Ydych chi’n denant i Grŵp Cynefin? Angen cymorth i baratoi eich hunan ar gyfer cyflogaeth? Cael trafferth gyda chostau tuag at gael eich hun i mewn i gyflogaeth? Gwnewch gais am ein grant Camau i Gyflogaeth, a medrwn gynnig cefnogaeth i chi gyda’r costau hyn. Dyma esiamplau o’r math o gymorth y gallem ei gynnig i chi, ond byddwn yn ystyried pob cais.
Offer i helpu cychwyn neu ddatblygu busnes eich hun
Gofal plant byr dymor i helpu chi weithio, hyfforddi neu astudio (amodau)
Deunydd a chostau cysylltiol â chwrs
Beic neu drwydded bws i helpu chi gyrraedd gwaith
Dillad cyfweliad/gwaith ar gyfer y cyfweliad neu swydd newydd holl bwysig
Teithio yno ac yn ôl o gyfweliadau
Cyrsiau hyfforddiant a chymhwysterau arbenigol
Offer cyfrifiadurol i helpu chi fynd i goleg neu i ddechrau busnes
Mae nifer o ardaloedd gwledig yn pryderu ynglyn â‘r effeithiau diwylliannol ac economaidd oherwydd prinder tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr allweddol lleol.
A ydych chi'n sicr eich bod yn derbyn y budd-daliadau rydych yn gymwys i'w derbyn? Rydym wedi crynhoi y prif fudd-daliadau sydd ar gael isod, ond os ydych yn dal yn ansicr am unrhyw agwedd, cysylltwch â ni.
Rydym bob amser yn anelu i ddarparu gwasanaethau rhagorol, ond ni allwn wneud hyn heb wybod beth gredwch chi yr ydym ni’n ei wneud yn dda a lle rydym ni angen gwella.
Cartrefi i Brynu / Rhent Canolraddol
Lansiwyd cofrestr Tai Teg mewn partneriaeth rhwng cymdeithasau tai’r rhanbarth, yr awdurdodau…