
Bob blwyddyn, mae pobl sy’n ddi-waith neu ar incwm isel yn colli allan ar fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Felly, i wneud yn siŵr eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau am ddim.
Gall ein Cyfrifiannell Budd-daliadau adnabod yn hawdd a chyflym unrhyw fudd-daliadau y gallwch eu hawlio i gynyddu eich incwm a gwella eich sefyllfa bersonol. Mae sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau cywir yn gam hanfodol tuag at uchafu incwm eich cartref.
Os yw’ch cyfrifiad yn dangos eich bod yn colli allan ar arian, fe’ch cyfeirir yn awtomatig i’r safleoedd perthnasol i wneud cais. Os oes angen help arnoch i ddefnyddio ein cyfrifiannell, cysylltwch â‘ch swyddog tai ar unwaith a fydd yn fodlon siarad chi drwyddo. Fel arall, efallai y cewch eich cyfeirio at un o’n swyddogion lles hyfforddedig a all eich helpu i adnabod y budd-daliadau sydd gennych hawl iddynt a’ch cefnogi gyda’ch cais. Os oes angen help arnoch, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch ni.
A ydych chi’n byw mewn ardal Credyd Cynhwysol ac yn ansicr ynghylch sut y bydd eich budd-daliadau’n newid? Os felly, mae Cyfrifiannell Budd-daliadau Grŵp Cynefin yn hawdd i’w ddefnyddio a bydd yn eich helpu i weld sut y bydd taliadau Credyd Cynhwysol yn wahanol i’r budd-daliadau rydych chi’n eu derbyn ar hyn o bryd.
Os oes newid neu os ydych yn rhagweld newidiadau yn eich amgylchiadau, er enghraifft, os byddwch yn cynyddu eich oriau gwaith, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau fel canllawiau i weld sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau. Unwaith y byddwch wedi gwirio beth yw’ch hawliau budd-dal ac / neu os bydd newid mewn amgylchiadau, gallwch roi gwybod i’r asiantaethau perthnasol, er enghraifft, adran Budd-dal Tai a Threth y Cyngor yr Awdurdod Lleol, Cyllid a Thollau EM, Adran Gwaith a Phensiynau ac ati.
Mae Teleri Davies, un o’n Swyddogion Tai eisoes wedi rhoi’r cyfrifiannell ar waith gyda thenantiaid, ac meddai: “Mae ein Cyfrifiannell Budd-daliadau newydd yn hawdd iawn i’w ddefnyddio. Nid yw’n cymryd llawer o amser i fewnbynnu’r wybodaeth incwm a gwariant ac mae’n rhoi darlun clir i’r tenantiaid o’r hyn y mae ganddynt hawl i’w gael, a’r hyn y gallent fod yn colli allan arno ar hyn o bryd.
“Yr hyn sy’n gwneud ein cyfrifiannell yn wahanol yw’r ffaith y gellir ei ddefnyddio hefyd fel teclyn i gyllidebu. Gofynnir i ddefnyddwyr fewnbynnu gwybodaeth am eu hincwm a’u gwariant a all helpu tenantiaid i gyllidebu ac amlygu unrhyw ddiffygion perthnasol yn eu hincwm a’u gwariant.”
Tip: Cofiwch gasglu unrhyw ddogfennau y gallech fod eu hangen wrth law, cyn dechrau gwiriad, megis slipiau cyflog, datganiadau banc a biliau. Os nad yw popeth gennych, gallwch arbed eich gwiriad a dod yn ôl ato yn nes ymlaen.
Mae’r cyfrifiannell newydd yn cwmpasu’r holl ranbarthau y mae Grŵp Cynefin yn gweithredu ynddo ac mae’r manylion a ddarperir yn anhysbys - ond gallwch ddewis i gadw’r manylion ar gyfer y dyfodol neu eu hanfon at eich Swyddog Tai os hoffech fwy o help gennym.