Coronafeirws: Diweddariad Friday 13 March 2020
Oherwydd pryderon ynglŷn â'r Coronafeirws, rydym wedi adolygu ein trefniadau yn ein cynlluniau tai gofal ychwanegol a cysgodol. Mae hyn yn cynnwys peidio trefnu unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn y mannau yma am y mis nesaf.

Rydym yn deall fod ymweliadau gan ffrindiau a theulu agos yn bwysig i les ein tenantiaid, ond rydym yn gofyn i ymwelwyr:
- Beidio ceisio mynediad i’r adeilad os ydynt yn teimlo’n sâl, gyda tymheredd uchel neu beswch.
- Defnyddio’r offer golchi dwylo a ddarparwyd wrth ddod i mewn i’r eiddo.
- Fynd yn syth i fflat y person maent yn ymweld, gan osgoi mynd i’r ystafelloedd cymunedol.
Bydd y manylion yma yn cael eu rhannu gyda thrigolion a’u harddangos yn yr eiddo. Diolch am eich cydweithrediad.
Yn ôl i'r rhestr

Newyddion
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd yn ymuno â “chwmni da” Mae Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd Grŵp Cynefin yn dweud ei bod wrth ei bodd o ymuno â “chwmni da” ac yn edrych ymlaen at yr her sydd o’i blaen.
Monday 4 January 2021

Newyddion
Gwobr tenantiaid arbennig i Grŵp Cynefin Mae Grŵp Cynefin wedi ennill clod uchaf am wasanaethau rhagorol i'w thenantiaid yn ystod argyfwng Covid a'i disgrifio fel “enghraifft o arfer gorau wrth gyfathrebu â thenantiaid”.
Thursday 17 December 2020

Newyddion
Grŵp Cynefin yn cyhoeddi enw ei Gadeirydd newydd Mae Grŵp Cynefin wedi penodi Carys Edwards, cyn bennaeth gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Ynys Môn, fel ei gadeirydd newydd.
Monday 9 November 2020