareddau’r gymdeithas. Y bwrdd sy’n cynnig cyfarwyddyd ar faterion y gymdeithas yn unol â’i hamcanion a’i chanllawiau.
Friday 6 December 2019

Newyddion
Oes angen mwy o dai fforddiadwy yn Ynys Môn? Oes angen mwy o dai fforddiadwy yn Ynys Môn? Dyna’r cwestiwn y bydd yr Hwylusydd Tai Gwledig, Dylan Owen, yn ei holi i gymuned yn Ynys Môn wrth weithio ar y dasg o asesu anghenion tai pobl leol.
Thursday 28 November 2019