Maes y Mor
Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am ychydig o gymorth i barhau i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hŷn, efallai mai Maes y Môr yn Nhremadog, Gwynedd yw’r lle i chi.
Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am ychydig o gymorth i barhau i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hŷn, efallai mai Maes y Môr yn Nhremadog, Gwynedd yw’r lle i chi.
Wedi ei leoli mewn llecyn tawel gyda gardd eang i’w mwynhau, mae Maes y Môr yn gynllun tai cysgodol i bobl dros 55 mlwydd oed, gyda rheolwr cynllun ar y safle yn ystod yr wythnos waith i’ch cefnogi gyda materion sy’n ymwneud â’ch cartref.
Byddwch yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 38 o fflatiau hunangynhaliol sydd ar y safle, ond gyda’r sicrwydd bod cefnogaeth ar gael yn ystod y dydd yn yr wythnos, a mynediad 24 awr at wasanaeth brys, os oes angen.


Gyda’ch drws ffrynt eich hun, eich fflat yw eich cartref lle gallwch barhau i goginio, derbyn ymwelwyr a mwynhau byw’n annibynnol. O fewn pob fflat mae cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely. Bydd gennych system fynediad diogel ac mae lifft pwrpasol hefyd ar gael yn yr adeilad.
Wrth rentu fflat un neu ddwy ystafell wely ym Maes y Môr, cewch hefyd fynediad i lolfa gymunedol lle mae cyfle i gymdeithasu â thrigolion eraill a mwynhau gweithgareddau fel celf a chrefft, boreau coffi a gweithgareddau garddio.
Os yw’n well gennych ychydig o amser eich hun, mae ystafell dawel hefyd ar gael i chi ymlacio. Ac allan yn yr ardd, cewch gyfle i eistedd ar y meinciau gan ymlacio, cymdeithasu a mwynhau gwylio byd natur ar ei orau. Adnodd arall defnyddiol yw’r ystafell olchi dillad sydd ar gael ar y safle. Mae modd hefyd i deulu neu ffrindiau aros dros nos mewn ystafell bwrpasol i ddau westai.
Mae Maes y Môr yn cynnig tawelwch meddwl i chi, eich teulu a’ch ffrindiau tra ar yr un pryd yn rhoi’r annibyniaeth a’r rhyddid i chi fynd a dod fel y mynnwch.
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth am rentu fflat ym Maes y Môr, yna cysylltwch â ni.

Sylwch fod Grŵp Cynefin yn cydymffurfio ậ rheolau a chyfyngiadau COVD19 ar ein safleoedd, gan roi iechyd a lles ein trigolion, staff ac ymwelwyr yn gyntaf. Bydd rhai o’r manylion a restrir uchod wedi eu haddasu yn ystod cyfnod y pandemig.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth

Hwyluswyr Tai Gwledig »
Mae nifer o ardaloedd gwledig yn pryderu ynglyn â‘r effeithiau diwylliannol ac economaidd oherwydd prinder tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr allweddol lleol.
Gwybodaeth am Fudd-daliadau »
A ydych chi'n sicr eich bod yn derbyn y budd-daliadau rydych yn gymwys i'w derbyn? Rydym wedi crynhoi y prif fudd-daliadau sydd ar gael isod, ond os ydych yn dal yn ansicr am unrhyw agwedd, cysylltwch â ni.
Adborth, Canmol a Chwyno »
Rydym bob amser yn anelu i ddarparu gwasanaethau rhagorol, ond ni allwn wneud hyn heb wybod beth gredwch chi yr ydym ni’n ei wneud yn dda a lle rydym ni angen gwella.

Newyddion
Grŵp Cynefin yn dathlu’i ran yn cysylltu’r cenedlaethau Wrth i Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau ddirwyn i ben mae Grŵp Cynefin yn dathlu ei ran yn y cynllun arloesol hwn sydd wedi ysgogi gweithgareddau lu i gysylltu’r cenedlaethau a’i gilydd.
Friday 12 March 2021

Newyddion
Grŵp Cynefin yn lawnsio cynllun llesiant ar gyfer staff Wrth i staff geisio cyflawni eu swyddi o fewn cyfyngiadau Covid-19 a llawer yn gweithio o gartre a gofalu am eu plant ar yr un pryd, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cynllun llesiant sydd wedi ei greu’n arbennig ar gyfer staff y grŵp.
Wednesday 3 February 2021

Newyddion
Grŵp Cynefin yn lawnsio cynllun llesiant ar gyfer staff Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cynllun llesiant sydd wedi ei greu’n arbennig ar gyfer ei staff.
Wednesday 3 February 2021