Byddwn yn anfon datganiad rhent atoch chi o dro i dro fel eich bod chi’n medru gwirio bod eich taliadau wedi eu derbyn i’ch cyfrif. Bydd y datganiad yn dangos y rhent a oedd yn ddyledus, y taliadau rydych chi wedi eu gwneud ac unrhyw fudd-dal tai rydym ni wedi ei dderbyn ar eich rhan chi.
Os hoffech gael datganiad rhent i wirio balans eich cyfrif rhent cysylltwch â ni neu archebwch un ar-lein heddiw.