Grŵp Cynefin yn lawnsio cynllun llesiant ar gyfer staff Wednesday 3 February 2021
Wrth i staff geisio cyflawni eu swyddi o fewn cyfyngiadau Covid-19 a llawer yn gweithio o gartre a gofalu am eu plant ar yr un pryd, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cynllun llesiant sydd wedi ei greu’n arbennig ar gyfer staff y grŵp.

Crëwyd Byd o Les mewn cyd-weithrediad ag Andrew Tamplin o gwmni Canna Consulting, sydd wedi cyd-weithio â’r grŵp yn barod. Mae’n ddechrau ar flwyddyn o weithgaredd i rannu gwybodaeth, darparu anogaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd lles ac iechyd meddwl.
Bydd y cynllun yn dechrau heddiw (Dydd Mercher, Chwefror 3) gyda sesiwn o dan y pennawd Meddwl, Corff ac Enaid, a gynhelir dros Zoom. Bydd sesiynau a gwybodaeth, oll yn Gymraeg, yn cael eu cynnig hefyd ar Clic, sef mewnrwyd staff Grŵp Cynefin.
“Mae hwn yn gyfnod anodd i staff, heb amheuaeth,” meddai Gwenda Squire, Rheolwr Adnoddau Dynol Grŵp Cynefin. “Yn ogystal â phryder am anwyliaid a phryder cyffredinol am y pandemig, mae unigrwydd o weithio gartre, gweithio a gofalu am blant, gwaith sy’n gyfyngedig i sgrin a newid cyfan gwbl mewn arferion ac amgylchedd gwaith.
“Mae’r holl addasu yn llawer i ofyn o’n staff ac mae’n bwysig eu bod yn cael cefnogaeth. Mi fydd Byd o Les wrth galon ein gofal a’n cefnogaeth o’n staff.”
“Mae iechyd a lles yn bwysicach nag erioed, “ meddai Andrew Tamplin, sy’n gweithio gyda chleientiaid ar draws Cymru ym maes iechyd a lles. “Mi fydd cynllun Byd o Les yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar gadw’n iach yn feddyliol a chorfforol, nid dim ond o fewn oriau ac amgylchedd gwaith ond y tu hwnt i hyn hefyd. Bydd yn gyfle hefyd i aelodau staff rannu tips ac arferion da sy’n eu cynorthwyo nhw.
“Mae Byd o Les yn gynllun cynhwysfawr i gefnogi staff, a bydd llawer o’r cynghorion hefyd yn addas ar gyfer cael eu rannu gyda thenantiaid a defnyddwyr ehangach y grŵp. Mae’r cynllun yn esiampl penigamp o sut y dylai cwmnïau geisio hyrwyddo ac annog arferion da ac iachus ymysg eu gweithlu a dwi’n edrych ymlaen i gyd-weithio gyda Grŵp Cynefin dros y misoedd nesaf.”
Am fwy wybodaeth neud drefnu cyfweliadau, cysylltwch â
Mari Williams, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin
Mari.Williams@grwpcynefin.org
07970 142 305
03.02.21
Yn ôl i'r rhestr

Newyddion
Grŵp Cynefin yn lawnsio cynllun llesiant ar gyfer staff Wrth i staff geisio cyflawni eu swyddi o fewn cyfyngiadau Covid-19 a llawer yn gweithio o gartre a gofalu am eu plant ar yr un pryd, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cynllun llesiant sydd wedi ei greu’n arbennig ar gyfer staff y grŵp.
Wednesday 3 February 2021

Newyddion
Grŵp Cynefin yn lawnsio cynllun llesiant ar gyfer staff Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cynllun llesiant sydd wedi ei greu’n arbennig ar gyfer ei staff.
Wednesday 3 February 2021

Newyddion
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd yn ymuno â “chwmni da” Mae Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd Grŵp Cynefin yn dweud ei bod wrth ei bodd o ymuno â “chwmni da” ac yn edrych ymlaen at yr her sydd o’i blaen.
Monday 4 January 2021