Canmol staff gweithgar Grŵp Cynefin am eu hymroddiad Mercher 17 Mai 2017
Mae staff cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi derbyn canmoliaeth am safon uchel eu gwaith a’u hymrwymiad i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’w cwsmeriaid.

Diolchodd y Prif Weithredwr, Walis George, i’r staff i gyd, sef tîm o 200, pan gyhoeddodd fod Grŵp Cynefin wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn safon ryngwladol sy’n dangos bod sefydliad wedi ymrwymo i roi perfformiad arbennig o dda drwy reoli pobl yn dda.
Mae Grŵp Cynefin, sydd â’i brif swyddfeydd yn Llangefni, Penygroes, Dinbych a’r Bala, yn rheoli dros 3,800 o gartrefi ar rent yn ogystal â 700 o dai ar gyfer y farchnad canolraddol, i bobl na allant brynu cartref addas ar y farchnad agored.
Mae Grŵp Cynefin hefyd yn gyfrifol am fentrau cymdeithasol a phrosiectau cymunedol, gan gynnwys HWB Dinbych sef canolfan fenter i fobl ifanc yn Ninbych; Canolfan Fenter Congl Meinciau ym Motwnnog, Gwynedd; a’r tîm Hwyluswyr Tai Gwledig sydd yn cefnogi ymdrechion cymunedol i ofalu bod mwy o dai ar gael ar gyfer pobl leol.
Cynhaliodd aseswyr Buddsoddwyr mewn Pobl arolwg ar-lein o weithwyr Grŵp Cynefin ac yna cynhaliwyd cyfweliadau gyda sampl o 24 o bobl o bob rhan o’r sefydliad, ynghyd ag is-gadeirydd y bwrdd ac un o’r cyfarwyddwyr.
Bu’r aseswyr yn arsylwi’r staff wrth eu gwaith mewn gwahanol swyddfeydd ac yn gweld sut fath o groeso oedd i’w gael ym mhob swyddfa. Cynhaliwyd ymchwil ar y we er mwyn casglu data o wefan y grŵp, adroddiadau Llywodraeth Cymru a deunydd cyhoeddusrwydd a gwybodaeth i gwsmeriaid.
Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn galluogi sefydliadau i feincnodi yn erbyn y goreuon yn y busnes, ar raddfa ryngwladol.
Meddai Paul Devoy, Pennaeth Buddsoddwyr mewn Pobl: “Llongyfarchiadau i Grŵp Cynefin. Mae achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn profi bod y cyflogwr dan sylw yn ardderchog, y gweithle yn well nag mewn mannau eraill a bod ymrwymiad clir i lwyddo. Dylai Grŵp Cynefin fod yn falch iawn o’r hyn y maent wedi’i gyflawni.”
Dywedodd Walis George, prif weithredwr Grŵp Cynefin, wedi iddynt dderbyn y dyfarniad: “Hoffwn ddiolch i bob un o’r gweithwyr. Eu gwaith caled a’u hymroddiad nhw i ofalu am y teuluoedd a’r cymunedau rydym yn eu cefnogi, sy’n gyfrifol bod Grŵp Cynefin yn ei gyfanrwydd wedi ennill yr achrediad hwn.
“Mae pawb yn cytuno yr hoffem yn awr weithio tuag at lefel uwch ac rydym yn anelu am safon aur Buddsoddwyr mewn Pobl, y gallwn ei gyflawni yn 2020 gobeithio.”
Yn ôl i'r rhestr

Newyddion
Pedwar cartref newydd yn Rhewl i fynd ar gofrestr tai fforddiadwy Mae unrhyw un sy’n chwilio am dŷ yn cael eu hannog i gofrestru am y cyfle i brynu neu rentu cartref fforddiadwy newydd yn Nyffryn Clwyd.
Gwener 15 Chwefror 2019

Newyddion
Bron i £12,000 wedi ei rannu rhwng 54 o grwpiau cymunedol a sefydliadau gogledd Cymru Mae'n bleser gan Grŵp Cynefin gyhoeddi bod bron i £12,000 wedi ei rannu rhwng 54 o grwpiau cymunedol a sefydliadau gogledd Cymru i ariannu amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau yn ystod 2018-2019.
Llun 11 Chwefror 2019

Newyddion
Gwaith adeiladu yn dechrau ar gartrefi arloesol Grŵp Cynefin Mae Grŵp Cynefin yn arbed amser ac arian ar ei ddatblygiad tai diweddaraf diolch i ddull adeiladu arloesol.
Mercher 6 Chwefror 2019