Rydym ni’n deall y problemau wrth geisio cael dau pen llinyn ynghyd ar gyllideb gyfyngedig, ac mae ein staff yn barod i’ch cynorthwyo chi i ymdrin â’r sefyllfa. Os ydych chi’n medru talu’r hyn sy’n ddyledus i gyd ar unwaith mae hynny’n ddelfrydol. Fodd bynnag, os na fedrwch chi wneud hyn gyda’n gilydd fe wnawn ni benderfynu ar gynllun talu rheolaidd er mwyn i chi dalu’r ddyled mewn symiau rheolaidd sy’n fforddiadwy. Hefyd fe allwn ni wirio a oes gennych chi hawl i unrhyw fudd-daliadau, neu fe gewch chi ddefnyddio’r teclyn cyfrifo budd-daliadau ar-lein. Mae hwn yn wasanaeth am ddim sy’n gwbl diduedd.
Ond mae angen i chi weithredu ar unwaith, oherwydd os nad ydych chi’n dweud wrthym ni eich bod yn wynebu problem neu os nad ydych chi’n cadw at drefniant i dalu’r ddyled, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol a gallai hynny arwain at ddyfarniad Llys Sirol yn ei erbyn chi neu’n waeth fyth, golli eich cartref.
Gwnewch drefniant i dalu.
Siaradwch â ni a gwneud trefniant i dalu eich dyledion rhent cyn i bethau waethygu. Dywedwch wrthym ni faint fedrwch chi fforddio ei dalu bob wythnos ac fe wnawn ni lunio’r trefniant gyda chi. Cysylltwch â ni i siarad am eich dyledion rhent neu i wneud trefniant i dalu.
A ydych chi ar ei hôl hi â biliau eraill?
A oes gennych chi bryderon ariannol eraill? Mae nifer o gyrff yn gallu cynnig cyngor a chymorth ar sut i ddelio â dyledion e.e. Cyngor ar Bopeth (CAB). Gallant gysylltu â’r cwmnïau y mae arnoch chi arian iddynt: banciau, catalog, cwmnïau benthyciadau, benthycwyr arian carreg y drws ac ati, a dylent fedru trefnu i chi wneud taliadau llai nes bod popeth dan reolaeth eto.
Cysylltwch â’ch Swyddog Tai i ni drafod eich cyfeirio am gymorth arbennigol.