
Prosiect gwerth £20miliwn a fydd yn cael ei ariannu gan sawl ffynhonnell. Bydd yn cynnwys gwasanaethau iechyd, deintyddfa, fferyllfa, gwasanaethau cymdeithasol, gofal i bobol hŷn, tai, byw’n annibynnol, meithrinfa a lleoliad ar gyfer y celfyddydau.
Mae’r gwaith yn bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Theatr Bara Caws a Grŵp Cynefin.
Y bwriad yw creu cynllun arloesol sy’n defnyddio holl adnoddau’r ardal – tu mewn a thu allan - i wella iechyd a lles pobol sy’n byw yn Nyffryn Nantlle ac ardaloedd cyfagos.
Un o brif amcanion y prosiect newydd yw dod â gwahanol oedrannau at ei gilydd mewn un adeilad i dderbyn gofal.
https://www.facebook.com/llesiantlleu/