Newyddion
-
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd yn ymuno â “chwmni da”
Monday 4 January 2021
Mae Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd Grŵp Cynefin yn dweud ei bod wrth ei bodd o ymuno â “chwmni da” ac yn edrych ymlaen at yr her sydd o’i blaen.
-
Gwobr tenantiaid arbennig i Grŵp Cynefin
Thursday 17 December 2020
Mae Grŵp Cynefin wedi ennill clod uchaf am wasanaethau rhagorol i'w thenantiaid yn ystod argyfwng Covid a'i disgrifio fel “enghraifft o arfer gorau wrth gyfathrebu â thenantiaid”.
-
Grŵp Cynefin yn cyhoeddi enw ei Gadeirydd newydd
Monday 9 November 2020
Mae Grŵp Cynefin wedi penodi Carys Edwards, cyn bennaeth gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Ynys Môn, fel ei gadeirydd newydd.
-
Datganiad gan ein Prif Weithredwr ar y cyfnod cloi byr
Monday 26 October 2020
O 6pm, dydd Gwener Hydref 23ain, 2020, bydd Cymru gyfan yn mynd mewn i gyfnod clo byr, hyd at fore Llun Tachwedd 9fed, 2020.
-
Ysgol Fusnes Ar-lein Am Ddim ar gyfer busnesau newydd yn cael ei lansio yng Ngogledd Cymru
Thursday 22 October 2020
Bydd darpar entrepreneuriaid yn cael help llaw i wireddu eu breuddwydion, diolch i bartneriaeth unigryw rhwng ysgol fusnes flaenllaw a llu o sefydliadau Gogledd Cymru.
-
Sicrhau £1m ychwanegol i denantiaid diolch i dîm lles cymdeithas dai
Thursday 22 October 2020
Mae tîm lles cymdeithas dai wedi sicrhau £1m yn ychwanegol o incwm i’w thenantiaid dros gyfnod o 12 mis yn ogystal â chefnogaeth a thawelwch meddwl gan osgoi’r posibilrwydd o golli eu cartrefi.
-
Cwblhau datblygiad tai newydd yn Sir Ddinbych
Friday 16 October 2020
Mae cynllun ariannu cyffrous gan Grŵp Cynefin yn Sir Ddinbych wedi sicrhau bod tri yn hytrach nac un tŷ fforddiadwy wedi eu hadeiladu i bobl leol ar stad o dai o 10 yn Rhewl ger Rhuthun.
-
Y Cadeirydd yn edrych nôl ar brif ddatblygiadau a newidiadau dros ei gyfnod wrth y llyw
Thursday 1 October 2020
Roedd arwain y newid o fewn sefydliad tai newydd a ffurfiwyd ychydig fisoedd cyn ei benodi, yn un uchafbwynt i gadeirydd Grŵp Cynefin, Dafydd Lewis, sy'n ymddeol o’i rôl.
-
Datganiad gan ein Prif Weithredwr ar y cyhoeddiad cloi lleol
Thursday 1 October 2020
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam dan glo lleol o 6pm ddydd Iau (1af Hydref 2020) oherwydd y cynnydd sylweddol mewn achosion Coronafirws.
-
Cam pwysig i gynllun newydd iechyd a lles arloesol yng Ngwynedd
Wednesday 23 September 2020
Paratoadau ar gyfer dymchwel hen adeiladau ar stryd fawr Penygroes i wneud lle ar gyfer cynllun arloesol i Wynedd, canolfan iechyd a lles newydd sbon
-
Cyllid ar gyfer gwasanaeth tai gwledig hanfodol wedi ei gadarnhau
Tuesday 14 July 2020
Bydd gwasanaeth tai hanfodol i gymunedau gwledig yng Ngogledd Cymru yn parhau ar ôl derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
-
Trigolion cynlluniau tai gofal ychwanegol yn addasu i reoliadau COVID-19
Thursday 7 May 2020
“Mae’r staff yn anhygoel yma, wastad a gwên ar eu hwynebau, does dim byd yn ormod o drafferth iddynt ac maen nhw’n cysylltu â’n teuluoedd drwy fideo ar y sgrin i ni gael eu gweld nhw! Yn tydi’r dechnoleg ma’n grêt!”
-
Y Shed yn derbyn hwb gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Wednesday 22 April 2020
Mae prosiect cymunedol a gafodd ei daro gan bandemig Coronavirus wedi cael hwb gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
-
Gorwel yn tawelu meddwl dioddefwyr camdriniaeth ddomestig bod cefnogaeth ar gael iddynt yn ystod COVID-19
Thursday 16 April 2020
Dylai dioddefwyr camdriniaeth ddomestig yng Ngwynedd a Môn dderbyn cysur o’r ffaith bod gwasanaethau cymorth yn parhau ar gael iddynt yn ystod cyfnod Covid-19.
-
Mae Grŵp Cynefin gyda chi trwy’r argyfwng hwn
Friday 3 April 2020
Rydym yn cydnabod fod hyn yn amser ansicr i chi yng Nghymru. Mae Covid-19 yn newid y byd o'n cwmpas yn gyflym, ac mae'n cael effaith ddifrifol ar bobl, swyddi, cymunedau a bywydau. Mae Grŵp Cynefin yn cefnogi dros 4000 o denantiaid ar draws gogledd Cymru.
-
Llythyr Tenantiaid a Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Friday 20 March 2020
Rydym wedi ysgrifennu at ein tenantiaid am yr hyn yr ydym yn ei wneud ac rydym hefyd wedi cynnwys dogfen cwestiynau cyffredin sy'n esbonio'n fanylach sut yr effeithir ar ein gwasanaethau.
-
Swyddfeydd Grŵp Cynefin yn cau yn ystod achos Coronafeirws
Wednesday 18 March 2020
Wrth i’r sefyllfa newid yn sydyn ar draws y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, rydym wedi penderfynu bod angen cau ein swyddfeydd i’r cyhoedd, i wneud yn siŵr ein bod yn cadw trigolion, cwsmeriaid a staff yn ddiogel.
-
Diweddariad Coronafirws 17.03.2020
Tuesday 17 March 2020
Hoffem eich sicrhau ein bod yn cymryd mesurau ychwanegol i sicrhau iechyd a diogelwch ein tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a staff yn ystod y pandemig Coronafirws.
-
Coronafeirws: Diweddariad
Friday 13 March 2020
Oherwydd pryderon ynglŷn â'r Coronafeirws, rydym wedi adolygu ein trefniadau yn ein cynlluniau tai gofal ychwanegol a cysgodol. Mae hyn yn cynnwys peidio trefnu unrhyw ddigwyddiadau cyhoeddus yn y mannau yma am y mis nesaf.
-
Grŵp Cynefin yn sicrhau achrediad arbennig yn y gweithle
Thursday 12 March 2020
Mae Grŵp Cynefin sy’n buddsoddi mewn hyfforddi a datblygu staff yn rhoi hwb i wasanaethau ar gyfer eu tenantiaid.
-
Canu’n dda i’r enaid wrth bontio cenedlaethau yng nghyfres S4C Rhys Meirion draw yn Awel y Coleg
Friday 6 March 2020
Mae canu’n dda i’r enaid, ac yn ôl Rhys Meirion, mi all grym cyd-ganu hyd yn oed ein gwella.
-
Tenantiaid yn symud i’w cartrefi arloesol modiwlar
Thursday 5 March 2020
Mae dau denant wedi symud i ddau gartref newydd Grŵp Cynefin a adeiladwyd oddi ar y safle, fel unedau modiwlar, a'u codi i’w lle ym Maes Glyndwr, Cynwyd, Sir Ddinbych.
-
Gwybodaeth am Coronafirws
Thursday 5 March 2020
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r asiantaethau iechyd cyhoeddus eraill yn y DU i fonitro'r sefyllfa yn Tsieina yn ofalus ac yn gweithredu ymateb wedi'i gynllunio, gyda mesurau ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
-
WEDI EI OHIRIO - Diwrnod Agored Awel y Dyffryn
Thursday 27 February 2020
Mae pobl sy'n dymuno sicrhau llety mewn cynllun gofal ychwanegol gwerth miliynau o bunnoedd yn Ninbych yn cael eu gwahodd i ddiwrnod agored.
-
Storm Dennis
Friday 14 February 2020
Byddwch yn ofalus dros y penwythnos, mae Storm Dennis bellach wedi'i uwchraddio i rybudd Ambr mewn rhai ardaloedd yng ngogledd Cymru
-
Storm Ciara
Sunday 9 February 2020
Rydym yn derbyn nifer uchel o alwadau ynghylch difrod i eiddo o ganlyniad i Storm Ciara.
-
Penblwydd hapus i Hafod y Gest
Friday 7 February 2020
Bu dathlu yn Hafod y Gest, cynllun tai gofal ychwanegol ym Mhorthmadog yr wythnos hon, wrth nodi blwyddyn gyfan ers iddo agor.
-
Anogir tenantiaid i fod yn ymwybodol o bwysigrwydd cadw apwyntiadau eiddo
Friday 17 January 2020
Mae Grŵp Cynefin wedi cyhoeddi nodyn atgoffa i’w tenantiaid i sicrhau eu bod yn cadw apwyntiadau cynnal a chadw yn eu heiddo.
-
Grŵp Cynefin yn ymfalchïo ym menter gymunedol, Siop Griffiths
Thursday 9 January 2020
Cwta naw mis ers agor y drysau, mae Grŵp Cynefin yn ymfalchïo yn hyder a mentergarwch cymuned Penygroes, wrth i Siop Griffiths ar y stryd fawr fynd o nerth i nerth.
-
Jade yn hyrwyddo annibyniaeth yng ngwobrau Cymorth Cymru
Thursday 9 January 2020
Mae merch a gynorthwyodd i arwain Cymru i’r trydydd safle mewn digwyddiad pêl-droed rhyngwladol wedi ennill anrhydedd bersonol ar ôl cyrraedd adref.
-
Cyngor Diogelwch Canhwyllau
Friday 6 December 2019
Mae canhwyllau yn y cartref yn dod yn ffordd fwyfwy poblogaidd o ymlacio gartref. Golyga hyn fod cynnydd mawr wedi bod mewn digwyddiadau damweiniol yn ymwneud â chanhwyllau.
-
Grŵp Cynefin yn cyhoeddi pedwar aelod newydd i’r bwrdd
Friday 6 December 2019
Mae Grŵp Cynefin, wedi penodi Geraint George, Jane Lewis, Mike Corfield a Tony Jones i’r bwrdd rheoli o 10 aelod sy’n gyfrifol am bob agwedd o weithgareddau’r gymdeithas. Y bwrdd sy’n cynnig cyfarwyddyd ar faterion y gymdeithas yn unol â’i hamcanion a’i chanllawiau.
-
Oes angen mwy o dai fforddiadwy yn Ynys Môn?
Thursday 28 November 2019
Oes angen mwy o dai fforddiadwy yn Ynys Môn? Dyna’r cwestiwn y bydd yr Hwylusydd Tai Gwledig, Dylan Owen, yn ei holi i gymuned yn Ynys Môn wrth weithio ar y dasg o asesu anghenion tai pobl leol.
-
Cynlluniwch nawr i osgoi straen rhent y Nadolig
Thursday 14 November 2019
Gall cyfnod yr ŵyl fod yn amser prysur a drud i lawer ohonom, gyda phobl yn paratoi'n gynnar i sicrhau bod ganddynt ddigon o arian i dalu am yr anrhegion a'r partïon.
-
Cryfhau tîm tai Grŵp Cynefin
Thursday 7 November 2019
Mae Grŵp Cynefin sy’n gyfrifol am 4000 o dai ledled y gogledd yn cryfhau eu tîm o staff trwy benodi pedwar swyddog newydd o fewn yr Adran Dai.
-
“Dwi ddim yn credu y byddwn i mewn gwaith nawr oni bai am Grŵp Cynefin”
Thursday 24 October 2019
Mae tenantiaid a’u teuluoedd yn nodi effaith gadarnhaol grantiau Grŵp Cynefin wrth eu cefnogi i fynd yn ôl i weithio.
-
Cyllid grant Youth Shedz yn cefnogi prosiectau digartrefedd a chreu ffilmiau
Thursday 24 October 2019
Mae prosiect ieuenctid yn Sir Ddinbych sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol, wedi derbyn bron i £3000 o arian grant i gefnogi prosiect digartref ac i ddatblygu sgiliau creu ffilmiau.
-
Adeilad a alwyd yn ‘Droednodyn Hanesyddol’ yn dechrau penod newydd
Friday 18 October 2019
Mae hen sied rheilffordd, oedd ar ei ffordd i gael ei thraddodi i hanes, wedi agor ei drysau wedi gwaith adnewyddu gwerth £1.2 miliwn.
-
Ehangu ar waith pontio’r cenedlaethau yn Llanaelhaearn a’r Ffôr ger Pwllheli
Thursday 19 September 2019
Mae pump sefydliad yn dathlu o dderbyn cefnogaeth ariannol i sefydlu prosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau, diolch i waith Grŵp Cynefin. Mae’r gymdeithas yn awyddus i wella lles a lleihau unigrwydd ym mywydau’r henoed sy’n byw mewn cymunedau gwledig.
-
Adeiladu cynllun tai gofal ychwanegol newydd yn rhoi hwb i swyddi a chyfleoedd hyfforddi lleol
Friday 13 September 2019
Mae mwy na 90 y cant o'r buddsoddiad mewn cynllun tai gofal ychwanegol newydd yn cael ei wario gydag isgontractwyr a chyflenwyr mawr yng Nghymru.
-
Mae ‘cogio’ (cuckooing) yn digwydd yng Ngogledd Cymru
Wednesday 28 August 2019
Mae’n bosib y byddwch wedi clywed tipyn am hyn yn y newyddion yn ddiweddar. Mae ‘cogio’ (cuckooing) yn digwydd yng Ngogledd Cymru. I’r rhai ohonoch sydd erioed wedi clywed am gogio o’r blaen, mae’n drosedd lle mae deliwr cyffuriau yn dod yn gyfaill i berson bregus, ac yna’n cymryd drosodd eu tŷ a’i ddefnyddio fel lle ar gyfer delio cyffuriau. Yn union fel y gog mae’r deliwr yn symud i mewn, cymryd yr eiddo drosodd a’i droi yn ffau cyffuriau.
-
Bardd buddugol i wisgo coron Grŵp Cynefin
Thursday 8 August 2019
Braint ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 oedd cyhoeddi bod teilyngdod a chartref newydd i goron Grŵp Cynefin, wrth i Guto Dafydd o Bwllheli godi ar ei draed.
-
Diolch i Grŵp Cynefin am gefnogi tenantiaid mewn angen
Monday 5 August 2019
“Bu gwasanaeth lles Grŵp Cynefin o fantais fawr i mi yn ariannol, allai ddim diolch digon iddyn nhw am eu cefnogaeth. Rydw i’n ddiolchgar iawn am bob cymorth.”
-
Grŵp Cynefin, Coron, Croeso, Conwy
Monday 29 July 2019
Bydd llond lle o groeso ar stondin Grŵp Cynefin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ddechrau Awst, a phinacl yr wythnos i’r gymdeithas dai fydd gweld a fydd bardd buddugol i’r goron osgeiddig y mae Grŵp Cynefin wedi ei noddi eleni.
-
Chloe a Jade yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Digartref
Thursday 25 July 2019
Mae dwy ferch a fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Digartref wedi bod yn siarad am eu balchder o gael eu dewis i chwarae i’r tîm cenedlaethol - a sut maent yn gobeithio y bydd y llwyfan yn helpu pobl mewn angen.
-
Grŵp Cynefin yn galw ar denantiaid sy'n gweithio i ystyried ceisio am gymwysterau newydd
Friday 12 July 2019
Mae Grŵp Cynefin yn awyddus i dynnu sylw tenantiaid sy'n gweithio, i ystyried ceisio am gymwysterau newydd trwy’r gymdeithas dai, er mwyn datblygu eu gyrfaoedd.
-
Grŵp Cynefin a’i thenantiaid yn cael llwyddiant gyda dwy wobr
Friday 5 July 2019
Enillodd Grŵp Cynefin ddwy wobr glodfawr y diwydiant, gan gryfhau ei chymhwyster i gynnig ‘Mwy Na Thai’.
-
Teuluoedd yn ymgartrefu yn Bron Gwynedd, Bethel
Wednesday 3 July 2019
Mae pedwar teulu balch bellach wedi ymgartrefu yn eu cartrefi Grŵp Cynefin newydd ym Methel, ger Caernarfon, Gwynedd dros yr wythnosau diwethaf.
-
Y swydd orau erioed - gweithio gyda tenantiaid hŷn Grŵp Cynefin
Tuesday 2 July 2019
Uchafbwyntiau Diwrnod Tenantiaid Hŷn Grŵp Cynefin 2019
-
Lleihau'r risg o dân a chael Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref AM DDIM
Tuesday 25 June 2019
Mae dyfodiad larymau mwg, drysau diogelwch tân ac, mewn rhai eiddo, chwistrellwyr i gyd yn helpu i leihau'r risg o dân yn ein cartrefi.
-
Grŵp Cynefin yn cyflwyno a dadorchuddio Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019
Friday 14 June 2019
“Braint yw cyflwyno Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Oriel Ffin y Parc, Llanrwst (13 Mehefin 2019),” meddai Dafydd Lewis, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Grŵp Cynefin.
-
Cyfleuster gofal ychwanegol Gwynedd yn cael effaith gadarnhaol ar drigolion
Thursday 13 June 2019
Clywodd gwesteion yn agoriad swyddogol cynllun gofal ychwanegol gwerth £7.8m cymdeithas tai ym Mhorthmadog am ei effaith gadarnhaol ar fywydau'r trigolion.
-
Menter newydd i ddwy chwaer
Wednesday 29 May 2019
Mae entrepreneuriaid benywaidd yn arwain y gad mewn datblygiad newydd £1.2 miliwn fydd yn agor ei ddrysau'r haf hwn.
-
Cynllun ieuenctid Youth Shedz yn cipio gwobr diwydiant tai'r Deyrnas Unedig
Thursday 2 May 2019
Mae cynllun a sefydlwyd i gefnogi pobl ifanc a fu’n ddigartref yng ngogledd Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol Brydeinig y diwydiant tai.
-
Gwahodd darpar denantiaid i gofrestru diddordeb ar gyfer datblygiad tai gofal ychwanegol yn Ninbych
Monday 29 April 2019
Mae gwahoddiad ar draws Sir Ddinbych i drigolion cymwys gofrestru eu diddordeb mewn symud i gynllun tai gofal ychwanegol gwerth £12m sydd wrthi'n cael ei adeiladu.
-
Dathlu a rhannu arfer da wrth bontio’r cenedlaethau
Tuesday 2 April 2019
Gwaith arloesol Grŵp Cynefin mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau eraill fydd pwnc trafod cynhadledd arbennig ‘Cysylltu’r Cenedlaethau – Dathlu a Dysgu’ ym Mangor.
-
Gwirfoddolwyr Grŵp Cynefin yn ennill dwy wobr gymunedol
Monday 18 March 2019
Mae maer Dinbych, y Cynghorydd Catherine Jones, ac ieuenctid Dinbych, Denbigh Youth Shedz, grŵp sy'n cefnogi pobl ifanc sydd wedi bod yn ddigartref, ill dau wedi ennill Gwobr Uchel Siryf Clwyd.
-
Tendr caffi Y Shed ar agor i ymgeiswyr
Thursday 7 March 2019
Mae'r tendr caffi Y Shed bellach ar agor i ymgeiswyr. Mae hefyd cyfle i artistiaid, ffotograffwyr, gwneuthurwyr crefft, a chynhyrchwyr bwyd arddangos eu nwyddau yn Y Shed, Meliden.
-
Datblygiad pobl hŷn newydd Gwynedd yn dod â manteision economaidd
Thursday 21 February 2019
Mae cynllun newydd ar gyfer pobl hŷn Gwynedd wedi rhoi profiad gwerthfawr o fewn y maes adeiladu i 12 prentis o ogledd Cymru ac wedi sicrhau bod 92% o'r gweithlu hefyd yn byw yn yr ardal.
-
Pedwar cartref newydd yn Rhewl i fynd ar gofrestr tai fforddiadwy
Friday 15 February 2019
Mae unrhyw un sy’n chwilio am dŷ yn cael eu hannog i gofrestru am y cyfle i brynu neu rentu cartref fforddiadwy newydd yn Nyffryn Clwyd.
-
Bron i £12,000 wedi ei rannu rhwng 54 o grwpiau cymunedol a sefydliadau gogledd Cymru
Monday 11 February 2019
Mae'n bleser gan Grŵp Cynefin gyhoeddi bod bron i £12,000 wedi ei rannu rhwng 54 o grwpiau cymunedol a sefydliadau gogledd Cymru i ariannu amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau yn ystod 2018-2019.
-
Gwaith adeiladu yn dechrau ar gartrefi arloesol Grŵp Cynefin
Wednesday 6 February 2019
Mae Grŵp Cynefin yn arbed amser ac arian ar ei ddatblygiad tai diweddaraf diolch i ddull adeiladu arloesol.
-
Darpar grefftwyr yn cael cyfle arbennig i arddangos eu doniau fel rhan o brosiect newydd gwerth £1.2 miliwn
Tuesday 22 January 2019
Mae hen adeilad rheilffordd yng Ngallt Melyd ger Prestatyn yn cael ei adfywio a’i weddnewid yn ganolfan i’r gymuned yn cynnwys caffi, arddangosfa dreftadaeth, cyfleuster llogi beics ac unedau busnes.
-
Tai Teg yn marchnata 10 tŷ newydd yn Ynys Môn
Tuesday 1 January 2019
Chwe mis wedi lansio cynllun newydd ar y cyd, Tai Teg, yn y gogledd i hwyluso siawns pobl leol o sicrhau eu cartrefi delfrydol, mae 10 cartref newydd ar fin cael eu cwblhau yn Llanddeusant Ynys Môn.
-
Gwasanaeth cefnogi, Gorwel, yn dod adref ar y brig wedi Gwobrau tai a digartrefedd cenedlaethol
Wednesday 19 December 2018
Mae grŵp cymunedol a sefydlwyd i gefnogi pobl ifanc a fu’n ddigartref yn Ninbych wedi ennill gwobr cenedlaethol ym maes tai.
-
Fy Nhaith yn y Sector Dai Gan Clifton Robinson, aelod o'r bwrdd, Grŵp Cynefin
Sunday 16 December 2018
Yn fy ngyrfa o bron i 40 mlynedd, rwyf wedi bod yn hyfforddwr, mentor, cadeirydd bwrdd prawf, cyfarwyddwr tai, prif weithredwr, ac aelod bwrdd o ddwy gymdeithas dai wahanol.
-
Asiantaethau Tai yn cyd-weithio i gefnogi Bargen Twf Gogledd Cymru
Tuesday 4 December 2018
Mae grŵp o chwe asiantaeth tai lleol wedi dod at ei gilydd mewn menter ar y cyd cyffrous i gyflymu datblygiad tai fforddiadwy newydd i gefnogi dosbarthiad Bargen Twf Gogledd Cymru.
-
Lansio gardd gymunedol newydd i helpu lles pobl hŷn
Tuesday 27 November 2018
Mae pobl hŷn Ynys Môn yn codi rhawiau a ffyrch i ymladd unigrwydd mewn gardd gymunedol sydd newydd ei hagor.
-
Mae cynllun cynilo newydd sy’n rhoi bonws o hyd at £1,200 i bobl ar incwm isel wedi’i lansio
Wednesday 7 November 2018
Mae menter Cymorth i Gynilo’r Llywodraeth, sydd ar gael i bobl sy’n hawlio credydau treth a chredyd cynhwysol, yn gwobrwyo pobl sy’n cynilo gyda 50c ychwanegol am bob £1 sy’n cael ei gynilo.
-
Cartrefi i’w gweld yn nyluniad gemydd ar gyfer Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019
Tuesday 6 November 2018
Mae gemydd cyfoes o ogledd Cymru wedi derbyn cymeradwyaeth gan Fwrdd Gorsedd y Beirdd am ddyluniad Coron 2019 ar gyfer yr ŵyl yn Sir Conwy’r flwyddyn nesaf.
-
Adnodd Cymharu Perfformiad Cymdeithasau Tai
Thursday 1 November 2018
Mae Grŵp Cynefin yn landlord cymdeithasol cofrestredig a gofrestrwyd yng Nghymru, neu fel y gelwir yn aml, yn ‘Gymdeithas Dai’. Mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r trefniadau rheoleiddio yn ddiweddar, ac wedi creu adnodd i alluogi tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth, rhanddeiliaid a phartneriaid gael mynediad at ddata perfformiad.
-
Strategaeth dwf uchelgeisiol Grŵp Cynefin i greu 400 o gartrefi newydd
Wednesday 31 October 2018
Mae Grŵp Cynefin, yr unig gymdeithas dai sy’n gweithredu ym mhob rhan o Ogledd Cymru wedi cyhoeddi strategaeth dwf newydd uchelgeisiol a fydd yn creu 400 o gartrefi newydd erbyn 2021.
-
Dyfarniad Rheoleiddio 2018
Wednesday 31 October 2018
Mae Grŵp Cynefin yn Landlord Cymdeithasol Cofresterdig, a mae hyn yn golygu ein bod yn cael ein Rheoleiddio gan Tîm Rheoleiddio Tai, Llywodraethu Cymru.
-
Galw ar bobl i fod yn dditectifs gan helpu i daflu goleuni ar hanes pentref
Friday 26 October 2018
Mae hen adeilad rheilffordd ar y rhodfa yng Ngallt Melyd, Prestatyn, wrthi’n cael ei ail-wampio ar gost o £1.2 miliwn, lle bydd yr adeilad gwag yn cael ei drosglwyddo’n hwb yn cynnwys siop, caffi, arddangosfa treftadaeth, cyfleuster llogi beiciau, ac unedau busnes.
-
Byngalo newydd sbon arbenigol yn gwneud bywyd yn fwy cyfforddus i denant anabl
Thursday 18 October 2018
Bydd byngalo newydd sbon a adeiladwyd yn Sir y Fflint yn gwneud bywyd yn llawer mwy cyfforddus i denant anabl a'i gofalwyr, diolch i Grŵp Cynefin.
-
Gwaith pontio’r cenedlaethau ar restr fer gwobr genedlaethol
Monday 8 October 2018
Mae gwaith Grŵp Cynefin sy'n dod â phobl ifanc a hŷn at ei gilydd drwy'r celfyddydau wedi cyrraedd rhestr fer gwobr bwysig o fewn y diwydiant.
-
Grŵp Cynefin yn penodi arweinwyr strategol profiadol fel cyfarwyddwyr anweithredol
Monday 1 October 2018
Mae Grŵp Cynefin, cymdeithas tai blaenllaw yng nogledd a chanolbarth Cymru, sy'n rheoli oddeutu 4,800 o gartrefi, wedi penodi dau gyfarwyddwr anweithredol i gefnogi twf a datblygiad y gymdeithas wrth ddarparu tai cymdeithasol a chynlluniau cymunedol.
-
Ceffylau yn helpu cefnogi pobl yng ngogledd Cymru i wella a goroesi wedi cam-driniaeth ddomestig
Tuesday 11 September 2018
Mae dioddefwyr cam-drin domestig yn Ynys Môn a Gwynedd yn adennill eu hyder a chael cefnogaeth i wella, diolch i gynllun arloesol sy'n defnyddio ceffylau.
-
Datblygiad Grŵp Cynefin yn rhoi cymaint nôl i gymuned y Rhyl
Thursday 9 August 2018
Mae datblygiad tai yn y Rhyl wedi helpu dwy elusen yn y dref yn ogystal â darparu cyfleoedd hyfforddi ychwanegol ar gyfer prentisiaid yn dilyn lansio menter newydd.
-
Gemydd cyfoes yn cael ei dewis i ddylunio Coron Eisteddfod 2019
Thursday 2 August 2018
Mae gemydd o ogledd Cymru wedi cael ei dewis fel y dylunydd a fydd yn creu’r Goron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst y flwyddyn nesaf.
-
Mae busnesau bychan a’r rhai sy’n dechrau yn cael cyfle i fod ar y trywydd cywir, diolch i fenter gymunedol newydd
Thursday 19 July 2018
Mae hen adeilad rheilffordd ar y rhodfa yng Ngallt Melyd, Prestatyn, wrthi’n cael ei ail-wampio ar gost o £1.2m, lle bydd yr adeilad gwag yn cael ei drosglwyddo’n hwb yn cynnwys siop, caffi, arddangosfa treftadaeth, cyfleuster llogi beiciau, ac unedau busnes.
-
Grŵp Cynefin yn ennill gwobr wrth fynd i'r afael ag unigrwydd mewn pobl hŷn
Tuesday 10 July 2018
Mae Grŵp Cynefin wedi ennill gwobr, mewn cystadleuaeth oedd ar agor i gymdeithasau tai ledled Cymru, am ei waith arloesol yn mynd i'r afael ag unigrwydd mewn pobl hŷn.
-
Datblygwyr chwilfrydig yn troi at waith ditectif ar ôl darganfod darn o hanes Fictoraidd mewn hen sied rheilffordd
Wednesday 4 July 2018
Cafodd adeiladwyr a oedd yn gweithio ar hen sied nwyddau rheilffordd Gallt Melyd ar rodfa Prestatyn i Ddyserth dipyn o syndod pan ddechreuon nhw godi’r hen lawr. Yn cuddio o dan y llawr roedd hen boteli gwydr yfed mewn cyflwr perffaith.
-
Canolfan fenter Grŵp Cynefin yn Llŷn yn mynd o nerth i nerth
Tuesday 3 July 2018
Bydd dau gwmni newydd yn sefydlu eu hunain yng nghanolfan fenter lwyddiannus Grŵp Cynefin, sef Congl Meinciau, ym Mhen Llŷn dros yr wythnosau nesaf.
-
Cymdeithas tai ar restr fer gwobrau tai cymdeithasol cenedlaethol
Monday 25 June 2018
Mae cymdeithas dai gogledd Cymru yn dathlu’r nifer mwyaf erioed o enwebiadau mewn gwobrau tai cydnabyddedig cenedlaethol.
-
Grŵp Cynefin yn dangos arweiniad yn y sector dai yng Nghymru trwy ddefnyddio coed o Gymru
Thursday 21 June 2018
Mae Grŵp Cynefin yn dangos arweiniad yn y sector dai yng Nghymru wrth ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy sicrhau’r defnydd o bren o Gymru ar gyfer datblygiad tai newydd.
-
Rhaglen arloesol Tadau Gofalgar sy'n atal plant rhag mynd i ofal yn cael ei lansio yn siroedd Conwy a Dinbych
Wednesday 13 June 2018
Mae cynllun gwirfoddol arloesol sy'n helpu tadau i ail-adeiladu perthynas gadarnhaol â'u plant sydd wedi eu heffeithio gan gam-driniaeth yn y cartref, yn ehangu i siroedd Conwy a Dinbych.
-
Cynllun newydd yn cymryd agwedd holistig tuag at helpu pobl ag anghenion cefnogaeth lluosog a chymhleth
Tuesday 12 June 2018
Gall pobl sydd ag anghenion cefnogaeth lluosog oherwydd problemau megis celcu, camddefnyddio sylweddau, cefndir o droseddu, anabledd dysgu lefel isel neu ag anghenion iechyd meddwl, bellach elwa ar wasanaeth cymorth arloesol ‘symudol' sy'n gysylltiedig â thai.
-
Chwilio am wneuthurydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019
Wednesday 30 May 2018
Mae Grŵp Cynefin, cymdeithas dai sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys, yn chwilio am wneuthurydd i greu coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
-
Cartrefi Caergybi bron yn barod ar gyfer y teuluoedd lleol
Wednesday 23 May 2018
Mae prif weithredwr newydd Grŵp Cynefin wedi dychwelyd i ddatblygiad tai y bu hi’n allweddol yn eu comisiynu yn ei swydd flaenorol fel pennaeth tai yng Nghyngor Ynys Môn.
-
Cofrestr Tai Fforddiadwy newydd i helpu pobl i ddod o hyd i gartref delfrydol
Friday 18 May 2018
Mae darpar brynwyr a thenantiaid gogledd Cymru a Phowys yn cael eu hannog i ymuno â chofrestr tai fforddiadwy ar-lein newydd er mwyn gwella eu siawns o sicrhau eu cartref delfrydol.
-
Criw hen ac ifanc yn cyd-fwynhau digwyddiad a drefnwyd gan Grŵp Cynefin
Thursday 3 May 2018
Mae cynllun arloesol gan un o gymdeithas tai Gogledd Cymru yn cyfoethogi bywyd pobl hŷn.
-
Dechrau ar y gwaith o adeiladu Pentre Canol, cynllun tai gofal ychwanegol i bobl hŷn yn Ninbych
Thursday 26 April 2018
Mae’r gwaith adeiladu ar safle tai gofal ychwanegol newydd sbon i bobl hŷn yn sir Ddinbych, wedi dechrau'r wythnos hon (23 Ebrill) yng nghanol tref Dinbych.
-
Masnachwyr adeiladu lleol yn darparu nwyddau a llafur i adnewyddu gardd
Tuesday 24 April 2018
Daeth tri o fusnesau Ynys Môn, Jewsons, Mona Precast a Grays Waste, i’r adwy pan ofynnwyd iddynt ddarparu nwyddau a llafur i helpu i adnewyddu gardd defnyddiwr gwasanaeth sydd ag afiechyd terfynol, gyda J. Williams Contractors, North Wales Plant Hire a Jewson, Tool Hire Llangefni yn cyflenwi’r offer.
-
‘Youth Shedz’
Monday 16 April 2018
Bydd menter newydd a elwir yn ‘Youth Shedz’ yn agor yn Ninbych y mis hwn. Nod y fenter yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu a datblygu sgiliau newydd mewn lleoliad diogel.
-
Annog unigolion sy’n newydd i’r rôl cyfarwyddwr anweithredol i ymgeisio am le ar Fwrdd Grŵp Cynefin.
Monday 9 April 2018
Mae galwad ar unigolion sydd â diddordeb yn y sector tai, sydd hefyd â phrofiad busnes, i ymgeisio am swydd wag ar Fwrdd Rheoli Grŵp Cynefin.
-
Buddsoddiad sylweddol am dai lleol ym mhentref Cemaes
Wednesday 21 March 2018
Dros yr wythnosau diwethaf, mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu cartrefi newydd mewn un gymuned yn Ynys Môn.
-
CIH Cymru a Grŵp Cynefin yn croesawu Gweinidog i’r cyfarfod cyntaf mewn cyfres o drafodaethau o amgylch y bwrdd i’r aelodau
Monday 19 March 2018
Bydd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans AC, yn mynychu trafodaeth o amgylch y bwrdd yn un o gynlluniau Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yng Nghaergybi ar 15 Mawrth.
-
Diddymu’r Hawl i Brynu yng Nghymru
Friday 16 March 2018
Ni fydd gan denantiaid cymdeithasau tai yr hawl i brynu neu gaffael eu cartref o 26 Ionawr 2019 ymlaen.
-
Uchafbwyntiau Walis George cyn ymddeol fel Prif Weithredwr Grŵp Cynefin
Monday 12 March 2018
Ymysg uchafbwyntiau ei yrfa, mae’n rhestru ffurfio cymdeithas dai Grŵp Cynefin nôl yn 2014; datblygu Canolfan Fenter Congl Meinciau ym Mhen Llŷn a sefydlu’r gwasanaeth Hwylusydd Tai Gwledig cyntaf yn y gogledd.
Hwyluswyr Tai Gwledig »
Mae nifer o ardaloedd gwledig yn pryderu ynglyn â‘r effeithiau diwylliannol ac economaidd oherwydd prinder tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr allweddol lleol.
Gwybodaeth am Fudd-daliadau »
A ydych chi'n sicr eich bod yn derbyn y budd-daliadau rydych yn gymwys i'w derbyn? Rydym wedi crynhoi y prif fudd-daliadau sydd ar gael isod, ond os ydych yn dal yn ansicr am unrhyw agwedd, cysylltwch â ni.
Adborth, Canmol a Chwyno »
Rydym bob amser yn anelu i ddarparu gwasanaethau rhagorol, ond ni allwn wneud hyn heb wybod beth gredwch chi yr ydym ni’n ei wneud yn dda a lle rydym ni angen gwella.

Newyddion
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd yn ymuno â “chwmni da” Mae Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd Grŵp Cynefin yn dweud ei bod wrth ei bodd o ymuno â “chwmni da” ac yn edrych ymlaen at yr her sydd o’i blaen.
Monday 4 January 2021

Newyddion
Gwobr tenantiaid arbennig i Grŵp Cynefin Mae Grŵp Cynefin wedi ennill clod uchaf am wasanaethau rhagorol i'w thenantiaid yn ystod argyfwng Covid a'i disgrifio fel “enghraifft o arfer gorau wrth gyfathrebu â thenantiaid”.
Thursday 17 December 2020

Newyddion
Grŵp Cynefin yn cyhoeddi enw ei Gadeirydd newydd Mae Grŵp Cynefin wedi penodi Carys Edwards, cyn bennaeth gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Ynys Môn, fel ei gadeirydd newydd.
Monday 9 November 2020