Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni pan mae ein gwasanaeth yn disgyn islaw’r safon gofynnol. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i wella safon y gwasanaeth.
Rydym yn anelu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n tenantiaid ac aelodau’r cyhoedd, ond weithiau fe geir rhai achosion lle nad ydych yn gwbl fodlon. Efallai y byddwch yn dymuno mynd â’r mater ymhellach a chwyno am y gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn, megis:
- y modd y mae polisïau’r Grŵp yn cael eu gweithredu
- y modd y mae swyddog yn delio â phroblem benodol
- y gwasanaeth a dderbyniwyd
- diffyg gweithredu gan y Grŵp
Byddwn yn:-
- gwrando arnoch
- ymchwilio i bob cwyn yn drylwyr
- cydnabod ac yn dysgu o’n camgymeriadau
- yn ceisio gwella ein gwasanaethau yn barhaus
- ymddiheuro pan fo camgymeriadau yn cael eu gwneud, ac yn gwneud yr hyn a allwn ni i gywiro pethau.
Canmoliaeth
Hoffwn gael gwybod os ydych wedi cael eich plesio gyda’n gwasanaeth. Gallwn ddefnyddio’r esiamplau yma i rannu ymarfer da ac i annog gwelliant parhaus ymysg ein staff.
Sut i gwyno amdanom neu i ganmol
Gallwch wneud cwyn neu ganmol mewn nifer o ffyrdd, boed wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn ysgrifen, trwy ffacs neu e-bost, trwy gysylltu â’r adran berthnasol. Er enghraifft os yw contractwr heb ddod i wneud y gwaith gellir datrys y broblem yn syth trwy gysylltu â’r tîm gwasanaethau cwsmer.
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmer ar 0300 111 2122, neu e-bostiwch post@grwpcynefin.org
Os na lwyddwn i ddatrys eich cwyn mewn ffordd sy’n eich bodloni, gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae’r Ombwdsmon yn disgwyl i chi gyflwyno eich pryderon i’n sylw ni yn gyntaf, a rhoi’r cyfle i ni gywiro pethau. Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon fel hyn:
- ffôn: 0845 601 0987
- e-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
- y wefan: www.ombudsman-wales.org.uk
- ysgrifennu at: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed CF35 5LJ