Trwy lawrlwytho’r ap ffôn ApCynefin newydd gallwch nawr:
- Dalu eich rhent
- Riportio atgyweiriad
- Gwirio balans eich cyfrif rhent
- Defnyddio ein teclyn cyllidebu defnyddiol
- Gwirio statws atgyweiriad rydych chi wedi’i riportio o’r blaen ... a llawer mwy!
Er mwyn sefydlu cyfrif, rhaid bod gennych gyfeiriad e-bost, a’r cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cofrestru’ch hun gan ddefnyddio eich rhif tenantiaeth a manylion personol dethol. Yna gallwch fewngofnodi ar unwaith.
Y ffordd hawsaf o fewngofnodi yw trwy lawrlwytho ap ApCynefin o Google Play neu Apple AppStore.
Fodd bynnag, os nad oes gennych ffôn clyfar neu os nad ydych chi eisiau’r ap, gallwch hefyd fewngofnodi trwy ddilyn y ddolen hon - https://customerportal.grwpcynefin.org
Rydym hefyd wedi creu y cyflwyniad cam wrth gam yma ar sut i greu eich cyfrif.
Cael problemau?
Os ydych chi’n cael trafferth sefydlu neu ddefnyddio ApCynefin, anfonwch e-bost atom ar apcynefin@grwpcynefin.org a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.
Am wybodaeth am sut mae Grŵp Cynefin yn prosesu eich gwybodaeth, gwelwch ein Hysbysiad Preifatrwydd