Awel y Coleg
Os ydych chi neu aelod o'r teulu yn chwilio am gartref i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hŷn, efallai mai Awel y Coleg yn nhref farchnad y Bala, Gwynedd yw'r lle i chi.
Un o drigolion Awel y Coleg: “Rydym yn ffodus o fod yn byw mewn lle braf, efo staff gofalgar yn gweithio droson ni, ac yn gofalu’n annwyl iawn amdanom ni.”
Uwch Swyddog Pobl Hyn Grwp Cynefin: “Mae parhau i fod yn annibynnol a mwynhau’r pethau sydd wedi bod yn rhan annatod o’ch bywyd ers yn blentyn neu’n oedolyn yn bwysig iawn i drigolion Awel y Coleg. Yn wir, rydym yn annog gweithgareddau sy’n cyflyru’r corff a’r meddwl.”
Un o drigolion Awel y Coleg: “Mae wedi bod yn chwa o awyr iach cael canu gyda’r plant, ac wedi dwyn i gof atgofion melys iawn o’m cyfnod yn addysgu plant cynradd.”
Cynrychiolydd Canolfan Gerdd William Mathias: “Teimlwn bod y ddwy genhedlaeth wedi cyfoethogi bywydau ei gilydd trwy’r cynllun cerddorol yma a braf gweld y naill genhedlaeth yn dysgu oddi wrth y llall ac yn cyd-greu.”
Merch i denant Awel y Coleg yn ystod COVID19: “Mae staff Awel y Coleg yn wych. Rydyn ni, fel teulu, yn gwbl gyfforddus o adael mam yn eu gofal nhw. Maen nhw’n garedig ac yn feddylgar a does dim byd yn ormod o drafferth iddyn nhw. Rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn.”
Os ydych chi neu aelod o’r teulu yn chwilio am gartref i fyw’n annibynnol wrth fynd yn hyn, efallai mai Awel y Coleg yn nhref farchnad y Bala, Gwynedd yw’r lle i chi.
Cynllun gofal ychwanegol yw Awel y Coleg a sefydlwyd yn 2012 gan Grwp Cynefin mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Wedi ei leoli gyferbyn ag Ysgol Godre’r Berwyn, mae’r cynllun yn darparu cartref, cefnogaeth a gwasanaethau gofal i bobl dros 55 oed.
Annibyniaeth - Cefnogaeth - Cymuned
Mae Awel y Coleg yn cynnig ffordd o fyw’n annibynnol i bobl hyn mewn lleoliad modern, cyfforddus a diogel. Mae gwir ymdeimlad o ysbryd cymunedol yma.
Byddwch yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn un o’n 30 o fflatiau hunangynhaliol sydd ar y safle, ond gyda’r sicrwydd bod cefnogaeth ar gael 24 awr y dydd, os bydd angen.
Cefnogir preswylwyr a’u hannog i fyw bywyd llawn ac egnïol, gan ddatblygu eu diddordebau a chynnal eu hiechyd a’u lles. Mae staff Grwp Cynefin yn darparu cefnogaeth materion tai i bob tenant ac mae tîm gofal ymroddedig a phrofiadol ar y safle 24 awr y dydd. Bydd cynlluniau cefnogaeth a gofal personol hyblyg ar gael, pe bai angen, wedi eu datblygu gyda chi i weddu eich anghenion presennol ac i’r dyfodol.
Gyda’ch drws ffrynt eich hun, eich fflat yw eich cartref lle gallwch barhau i goginio, derbyn ymwelwyr a mwynhau byw’n annibynnol. O fewn pob fflat mae cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi ac ystafell wely. Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i’ch galluogi i fyw yn eich cartref eich hun cyn hired â phosib ac i wneud byw’n annibynnol yn haws.
Wrth rentu fflat un neu ddwy ystafell wely yn Awel y Coleg, cewch hefyd fynediad i lolfa gymunedol lle mae cyfle i gymdeithasu â thrigolion eraill a mwynhau gweithgareddau fel celf a chrefft, boreau coffi, cwis, sesiynau ymarfer corff, canu mewn côr, sesiynau rhyng-genedlaethol gyda phlant a phobl ifanc lleol a gweithgareddau garddio. Mae ystafell grefftau hefyd ar gael i chi fwynhau a gweithio’n dawel.
Allan yn yr ardd yng nghanol y safle, cewch gyfle i ymlacio a mwynhau’r awyr iach. Mae byw yn Awel y Coleg yn eich galluogi i gynnal eich annibyniaeth a’ch preifatrwydd a chael y dewis i gymdeithasu a chyd-ymuno fel y dymunwch.
Gweinir pryd canol dydd yn y bwyty cymunedol yn ddyddiol, gan roi’r cyfle i drigolion dderbyn pryd iach a blasus wrth sgwrsio dros ginio.
Ystafell boblogaidd arall yw’r ystafell trin gwallt, lle mae cyfle i chi gael torri a steilio’r gwallt gan gwmnïau trin gwallt symudol lleol. Os ydych chi’n chwilio am gynnyrch hanfodol, mae’r siop fach yn gwerthu llefrith, bara ag ati o fewn yr adeilad. Adnodd arall defnyddiol yw’r ystafell olchi dillad sydd ar gael i chi. Mae gennym hefyd ystafell i westeion, lle gall teulu neu ffrindiau aros a mwynhau treulio amser gydag aelod o’r teulu.
Mae Awel y Coleg yn cynnig tawelwch meddwl i chi, eich teulu a’ch ffrindiau tra ar yr un pryd yn rhoi’r annibyniaeth a’r rhyddid i chi fynd a dod fel y mynnwch. Gallwch gerdded i’r dre, ymweld â chyfeillion neu fynychu’r llu o weithgareddau sydd ar gael yng nghymuned tre’r Bala.

Nodweddion Allweddol:
- Eich tenantiaeth a’ch drws ffrynt eich hun
- Gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd
- Gweithgareddau ac ymdeimlad cymunedol
- Gwasanaeth larwm, llinell gofal 24 awr ym mhob fflat
- Gwasanaeth cynnal a chadw brys 24 awr
- Pob fflat gyda chegin, ystafell ymolchi, ystafell wely a lolfa
- Dyluniad hwylus - cawodydd gyda mynediad lefel llawr, lifftiau a storfa sgwter
- System mynediad drws diogel
- Mannau cymunedol - lolfeydd ac ystafelloedd gweithgareddau
- Ystafell fwyta
- Golchdy
- Ystafell trin gwallt
- Ystafell i westeion aros
- Gardd a gofod patio y tu allan
- Digon o le i barcio ceir
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu eisiau sgwrs neu wybodaeth bellach am rentu fflat yn Awel y Coleg, yna cysylltwch â ni.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 111 2122 neu e-bostiwch: post@grwpcynefin.org
Sylwch bod Grwp Cynefin yn cydymffurfio ? rheolau a chyfyngiadau COVD19 ar ein safleoedd, gan roi iechyd a lles ein trigolion, staff ac ymwelwyr yn gyntaf. Bydd rhai o’r manylion a restrir uchod ddim yn weithredol yn ystod cyfnod y pandemig.

Hwyluswyr Tai Gwledig »
Mae nifer o ardaloedd gwledig yn pryderu ynglyn â‘r effeithiau diwylliannol ac economaidd oherwydd prinder tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr allweddol lleol.
Gwybodaeth am Fudd-daliadau »
A ydych chi'n sicr eich bod yn derbyn y budd-daliadau rydych yn gymwys i'w derbyn? Rydym wedi crynhoi y prif fudd-daliadau sydd ar gael isod, ond os ydych yn dal yn ansicr am unrhyw agwedd, cysylltwch â ni.
Adborth, Canmol a Chwyno »
Rydym bob amser yn anelu i ddarparu gwasanaethau rhagorol, ond ni allwn wneud hyn heb wybod beth gredwch chi yr ydym ni’n ei wneud yn dda a lle rydym ni angen gwella.

Newyddion
Grŵp Cynefin yn dathlu’i ran yn cysylltu’r cenedlaethau Wrth i Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau ddirwyn i ben mae Grŵp Cynefin yn dathlu ei ran yn y cynllun arloesol hwn sydd wedi ysgogi gweithgareddau lu i gysylltu’r cenedlaethau a’i gilydd.
Friday 12 March 2021

Newyddion
Grŵp Cynefin yn lawnsio cynllun llesiant ar gyfer staff Wrth i staff geisio cyflawni eu swyddi o fewn cyfyngiadau Covid-19 a llawer yn gweithio o gartre a gofalu am eu plant ar yr un pryd, mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cynllun llesiant sydd wedi ei greu’n arbennig ar gyfer staff y grŵp.
Wednesday 3 February 2021

Newyddion
Grŵp Cynefin yn lawnsio cynllun llesiant ar gyfer staff Mae cymdeithas dai Grŵp Cynefin wedi lawnsio cynllun llesiant sydd wedi ei greu’n arbennig ar gyfer ei staff.
Wednesday 3 February 2021