Enwi Warden Arbed Ynni, Sandra, yn Arwres Ynni’r Deyrnas Gyfunol Mawrth 6 Medi 2016
Mae degau o filoedd o bunnoedd sydd wedi eu harbed i denantaid tai ar eu biliau ynni diolch i Warden ynni cymunedol o Gaernarfon, wedi sicrhau ei bod yn cael ymweld â’r Tŷ Cyffredin.

Mae Sandra Kargin yn dweud ei bod wrth ei bodd ac y bydd ei thaith i San Steffan: “Fel bod ar y X-Factor!”
Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, roedd Sandra yn ddi-waith ac mae’n cyfaddef ei bod mewn “lle drwg” cyn iddi gael ei chyflogi gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin, i roi cyngor arbed ynni i bobl ar fudd-daliadau yng Ngwynedd.
Nawr mae ei hymroddiad wedi sicrhau ei bod wedi ennill gwobr Arwyr Ynni gan yr elusen, National Energy Action .
“Mi griais ar ôl derbyn y neges e-bost oedd yn dweud fy mod wedi ennill. Yna es â’r tîm i gyd allan am bryd o fwyd,” meddai Sandra.
Er mai trwy ei swydd y mae wedi ennill y wobr genedlaethol, mae Sandra hefyd yn awyddus i dynnu sylw at effaith personol ei swydd gyda Grŵp Cynefin.
“Mae wedi codi fy hunan-hyder. Dwi’n teimlo ddeng mlynedd yn iau a dwi hyd yn oed wedi colli pwysau hyd yn oed,” meddai.
Mae Sandra hefyd wedi cwblhau cymwysterau ers ymuno â Grŵp Cynefin, gan gynnwys City & Guilds mewn effeithlonrwydd ynni ac ymwybyddiaeth ynni, yn ogystal â TGAU yn y Gymraeg.
Mae Sandra, sy’n fam i ddau ac yn nain i ŵyr bach pedair blwydd oed, yn angerddol am helpu pobl i leihau eu biliau ynni ac, yn awyddus i’w gwneud yn ymwybodol o’r cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes y llywodraeth sy’n golygu bod deiliaid tai sydd ar fudd-daliadau â’r hawl i gael gostyngiad o £140 unwaith yn unig ar filiau trydan rhwng mis Hydref ac Ebrill.
Yn 2016 yn unig, mae Sandra a’i thîm wedi helpu 380 o bobl hawlio £53,200 o arbedion ar y cynllun.
Mae hi hefyd yn helpu deiliaid tai i leihau eu biliau mewn amrywiaeth o feysydd eraill.
“Derbyniodd un wraig oedrannus fil am £2,000 a achosodd sioc a thristwch iddi, ond pan cawson ni drefn ar y cyfan darganfyddom mai bil o £300 ddylai hi fod wedi ei dderbyn.
“Yr enghraifft waethaf o wastraffu ynni rydyn ni wedi ei ddarganfod oedd gwraig a oedd yn cadw’r gwres canolog ymlaen yn uchel ond yn gadael holl ffenestri’r tŷ yn agored i sicrhau bod y cathod yn gallu mynd i mewn ac allan o’r tŷ. Dywedais wrthi y byddai’n haws iddi daflu ei harian drwy’r ffenestr.
“Un o fy awgrymiadau gorau yw peidio â berwi cymaint o ddŵr. Mae’n costio 6c i ferwi digon o ddŵr i wneud paned o de ond 20c i 30c i ferwi tegell llawn yn ystod y dydd,” meddai.
Mae Sandra yn un o 15 o Arwyr Ynni ledled y Deyrnas Gyfunol a bydd ei phennaeth Swyddog Cyflogaeth a Hyfforddiant Grŵp Cynefin, Ieuan Davies, yn ymuno â hi ar 7 Medi i dderbyn ei gwobr.
Ef a’i henwebodd, ac meddai yn ei gyflwyniad: “Aeth Sandra o nerth i nerth wedi iddi ddod yn rhan o’r prosiect ynni cymunedol sy’n mynd i’r afael â thlodi tanwydd, gweithgarwch economaidd a lleihau allyriadau carbon.
“Mae’r prosiect yn darparu lleoliadau gwaith i bobl sydd heb swydd ac wedyn yn gweithio gyda thrigolion mewn cymunedau difreintiedig.
“Mae hi bellach wedi helpu mentora tri warden ynni newydd, mae hi wedi helpu i roi cyngor i tua 1,200 o drigolion ac mae hi hefyd wedi ennill y trydedd wobr fel Tenant y Flwyddyn 2014 yng ngwobrau TPAS Cymru.”
Yn ôl i'r rhestr

Newyddion
Pedwar cartref newydd yn Rhewl i fynd ar gofrestr tai fforddiadwy Mae unrhyw un sy’n chwilio am dŷ yn cael eu hannog i gofrestru am y cyfle i brynu neu rentu cartref fforddiadwy newydd yn Nyffryn Clwyd.
Gwener 15 Chwefror 2019

Newyddion
Bron i £12,000 wedi ei rannu rhwng 54 o grwpiau cymunedol a sefydliadau gogledd Cymru Mae'n bleser gan Grŵp Cynefin gyhoeddi bod bron i £12,000 wedi ei rannu rhwng 54 o grwpiau cymunedol a sefydliadau gogledd Cymru i ariannu amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau yn ystod 2018-2019.
Llun 11 Chwefror 2019

Newyddion
Gwaith adeiladu yn dechrau ar gartrefi arloesol Grŵp Cynefin Mae Grŵp Cynefin yn arbed amser ac arian ar ei ddatblygiad tai diweddaraf diolch i ddull adeiladu arloesol.
Mercher 6 Chwefror 2019