
Adeiladwyd HWB Dinbych i gynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi i bobl Dinbych a’r cylch.
Mae’r ganolfan yn cael ei rheoli gan Grŵp Cynefin mewn partneriaeth gydag adrannau gwasanaethau ieuenctid a thai Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Llandrillo Menai, a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.
Prif nod HWB Dinbych yw cynyddu’r cyfleoedd i gael hyfforddiant a gwaith yn lleol.Gwneir hyn drwy weithio’n agos gyda busnesau lleol, sefydlu mentrau hunan gyflogaeth, datblygu cyfleoedd menter lleol a helpu pobl i gael addysg bellach.
Ar lawr gwaelod HWB Dinbych mae ystafell gyfarfod, ystafell weithgareddau, ystafell gyfrifiaduron, gweithdy, cegin ac ystafell gyfarfod fach. Mae’n bosib archebu’r ystafelloedd yma, gyda nifer o gwmnïau yn eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, cwnsela, hyfforddiant, dosbarthiadau ffitrwydd a chlybiau ieuenctid. Er mwyn archebu ystafell cwbwlhewch y ffurflen archebu ac ei yrru at hwb@hwbdinbych.org

Defnyddir y llawr cyntaf gan Coleg Llandrillo ar gyfer cyrsiau oedolion a chymunedol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Coleg Llandrillo ar 01745 812 812 ext.1676 Ebost: enquiries.hwb@gllm.ac.uk
https://www.gllm.ac.uk/adult-and-community/
Hafod
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys chwech fflat i bobl ifanc lle cânt eu cefnogi a’u paratoi ar gyfer byw’n annibynnol. Am fwy o wybodaeth dilynnwch y linc yma
Celf at Iechyd – Prosiect Presgripsiwn Cymdeithasol
Pwrpas y prosiect yma ydi gwella iechyd a lleisiant unigolion. Rydym yn derbyn hunan-atgyfeiriadau ac atgyfeiridadau gan asiantaethau yr ardal megis Meddygol Teulu, asiantaethau iechyd meddwl a’r cyngor lleol.
Am fwy o fanylion am HWB Dinbych, cysylltwch â Elain Lloyd ar 01745 818 485 neu hwb@hwbdinbych.org
Dilynwch @HWB_Dinbych ar Twitter a Facebook am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn wythnosol.
